Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut rydym yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion.
Yn dilyn gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Dolen allanol) rydym wedi datblygu fframwaith newydd a fydd yn sicrhau bod awdurdodau'n cael eu harolygu gan ddefnyddio canlyniadau llesiant y ddeddf. Bydd hyn yn rhoi pwyslais ar glywed safbwyntiau a lleisiau pobl a'u gofalwyr sydd angen gofal a chymorth.
Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.
Beth sy'n wahanol?
Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am y canlynol:
- Paratoi adroddiad blynyddol am berfformiad gwasanaethau cymdeithasol, gan ddefnyddio templed penodol i gynyddu cysondeb o ran cynnwys adroddiadau ledled Cymru; a
- Pharatoi adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o ddiogelwch a chynaliadwyedd gwasanaethau.
Yr hyn rydym yn ei wirio ac yn adrodd amdano
Yr Cod Ymarfer ar gyfer Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol hwn yn amlinellu dull ein o adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru drwy ein gweithgarwch gwerthuso perfformiad ac arolygu.
Pan fydd ein harolygwyr yn ymweld â chi, byddant yn ystyried un neu fwy o themâu:
- Mynediad – gwybodaeth, cyngor a chymorth, ymyrraeth gynnar ac ataliaeth
- Asesiad
- Gofal a chymorth
- Diogelu ac amddiffyn
- Arweinyddiaeth, rheolaeth a llywodraethu
Pa mor aml rydym yn cwrdd ac yn arolygu awdurdodau lleol
Yn ogystal â'n harolygiadau, rydym yn cwrdd ag arweinwyr gwasanaethau cymdeithasol a'u staff i drafod ac adolygu pa mor dda y maent wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.
Cyn arolygiad
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gwblhau hunanasesiad a'n darparu â gwybodaeth megis eu siartiau strwythur sefydliadol a'u strategaethau am ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl yn eu hardal.
Yn ystod arolygiad
Bydd ein harolygwyr yn:
- Adolygu achosion unigol
- Siarad â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, gan gynnwys eu gofalwyr lle y bo'n briodol
- Siarad â staff yn yr awdurdod lleol
- Siarad â phobl eraill sy'n gweithio gyda'r awdurdod lleol megis pobl ym maes iechyd, yr heddlu a sefydliadau eraill
Arolygiadau â phwyslais penodol
Efallai y byddwn yn cynnal arolygiad â phwrpas penodol, lle'r ydym yn ei hystyried yn angenrheidiol i edrych yn fwy manwl i fater o bryder nad yw'n rhan o'r arolygiad.
Gweithio gydag arolygiaethau eraill
Rydym yn gweithio gydag arolygiaethau eraill fel rhan o'n harolygiad. Mae hyn yn cynnwys Arolygiaeth Cymru, sef rhaglen waith ar y cyd rhyngom ni, yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn, ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. (Dolen allanol) Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag arolygiaethau'r DU, gan gynnwys arolygiaethau Cwnstabliaeth, Carchardai a Phrofiannaeth.
Ein hadborth a'n hargymhellion
Bob blwyddyn, yn ystod mis Ebrill/Mai, rydym yn ysgrifennu at gyfarwyddwyr ac yn darparu adborth a'n hargymhellion yn seiliedig ar y cyfarfodydd yr ydym wedi eu cynnal gydag arweinwyr gwasanaethau cymdeithasol a’u staff a’r adborth rydym wedi’i dderbyn gan bobl sy'n defnyddio'u gwasanaethau a’u gofalwyr. Rydym yn cyhoeddi hyn ar ein gwefan.
Canllaw
Rydym wedi cynhyrchu canllawiau am ein fframwaith ar gyfer arolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.
Lawrlwytho dogfennau
- File size:397 KB
- File size:884 KB