Sut rydym yn arolygu lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir
Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau nas-cynhelir meithrin a gofal plant sy’n darparu addysg ran-amser.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Bydd yr arolygiadau hyn ar y cyd yn gwerthuso’r gofal a ddarperir ar gyfer pob plentyn hyd at ddeuddeg oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn cael eu haddysg mewn lleoliad a gynhelir.
Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r ddogfen ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall lleoliadau defnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.
Diben arolygiad ar y cyd yw:
- rhoi sicrwydd digonol bod y lleoliad yn ddiogel ac yn gweithredu yn unol â'r rheoliadau
- asesu a yw’r lleoliad yn parhau’n addas i gael ei gofrestru
- cynnig gwerthusiad o ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill trwy adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi
- gwerthuso ansawdd addysg feithrin
- hybu gwelliant mewn gofal ac addysg
- llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
Sail gyfreithiol arolygu
Arolygaeth Gofal Cymru (AGC)
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn annog gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar trwy reoleiddio, arolygu ac adolygu gwasanaethau, a thrwy roi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisïau. AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru ac mae’n cyflawni ei swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru. Mae AGC yn rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal i bawb, o blant ifanc i oedolion hŷn trwy wirio eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau diogel o ansawdd da. Mae’n adolygu gwasanaethau fel y gall roi gwybod i’r cyhoedd a yw gwasanaethau’n cyrraedd y safon ofynnol, nodi meysydd i’w gwella a helpu i ddiogelu buddiannau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau.
Mae Tîm Arolygu Gofal Plant a Chwarae AGC yn rheoleiddio ac arolygu lleoliadau i sicrhau eu bod yn hyrwyddo diogelwch a lles pob plentyn o dan y ddeddfwriaeth ganlynol, sydd i’w gweld ar y wefan, www.arolygiaethgofal.cymru. Disgwylir i bob lleoliad gydymffurfio â’r rheoliadau a bodloni neu ragori ar y safonau gofynnol cenedlaethol perthnasol.
- Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Dolen allanol)
- Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010 (Dolen allanol)
- Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Dolen allanol)
- Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (Dolen allanol)
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) a (Diwygiadau Canlyniadol) 2011 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (Dolen allanol)
- Safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi'i reoleiddio (Dolen allanol)
Estyn
Caiff arolygu lleoliadau sy’n gymwys i gael cyllid i ddarparu addysg i blant cyn oed ysgol orfodol ei lywodraethu gan Atodlen 26 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2005.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant roi gwybod i Lywodraeth Cymru am:
- ansawdd a safonau’r addysg feithrin a ddarperir
- i ba raddau mae’r lleoliad yn bodloni anghenion ystod o blant yn y lleoliad
- ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth y lleoliad
- cyfraniad y lleoliad at les plant
- datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol plant
Rhan 1: Egwyddorion arolygu
Bydd arolygwyr:
- yn sicrhau bod arolygu o ansawdd uchel ac yn ymatebol i anghenion pob plentyn
- yn sicrhau bod barnau’n gadarn ac wedi’u seilio ar dystiolaeth uniongyrchol
- yn cynnwys lleoliadau’n llawn yn y broses arolygu
- yn defnyddio adolygiad ansawdd gofal y lleoliad yn fan cychwyn ar gyfer yr arolygiad ac i nodi materion allweddol i ymchwilio iddynt
- yn cadw unrhyw ofynion am ddogfennau a gwaith paratoi gan y lleoliad i leiafswm
- yn cywain safbwynt staff, rhieni a, lle bo’n bosibl, plant
- yn cymhwyso egwyddor cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg i’r holl waith arolygu
- yn glir gyda lleoliadau ynghylch diffygion pwysig ac yn cynnig argymhellion adeiladol i gefnogi gwelliant
Cod ymddygiad ar gyfer arolygwyr
Dylai arolygwyr gynnal y safonau uchaf posibl yn eu gwaith. Rhaid i bob arolygydd fodloni’r safonau yng Nghod Ymddygiad y Gwasanaeth Sifil. Wrth gynnal yr arolygiad, bydd arolygwyr:
- yn ymgymryd â’r gwaith â didwylledd, cwrteisi a sensitifrwydd
- yn gwerthuso gwaith y lleoliad yn wrthrychol
- yn adrodd yn onest, yn deg ac yn ddiduedd
- yn cyfathrebu’n glir ac yn agored
- yn gweithredu er lles pennaf plant
- yn parchu cyfrinachedd yr holl wybodaeth sy’n dod i law yn ystod eu gwaith
Bydd gan arolygwyr o bob arolygiaeth eu bathodynnau adnabod neu gardiau gwarant eu hunain a gellir gofyn am y rhain at ddibenion gwirio.
Dylai arolygwyr roi gwybod i Estyn neu AGC am unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig cyn gynted ag y byddant yn cael gwybod eu bod yn rhan o arolygiad y lleoliad.
Mae arolygwyr yn barnu effeithiolrwydd y ddarpariaeth a’r arweinyddiaeth yn ôl yr effaith a gânt ar ddeilliannau, yn hytrach nag yn ôl unrhyw ffafriaeth tuag at ddulliau, cynlluniau neu fentrau penodol. Ystyriaeth allweddol yw a yw’r dulliau gweithredu yn effeithiol wrth helpu pob plentyn i gyflawni deilliannau cadarnhaol a lefelau uchel o les.
Disgwyliadau ar gyfer darparwyr
Er mwyn sicrhau bod arolygu’n broses adeiladol a buddiol, dylai arolygwyr a lleoliadau gynnal perthynas waith broffesiynol sy’n seiliedig ar gwrteisi, parch ac ymddygiad proffesiynol. Disgwylir i arolygwyr ddilyn Cod Ymddygiad y Gwasanaeth Sifil. Disgwylir i leoliadau:
- drin arolygwyr a staff cymorth arolygu gyda chwrteisi, proffesiynoldeb a pharch
- gweithredu er lles pennaf plant
- galluogi arolygwyr i gynnal yr arolygiad yn agored, yn onest ac yn wrthrychol
- darparu mynediad at y dystiolaeth sydd ei hangen ar arolygwyr i werthuso’r ddarpariaeth yn erbyn y fframwaith arolygu ar y cyd
- cynnal deialog bwrpasol a phroffesiynol ag arolygwyr drwy gydol yr arolygiad
- cydnabod bod angen i arolygwyr arsylwi ar arferion a siarad â staff a rhanddeiliaid heb i reolwyr nac arweinwyr fod yn bresennol
- codi unrhyw bryderon ynghylch yr arolygiad yn brydlon drwy’r person â gofal neu’r Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol
- gweithio gydag arolygwyr i leihau aflonyddwch, straen a biwrocratiaeth ddiangen
- rhoi sylw dyledus i iechyd, diogelwch a llesiant arolygwyr tra byddant ar y safle
- cynnal cyfrinachedd cyfarfodydd a chanfyddiadau’r arolygiad hyd nes y caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi
- ymatal rhag tynnu lluniau neu recordio fideo yn ystod y broses arolygu, gan gynnwys gwerthusiadau drafft. Dylid dwyn unrhyw systemau teledu cylch cyfyng (CCTV) neu offer recordio i sylw’r tîm arolygu yn ystod y cyfarfod tîm cychwynnol.
Ar ôl cael hysbysiad o arolygiad, dylai’r lleoliad adolygu cyfansoddiad y tîm arolygu. Cyfrifoldeb y darparwr yw datgan unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig cyn i unrhyw weithgarwch arolygu ddechrau, gan gynnwys cyn yr ymweliad ar y safle.
Disgwyliadau ar gyfer awdurdodau lleol a sefydliadau ambarél
Disgwylir i awdurdodau lleol a sefydliadau ambarél sy’n mynychu sesiynau adborth ar gais darparwyr, gydymffurfio â’r disgwyliadau uchod.
Y Gymraeg
Byddwn yn cynnal unrhyw ymgysylltiad, gan gynnwys arolygiadau, yn unol â Pholisïau Iaith Gymraeg ein sefydliadau.
Diogelu
Os bydd mater iechyd, diogelwch a lles difrifol yn cael ei nodi yn ystod arolygiad, bydd arolygydd AGC yn mynd ar drywydd hyn yn unol â Pholisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi AGC.
Mae dyletswyddau statudol ar bob lleoliad i weithredu mewn modd sy’n ystyried yr angen i ddiogelu a hybu lles plant (gweler yr arweiniad yn Atodiad C). Mae angen i’r trefniadau sydd ar waith mewn lleoliadau sicrhau:
- bod mesurau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau’r risg o niwed i les a diogelwch plant
- bod camau priodol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch lles a diogelwch plant
Yn ystod yr arolygiad, gallai unrhyw aelod o’r tîm arolygu nodi pryderon yn ymwneud â lles neu ddiogelwch plentyn/plant. Lle bo’n briodol, bydd yr arolygydd arweiniol yn rhoi gwybod i’r lleoliad. Bydd arolygydd AGC yn cymryd camau priodol yn unol â’r polisi sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan AGC. Bydd arolygydd Estyn hefyd yn rhoi gwybod i swyddog diogelu Estyn am y mater, yn unol â pholisi diogelu Estyn.
Rhan 2: Cynnal arolygiadau
Trefniadau arolygu
- Bydd y Cydlynydd Arolygu (CydAr) yn cysylltu â’r lleoliad 10 diwrnod cyn yr arolygiad i’w hysbysu am ddyddiad yr ymweliad
- Yn ystod y dyddiau cyn yr arolygiad, bydd yr arolygydd arweiniol yn cysylltu â’r lleoliad i gyflwyno ei hun a thrafod yr ymweliad arolygu
- Fel arfer, bydd yr arolygiad yn cael ei gynnal dros ddau hanner diwrnod. Gellir ystyried dyrannu amser ychwanegol i AGC ar gyfer lleoliadau mawr iawn a’r rhai sy’n darparu gofal ar ôl ysgol. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda’r darparwr yn ystod yr alwad ffôn gyswllt gychwynnol.
- Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, bydd cyfarfod adborth ffurfiol i rannu canfyddiadau a barnau amodol y tîm
- Bydd adroddiad drafft yn cael ei anfon at y lleoliad i wirio cywirdeb ffeithiol
- Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar wefannau AGC ac Estyn 45 diwrnod gwaith o ddechrau’r arolygiad
Yr Ystafell Arolygu Rithwir
Cofnodi tystiolaeth arolygu
Rydym yn defnyddio system digidol ddiogel o’r enw’r Ystafell Arolygu Rithwir (YAR) i reoli nifer o agweddau ar y broses arolygu. Mae’r YAR yn galluogi darparwyr i lwytho gwybodaeth cyn yr arolygiad, cael mynediad at ganllawiau arolygu, a chwblhau holiaduron ôl-arolygu (HÔA).
Rydym yn profi’r YAR yn rheolaidd i sicrhau bod gwybodaeth yn ddiogel ac wedi’i hamddiffyn rhag mynediad anawdurdodedig. Mae gan bob defnyddiwr enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw, ac mae’r system yn cynnwys mesurau diogelwch ychwanegol megis canfod bygythiadau a rheolaethau mynediad amodol.
Bydd yr arolygiad yn seiliedig ar un set o wybodaeth a ddarperir gan y lleoliad, gan gynnwys ei werthusiad o’i gryfderau a’i feysydd i’w datblygu. Mae Atodiad A yn darparu rhestr o'r dogfennau y mae'n ofynnol i'r lleoliad eu huwchlwytho i'r YAR cyn yr arolygiad ac mae Atodiad B yn rhestru’r dogfennau y dylent fod ar gael yn ystod yr arolygiad.
Cysylltu â’r lleoliad cyn arolygiad
Yn ystod yr alwad ffôn gychwynnol, bydd y CydAr yn gwneud y trefniadau canlynol ar gyfer yr arolygiad:
- egluro diben yr arolygiad ac amlinellu’r rhaglen arolygu
- trafod trefniadau ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy’r Ystafell Arolygu Rithwir (YAR) o fewn pum diwrnod gwaith (Atodiad A)
- trafod y wybodaeth a’r dystiolaeth ategol sydd eu hangen yn ystod yr arolygiad (Atodiad B),
- nodi unrhyw faterion, risgiau neu faterion iechyd a diogelwch y dylai arolygwyr fod yn ymwybodol ohonynt
- cytuno ar drefniadau ar gyfer holiaduron, cyfarfodydd ag unigolion allweddol, sesiynau adborth a gweithgareddau ôl-arolygu
- cadarnhau trefniadau ymarferol, megis man gwaith yr arolygwyr, parcio a mynediad at gofnodion digidol
- cadarnhau y bydd y trefniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu darparu'n ysgrifenedig
Bydd y tîm arolygu’n cynnwys arolygydd arweiniol ac arolygydd tîm. Os bydd arolygiad yn cael ei arwain gan arolygydd Estyn, bydd yr aelod tîm yn arolygydd AGC. Os bydd yr arolygydd arweiniol yn arolygydd AGC, bydd yr aelod tîm yn arolygydd Estyn.
Cyn yr arolygiad, bydd yr arolygydd arweiniol yn cysylltu â’r lleoliad i gyflwyno ei hun, darparu rhagor o wybodaeth am yr arolygiad, a thrafod unrhyw gwestiynau ynghylch y dogfennau a gyflwynwyd.
Bydd yr arolygydd arweiniol hefyd yn gofyn i’r lleoliad hysbysu rhieni am yr arolygiad a sut y gallent rannu eu barn.
Bydd lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn cael eu harolygu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallai lleoliadau cyfrwng Saesneg ofyn am adroddiad Cymraeg, fodd bynnag, bydd angen iddynt sicrhau bod iaith eu cyfrif AGC ar-lein wedi’i osod fel ‘y ddwy’.
Yr ymweliad arolygu
Casglu ac adolygu tystiolaeth arolygu
Bydd y tîm yn cynllunio’r arolygiad fel y gallent roi sylw i ofynion adrodd y tri maes arolygu. Bydd yr arolygydd arweiniol yn cynllunio’r gweithgarwch arolygu mewn modd hyblyg, er mwyn ymateb i amgylchiadau unigol y darparwr. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio mewn un lleoliad yn adlewyrchu’r rhai sydd wedi’u cynllunio mewn un arall. Bydd arolygwyr bob amser yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond efallai na fydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys pob agwedd ar y fframwaith.
Fel arfer, bydd yr ymweliadau arolygu ar y cyd yn cael eu cynnal dros ddau hanner diwrnod yn olynol. Lle mae lleoliadau’n cynnig gofal i blant hyd at 12 oed, efallai y bydd arolygydd AGC ychwanegol yn arolygu’r ddarpariaeth. Bydd gwybodaeth o’r ymweliad hwn yn llywio canfyddiadau cyffredinol yr arolygiad ar y cyd.
Deialog broffesiynol
Trwy gydol yr arolygiad, bydd arolygwyr yn cael deialog broffesiynol ag ymarferwyr ac arweinwyr. Mae deialog broffesiynol yn galluogi arolygwyr i gael tystiolaeth uniongyrchol gan ymarferwyr y gellir ei thriongli â ffynonellau tystiolaeth eraill. Bydd y ddeialog yn darparu canfyddiadau interim sy’n dod i’r amlwg ar agweddau ar y fframwaith arolygu. Gallai’r canfyddiadau hyn gael eu diwygio, ar ôl myfyrio arnynt, er enghraifft wrth i ni weld mwy o enghreifftiau o blant yn eu gweithgareddau chwarae a dysgu. Bydd yr arolygydd arweiniol yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gydag arweinwyr y lleoliad am gynnydd yr arolygiad.
Mae’r prif fathau o dystiolaeth fel a ganlyn:
- arsylwadau o weithgareddau chwarae a dysgu plant, gan gynnwys defnyddio SOFI2
- arsylwadau o ryngweithiadau ymarferwyr â phlant
- trafodaethau gyda phlant, ymarferwyr, arweinwyr, rheolwyr, y Person â Gofal (PâG), y Person Cofrestredig (PC) / Unigolyn Cyfrifol (UC), rhieni ac eraill
- ymatebion i’r holiaduron cyn-arolygiad
- gwybodaeth berthnasol gan yr awdurdod lleol
- tystiolaeth a roddwyd yn yr YAR
- gwybodaeth am gynnydd plant a gweithgareddau cynlluniedig
- dogfennau eraill (gweler Atodiad B)
- mae gan arolygwyr AGC yr hawl i dynnu lluniau fel tystiolaeth, os ystyrir ei bod yn angenrheidiol
Adborth
Bydd arolygwyr yn sicrhau bod arweinwyr y lleoliad yn cael eu hysbysu am eu canfyddiadau drwy gydol y broses arolygu.
Ar ddiwedd yr arolygiad, bydd y tîm yn rhoi adborth llafar i’r UC/PC, arweinwyr a chynrychiolydd o’r awdurdod lleol. Gellir gwahodd cynrychiolydd o sefydliadau ambarél ar gais yr UC/PC a dylid cytuno ar hynny â’r arolygydd arweiniol cyn rhoi adborth.
Mae’r cyfarfod adborth yn gynnig cyfle i arweinwyr a rheolwyr glywed canfyddiadau’r tîm a myfyrio arnynt. Dylai’r adborth ganolbwyntio ar y cryfderau a’r meysydd i’w gwella, ynghyd â’r ffactorau sy’n cyfrannu atynt, gan gynnwys unrhyw achosion o fynd yn groes i’r rheoliadau a’r argymhellion. Dylai’r arolygydd arweiniol esbonio i’r darparwr y gellir egluro materion a chywiro materion ffeithiol. Fodd bynnag, diben y cyfarfod yw i’r darparwr ddeall canfyddiadau’r tîm arolygu, yn hytrach na chwestiynu.
Yn ystod pob arolygiad ar y cyd, bydd y tîm arolygu’n ystyried a oes angen unrhyw weithgarwch dilynol ar y darparwr. Mae’r barnau a chanfyddiadau sy’n cael eu crybwyll yn ystod arolygiad, gan gynnwys lefel y gweithgarwch dilynol os yw’n briodol, yn rhai dros dro ac yn amodol ar gael eu safoni a’u dilysu. Maent yn gyfrinachol i staff y lleoliad a’r pwyllgor rheoli. Ni ddylid eu cyfleu y tu hwnt i’r grŵp hwn, gan gynnwys trwy gyfryngau cymdeithasol, hyd nes i ni gyhoeddi’r adroddiad ar ein gwefannau. Fodd bynnag, ni ddylai hyn atal darparwyr rhag gwneud gwelliannau i’w lleoliad o ganlyniad i’r arolygiad. Dylai’r tîm arolygu hefyd atgoffa darparwyr o’r ffynonellau posibl o gymorth llesiant pe bai angen hynny.
Yn ystod yr arolygiad, bydd y tîm hefyd yn ystyried a oes unrhyw arfer effeithiol yn y lleoliad sy’n werth ei hystyried a’i hefelychu gan leoliadau eraill. Yn yr achosion hyn, byddwn yn tynnu sylw at hyn yn yr adroddiad fel ‘Ciplun ar...’ o fewn yr adroddiad (paragraff byr). Weithiau, gall AGC hefyd nodi arfer sy’n werth ei rannu. Gweler: Arfer sy’n werth ei rannu | Arolygiaeth Gofal Cymru
Ar ôl yr arolygiad
Yr adroddiad arolygu
Yr arolygydd arweiniol sy’n gyfrifol am lunio adroddiad arolygu terfynol sy’n glir ac yn ddefnyddiol i’r lleoliad.
Bydd adroddiadau’n cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog, pan fydd lleoliadau wedi gofyn am hynny, yn unol â Pholisïau Iaith Gymraeg AGC ac Estyn. Bydd adroddiadau’n cael eu llunio cyn pen 45 diwrnod gwaith o ddechrau’r arolygiad.
Bydd adroddiadau’n cynnwys gradd ar wahân ar gyfer pob un o’r themâu a arolygwyd, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwella yn nhrefn y tair thema. Dylai’r argymhellion roi dealltwriaeth glir a phenodol i’r lleoliad o’r meysydd y mae angen eu gwella a mynd i’r afael â nhw.
Os byddwn yn nodi achos o fynd yn groes i'r rheoliadau neu feysydd i'w gwella i fodloni gofynion y rheoliadau yn ystod arolygiad ar y cyd, caiff y rhain eu nodi yn yr adroddiad arolygu, a bydd AGC yn dilyn ei Bolisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi. (Polisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi (dogfen HTML) | Arolygiaeth Gofal Cymru).
Mae AGC yn defnyddio pwerau gwella a gorfodi i hybu ei hamcan craidd, sef gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau, er lles pobl Cymru.
Mae’r egwyddorion canlynol yn llywio penderfyniadau gorfodi:
- Cynnal hawliau unigolion: Mae AGC wedi ymrwymo i hyrwyddo a chynnal hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. Pan fydd y gofal yn wael, bydd AGC yn cymryd camau gorfodi.
- Cyfrifoldeb: Mae darparwyr gwasanaethau yn gyfrifol am sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r bobl maent yn darparu gofal a chymorth iddynt a'u bod yn bodloni'r gofynion rheoleiddio. Mae AGC yn disgwyl i ddarparwyr weithredu i wella gwasanaethau.
- Cymesuredd: Fe fydd AGC yn cymryd camau sy'n gymesur â'r amgylchiadau, y canlyniadau a'r risgiau i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, a gallu ac adnoddau'r darparwr i ymateb. Bydd darparwyr sy'n methu'n gyson â sicrhau canlyniadau da i bobl ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn wynebu camau gorfodi uwch, gan gynnwys canslo eu cofrestriad o bosibl.
- Effeithlon ac effeithiol: Mae AGC wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'n dull gorfodi a'r ffordd maent yn defnyddio eu pwerau gorfodi. Mae unrhyw gamau a gymerir gan AGC yn glir, yn gyson, yn amserol, yn deg ac yn gymesur.
- Rhannu gwybodaeth: Mae AGC yn cyd weithio gyda chomisiynwyr, rheoleiddwyr ac asiantaethau a chyrff proffesiynol perthnasol eraill i rannu gwybodaeth am wasanaeth er mwyn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael yn effeithiol. Wrth brosesu a rhannu gwybodaeth, bydd AGC yn bodloni'r holl ofynion deddfwriaethol perthnasol.
- Cymryd camau cyd gysylltiedig: Mae AGC yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod unrhyw gamau gorfodi wedi'u cydgysylltu. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo pryderon am ddiogelu neu faterion iechyd a diogelwch a lywodraethir gan reoleiddwyr eraill.
Y gwiriad cywirdeb ffeithiol
Cyn ei gyhoeddi, byddwn yn darparu adroddiad arolygu drafft i’r lleoliad er mwyn gwirio cywirdeb ffeithiol y cynnwys. Fel arfer, bydd gan y lleoliad bum diwrnod gwaith i nodi unrhyw wallau ffeithiol. Bwriad y broses hon yw cywiro unrhyw wallau yn yr adroddiad ac nid yw’n gyfle i herio canfyddiadau’r arolygiad.
Sicrhau ansawdd arolygiadau
Fel rhan o’n gweithdrefnau sicrhau ansawdd, rydym yn gwahodd darparwyr i lenwi holiadur ôl-arolygiad (HÔA). Bydd yr holiadur ar gael yn yr YAR. Dylai darparwyr lenwi rhan gyntaf yr HÔA cyn gynted â phosibl ar ôl yr arolygiad ar y safle a’i chyflwyno i Estyn ac AGC yn electronig trwy system yr YAR. Gallent lenwi ail ran yr HÔA ar ôl i adroddiad yr arolygiad gael ei gyhoeddi, eto drwy system yr YAR.
Rydym yn cymhwyso proses sicrhau ansawdd drylwyr i’n holl arolygiadau. Ar ôl diwedd y gweithgarwch ar y safle, bydd y ddwy arolygiaeth yn sicrhau ansawdd yr adroddiad a’r sail dystiolaeth. Mae’r sail dystiolaeth lawn yn cael ei chraffu a’i chydweddu â thestun yr adroddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’i gilydd. Yn ogystal, mae'r broses sicrhau ansawdd yn ystyried priodoldeb lefel y gweithgarwch dilynol, unrhyw achos o fynd yn groes i'r rheoliadau neu feysydd i'w gwella sy'n ymwneud â'r rheoliadau, a'r argymhellion sy'n deillio o'r arolygiad. Yn rhan o’r broses sicrhau ansawdd, gellir diwygio, dileu neu ychwanegu argymhellion neu lefel y gweithgarwch dilynol.
Complaints about the inspection process
Os oes gan leoliad bryderon ynghylch y broses arolygu neu ymddygiad arolygydd, dylid eu codi gyda’r arolygydd arweiniol cyn gynted â phosibl yn ystod yr arolygiad. Yn aml, gellir datrys pryderon yn gyflym pan gânt eu trafod ar yr adeg y maent yn codi.
Mae gan bob arolygiaeth ei gweithdrefn gwyno ei hun, sydd ar gael ar ei gwefan. Dylid gwneud cwynion am arolygydd unigol i’r arolygiaeth berthnasol. Bydd cwynion am y broses arolygu yn cael eu trin yn unol â gweithdrefn gwyno’r arolygiaeth sy’n arwain yr arolygiad.
Ni ellir ystyried rhai materion drwy’r broses gwyno, gan gynnwys herio gwerthusiadau arolygu neu benderfyniadau dilynol. Mae hyn oherwydd bod lleoliadau yn cael cyfleoedd cyn ac yn ystod yr arolygiad i ddarparu tystiolaeth a chyfrannu at farnau’r tîm arolygu.
Estyn Gweithdrefn cwynion ac adborth - Estyn
AGC Darparu adborth neu godi pryder am wasanaethau gofal | Arolygiaeth Gofal Cymru
Rhan 3: Gweithgarwch dilynol
Mae’r adran hon yn darparu arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer holl arolygiadau ar y cyd Estyn ac AGC a gynhelir o fis Medi 2026. Mae’r arweiniad yn disgrifio’r camau y bydd timau arolygu yn eu cymryd i’w helpu i gytuno ar weithgarwch dilynol priodol.
Mae’r arweiniad hwn yn hyblyg gan fod angen iddo fod yn ymatebol i’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd sy’n digwydd mewn lleoliadau wrth iddynt wella ar ôl arolygiadau ar y cyd.
Yn ystod holl arolygiadau ar y cyd, bydd y tîm arolygu yn ystyried a oes angen unrhyw weithgarwch dilynol ar y lleoliad.
Gweithgarwch dilynol yn sgil arolygiadau ar y cyd
Fel arfer, mae angen gweithgarwch dilynol os y bydd:
- arolygwyr yn canfod gwendidau pwysig sy’n effeithio ar ddeilliannau plant neu’n peri risg bosibl i’w diogelwch neu eu llesiant. Byddai hyn fel arfer yn arwain at raddfa o ‘wael’
Os bydd naill ai Estyn neu AGC yn nodi unrhyw wendidau pwysig sy’n peri pryder, yna bydd y lleoliad yn cael ei roi mewn gweithgarwch dilynol. Fel arfer, bydd arolygiadau gweithgarwch dilynol yn cael eu cynnal ar y cyd. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan gytunir mai naill ai Estyn neu AGC sydd yn y sefyllfa orau i gynnal arolygiad dilynol yn unigol. Yn yr achosion hyn, bydd Estyn yn mynd ar drywydd materion sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth addysg a bydd AGC yn dilyn ei pholisi sicrhau gwelliant a gorfodi.
Dylai arolygwyr roi gwybod i’r lleoliad y bydd fformat yr ymweliad dilynol yn cael ei gadarnhau yn dilyn y broses sicrhau ansawdd. Mae’r penderfyniad yn gyfrinachol i’r lleoliad nes cyhoeddi’r adroddiad.
Atodiad A: Rhestr o ddogfennau i’w lanlwytho i’r YAR cyn arolygiad
Bydd y Cydlynydd Arolygu yn gofyn am y wybodaeth ganlynol gan y lleoliad trwy’r Ystafell Arolygu Rithwir o fewn pump diwrnod yn dilyn hysbysiad ffurfiol o’r arolygiad:
- gwerthusiad o gryfderau’r lleoliad a’i feysydd i’w gwella, er enghraifft yr adroddiad ar ansawdd gofal diweddaraf
- y drefn ddyddiol
- rhestr staff
- datganiad o ddiben
- polisi amddiffyn plant a/neu ddiogelu plant
Gwerthuso’r lleoliad
Nid oes gennym ddull dewisol o ran sut mae darparwyr yn gwerthuso ystod lawn o’u darpariaeth. Fodd bynnag, wrth werthuso ansawdd y ddarpariaeth, dylai darparwyr ystyried y tri chwestiwn canlynol o dan bob un o’r themâu isod:
- Thema 1: Lles a Gofal
- Thema 2: Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygiad
- Thema 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Cwestiwn 1: Beth ydych chi’n ei wneud yn dda a sut mae hyn o fudd i blant? Sut ydych chi’n gwybod hynny?
Cwestiwn 2: Beth ydych chi wedi’i wella’n ddiweddar a pha wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i blant? Rhowch enghreifftiau.
Cwestiwn 3: Beth mae angen i chi ei wella? Sut ydych chi’n gwybod hynny? Sut ydych chi’n bwriadu gwneud hyn?
Atodiad B: Rhestr o ddogfennau sydd eu hangen yn ystod arolygiad
Bydd arolygwyr yn sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i adolygu’r dystiolaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn penderfynu ar y graddfeydd. Mae’r prif fathau o dystiolaeth fel a ganlyn:
- cofnodion unigol plant
- datganiad o ddiben
- rhestr staff (ymarferwyr), gan gynnwys manylion am gymwysterau a gwybodaeth am oruchwyliaeth, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus staff, a gweithdrefnau a chofnodion recriwtio staff
- cofnodion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS/GDG) ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n crynhoi gwiriadau’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y gwasanaeth, ynghyd â’u trefniadau fetio a chyflogi
- gwybodaeth asesu, yn enwedig asesiadau sy’n cael eu cynnal pan fydd plant yn ymuno neu’n ymadael â’r lleoliad
- manylion o’r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol neu sy’n dod i'r amlwg
- cofrestri presenoldeb plant, staff a gwirfoddolwyr
- cofnodion damweiniau / digwyddiadau / meddyginiaeth
- rhestr o unrhyw atgyfeiriadau diogelu a wnaed i’r awdurdod lleol
- cofnodion o unrhyw gwynion
- polisi cwynion
- polisi plentyn ar goll
- polisi plentyn heb ei gasglu
- polisi rheoli ymddygiad
- gwybodaeth am sut mae rhieni / gofalwyr yn cael gwybod am gynnydd eu plant
- unrhyw wybodaeth sy’n dangos sut mae’r lleoliad yn defnyddio cysylltiadau â’r gymuned yn dda
- gwybodaeth am bartneriaethau
- gwybodaeth am ddefnyddio Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar, os yw’n berthnasol
- unrhyw adroddiadau gwerthuso allanol o’r gwasanaeth e.e. diogelwch tân, iechyd yr amgylchedd
- tystysgrifau diogelwch
- unrhyw wybodaeth arall yr hoffai’r lleoliad iddi gael ei hystyried
Atodiad C: Diogelu
Arweiniad diogelu
Mae’r Fframwaith Arolygu ar y Cyd yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddiogelu a hybu lles plant. Mae elfennau o ddiogelu i’w gweld ar draws pob un o dair thema’r fframwaith.
Diffiniad diogelu
Mae gan bob lleoliad ddyletswydd statudol i arfer ei swyddogaethau gyda’r nod o ddiogelu a hybu lles eu plant.
Mae diogelu a hybu lles plant yn ymwneud â’r canlynol:
- amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
- atal amhariad i’w hiechyd neu eu datblygiad
- sicrhau eu bod yn cael gofal diogel ac effeithiol i’w galluogi i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd
Dylai pawb sy’n gweithio gyda phlant rannu amcan i helpu i gadw plant yn ddiogel trwy gyfrannu at:
- greu a chynnal amgylchedd diogel
- nodi pryderon am les plant a chymryd camau i fynd i’r afael â’r rhain, lle bo hynny’n briodol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill
- datblygu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a gwydnwch plant
Mae cyflawni’r amcan hwn yn galw am systemau sydd wedi’u llunio i:
- atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant
- hybu arfer ddiogel a herio arfer wael ac anniogel
- nodi adegau pan fydd rheswm i bryderu am les plentyn a chychwyn neu gymryd camau priodol i’w cadw’n ddiogel
- cyfrannu at weithio’n effeithiol mewn partneriaeth ymhlith pawb sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc
Mae amddiffyn plant yn rhan o ddiogelu a hybu lles. Mae hyn yn cyfeirio at y gweithgarwch yr ymgymerir ag ef i amddiffyn plant penodol sy’n dioddef neu sydd mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol o ganlyniad i gam-drin neu esgeulustod.
Mae diogelu’n cwmpasu mwy na’r cyfraniad a wneir i amddiffyn plant mewn perthynas â phlant unigol. Mae hefyd yn cwmpasu materion fel:
- recriwtio, goruchwylio, hyfforddi a rheoli staff yn ddiogel
- sut mae staff yn rheoli ymddygiad plant
- iechyd a diogelwch plant
- bwlio
- trefniadau i fodloni anghenion plant â chyflyrau meddygol
- materion diogelu eraill sy’n benodol i’r ardal neu’r boblogaeth leol, fel cyffuriau a chamddefnyddio sylweddau
Y person cofrestredig sy’n gyfrifol am sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu plant. Mae’n debygol y bydd nifer o bolisïau a gweithdrefnau ar waith i gwmpasu’r elfennau angenrheidiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- polisi amddiffyn plant
- polisi rheoli ymddygiad, gan gynnwys bwlio ac ataliaeth
- gweithdrefn disgyblu staff
- gweithdrefn ymadael os bydd tân
- gweithdrefn damweiniau
- gweithdrefn plentyn coll
- gweithdrefn plentyn heb ei gasglu
- polisi a gweithdrefn meddyginiaeth
- polisi gwahardd plentyn sâl
- polisi cyfrinachedd
- gweithdrefnau ar gyfer ymddygiad diogel ar deithiau
- ymrwymiad y lleoliad i e-ddiogelwch i sicrhau bod plant yn cadw’u hunain yn ddiogel
- bod yr holl wybodaeth bersonol a sensitif yn cael ei chadw’n ddiogel yn unol â gofynion diogelu data
Rhaid i leoliadau sicrhau bod y safle’r ddiogel a bod asesiadau risg yn cael eu cynnal yn rheolaidd er mwyn sicrhau diogelwch plant.
Amddiffyn plant
Rhaid i’r person cofrestredig lunio polisi amddiffyn plant ysgrifenedig sy’n diogelu plant rhag cam-drin neu esgeulustod ac sy’n amlinellu’r weithdrefn i’w dilyn os bydd honiad o gam-drin neu esgeulustod. Rhaid i’r polisi hwn gael ei rannu â rhieni cyn i’r plentyn fynychu’r lleoliad.
Wrth werthuso’r polisi amddiffyn plant, dylai arolygwyr ystyried:
- a yw’r polisi’n dangos bod y lleoliad yn ymwybodol o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol; Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2026, Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu plant 2026 a Chadw Dysgwyr yn Ddiogel 2022
- a yw’r polisi’n dangos sut i gyfeirio unrhyw honiadau o gam-drin neu esgeulustod i’r awdurdod lleol perthnasol yn ddiymdroi
- a yw’r polisi’n cynnig arweiniad ar gadw cofnodion ysgrifenedig o unrhyw honiadau o gam-drin neu esgeulustod, ac o’r camau a gymerwyd wrth ymateb i’r rhain, yn ddiogel
- p’un a yw’r mesurau unigol y gallai fod eu hangen i amddiffyn plant perthnasol ar ôl honiad o gam‑drin neu esgeulustod yn cael eu hystyried
- a yw’r polisi’n gofyn i unrhyw unigolyn sy’n gweithio gyda phlant roi gwybod am unrhyw bryderon am les neu ddiogelwch plentyn
- a yw’r polisi’n cynnwys manylion cyswllt perthnasol yr awdurdod lleol y dylid atgyfeirio iddo
- a yw’r polisi’n cynnwys gwybodaeth am y weithdrefn i’w dilyn os caiff honiad ei wneud yn erbyn aelod staff neu wirfoddolwr (dylai hyn gynnwys y person â gofal).
Hyfforddiant staff
- Rhaid i’r person cofrestredig benodi aelod staff dynodedig, sydd wedi mynychu hyfforddiant amddiffyn plant, i sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau amddiffyn plant yn cael eu gweithredu a bod cydymffurfiaeth effeithiol â nhw
- Gall unrhyw unigolion sy’n gweithio gyda phlant roi’r polisi amddiffyn plant ar waith ac maent yn gwybod am faterion diogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys cam-drin corfforol, esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol, ac yn gallu rhoi gweithdrefnau ar waith
- Mae staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau i adrodd am bryderon yn unol â gweithdrefnau’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant yn ddi-oed
- Mae amddiffyn plant yn rhan o hyfforddiant sefydlu staff newydd o fewn wythnos gyntaf eu cyflogaeth
- Mae trafodaethau ar faterion diogelu yn rhan o oruchwyliaeth unigol staff yn rheolaidd
Recriwtio staff
Ni ddylai’r person cofrestredig gyflogi unigolyn na chaniatáu i wirfoddolwr ofalu am blant oni bai bod yr unigolyn hwnnw’n addas, fel y nodir yn Safon Ofynnol Genedlaethol 13 a Rheoliad 28 Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Rhaid i bob gwiriad recriwtio diogel angenrheidiol fod ar waith cyn bod unigolyn yn gofalu am blant.