Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Polisi preifatrwydd Ar-Lein AGC

Polisi preifatrwydd.

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

O dan y GDPR, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn unrhyw wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu gennych. Rydym yn defnyddio'r technolegau a'r feddalwedd amgryptio diweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn cadw at safonau diogelu llym i atal unrhyw fynediad anawdurdodedig ato. 

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys agweddau technegol gwefan AGC Ar-lein yn unig. (Dolan allanol) O ran hyn, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti nac adran arall o'r llywodraeth.

Os ydych chi eisiau deall pob agwedd ar storio a phrosesu gwybodaeth bersonol ymhlith gwasanaethau a darparwyr gofal cofrestredig, bydd angen i chi ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd. 

Eich hawliau

O dan y GDPR, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer o ran yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi. Mae'r rhain fel a ganlyn;

  • hawl i gael copi o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn eich data personol
  • hawl i wrthwynebu prosesu sy'n debygol o achosi neu sy'n achosi niwed neu drallod
  • hawl i atal prosesu ar gyfer marchnata uniongyrchol
  • hawl i wrthwynebu penderfyniadau a wneir yn awtomatig
  • hawl mewn amgylchiadau arbennig i gael data personol anghywir wedi'i gywiro, ei rwystro, ei ddileu neu ei ddinistrio
  • hawl i hawlio iawndal am niwed a achosir trwy dorri'r Ddeddf hon

Gallwch ddarllen mwy am yr hawliau hyn yma. (Saesneg yn unig, dolan allanol)

Ymwelwyr i'n gwefannau 

Pan fydd rhywun yn ymweld ag AGC Ar-lein, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol a gofnodir ar y rhyngwyd a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn er mwyn darganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr i rannau amrywiol o'r safle. Caiff yr wybodaeth hon ei phrosesu mewn modd dienw, nad yw'n adnabod unrhyw un yn unigol. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy yw'r rhai hynny sy'n ymweld â'n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hyn. Os ydym eisiau casglu gwybodaeth y gellir adnabod rhywun yn bersonol ohoni trwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Byddwn yn nodi hyn yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, a byddwn yn egluro'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud â’r wybodaeth hon.

Sut mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio cwcis 

Ffeiliau testun bychain yw cwcis a anfonir i'ch cyfrifiadur neu eich dyfais symudol gan y gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Maen nhw'n helpu gwefannau i weithio'n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion y safle. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith i wybod pa iaith yr hoffech chi gael y wefan wedi'i chyflwyno i chi, a chwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad ymwelwyr tra eu bod ar y safle. Trwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein safle, gallwn wella'r ffordd y gellir symud o gwmpas y wefan a'i chynnwys er mwyn diwallu anghenion pobl yn well. Mae'r wybodaeth a gesglir gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnwys cyfeiriad IP, y tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a'r system weithredu. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol. Mae'r cwcis yr ydym yn eu defnyddio ar ein safle fel a ganlyn:

Fersiwn iaith

Enw: langPrefWAG

Diben: Caiff y cwci hwn ei greu gan y system rheoli cynnwys, ac mae'n hanfodol i'r safle arddangos fersiwn iaith gywir y safle.

Dod i ben: Pan fyddwch chi'n cau eich porwr

GoogleAnalytics

Enw: _ga

Diben: Defnyddir y cwci hwn i ddarganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu ni i wella'r safle. Mae'r cwci'n casglu gwybodaeth mewn modd dienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr i'r safle, a ydynt wedi ymweld â'r safle o'r blaen a'r tudalennau y maen nhw'n ymweld â nhw.

Dod i ben: 2 flynedd

CookieControl

Enw:

  • civicAllowCookies
  • civicShowCookieIcon

Diben: Defnyddir y cwci hwn i ddarganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu ni i wella'r safle. Mae'r cwci'n casglu gwybodaeth mewn modd dienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr i'r safle, a ydynt wedi ymweld â'r safle o'r blaen a'r tudalennau y maen nhw'n ymweld â nhw.

Dod i ben: Deg awr

Microsoft Azure Active Directory B2C

Diben: Defnyddir y cwcis a ddefnyddir gan Microsoft Azure Active Directory B2C i gynnal cyflwr a diogelwch sesiwn gofrestredig defnyddiwr AGC Ar-lein. Mae porwyr gwe yn caniatáu i chi gael rhywfaint o reolaeth dros gwcis trwy osodiadau'r porwr

Dod i ben: Pan fydd y porwr we ar gau

Mae porwyr gwe yn caniatáu i chi gael rhywfaint o reolaeth dros gwcis trwy osodiadau'r porwr. Gallwch ddysgu mwy am gwcis a sut i'w rheoli yma. (Saesneg yn unig, dolan allanol)

Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu?

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella'r cynnwys a ddarperir ar y safle hwn. Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi gwe a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio 'cwcis' a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Bydd yr wybodaeth a gaiff ei chreu ynghylch eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo a'i storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau. 

Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i lunio adroddiadau gweithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gallai Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon pan fo angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google.
 
Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall sydd wedi'i gadw o'r blaen. Gallwch wrthod cwcis rhag cael eu defnyddio trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder, os caiff cwcis eu hanalluogi, mae'n bosibl na fyddwch yn gallu defnyddio swyddogaethau llawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno y gall Google brosesu data amdanoch yn y modd ac i'r dibenion a nodwyd uchod.
 
Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google (Saesneg yn unig, dolan allanol) ac Amodau Gwasanaeth Google (Saesneg yn unig, dolan allanol) am wybodaeth fwy manwl.

Eich rhyngweithiad â'r wefan hon 

Mae AGC Ar-lein yn borth a reolir gan Lywodraeth Cymru ar ran y Gweinidogion Cymru sydd â'u prif swyddfeydd yn y cyfeiriad canlynol: Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Diben AGC Ar-lein yw rhoi'r gallu i ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig (neu ymgeiswyr cofrestru) ryngweithio ag AGC ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cliciwch yma.

Cwynion neu ymholiadau

Mae AGC Ar-lein yn ceisio bodloni'r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Oherwydd hyn, rydym yn ystyried unrhyw gwynion a gawn am hyn yn ddifrifol iawn. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu bod y ffordd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau i wella ein gweithdrefnau.

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei lunio gyda'r nod o fod yn gryno ac yn eglur. Nid yw'n darparu'r holl fanylion ar bob agwedd ar sut mae AGC Ar-lein yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu eglurhad pellach sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn at y cyswllt priodol isod.

Dolenni i wefannau eraill

Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni o fewn y safle hwn sy'n cysylltu â gwefannau eraill. Anogir chi i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch chi'n ymweld â nhw.

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn diwygiedig ar y dudalen hon. Bydd adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod chi bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru diwethaf ar 31 Mai 2018.

Sut i gysylltu â ni

Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd angen i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r llywodraeth er mwyn dod o hyd i'r wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn un technegol, efallai y bydd angen i ni ei drosglwyddo i'n cyflenwyr technoleg.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol wrth ymdrin â'ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Pan fyddwn wedi eich ateb, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.

Os ydych chi eisiau gofyn am wybodaeth ynghylch ein polisi preifatrwydd, gallwch anfon e-bost atom yn:

E-bost: webmaster@llyw.cymru

Os oes gennych gwestiwn neu gŵyn ynghylch AGC Ar-lein, gallwch gysylltu â desg gymorth AGC ar:

Ffôn: 0300 7900 126 opsiwn 4
E-bost: ciwonline@gov.wales

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut bydd eich data'n cael ei ddefnyddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Rheolwr Ansawdd a Gwybodaeth
Arolygiaeth Gofal Cymru
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno 
CONWY
LL31 9RZ
E-bost: CIWInformation@llyw.cymru

Os oes gennych unrhyw bryderon o ran y rheolaethau gwybodaeth o fewn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt yma:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru
Gwefan: www.llyw.cymru