Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cod Ymarfer ar gyfer Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol

Mae’r Cod Ymarfer hwn yn nodi ein dull o adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad.

Cyhoeddwyd: 4 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

1. Cyflwyniad

Amdanom ni

1.1 Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

1.2 Ein nod yw:

  • rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac ymhle a phryd mae ar gael
  • diogelu oedolion a phlant, gan sicrhau bod eu hawliau'n cael eu hamddiffyn
  • gwella gofal drwy annog a hyrwyddo gwelliannau o ran diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • cyfrannu at bolisi a safonau, a darparu cyngor proffesiynol annibynnol i'r bobl sy'n datblygu polisi, y cyhoedd a'r sector gofal cymdeithasol.

1.3 Rydym yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:

  • cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru
  • penderfynu pwy all ddarparu gwasanaethau
  • arolygu a llywio gwelliannau mewn gwasanaethau rheoleiddiedig a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
  • cynnal adolygiadau thematig o wasanaethau gofal cymdeithasol
  • cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion deddfwriaethol a rheoliadol
  • dilyn pryderon a godwyd ynghylch gwasanaethau.

1.4 Rydym yn cyflawni ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru o dan y ddeddfwriaeth ganlynol: 

1.5 Mae Deddf 2016 yn gosod ansawdd a gwella gwasanaethau wrth wraidd rheoleiddio, gan roi mwy o ddiogelwch i'r rhai sydd ei angen, ac yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau'n darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel. Mae hyn yn cefnogi nodau Deddf 2014, sy'n ymgorffori hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru yn y gyfraith.

Ein rôl gydag Awdurdodau Lleol

1.6 Mae gan AGC bwerau i adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol fel y nodir o dan adran 149 o Ddeddf 2014. Mae hyn yn cynnwys adolygu:

  • y ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eu cyflawni yng Nghymru yn gyffredinol
  • y ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol penodol eu cyflawni
  • y ffordd y caiff swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol sy'n cyd-fynd â disgrifiad penodol ei chyflawni (gan gynnwys y pŵer i arolygu dau awdurdod lleol neu fwy os ydynt yn gweithio gyda'i gilydd drwy drefniadau rhanbarthol)
  • y ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eu cyflawni gan berson neu bersonau penodol
  • Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 yn cynnwys tabl o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a'r ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'r swyddogaethau hyn

1.7 Wrth adolygu perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru, rydym hefyd yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Dolen allanol), sy'n gosod fframwaith deddfwriaethol unigryw i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru. Mae hyn yn golygu bod effeithiolrwydd ac effaith gwaith cynllunio a phenderfyniadau ariannol awdurdodau lleol wrth wraidd ein hystyriaethau.

1.8 Mae gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir ar ran awdurdod lleol gan y canlynol:

  • consortiwm rhanbarthol neu bartneriaeth arall rhwng dau awdurdod lleol neu fwy
  • awdurdod lleol arall
  • sefydliad arall a gomisiynir gan yr awdurdod lleol (er enghraifft, sefydliad gwirfoddol neu gwmni preifat)

1.9 Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (2021) yn atgyfnerthu'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau gwelliant parhaus a rhoi cyfrif amdano. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau adrodd ar eu cyflawniad yn erbyn eu hamcanion gwella a chymharu eu perfformiad ag awdurdodau eraill. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i arolygiaethau a rheoleiddwyr gydlynu gwaith archwilio, arolygu a rheoleiddio drwy eu methodoleg. Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar rannu arfer da.

2. Y Cod Ymarfer

Diben y Cod Ymarfer

2.1 Mae’r Cod Ymarfer hwn yn nodi ein dull o adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad. Ceir rhagor o fanylion am y ffordd rydym yn gwneud hyn yn Fframwaith Timau Awdurdodau Lleol AGC ar gyfer Adolygu Perfformiad Awdurdodau Lleol a Cafcass Cymru.

2.2 Mae'r Cod yn ofynnol o dan adran 161A o Ddeddf 2014. Mae'n disgrifio'r ffordd y byddwn adolygu'r modd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eu cyflawni yng Nghymru ac yn nodi'r egwyddorion sy'n llywio ein gwaith adolygu perfformiad. Rhaid i AGC lynu wrth y cod.

2.3 Er nad yw Deddf 2014 na'r cod hwn, fel y cyfryw, yn ymwneud yn benodol ag arolygu CAFCASS Cymru, mae'r egwyddorion yn adlewyrchu ein dull cyffredinol o arolygu'r gwasanaeth hwn hefyd.

Yr egwyddorion sy'n llywio ein gwaith

2.4 Mae'r egwyddorion canlynol yn llywio gwaith AGC;

  • Rhoi pobl yn gyntaf: mae llais a llesiant pobl wrth wraidd ein gwaith, a ategir gan ddull seiliedig ar hawliau.
  • Gweithredu ar sail gwybodaeth: caiff ein gwaith ei lywio gan ddata a gwybodaeth.
  • Bod yn ymatebol ac yn seiliedig ar risg: rydym yn gweithio mewn ffordd amserol a chymesur wedi'i chynllunio ac yn seiliedig ar risg.
  • Cydweithio: rydym yn gwrando, yn rhannu gwybodaeth ac yn cydweithio.
  • Cefnogi gwelliannau ac arloesi: rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a'n pwerau i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant i wella ac i annog ffyrdd newydd o weithio.
  • Myfyrio a dysgu: rydym yn cymryd amser i fyfyrio ac i ddysgu o bob agwedd ar ein gwaith, ac i addasu ein dull gweithredu lle bo angen.

3. Gweithredu ar sail hawliau

3.1 Rydym yn sicrhau bod parch, amrywiaeth, hyrwyddo cydraddoldeb a diogelu hawliau pobl wedi'u hymwreiddio yn ein gwaith. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 (Dolen allanol), Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dolen allanol), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) (Dolen allanol), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl (Dolen allanol) ag Anableddau ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol Llywodraeth Cymru yn ategu Deddf 2014, a chânt eu hadlewyrchu yn ein dull o adolygu perfformiad.

3.2 Ceir rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i hyrwyddo a chynnal hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn ein dogfen ganllaw ar Hawliau Dynol.

3.3 Rydym yn ystyried yr holl fframweithiau statudol a pholisïau a gweithdrefnau diogelu perthnasol wrth ystyried a yw pobl yn ddiogel. Yn ystod ein gwaith, os gwelwn arferion sy'n dangos nad yw pobl yn ddiogel neu nad ydynt yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, byddwn yn gweithredu er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol perthnasol yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i ddiogelu pobl. Pan na fydd gan bobl ddigon o alluedd, byddwn yn ystyried i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn cadw at egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Dolen allanol) a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (Dolen allanol), y bydd y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid (Dolen allanol) yn eu disodli yn fuan.

3.4 At hynny, mae Safonau'r Gymraeg (Dolen allanol) a'r Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd (Dolen allanol), Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn ein cefnogi i roi dull seiliedig ar hawliau ar waith. Mae'r Safonau a'r fframwaith strategol yn helpu siaradwyr Cymraeg i gael gwasanaethau yn Gymraeg, pan fo angen, heb iddynt orfod gofyn amdanynt. Rydym yn asesu arweinyddiaeth, cyfeiriad a chynnydd awdurdodau lleol wrth ymwreiddio'r Gymraeg mewn gwasanaethau rheng flaen.

3.5 Mae AGC hefyd yn darparu'r cynnig rhagweithiol, sy'n cynnwys darparu arolygwyr Cymraeg i ymgysylltu â phobl sydd wedi nodi mai'r Gymraeg yw eu hiaith ddewisol.  

4. Adolygu swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol

4.1 Rydym yn adolygu’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol drwy gyfuniad o weithgareddau adolygu perfformiad, gan gynnwys arolygu. Drwy hyn, rydym yn cefnogi gwelliant parhaus yn y sector gofal cymdeithasol ac yn adolygu i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol.

4.2 Rydym yn ceisio cydweithio ag awdurdodau lleol er mwyn cefnogi dysgu a gwelliant. Y peth cyntaf a wnawn yw nodi ymarfer cadarnhaol sy'n sicrhau canlyniadau da i bobl. Byddwn yn eglur o ran yr hyn a nodwn, gan gynnwys cryfderau, meysydd i'w datblygu a meysydd i'w gwella lle mae angen cyhoeddi hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth. Byddwn yn rhannu ymarfer cadarnhaol er mwyn cefnogi gwelliannau ledled Cymru.

4.3 Mae ein gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth o lygad y ffynnon. Gall arolygwyr arsylwi ar arferion, siarad â phobl am eu profiadau, cyfweld â staff rheng flaen a chynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid allweddol. Mae ein canfyddiadau'n seiliedig ar farn broffesiynol arolygwyr profiadol sydd wedi bod yn ymarferwyr.

4.4 Caiff ein gwaith ei lywio hefyd gan wybodaeth am wasanaethau gofal cymdeithasol a'u heffaith ar fywydau pobl, sy'n deillio o'n gwaith arolygu mewn gwasanaethau rheoleiddiedig.

4.5 Byddwn yn rhannu'r themâu sy'n codi o'n gwaith adolygu mewn awdurdodau lleol gyda chydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru er mwyn llywio polisi cenedlaethol. Byddwn hefyd yn ystyried i ba raddau y mae bwriadau polisi'n gweithio yn ymarferol.

Ffocws gwaith adolygu perfformiad

4.6 Yn sail i'n gweithgarwch arolygu ac adolygu perfformiad mae pedair prif egwyddor Deddf 2014:

Delwedd ddisgrifiadol o bedair egwyddor allweddol: Llesiant, Pobl, Gweithio mewn partneriaeth ac integreiddio, Gwasanaethau ataliol

4.7 Byddwn yn ystyried sut mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn rhoi'r egwyddorion hyn ar waith ar dair lefel allweddol:

  • Unigol – canolbwyntio ar brofiadau a chanlyniadau personol pobl
  • Gweithredol – canolbwyntio ar ymarfer rheng flaen a'r gwasanaethau a ddarperir
  • Strategol – canolbwyntio ar arweinyddiaeth, cynllunio a llywodraethu

4.8 Ein nod yw cefnogi dysgu a gwelliant, felly bydd ein gweithgareddau adolygu perfformiad hefyd yn ystyried gallu awdurdod lleol i wella ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn barhaus.

4.9 Mae'r egwyddorion hyn hefyd yn sail i'r datganiadau llesiant a'r canlyniadau llesiant cysylltiedig a amlinellir yn nogfen Llywodraeth Cymru, Y fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth (Dolen allanol). Bydd ein dull hefyd yn adeiladu ar unrhyw fframwaith mesur perfformiad awdurdodau lleol cysylltiedig sy'n ymwneud â Deddf 2014 (Dolen allanol).

Gweithio gyda chyrff archwilio, arolygu a rheoleiddiol eraill

4.10 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cefnogi'r dull gweithredu a'r trefniadau ar gyfer arolygu awdurdodau lleol, naill ai gan arolygiaethau unigol neu ar y cyd rhwng Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru ac AGC.

4.11 Mae Arolygu Cymru yn rhaglen o waith ar y cyd rhyngom ni a'r canlynol:

  • Yr Archwilydd Cyffredinol ac Archwilio Cymru
  • Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn)
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) Mae cytundeb strategol (2021) ar waith ar gyfer partneriaid Arolygu Cymru sy'n nodi trefniadau cydweithio. Mae pob arolygiaeth yn anelu at rannu gwybodaeth a chydlynu'r gwaith o gynllunio a chyflawni eu rhaglenni gwaith unigol.

4.12 Rydym yn cydlynu gwaith gyda'r arolygiaethau yng Nghymru hefyd er mwyn cyfrannu'n llawn at lunio safbwynt traws-arolygiaethol ar berfformiad llywodraeth leol yng Nghymru gyfan. Drwy gydweithio'n effeithiol, gall yr arolygiaethau sicrhau effaith fwy cadarnhaol i bobl. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag arolygiaethau eraill yn y DU, gan gynnwys cydweithio â'r canlynol fel y bo'n briodol:

  • Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi
  • Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi
  • Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi

4.13 Gyda'r ymdrech i gydweithio ac integreiddio mewn gwasanaethau cyhoeddus, mae'n fwyfwy tebygol y bydd achlysuron rheolaidd yn codi pan fydd arolygiadau ar eu mwyaf effeithiol pan gânt eu cynnal ar y cyd ag arolygiaethau eraill, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â chyfrifoldebau llesiant ehangach awdurdodau lleol a'u partneriaid. Gall hyn hefyd gynnwys arolygu trefniadau rhanbarthol statudol fel byrddau partneriaeth a byrddau diogelu.

4.14 Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i rannu gwybodaeth er mwyn cefnogi gwelliannau i wasanaethau gofal cymdeithasol.

5. Adolygu perfformiad

5.1 Elfen bwysig o'n gwaith yw monitro a gwerthuso perfformiad awdurdodau lleol yn barhaus mewn perthynas â chyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Ein man cychwyn yw ystyried a yw pobl yn cael eu cefnogi i sicrhau canlyniadau personol cadarnhaol. Bydd gan bob awdurdod lleol uwch-reolwr cyswllt dynodedig yn AGC i fonitro a herio ei berfformiad a'i gynnydd yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Ein nod yw helpu awdurdodau lleol i ddeall eu cryfderau a'r meysydd y mae angen iddynt eu datblygu yn well. Byddwn yn cynnal cydberthynas waith adeiladol â'r awdurdod lleol ac yn rhannu arfer gorau lle bo hynny'n berthnasol.

5.2 Rydym yn ymrwymedig i ymgysylltu â phobl er mwyn sicrhau bod ein gwybodaeth yn seiliedig ar leisiau a phrofiadau pobl. Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu â phobl yn ystod y flwyddyn; mae hyn yn sicrhau bod ein gwybodaeth yn gwbl seiliedig ar leisiau pobl. Rydym hefyd yn croesawu adborth gan bobl sy'n gweithio i wasanaethau cymdeithasol a'u partneriaid, a byddwn yn ystyried gweithgarwch ymgysylltu'r awdurdodau lleol eu hunain.

5.3 Mae'n bwysig nodi nad oes gan AGC bwerau i ymchwilio i gwynion unigol am wasanaethau cymdeithasol; fodd bynnag, bydd yn cydnabod unrhyw bryderon a ddaw i law, yn gwneud gwaith dilynol mewn perthynas â nhw os yw hynny'n briodol ac yn cadw cofnod o'r materion a nodir. Os bydd rhywun a gyflogir gan yr awdurdod lleol yn codi pryder, gall hyn gael ei ystyried yn achos o chwythu'r chwiban yn unol â Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (Dolen allanol) a chaiff ei drin yn unol â hynny. Mae AGC yn 'gorff rhagnodedig' ar ran Gweinidogion Cymru (Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014).

5.4 Mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn gwerthuso'u hunain yn rheolaidd fel rhan hanfodol o'u cylch gwella busnes. Mae gwaith hunanwerthuso gonest a thrylwyr, ynghyd ag asesiadau risg trwyadl, yn galluogi awdurdodau lleol i gynnal a datblygu arferion a gwasanaethau sy'n sicrhau canlyniadau personol cadarnhaol i bobl ymhellach, cynllunio gwelliannau lle bo angen a gwneud penderfyniadau hyddysg ynghylch defnyddio adnoddau'n effeithlon. Bydd AGC yn gofyn yn rheolaidd i awdurdodau lleol beth y maent yn ei wybod am brofiadau a chanlyniadau pobl a sut maen nhw'n gwybod hynny.

5.5 O dan Ddeddf 2014, rhaid i gyfarwyddwyr statudol gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi sut mae'r awdurdod lleol wedi cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae'r adroddiadau hyn yn cynnig cyfoeth o wybodaeth sy'n helpu i lywio ein rhaglen adolygu perfformiad. Yn ogystal, gallwn ofyn iddynt gwblhau arolwg cenedlaethol fel rhan o'n rhaglenni gwaith thematig.

5.6 Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno data mesur perfformiad i Lywodraeth Cymru fel y manylir yn y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol: defnyddio tystiolaeth fel sail ar gyfer gwella (Dolen allanol). Gofynnwn i awdurdodau lleol rannu eu data ar berfformiad â ni bob chwarter o leiaf fel rhan o'n gwaith gwerthuso perfformiad sydd, yn ei dro, yn llywio ein blaenoriaethau a'n rhaglen waith.

5.7 Byddwn yn cynnal gweithgarwch adolygu perfformiad ym mhob awdurdod lleol bob blwyddyn. Gall y gweithgarwch hwn ymwneud â thema arolygiadau neu gall geisio canfod mwy o wybodaeth am gryfder a nodwyd gan yr awdurdod lleol. Bydd y gweithgarwch hwn yn cynnwys siarad â phobl a gall hefyd gynnwys adolygu cofnodion cymdeithasol pobl ac ar arsylwi ar ymarfer. Byddwn yn rhoi adborth ysgrifenedig ffurfiol i'r awdurdod lleol ar ein canfyddiadau. Byddwn yn rhannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol â'r partneriaid perthnasol, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn sicrhau dull cydweithredol o wella gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru.

5.8 Mae gweithgarwch adolygu perfformiad hefyd yn cynnwys cyfarfod blynyddol â chyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol ynghyd â chyfarfodydd chwemisol â phenaethiaid gwasanaethau oedolion a phlant. Mae'n bosibl y byddwn yn mynd i gyfarfodydd perthnasol pwyllgorau craffu a chyfarfodydd y cyngor llawn, yn bersonol neu'n rhithwir, er mwyn gwerthuso i ba raddau y mae aelodau'r awdurdod lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau i arwain a llywodraethu gwasanaethau cymdeithasol yn yr awdurdod lleol.

5.9 Ar y cyd ag Archwilio Cymru ac Estyn, byddwn yn cyfarfod â phrif weithredwr yr awdurdod lleol bob blwyddyn. Yn ystod y cyfarfod, byddwn yn trafod y gefnogaeth gorfforaethol a roddir i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a'r ffordd y cânt eu cyflawni.

5.10 Yn ogystal, bydd gan bob bwrdd partneriaeth a bwrdd diogelu rhanbarthol reolwr cyswllt penodedig o fewn AGC. Ar y cyd â phartneriaid Arolygu Cymru, byddwn yn monitro ac yn herio effeithiolrwydd y camau a gymerir i weithredu cynlluniau diogelu a rhanbarthol a'u heffaith o ran gwella canlyniadau i bobl. Byddwn hefyd yn monitro effeithiolrwydd gwelliannau sy'n deillio o Adolygiadau Ymarfer Plant neu Oedolion. Byddwn yn cynnal cydberthynas waith adeiladol â'r byrddau rhanbarthol ac yn rhannu arfer gorau lle bo hynny'n berthnasol.

5.11 Os byddwn yn nodi patrwm o bryderon sy'n dod i'r amlwg drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad, mae'n bosibl y byddwn yn cynnal Cynhadledd Gwella. Mae hyn yn cyd-fynd ag ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael â phroblemau'n gynnar cyn iddynt waethygu.

5.12 Mae'r gynhadledd yn ystyried cryfderau i adeiladu arnynt a rhwystrau i gynnydd, ac yn archwilio atebion posibl i'r rhwystrau hyn. Mae'n ffordd i AGC gael sicrwydd bod yr awdurdod lleol, drwy ei uwch-swyddogion a'i aelodau etholedig, yn:

  • cydnabod ac yn llwyr ddeall unrhyw bryderon sydd gennym am ei berfformiad, ei ddarpariaeth neu'i arweinyddiaeth;
  • derbyn unrhyw bryderon a chymryd perchenogaeth drostynt;
  • meddu ar gynlluniau priodol i gyflawni gwelliannau'n gyflymach a mynd i'r afael â rhwystrau i wella yn ddi-oed;
  • meddu ar y capasiti, yr adnoddau a'r gallu i gyflawni ei gynlluniau;
  • defnyddio prosesau priodol i fonitro cynnydd yn erbyn ei gynlluniau.

5.13 Yn dilyn cynhadledd gwella, byddwn yn ysgrifennu at y cyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi adborth ar bryderon a'r camau gweithredu y mae'r awdurdod lleol a'i bartneriaid, lle bo hynny'n berthnasol, wedi cytuno i'w cymryd.

5.14 Rydym yn dadansoddi'r holl ddata a gwybodaeth a gasglwyd gennym ac yn eu defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o adolygu perfformiad pob awdurdod lleol/CAFCASS Cymru. Mae ein dadansoddiad o'r wybodaeth hon yn helpu i lywio blaenoriaethau ein rhaglen waith sydd, yn ei thro, yn llywio ein hamserlen arolygu dros gyfnod ein rhaglen waith.

5.15 Rydym yn dadansoddi'r wybodaeth sydd gennym drwy gyfrwng ein Cyfarfodydd Adolygu Perfformiad Mewnol, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn o leiaf. Bydd y Cyfarfod Adolygu Perfformiad Mewnol (23) yn nodi cryfderau a risgiau ac yn ystyried unrhyw gamau lliniaru y mae awdurdod lleol wedi'u cymryd i leihau risgiau. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cynllunio ein rhaglen waith yn briodol i flaenoriaethau'r meysydd lle y gall ein gwaith gefnogi a llywio gwelliannau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

6. Y broses arolygu

6.1 Mae arolygu yn un o weithgareddau craidd AGC ac mae'n helpu i sicrhau bod pobl y mae angen gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu ofal a chefnogaeth arnynt yn ddiogel, bod eu llesiant yn cael ei hybu, a bod eu hawliau'n cael eu diogelu.

6.2 Bydd ffocws yr arolygiadau yn amrywio dros amser, yn dibynnu ar y problemau a'r heriau allweddol a wynebir gan awdurdodau lleol yng Nghymru Fodd bynnag, bydd pob arolygiad yn asesu i ba raddau y mae gwaith gwasanaethau cymdeithasol yn helpu pobl i gyflawni canlyniadau personol cadarnhaol.

6.3 Drwy hyn, byddwn yn adolygu a yw'r ymarfer a'r gwasanaethau a ddarperir yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl; yn amserol ac yn gymesur; yn rhoi rheolaeth i bobl ac yn eu cadw'n ddiogel; yn cael eu rheoli a'u harwain yn dda gan weithio mewn partneriaeth â phobl ac asiantaethau eraill; ac yn cael eu hategu gan dystiolaeth sy'n seiliedig ar ymarfer.

6.4 Ein nod yw cefnogi dysgu a gwelliant; felly bydd arolygiadau hefyd yn ystyried gallu awdurdod lleol i wella'n barhaus

Pryd y bydd gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn cael eu harolygu?

6.5 Fel arfer, byddwn yn cynnal o leiaf un arolygiad gwerthuso perfformiad ym mhob awdurdod lleol bob pum mlynedd.

6.6 Cyhyd ag y bo'n bosibl, byddwn yn trefnu o leiaf un gweithgaredd adolygu perfformiad ym mhob awdurdod lleol bob blwyddyn. Byddwn yn trafod y rhaglen â'n partneriaid yn Arolygu Cymru er mwyn osgoi dyblygu a manteisio ar gyfleoedd i gydweithio.

6.7 Fel arfer, byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdod lleol am arolygiad unigol bedair wythnos cyn cynnal yr arolygiad; bydd hyn yn caniatáu amser i gynllunio a pharatoi. Cynhelir cyfarfod sefydlu rhagarweiniol i drafod cwmpas yr arolygiad a chytuno ar amserlen. Byddwn yn gymesur o ran faint o wybodaeth a gwaith paratoi y byddwn yn eu disgwyl gan yr awdurdod lleol cyn yr arolygiad.

6.8 Pan gaiff ei hysbysu am yr arolygiad, dylai'r awdurdod lleol adolygu cyfansoddiad y tîm arolygu a thynnu sylw ar unwaith at unrhyw wrthdaro buddiannau canfyddedig neu wirioneddol cyn i'r arolygiad ddechrau.

Sut rydym yn arolygu

6.9 Bydd tri phrif gam i arolygiad: cynllunio/paratoi, cyfweliadau/grwpiau ffocws/darllen ffeiliau achos ac adrodd arnynt

6.10 Bydd pob arolygiad yn defnyddio gwybodaeth a data a gasglwyd yn ystod y rhaglen flynyddol, gwybodaeth sydd ar gael o arolygiadau blaenorol; arolygiadau o wasanaethau rheoleiddiedig, gwybodaeth am berfformiad, asesiadau o anghenion y boblogaeth a gwybodaeth a ddelir gan arolygiaethau eraill. Byddwn hefyd yn ystyried gwybodaeth ac adroddiadau a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol i gynllunio a sicrhau ansawdd y swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a gyflawnir ganddo.

6.11 Yn ystod arolygiad, byddwn yn chwilio am dri math bras o dystiolaeth.

  • Yr hyn rydym yn ei glywed – byddwn yn siarad â phobl sydd wedi defnyddio a/neu sy'n cael gwasanaethau gofal a chymorth a'u gofalwyr, ac yn gwrando arnynt. Rydym hefyd yn siarad â staff awdurdodau lleol, eu rheolwyr ac uwch-swyddogion ac aelodau etholedig yn ogystal ag asiantaethau partner.
  • Yr hyn rydym yn ei weld – lle y bo'n ymarferol ac yn briodol, byddwn yn arsylwi ar ymarfer perthnasol ym maes gwasanaethau cymdeithasol sy'n berthnasol i'r arolygiad.
  • Yr hyn rydym yn ei ddarllen – byddwn yn edrych ar gofnodion ysgrifenedig, dogfennau polisi, arolygon, ffeiliau achos a deunydd ysgrifenedig arall.

6.12 Bydd yr arolygiad yn canolbwyntio ar brofiadau a chanlyniadau personol pobl, fel y'u nodir yn eu cofnodion gofal cymdeithasol ac fel y'u disgrifiwyd gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau/gofalwyr a staff o'r awdurdod lleol; a'r graddau y mae hyn yn cyd-fynd â'r dystiolaeth o'n gweithgarwch ymgysylltu ehangach.

6.13 Rydym hefyd yn ystyried ansawdd trefniadau arwain a llywodraethu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'r ffordd y maent yn helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a gwelliannau i'r gofal a'r cymorth a ddarperir. Mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae'r awdurdod lleol yn dyrannu adnoddau, ei drefniadau rheoli perfformiad, trefniadau partneriaeth, trefniadau comisiynu a data contractiol ac ariannol.

6.14 Yn dilyn gwaith maes yr arolygiad, defnyddir canfyddiadau, tystiolaeth ategol a chasgliadau'r tîm arolygu i lunio adroddiad neu lythyr arolygu, a fydd ar gael yn gyhoeddus ar ôl i'r awdurdod lleol gael cyfle i wneud sylwadau.

7. Mathau o arolygiadau

7.1 Rydym yn cynnal tri phrif fath o arolygiad mewn awdurdodau lleol:

  • Arolygiad gwerthuso perfformiad
  • Gwiriad sicrwydd
  • Gwiriad gwella

Cynhelir Arolygiad Gwerthuso Perfformiad rheolaidd mewn awdurdod lleol bob pum mlynedd, yn ymdrin â gwasanaethau oedolion neu wasanaethau plant. Gall fod adegau pan ymdrinnir â gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion ar yr un pryd. Gellir cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad hefyd pan fydd gwybodaeth a gasglwyd yn peri pryder a bydd angen i ni wybod mwy. Bydd ffocws a chwmpas yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad yn seiliedig ar wybodaeth a ddelir gan AGC neu flaenoriaeth genedlaethol. Caiff y canfyddiadau eu nodi mewn adroddiad arolygu cyhoeddedig.

Gwiriad Sicrwydd

7.2 Rydym yn cynnal Gwiriadau Sicrwydd rhwng Arolygiadau Gwerthuso Perfformiad rheolaidd bob pum mlynedd, gan fabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau, i geisio sicrwydd, wrth i'r wybodaeth a'r data a gasglwn ein harwain at beidio â chael fawr ddim pryderon, os o gwbl, am wasanaethau a gynigir yn yr awdurdod lleol neu ganddo. Gallwn hefyd ddefnyddio'r Gwiriad Sicrwydd i gasglu rhagor o wybodaeth. Defnyddir dull safonol o gynnal Gwiriadau Sicrwydd ym mhob awdurdod lleol, ond bydd y ffocws yn seiliedig ar wybodaeth neu amgylchiadau lleol. Caiff y canfyddiadau eu nodi mewn llythyr cyhoeddedig.

Gwiriad gwella

7.3 Byddwn y cynnal Gwiriad Gwella er mwyn mesur cynnydd awdurdod lleol tuag at sicrhau gwelliannau yn dilyn Arolygiad Gwerthuso Perfformiad. Bydd amlder y gwiriad hwn yn dibynnu ar amgylchiadau'r awdurdod lleol unigol a bydd yn canolbwyntio ar feysydd i'w gwella a nodwyd gennym yn flaenorol. Caiff y canfyddiadau eu nodi mewn llythyr cyhoeddedig.

Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cynnal:

Adolygiadau thematig cenedlaethol

7.4 Os bydd adnoddau yn caniatáu, mae'n bosibl y bydd AGC yn cynnal adolygiad thematig. Gallwn arwain a/neu gyfrannu at adolygiadau thematig naill ai'n annibynnol neu ar y cyd â chyrff arolygu eraill. Byddwn fel arfer yn defnyddio Gwiriad Sicrwydd ac mae'n bosibl y byddwn yn cwblhau arolwg cenedlaethol hefyd. Cyhoeddir pob adroddiad ar arolygiad thematig ar y cyd.

7.5 Wrth i ni gwblhau ein gweithgareddau drwy gydol y rhaglen, yn aml daw themâu ac enghreifftiau o arferion da i'r amlwg. Mae'n bosibl y byddwn yn llunio ac yn cyhoeddi adroddiad thematig er mwyn rhannu'r gwersi hyn a ddysgwyd, gyda'r nod o gefnogi gwelliannau ar draws y sector gofal cymdeithasol.

8. Adrodd a rhoi adborth ar arolygiadau

8.1 Bydd y prif arolygydd wedi cyfarfod yn rheolaidd â phennaeth gwasanaeth perthnasol yr awdurdod lleol drwy gydol yr arolygiad. Ar ddiwedd yr arolygiad, byddwn yn rhoi adborth cychwynnol lefel uchel ar lafar i gyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol a'r pennaeth gwasanaeth. Bydd hwn yn rhoi trosolwg o'r canfyddiadau cychwynnol yn seiliedig ar yr egwyddorion allweddol sy'n llywio'r arolygiad. Ni ddylai unrhyw beth annisgwyl godi oherwydd byddwn wedi cynnal cyfarfodydd 'cadw mewn cysylltiad' rheolaidd drwy gydol yr arolygiad.

8.2 Mae AGC yn awyddus i wella'n barhaus ac ar ddiwedd yr arolygiad, byddwn yn anfon holiadur adborth. Yna, byddwn yn anfon arolwg byrrach ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi.

8.3 Bydd adroddiadau/llythyrau arolygu yn nodi cryfderau, meysydd i'w datblygu ymhellach a meysydd lle mae angen cyhoeddi hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth er mwyn sicrhau gwelliant. Byddwn yn sicrhau bod naratif yr adroddiad/llythyr arolygu yn glir ynghylch ansawdd gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, gan gynnwys y cryfderau a'r meysydd i'w gwella.

8.4 Disgwylir i bob adroddiad arolygu gael ei ysgrifennu a'i rannu â'r awdurdod lleol fel fersiwn ddrafft o fewn 20 diwrnod gwaith i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad. Caiff llythyrau yn dilyn Gwiriad Sicrwydd neu Wiriad Gwella eu rhannu â'r awdurdod lleol fel fersiwn ddrafft o fewn 15 diwrnod ar ôl i'r arolygiad ddod i ben.

8.5 Mae pob adroddiad/llythyr arolygu yn destun proses gymedroli sy'n cynnwys adolygiad cymheiriaid gan uwch-reolwr nad yw'n rhan o'r tîm arolygu gwreiddiol a gwaith craffu gan y pennaeth arolygu awdurdodau lleol.

8.6 Rydym yn ceisio sicrhau bod ein hadroddiadau/llythyrau arolygu yn deg a bod ein canfyddiadau wedi'u seilio'n briodol ar waith i driongli'r dystiolaeth a gasglwyd. Felly, er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder, rydym yn derbyn hawl awdurdodau lleol i ymateb i'n hadroddiadau ac i wneud sylwadau ar ein canfyddiadau os byddant yn credu eu bod yn ffeithiol anghywir. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni gywiro unrhyw wallau cyn i adroddiad arolygu gael ei gyhoeddi. Rhoddir 10 diwrnod gwaith i'r awdurdod lleol ystyried yr adroddiad/llythyr drafft ac ymateb iddo. Dylai unrhyw adborth bob amser nodi'r rhan(nau) o'r adroddiad sy'n cael ei/eu herio a rhoi'r rhesymau dros yr her gyda thystiolaeth ategol.

8.7 Rydym yn ceisio drafftio, cwblhau a chyhoeddi adroddiadau/llythyrau arolygu o fewn 50 diwrnod gwaith ar ôl i'r arolygiad gael ei gwblhau. Gellir ymestyn yr amserlen hon o dan amgylchiadau eithriadol.

8.8 Caiff yr adroddiad/llythyr arolygu ei gyhoeddi ar ein gwefan o fewn 25 diwrnod ar ôl i sylwadau'r awdurdod lleol ddod i law. Disgwylir i’r awdurdod lleol gyflwyno’r adroddiad i aelodau etholedig a’i wneud yn destun proses graffu gyhoeddus drwy gyfarfod pwyllgor ffurfiol ac agored cyn gynted â phosibl. Gellid gwahodd AGC i'r cyfarfod hefyd.

9. Sicrhau a monitro gwelliant

9.1 Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgareddau adolygu perfformiad. Lle byddwn wedi nodi arferion gwael a phryderon sylweddol neu ddifrifol (gweler adran 10), byddwn yn mesur cynnydd tuag at sicrhau gwelliannau drwy gynnal gwiriad gwella.

Yn yr achosion hyn, bydd y penderfyniad i gynnal gwiriad gwella yn seiliedig ar natur y pryderon a nodwyd yn ystod yr arolygiad gwreiddiol a chynnydd tuag at roi cynlluniau gwella'r awdurdod lleol ar waith, ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym am berfformiad. Byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdod lleol ymlaen llaw am wiriad gwella.

9.2 Mae'n bosibl y byddwn yn cynnal cynhadledd gwella hefyd. Trafodaethau bord gron ffurfiol wedi'u harwain gan AGC yw'r rhain, ac maent yn gyfle i ystyried heriau, ysgogi trafodaeth a chefnogi gwasanaethau cymdeithasol/CAFCASS Cymru i lywio gwelliannau yn eu gwasanaethau. Fel sy'n wir am wiriadau gwella, eu diben yw sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i wella.

10. Nodi Pryderon Difrifol neu Sylweddol

10.1 Weithiau, gall canfyddiadau arolygiad arwain at farn bod yr awdurdod lleol yn methu â bodloni ei ddyletswyddau statudol. Mae gennym ddwy lefel o bryder – pryderon difrifol neu bryderon difrifol a sylweddol.

10.2 Ym mhob achos, byddwn yn gwneud penderfyniad ynghylch pa mor ddifrifol a sylweddol yw'r problemau, eu heffaith ar bobl, achosion ymddangosiadol a gallu'r awdurdod lleol i ddatrys y problemau hynny. Bydd y broses o sefydlu pryderon a'r ymateb dilynol yn digwydd mewn ffordd agored a thryloyw gan ymgynghori â'r awdurdod lleol.

10.3 Bydd gennym bryderon difrifol lle bydd y canlyniadau personol i bobl, yr arferion gweithredol a'r arweinyddiaeth strategol yn annigonol. Bydd pryderon difrifol yn codi pan fydd difrifoldeb, amlder neu barhad y problemau yn golygu na ellir eu datrys drwy'r drefn arferol.

10.4 Lle bydd gennym bryderon difrifol, mae'n bosibl y byddwn yn cynnal cynhadledd gwella ddwywaith y flwyddyn er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol ar y trywydd cywir i wella ac yn cynnal gwiriad gwella o fewn 12 mis i gyhoeddi'r adroddiad arolygu blaenorol er mwyn ceisio sicrwydd o welliant digonol.

10.5 Bydd gennym bryderon difrifol a sylweddol lle byddwn yn canfod bod y canlyniadau personol i bobl, yr arferion gweithredol a'r arweinyddiaeth yn wael. Bydd pryderon sylweddol a difrifol yn codi pan fydd hyd a lled y meysydd sy'n destun pryder yn cael effaith sylweddol ar lesiant pobl am nad ydynt yn cael eu diogelu'n ddigonol neu am eu bod yn profi canlyniadau personol gwael.

10.6 Lle byddwn wedi nodi pryderon difrifol neu sylweddol, bydd AGC yn cyfarfod â swyddogion yr awdurdod lleol i drafod y rhesymau dros y farn hon. Lle y bo'n bosibl, caiff y cyfarfod hwn ei gynnal cyn i'r adroddiad/llythyr arolygu gael ei gyhoeddi yn ffurfiol.

10.7 Bydd y cyfarfod yn cynnwys Prif Arolygydd (neu Ddirprwy Brif Arolygydd) AGC, Pennaeth Arolygu'r Awdurdod Lleol, a phrif weithredwr a chyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Gellir gwahodd eraill, fel cynrychiolydd y tîm arolygu neu Archwilio Cymru fel y bo'n briodol.

10.8 Bydd swyddogion yn trafod y rhesymau dros y pryderon (gan gynnwys unrhyw sylwadau gan yr awdurdod lleol), y camau y bydd yr awdurdod lleol yn eu cymryd i ymateb i'r pryderon ac unrhyw gamau pellach y gall Gweinidogion Cymru eu cymryd er mwyn delio â'r pryderon a/neu fonitro cynnydd.

10.9 Lle bo pryder sylweddol, o dan adran 151 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gall Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os bydd yr awdurdod lleol wedi methu, neu'n debygol o fethu, â chydymffurfio â dyletswydd sy'n un o swyddogaethau'r gwasanaethau cymdeithasol;
  • os bydd yr awdurdod lleol wedi gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth arfer un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;
  • os bydd yr awdurdod lleol yn methu, neu'n debygol o fethu, â chyflawni un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i safon ddigonol.

10.10 Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad rhybudd, wedi'i lywio gan ganlyniad yr arolygiad. Lle y rhoddir hysbysiad rhybudd, bydd yn nodi'r seiliau a'r rhesymau dros ymyrryd, y camau gweithredu sy'n ofynnol gan yr awdurdod lleol a'r cyfnod ar gyfer cymryd y camau hynny; yn ogystal â'r camau y gall Gweinidogion Cymru eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau gweithredu gofynnol.

10.11 Caiff yr hysbysiad rhybudd ei adolygu ar ôl 90 diwrnod, a bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid cyhoeddi hysbysiad pellach.

10.12 Lle bydd pryderon difrifol a sylweddol wedi'u nodi, bydd AGC yn ystyried a oes angen cynnal cynhadledd gwella. Y nod yw ceisio sicrwydd bod yr awdurdod lleol yn parhau ar y trywydd cywir tuag at wella. Caiff gwiriadau gwella rheolaidd eu cynnal i fonitro cynnydd. At hynny, mae'n bosibl y byddwn yn cynnal gweithgaredd monitro ychwanegol.

10.13 Byddwn yn helpu i gyfeirio'r awdurdod lleol at ffynonellau cymorth ac arferion cadarnhaol.

11. Ymddygiad yn ystod gweithgareddau adolygu perfformiad

11.1 Mae'r arolygwyr a gyflogir gan AGC wedi dod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r holl arolygwyr yn weision sifil ac mae'n rhaid iddynt gyrraedd y safonau proffesiynol a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil . Yn yr un modd â gweithwyr gofal cymdeithasol, mae arolygwyr yn gweithio yn unol â'r Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol . Mae hyn yn golygu y disgwylir i ni wneud y canlynol:

  • gwneud ein gwaith â gofal, uniondeb, cwrteisi, sensitifrwydd a phroffesiynoldeb
  • gwerthuso'r gwasanaethau a ddarperir yn wrthrychol, gan sicrhau y caiff tystiolaeth ei thriongli a'i phwysoli'n briodol
  • adrodd ar yr arolygiad mewn modd gonest, teg a diduedd
  • cyfathrebu'n glir ac yn agored er mwyn hybu iechyd, diogelwch a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal
  • ymddwyn er budd pennaf y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau
  • parchu cyfrinachedd gwybodaeth
  • bod yn atebol a chymryd cyfrifoldeb am ansawdd ein gwaith;
  • hyrwyddo, diogelu a pharchu preifatrwydd, urddas, hawliau, iechyd a llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a phobl a gyflogir gan wasanaethau gofal.

Sut y gall staff gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol gefnogi ein gwaith

11.2 Byddwn bob amser yn ceisio lleihau'r effaith y gall gweithgarwch adolygu perfformiad ei chael ar yr awdurdod lleol, ei staff a'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol. Er mwyn ein helpu i gyflawni'r nod hwn, gall awdurdodau lleol a'u staff gynorthwyo yn y ffyrdd canlynol:

  • darparu tystiolaeth a fydd yn galluogi arolygwyr i lunio adroddiad gonest, teg a dibynadwy am yr awdurdod lleol
  • cynnal trafodaeth bwrpasol ag AGC;
  • cydnabod bod angen i ni siarad ag aelodau etholedig, swyddogion a rhanddeiliaid eraill heb fod rheolwyr neu uwch-arweinwyr yn bresennol
  • tynnu sylw'r arolygwyr at unrhyw bryderon am yr arolygiad mewn ffordd amserol ac addas drwy'r prif arolygydd, yn ddelfrydol tra bo'r tîm arolygu ar y safle
  • gweithio gyda ni i leihau unrhyw darfu a phwysau i'r eithaf drwy gydol y gweithgarwch adolygu perfformiad
  • rhoi gwybod i ni am faterion iechyd a diogelwch tra'n bod ar safle'r awdurdod lleol
  • yn ystod yr adborth, os byddwch yn anghytuno ag unrhyw beth y bydd yr arolygydd yn ei ddweud, dywedwch wrtho ac eglurwch eich rhesymau dros hynny
  • cadw cyfarfodydd a chanfyddiadau arolygu yn gyfrinachol nes i'r adroddiad gael ei gyhoeddi'n derfynol
  • rhoi gwybod i'r prif arolygydd neu'r pennaeth arolygu awdurdodau lleol cyn gynted â phosibl os bydd gennych unrhyw bryderon am ymddygiad arolygydd yn ystod arolygiad.

Gwneud cwyn i AGC

11.3 Os bydd gan yr awdurdod lleol, unigolyn sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol neu aelod o'r cyhoedd gŵyn am waith AGC neu aelod o staff AGC, mae gennym bolisi cwynion y dylid ei ddilyn. Ni fydd cwyn yn erbyn ymddygiad arolygydd yn golygu oedi cyn cyhoeddi adroddiad arolygu fel arfer.

12. Gwybodaeth

12.1 Y ddealltwriaeth a'r wybodaeth sydd gennym yw un o'n hasedau pwysicaf. Mae'n sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn a'r cyngor a roddwn yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

12.2 Drwy ein prosesau adolygu perfformiad, rydym yn casglu ac yn cadw llawer o wybodaeth am wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, yn ogystal â gwybodaeth a geir o ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae'r wybodaeth werthfawr hon yn ein helpu i asesu sut mae adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn perfformio gyda'u cyfrifoldebau deddfwriaethol.

12.3 Efallai y byddwn yn cael ceisiadau achlysurol i ryddhau gwybodaeth yn ymwneud ag achos neu wasanaeth unigol. Mae gan unrhyw unigolyn yr hawl i wneud cais am wybodaeth a gofnodwyd gennym, ac, yn amodol ar ofynion statudol deddfwriaeth ynghylch trin gwybodaeth, i gael copi o'r wybodaeth hon.

12.4 Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael ar yr adeg gywir, a'n bod yn cadarnhau'r gofynion statudol sy'n ofynnol gennym, rydym yn gwneud y canlynol:

  • Diogelu'r wybodaeth sydd gennym, yn unol â gweithdrefnau Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau safonau uchel o ran diogelu gwybodaeth a data.
  • Storio ein gwybodaeth yn y ffordd gywir, gan ddilyn egwyddorion rheoli cofnodion Llywodraeth Cymru .
  • Ymateb i geisiadau am wybodaeth yn unol â'r prosesau a'r amserlenni a sefydlwyd sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith .
  • Rhannu gwybodaeth yn briodol ac mewn modd cyfreithlon, er mwyn gwella ac ailddefnyddio ein gwybodaeth, gweithio ar y cyd a lleihau achosion o ddyblygu.

12.5 Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd, sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data ddiweddaraf, yn crynhoi'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â phob math o wybodaeth bersonol a gasglwn. Mae hyn yn cynnwys y sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r wybodaeth hon, y ffordd y caiff y wybodaeth ei phrosesu, am ba hyd y caiff ei chadw, pwy y gellir ei rhannu â nhw, beth yw eich hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth a'r contractau perthnasol y gallai fod eu hangen arnoch.

12.6 Mewn rhai achosion, gall AGC gynnal neu gymryd rhan mewn arolygiad ar y cyd â chyrff neu asiantaethau rheoleiddiol eraill, fel yr Heddlu neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae'n hanfodol y caiff gwybodaeth ei rhannu â'r asiantaethau neu'r cyrff rheoleiddiol hyn er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ac adnoddau eu defnyddio'n effeithiol. Yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn rhannu gwybodaeth yn unol â'r gofynion statudol sydd arnom.

Y derminoleg a ddefnyddir yn y Cod hwn

Cofnod gofal cymdeithasol unigolyn
Dyma'r cofnod electronig a gedwir gan yr awdurdod lleol sy'n cynnwys gwybodaeth am unigolyn Gall hwn gynnwys ei asesiadau a'i gynlluniau gofal a chymorth.

Gofal a chymorth
Mae gofal yn cyfeirio at dasgau ac anghenion corfforol a meddyliol y person sy'n derbyn gofal, ac mae cymorth yn cyfeirio at y dulliau cwnsela, cyngor neu help arall a roddir fel rhan o gynllun a gaiff ei baratoi ar gyfer y person sy'n derbyn cymorth.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Cod Ymarfer
Disgrifiad lefel uchel o'r modd y cynhelir yr adolygiad o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, yn unol â gofynion Deddf 2014.

Rheoleiddiwr
Sefydliad a sefydlwyd gan y llywodraeth i oruchwylio maes gweithgarwch masnachol neu gymdeithasol, drwy reolau a rheoliadau.

Diogelu
Term cyffredinol ar gyfer camau a gymerir i hyrwyddo lles plant ac oedolion sy'n agored i niwed a'u diogelu rhag cael eu hesgeuluso, eu cam-drin a rhag achosion o gam-fanteisio arnynt.

Llesiant
Mae'n cyfeirio'n fras at gyflwr person sy'n iach, yn hapus, yn ddiogel ac yn fodlon ei fyd.

Chwythwr chwiban
Rhywun sy'n codi mater o bryder cyhoeddus ynghylch drygioni, risg neu gamarfer y mae'n ymwybodol ohono drwy ei waith. Caiff chwythwyr chwiban eu diogelu gan y gyfraith, rhag cael eu cam-drin neu rhag cael eu diswyddo.

Atodiad 1. Amserlen o weithgareddau adolygu perfformiad

Gweithgaredd adolygu perfformiad

  • Cyfarfod Penaethiaid Gwasanaeth Awdurdod Lleol: Ddwywaith y flwyddyn
  • Cyfarfod Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol: Bob blwyddyn
  • Cyfarfod cydreoleiddwyr â Phrif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (Archwilio Cymru, Estyn a AGC: Bob blwyddyn
  • Cynhadledd Gwella: Fel y bo angen
  • Arolygiad Gwerthuso Perfformiad: O leiaf unwaith bob pum mlynedd fel arfer
  • Gwiriad Sicrwydd (Gan ganolbwyntio'n bennaf ar ymgysylltu): Bob blwyddyn
  • Gwiriad Gwella: Gellir ei gynnal yn dilyn Arolygiad Gwerthuso Perfformiad, a bydd yr amserlenni yn dibynnu ar amgylchiadau lleol – o fewn 12 mis i gynnal yr arolygiad gwerthuso perfformiad fel arfer