Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Beth ydym ni’n ei wneud

Arolygydd yn siarad â phlant

Ni yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.

Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Yr hyn rydym yn ei wneud

•    Rydym yn cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru er mwyn darparu sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau
•    Rydym yn penderfynu pwy sy'n gallu darparu gwasanaethau
•    Rydym yn arolygu gwasanaethau rheoleiddiedig a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, gan lywio gwelliannau iddynt
•    Rydym yn cynnal adolygiadau cenedlaethol o wasanaethau gofal cymdeithasol
•    Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion deddfwriaethol a rheoliadol
•    Rydym yn ymateb i bryderon a leisiwyd am wasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant

Ein gwerthoedd craidd

Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud ac yn dyheu am fod.

•    gofalgar: rydym yn drugarog ac mae'n hawdd siarad â ni
•    teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
•    uniondeb: rydym yn onest a dibynadwy
•    proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
•    parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi

AGC Gwerthoeddcraidd badge

Ein egwyddorion arweiniol

Mae’r ffordd rydym yn gweithio, yn unol â’n gwerthoedd, yn cael ei harwain gan yr egwyddorion canlynol:

  • rhoi pobl yn gyntaf
  • cael ein harwain gan wybodaeth
  • bod yn seiliedig ar risg ac yn ymatebol
  • gweithio ar y cyd
  • cefnogi gwelliant ac arloesedd
  • myfyrio a dysgu

Isod, ceir eglurhad o'r hyn y mae pob un o'n hegwyddorion arweiniol yn ei olygu yn ymarferol.

Rhoi pobl yn gyntaf: mae llais a llesiant pobl wrth wraidd ein gwaith, a ategir gan ddull sy’n seiliedig ar hawliau.

Rydym yn hyrwyddo hawliau pobl ac yn ceisio adborth gan bobl am eu profiad a'r canlyniadau y mae'n eu helpu i'w cyflawni. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant, eu teuluoedd, a’r staff sy'n gweithio ynddynt.

Rydym yn mynd ati i geisio adborth gan ddefnyddio ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol ac yn parhau i annog staff i rannu arferion cadarnhaol a chodi pryderon.

Mae hyn yn llywio ein gwaith o gynllunio arolygu ac yn bwydo i mewn i'n proses ehangach o gasglu gwybodaeth.

Cael ein harwain gan wybodaeth: mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ddata a gwybodaeth.

Rydym yn coladu, dadansoddi a rhannu ein data a gwybodaeth. Mae hyn yn llywio ein gweithgarwch arolygu a hefyd yn ein galluogi i ddeall tueddiadau a themâu i lywio dulliau gweithredu ehangach Llywodraeth Cymru a phartneriaid.

Bod yn seiliedig ar risg ac yn ymatebol: rydym yn mabwysiadu dull cynlluniedig sy’n gymesur ac amserol ac yn seiliedig ar risg at ein gwaith.

Rydym yn blaenoriaethu gweithgarwch arolygu ar sail dadansoddiad o risgiau. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gweithredu’n gymesur wrth sicrhau gwelliannau lle mae angen hynny fwyaf.

Gweithio ar y cyd: rydym yn gwrando, rhannu gwybodaeth a gweithio ar y cyd.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol ac ymddiriedaeth. Drwy ein cyfarfodydd rheolaidd â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a grwpiau o gynrychiolwyr, byddwn yn rhannu gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio'n dda a phryderon. Bydd cydlynu gweithgareddau yn helpu i leihau dyblygu ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant.

Rydym hefyd yn cydweithio ag arolygiaethau eraill i ddatblygu gweithgarwch arolygu sy'n arfer dull gweithredu seiliedig ar systemau, gan gydnabod bod angen i bob rhan o'r system weithio'n dda gyda'i gilydd.

Cefnogi gwelliant ac arloesedd: rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a'n pwerau i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant i wella ac i annog ffyrdd newydd o weithio.

Rydym yn cyfathrebu'n weithredol i rannu’r hyn sydd wedi’i ddysgu ac arferion cadarnhaol.

Myfyrio a dysgu: rydym yn cymryd amser i fyfyrio ac i ddysgu o bob agwedd ar ein gwaith, ac i addasu ein dull gweithredu lle bo angen.

Rydym wedi addasu i ffyrdd newydd a hyblyg o weithio ym mhob rhan o'n gwaith, a byddwn yn parhau i brofi ffyrdd newydd o weithio. Byddwn yn ceisio adborth gan randdeiliaid allweddol am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y gallwn ei wella.

Y gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu

Rydym yn rheoleiddio'r gwasanaethau canlynol:

•    gwasanaethau oedolion: cartrefi gofal i oedolion, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau lleoli oedolion a gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd
•    gwasanaethau plant: cartrefi gofal i blant, gwasanaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau eirioli a gwasanaethau llety diogel 
•    gwasanaethau gofal plant a chwarae: gwarchodwyr plant, crèches, gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i'r ysgol a darpariaeth chwarae mynediad agored 

Rydym hefyd yn adolygu perfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau ym maes gwasanaethau cymdeithasol. Gwnawn hyn drwy gyfuniad o weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad. Rydym hefyd yn arolygu'r canlynol:

•    gwasanaethau maethu a mabwysiadu awdurdodau lleol 
•    ysgolion preswyl 
•    ysgolion arbennig preswyl (trefniadau llety am lai na 295 diwrnod) 
•    colegau addysg bellach sy'n lletya myfyrwyr dan 18 oed

Rydym hefyd yn arolygu ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl, a cholegau addysg bellach sy'n rhoi llety i fyfyrwyr sy'n iau na 18 oed, ond nid ydym yn eu cofrestru.

Sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau

Rydym yn cyflawni ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i adolygu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau ym maes gwasanaethau cymdeithasol.

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("Deddf 2016") (dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i gofrestru a/neu arolygu darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i gofrestru a/neu arolygu gwarchodwyr plant a gofal dydd (gan gynnwys chwarae) i blant dan 12 oed.