Rhoi plant wrth wraidd dysgu
Mae staff yn Benllech Playgroup yn annog plant i benderfynu sut a ble yr hoffent chwarae a dysgu.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae’r lleoliad cyn-ysgol wedi’i leoli ym mhentref Benllech, yn awdurdod lleol Ynys Môn. Mae’r arweinwyr yn newydd i’w swyddi er mis Medi 2021. Mae’r lleoliad yn cyfrannu at grŵp peilota cwricwlwm newydd yr awdurdod lleol i rannu strategaethau ac arferion.
Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector
Mae arweinwyr ac ymarferwyr wedi sefydlu ethos cadarnhaol ar draws y lleoliad. Mae plant yn llwyddo ac yn ffynnu mewn amgylchedd cynhwysol, ac yn datblygu’r hyder i wneud penderfyniadau am eu chwarae o fewn meysydd dysgu wedi’u diffinio’n glir. Caiff eu dysgu ei werthfawrogi gan ymarferwyr. Mae llif agored i’r ddarpariaeth ac mae plant yn penderfynu ble hoffent chwarae a dysgu.
Rhaid chwarae yn yr awyr agored gyda’r drws ar agor trwy gydol y sesiwn. Mae ystod eang o adnoddau i helpu plant i fod yn unigolion iach, hyderus a gwydn, o’r pwll tywod mawr y tu allan i’r ardal gloddio ble gallant adeiladu, symud, difrodi a chwarae rôl gwahanol senarios.
Mae plant yn gwneud cynnydd da iawn ac yn datblygu amrywiaeth o fedrau. Er enghraifft, gallant ganolbwyntio am gyfnodau estynedig tra’n chwarae. Mae medrau iaith a mathemategol yn datblygu’n naturiol trwy eu chwarae ar draws yr amgylchedd ysgogol, a thrwy ryngweithio ag ymarferwyr medrus. Mae diben i waith celf, ac mae’n dangos eu dysgu a’u datblygiad eu hunain, o’r sblashis paent y gwnaethant eu dewis a’u tywallt yn annibynnol, i’r toriadau danheddog o’u defnydd eu hunain o siswrn a sticeri y gwnaethant eu dewis a’u plicio’n ofalus eu hunain. Mae gweithio yn y modd hwn wedi meithrin medrau personol, cymdeithasol ac emosiynol y plant, fel cymryd eu tro, hunanreoleiddio ac annibyniaeth, sydd yn ei dro yn cefnogi meysydd dysgu eraill.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r plant yn wydn ac yn arwain eu chwarae eu hunain. Gosodir ‘gwahoddiadau i ddysgu’ yn y ddarpariaeth, wedi’u seilio ar wybodaeth a gasglwyd gan rieni a’r plant eu hunain. Caiff ffotograffau o’r plant gyda’u teuluoedd a’u hanifeiliaid anwes eu harddangos yn y lleoliad, sy’n cefnogi “perthyn” ac yn annog plant i ddatblygu hyder a theimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain. Mae gan staff ymagwedd gyfeillgar a chynnes, ac maent yn ymfalchïo mewn dathlu cyflawniadau. Mae pob un o’r staff yn cydnabod anghenion unigol y plant, ac yn mynd ati i ymgysylltu â dysgu’r plant drwyddi draw. Mae’r staff yn aros i gael eu gwahodd i chwarae ochr yn ochr â’r plant, a byddant yn eistedd ar lawr i annog medrau cyfathrebu. O ganlyniad, mae plant yn dangos cydweithio da, er enghraifft wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau am sut i ofalu am y gath, ac yn rhoi cyfarwyddiadau ar lafar tra’n tynnu llun. Mae plant yn gweithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau, er enghraifft wrth godi adeiladau cymhleth, creu cyrsiau rhwystrau a chwarae yn yr ardal chwarae rôl. Mae ymarferwyr yn hwyluso eu dysgu trwy roi cyfarwyddyd pan fydd angen, a dal yn ôl pan fydd yn briodol. Mae plant yn parhau i ymgysylltu’n llawn ac yn chwilfrydig am gyfnodau hir, er enghraifft wrth ymchwilio ac ymgolli â phowlen o allweddi, cludo a phwyso.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth, lles a safonau plant?
Mae’r strategaeth “Plentyn Ffocws” yn sicrhau bod pob un o’r plant yn cael cyfleoedd cyfartal a bod y plant tawelach yn datblygu hyder trwy arweiniad cefnogol yn hytrach na chyfarwyddiadau uniongyrchol. Mae’r plant mwy bywiog yn fwy pwyllog ac yn dangos mwy o ddiddordeb gan eu bod yn gallu dilyn eu diddordebau eu hunain. Trwy wneud eu dewisiadau eu hunain, mae plant yn ymestyn eu dysgu ar eu cyflymdra eu hunain. Trwy nodi sgemâu, mae ymarferwyr wedi galluogi plant i fynegi eu hanghenion mewn amgylchedd meithringar a chefnogol. Er enghraifft, pan fydd plentyn yn dangos tystiolaeth o sgema trywydd, mae staff wedi sicrhau bod adnoddau ar gael i ddiwallu anghenion y plentyn.
Mae cynllunio ymatebol wedi chwyldroi’r ffordd y mae’r lleoliad yn gweithio, gan roi’r plentyn yn ganolog i’r dysgu. Mae ymarferwyr wedi ymgymryd â’r newid hwn yn gadarnhaol.