Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Pwy ydym ni

Gillian Baranski yw ein Prif Arolygydd. Mae ein timau’n gweithio o swyddfeydd rhanbarthol ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.

Rydym yn cael ein harwain gan ein Prif Arolygydd Gillian Baranski.

Ein tîm uwch-reolwyr

  • Prif Arolygydd
  • Dirprwy Brif Arolygwyr x2
  • Pennaeth Gwasanaethau Cymorth
  • Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant
  • Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol
  • Pennaeth Cofrestru a Gorfodi
  • Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae

Ein timau arolygu

Mae ein timau o arolygwyr yn weithwyr proffesiynol medrus a phrofiadol, sydd wedi gweithio o’r blaen yn y sectorau yr ydym yn eu rheoleiddio. Maent yn cynnwys therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys, athrawon ac arbenigwyr gofal dydd.

Tîm cofrestru a gorfodi

Mae timau cofrestru a gorfodi arbenigol wedi eu sefydlu i sicrhau mai dim ond gwasanaethau sy’n cyfarfod â’r holl ofynion rheoliadol, ac sy’n deall eu dyletswydd i ddarparu gofal diogel ac o ansawdd da, sy’n cael eu cofrestru. Bydd y timau hefyd yn gweithredu os na fydd y gwasanaethau yn darparu gofal diogel.