Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Polisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi

Ein dull o sicrhau gwelliant a gorfodi.

Cyhoeddwyd: 24 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

1. Trosolwg: ein dull o sicrhau gwelliant a gorfodi

Cyflwyniad

1.1. Ein prif nod yw sicrhau bod darparwyr yn helpu pobl i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ac yn eu cadw'n ddiogel. Er mwyn cyflawni hyn: 

  • mae gennym broses gofrestru drwyadl, er mwyn sicrhau mai dim ond gwasanaethau sydd wedi llwyddo i'n bodloni y byddant yn darparu gwasanaethau o ansawdd da sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau a gaiff eu cofrestru gennym. 
  • rydym yn cynnal arolygiadau cyffredinol (wedi'u cynllunio) ac ymatebol. 
  • mae gennym lwybr gorfodi clir, graddedig a chymesur. 

1.2. Mae'r polisi hwn yn nodi ein dull o sicrhau gwelliant a gorfodi ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys yr egwyddorion a'r prosesau a ddilynir gennym wrth ddefnyddio ein pwerau o dan y ddeddfwriaeth berthnasol (Atodiad A).

Pwy rydym yn ei reoleiddio:

1.3. Rydym yn rheoleiddio'r darparwyr canlynol:

  • O dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016)
    • cartrefi gofal (oedolion/plant)
    • llety diogel       
    • canolfannau preswyl i deuluoedd 
    • cymorth cartref
    • mabwysiadu 
    • maethu 
    • lleoli oedolion; ac  
    • eiriolaeth 
  • O dan Fesur Gofal Dydd Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur)
    • gofal dydd
    • gwarchodwyr plant 

Egwyddorion sicrhau gwelliant a gorfodi

1.4. Rydym yn defnyddio ein pwerau sicrhau gwelliant a gorfodi i hyrwyddo ein hamcan craidd, sef gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae'r egwyddorion canlynol yn sail i'n penderfyniadau ar orfodi: 

  • Cynnal hawliau unigolion: Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo a chynnal hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. Pan fydd y gofal yn wael, byddwn yn cymryd camau gorfodi. 
  • Cyfrifoldeb: Mae darparwyr gwasanaethau yn gyfrifol am sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r bobl maent yn darparu gofal a chymorth iddynt a'u bod yn bodloni'r gofynion rheoleiddio. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr weithredu i wella gwasanaethau. 
  • Cymesuredd: Rydym yn cymryd camau sy'n gymesur â'r amgylchiadau, y canlyniadau a'r risgiau i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, a gallu ac adnoddau'r darparwr i ymateb. Bydd darparwyr sy'n methu'n gyson â sicrhau canlyniadau da i bobl ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn wynebu camau gorfodi uwch, gan gynnwys canslo eu cofrestriad o bosibl. 
  • Effeithlon ac effeithiol: Rydym yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'n dull gorfodi a'r ffordd rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi. Mae unrhyw gamau a gymerir gennym yn glir, yn gyson, yn amserol, yn deg ac yn gymesur. 
  • Rhannu gwybodaeth Rydym yn gweithio gyda chomisiynwyr, rheoleiddwyr ac asiantaethau a chyrff proffesiynol perthnasol eraill i rannu gwybodaeth am wasanaeth er mwyn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael yn effeithiol. Wrth brosesu a rhannu gwybodaeth, rydym yn bodloni'r holl ofynion deddfwriaethol perthnasol.
  • Cymryd camau cydgysylltiedig: Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod unrhyw gamau gorfodi wedi'u cydgysylltu. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo pryderon am ddiogelu neu faterion iechyd a diogelwch a lywodraethir gan reoleiddwyr eraill.

Sut rydym yn sicrhau gwelliant ac yn gorfodi cydymffurfiaeth?

1.5. Mae sicrhau gwelliant a chymryd camau gorfodi yn rhan greiddiol o'n gwaith. Rydym yn targedu meysydd i'w gwella ac yn cymryd camau gorfodi sy'n lleihau'r risg i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ac sy'n dwyn darparwyr i gyfrif am unrhyw fethiannau o ran y gwasanaeth. 

1.6. Lle y bo'n briodol, rydym yn defnyddio dull graddedig o sicrhau gwelliant yn unol â'n gweithdrefnau gorfodi. Lle bo gennym bryderon am ganlyniadau gwael i bobl neu lle rydym wedi nodi methiannau, rydym yn cymryd camau i sicrhau gwelliant. Fodd bynnag, pan fyddwn yn nodi methiannau difrifol, lluosog neu gyson, mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio ein pwerau i gyfyngu ar y ddarpariaeth y gall darparwr ei chynnig neu, yn y pen draw, i atal y darparwr rhag gweithredu yn gyfan gwbl. 

1.7. Pan fydd effaith sylweddol ar lesiant a/neu risg sylweddol o niwed, efallai y bydd angen cymryd camau gorfodi ar unwaith. Bydd y camau hyn yn canolbwyntio ar ddiogelu iechyd a llesiant pobl. Yn yr achosion hyn, efallai na fydd yn briodol defnyddio dull graddedig gyda'r darparwr perthnasol.

Yn erbyn pwy y gallwn gymryd camau gorfodi?

1.8. Pan fydd gennym bryderon neu pan fyddwn wedi nodi canlyniadau gwael i bobl, gallwn gymryd camau gorfodi yn erbyn y darparwr perthnasol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • darparwyr cofrestredig a/neu unigolion cyfrifol dynodedig, yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth berthnasol. 
  • person/darparwr sy'n cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig ond nad yw wedi'i gofrestru i wneud hynny.

1.9. O dan Ddeddf 2016, gallwn hefyd gymryd camau gorfodi yn erbyn darparwyr cofrestredig ar dair lefel wahanol: 

  • lefel gwasanaeth unigol: yn erbyn gwasanaeth unigol a ddarperir mewn man penodol, er enghraifft, cartref gofal. 
  • lefel gwasanaeth cyfan: mewn perthynas â phob un o'r gwasanaethau o fath penodol a weithredir (er enghraifft, gwasanaethau cymorth cartref) gan y darparwr. 
  • lefel darparwr: mewn perthynas â phob math o wasanaeth a weithredir fel rhan o bortffolio'r darparwr (er enghraifft, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau cartrefi gofal ac ati)

Pa gamau sicrhau gwelliant a gorfodi y gallwn eu cymryd?

1.10. Mae gennym amrywiaeth o adnoddau gwella a gorfodi er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Rydym yn defnyddio ein sancsiynau sifil i ganolbwyntio ar leihau'r risg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig. Mae gennym hefyd sancsiynau troseddol y gellir eu defnyddio i ddwyn darparwyr ac unigolion cyfrifol dynodedig perthnasol i gyfrif am fethiannau difrifol. Mewn rhai achosion, gall fod yn briodol defnyddio sancsiynau gorfodi sifil a throseddol ar yr un pryd. 

  1. Mae sancsiynau sifil yn ein galluogi i wneud y canlynol: 
    • ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr gymryd camau penodol (er enghraifft, mynd i'r afael â methiannau rheoleiddio fel yr amlinellir mewn hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth) neu gyflwyno gwybodaeth, dogfennau, cofnodion mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig) 
    • atal y darparwr rhag parhau i weithredu'r gwasanaeth (lle y bo angen, gellid cymryd y cam hwn ar fyrder)
    • gwahardd y darparwr am gyfnod penodol 
    • cyfyngu ar weithrediad y darparwr (er enghraifft, atal derbyniadau newydd i'r gwasanaeth) 
    • cynnal arolygiad ar lefel gwasanaeth neu ymgysylltu ar lefel darparwr i ystyried methiannau portffolio gwasanaeth. 
    • Gosod amodau ar y cofrestriad. 
  2. Mae sancsiynau troseddol yn ein galluogi i wneud y canlynol: 
    • cyhoeddi hysbysiad cosb. 
    • argymell erlyniad troseddol yn dilyn ymchwiliad troseddol. 
    • rhoi rhybudd syml.

2. Fframwaith gwneud penderfyniadau Sicrhau Gwelliant

2.1 Rydym yn cymhwyso fframwaith gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio dull strwythuredig o benderfynu pa gamau sydd eu hangen mewn ymateb i unrhyw fethiannau rydym yn eu canfod a'r effaith y maent yn ei chael ar ganlyniadau llesiant pobl. Mae'r fframwaith yn cynnwys tri cham:

Cam 1 – Penderfynu i ba raddau y mae unrhyw fethiannau rydym wedi'u canfod yn effeithio ar ganlyniadau pobl neu'n peri risg debygol i ganlyniadau pobl:

Yn ystod y cam hwn, rydym yn ystyried y canlynol: 

  • a yw'r dystiolaeth a gesglir yn yr arolygiad neu o ffynonellau eraill yn ddigonol ac wedi'i thriongli? 
  • a yw'r dystiolaeth yn dangos bod y methiannau yn effeithio ar ganlyniadau llesiant pobl neu'n peri risg debygol i ganlyniadau llesiant pobl? 
  • a yw'r dystiolaeth yn mynd yn groes i'r rheoliadau? 
  • a fu dadansoddiad o achos sylfaenol y methiannau?

Cam 2 – Asesu ein hymateb i'r methiannau.

2.2 Yn ystod y cam hwn, byddwn yn ystyried pa drefniadau arwain a llywodraethu sydd ar waith i fynd i'r afael â'r methiannau ac a yw'r trefniadau hyn yn ddigonol, ynghyd â'r canlynol: 

  1. yr effaith ar lesiant y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu'r risg debygol i'w llesiant. 
  2. y tebygolrwydd y bydd y methiannau yn parhau neu'n digwydd eto.

2.3 Byddwn yn asesu'r effaith ar lesiant y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a/neu'r risg bosibl i'w llesiant, fel y nodir isod:

Lefel yr effaith/risg: Dibwys

  • Lle mae pobl yn mwynhau canlyniadau llesiant da, ac mae'n annhebygol iawn y gallai'r methiannau y gwnaethom eu canfod effeithio ar ganlyniadau.
  • Mae'r gwasanaeth a ddarperir yn ddiogel ar y cyfan

Lefel yr effaith/risg: Isel

  • Lle mae'r methiannau a nodwyd wedi arwain at effaith isel neu risg isel o niwed i ganlyniadau llesiant pobl

Lefel yr effaith/risg: Cymedrol

  • Lle mae'r methiannau a nodwyd wedi arwain at effaith gymedrol neu risg gymedrol o niwed i ganlyniadau llesiant pobl, gan gynnwys torri eu hawliau

Lefel yr effaith/risg: Uchel 

  • Lle mae'r methiannau a nodwyd wedi arwain at effaith uchel/sylweddol[1] ar ganlyniadau llesiant pobl neu risg uchel/sylweddol o niwed i ganlyniadau llesiant pobl, gan gynnwys torri eu hawliau, Neu
  • anabledd parhaol, Neu
  • cyflwr iechyd andwyol sylweddol neu na ellir ei wrthdroi

 2.4 Rydym yn asesu'r tebygolrwydd y bydd y methiannau yn parhau neu'n digwydd eto yn y dyfodol gan ddefnyddio'r canlynol:  

Mae'r ffactorau a arweiniodd at y methiannau yn annhebygol o barhau neu ddigwydd eto oherwydd y rhesymau canlynol:

  • bod mesurau wedi'u rhoi ar waith neu wrthi'n cael eu rhoi ar waith i ymdrin â'r materion a nodwyd a/neu i reoli'r effaith/risg yn llawn a/neu 
  • rydym yn hyderus bod gan y darparwr y gallu, yr adnoddau a'r ymrwymiad i sicrhau yr ymdrinnir â'r materion a nodwyd 

Mae'r ffactorau a arweiniodd at y methiannau yn debygol o barhau neu ddigwydd eto oherwydd y rhesymau canlynol:

  • nid oes mesurau digonol nac effeithiol ar waith i reoli'r effaith / risg yn llawn neu i ymdrin â'r materion a nodwyd a/neu 
  • nid oes gan y darparwr y gallu, yr adnoddau nac ymrwymiad digonol i reoli'r effaith/risg a/neu i ymdrin â'r materion a nodwyd.

Cam 3 – Pennu'r camau gweithredu priodol

2.5 Diben Cam 3 yw pennu'r camau gweithredu priodol mewn ymateb i'r risg a/neu'r effaith bosibl ar lesiant pobl yn deillio o dorri'r rheoliadau. I bennu ein hymateb lle caiff methiannau eu nodi, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth ganlynol

2.6 Lle byddwn wedi nodi methiannau sy'n cael effaith ddibwys neu lle ceir risg ddibwys i'r canlyniadau i bobl, byddem yn trafod hyn â'r darparwr yn ystod y sesiwn adborth a chaiff hyn ei gofnodi ar adran adborth y nodiadau arolygu.

2.7 Lle byddwn wedi nodi Meysydd i'w Gwella, byddwn yn cymryd y camau canlynol: 

  • caiff manylion ein tystiolaeth o'r methiannau eu cynnwys yn yr adroddiad arolygu fel maes i'w wella. Rhaid i'r darparwr weithredu i wella'r canlyniadau i bobl. 
  • trefnu i'r gwasanaeth gael arolygiad cynnar. 
  • asesu'r camau a gymerwyd i wella'r canlyniadau yn yr arolygiad nesaf. 
  • ystyried cynnal cyfarfod â'r darparwr pan nodir risg bosibl a/neu effaith barhaus ar lesiant pobl fel maes i'w wella yn ystod yr ail arolygiad. 
  • Lle na fydd maes i'w wella wedi'i fodloni yn ystod yr arolygiad dilynol a bod yr effaith ar lesiant pobl a/neu'r risg yn parhau i fod yn isel, gall yr arolygydd dynnu sylw at hyn eto fel maes i'w wella neu gall gyhoeddi hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth. Wrth wneud y penderfyniad hwn, bydd yr arolygydd yn defnyddio ei farn broffesiynol gan ystyried yr effaith/risg i bobl, unrhyw gamau y mae'r darparwr wedi'u cymryd i ymdrin â'r mater neu ffactorau perthnasol eraill. Bydd yr arolygydd yn ceisio bod yn deg ac yn gymesur.

2.8 Lle byddwn wedi nodi methiannau y mae angen Gweithredu â Blaenoriaeth yn eu cylch, byddwn yn cymryd y camau canlynol: 

  • bydd Hysbysiad Gweithredu â Blaenoriaeth yn nodi'r camau y mae angen i'r darparwr eu cymryd i wella. Bydd hefyd yn nodi'r rheoliadau nad yw'r darparwr yn cydymffurfio â nhw ac yn rhoi manylion am y dystiolaeth a nodwyd gan AGC wrth ddod i'r casgliad hwn.
  • caiff Adroddiad Gweithredu â Blaenoriaeth ei gyflwyno i'r darparwr a fydd yn nodi'r hysbysiad(au) gweithredu â blaenoriaeth. Rhaid i'r darparwr weithredu i wella'r canlyniadau i bobl. 
  • trefnu i'r gwasanaeth gael arolygiad â blaenoriaeth. 
  • asesu'r camau a gymerwyd i wella canlyniadau yn ystod yr arolygiad nesaf hwnnw. 
  • trefnu cyfarfod â'r darparwr os bydd unrhyw fethiannau wedi digwydd eto a bod risg a/neu effaith barhaus bosibl ar lesiant pobl 
  • lle nodir bod y risg bosibl a/neu'r effaith bosibl ar lesiant pobl yn Uchel, trefnir cyfarfod â'r darparwr ac mae'n bosibl y caiff camau gorfodi brys eu hystyried. 

Os byddwn wedi nodi canlyniadau gwael parhaus i bobl a bod risg bosibl a/neu effaith gymedrol neu uchel barhaus yn yr ail arolygiad, byddwn yn uwchgyfeirio'r mater i'r cam nesaf ar ein llwybr sicrhau gwelliant a gorfodi.

2.9 Caiff unrhyw benderfyniad gan yr arolygydd ynghylch a yw'r methiannau yn perthyn i gategori ddibwys, fach, cymedrol neu uchel, ac unrhyw benderfyniad ynghylch pa mor debygol ydyw o ddigwydd eto, ei wneud fesul achos ac ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.

3. Y llwybr sicrhau gwelliant a gorfodi

3.1. Rydym wedi datblygu llwybr sy'n nodi'r ffordd rydym yn cyflawni gweithgarwch gwella a gorfodi.

Arolygiad cyntaf

3.2. Mae'r llwybr yn dechrau drwy gynnal arolygiad, sef naill ai arolygiad wedi'i drefnu neu arolygiad o ganlyniad i bryderon a godwyd gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu sydd wedi'u cyflogi ganddo, neu weithwyr proffesiynol/asiantaethau eraill. Mae ein Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae AGC yn cynnal arolygiadau fel arfer.

3.3. Yn ystod yr arolygiad cyntaf, byddwn yn adolygu'r canlyniadau i bobl ac ansawdd a diogelwch y gwasanaeth a ddarperir. Lle y caiff canlyniadau gwael eu nodi o ganlyniad i fethiannau rheoleiddio, rydym yn defnyddio ein ‘fframwaith gwneud penderfyniadau’ (gweler Pennod 2). Mae hwn yn pennu ein hymateb i'r methiannau a nodwyd. Ar y cam hwn o'r llwybr, dyma'r canlyniadau posibl fel arfer:

  1. Lle nodir bod y methiannau yn cael effaith ddibwys neu'n peri risg ddibwys i'r canlyniadau i bobl, bydd y rhain yn cael eu trafod â'r darparwr a'u cofnodi yn yr adran adborth yng nghofnod yr arolygiad.
  2. Tynnir sylw at y methiannau a nodir yn yr adroddiad arolygu fel meysydd i'w gwella, y mae'n rhaid i'r darparwr weithredu i ymdrin â nhw, a threfnir arolygiad cynnar o'r gwasanaeth. Caiff y camau a gymerwyd i wella canlyniadau eu hasesu yn ystod yr arolygiad nesaf hwnnw. Mewn amgylchiadau o'r fath, ni fyddwn yn symud ymlaen i gam nesaf y llwybr.
  3. Mae angen cymryd camau gweithredu â blaenoriaeth mewn perthynas â'r methiannau a nodwyd er mwyn gwella'r canlyniadau i bobl. Byddwn yn cyhoeddi hysbysiad(au) gweithredu â blaenoriaeth. Caiff hyn ei nodi yn yr adroddiad gweithredu â blaenoriaeth. Caiff y camau a gymerwyd i wella canlyniadau ac i ymdrin â'r methiannau eu hasesu yn ystod yr ail arolygiad, yn unol â'r llwybr.
  4. Mae angen ymateb gorfodi mwy uniongyrchol mewn perthynas â'r methiant/methiannau. Mewn amgylchiadau o'r fath, rydym yn dilyn ein llwybr ymatebol (gweler paragraff 3.15). Bydd yr amgylchiadau hyn fel arfer yn ymwneud ag achosion lle rydym wedi nodi gofal annerbyniol gan y darparwr, gan arwain at ganlyniadau gwael i bobl. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y byddwn hefyd yn penderfynu bod angen cyfarfod â'r darparwr.
  5. Cynhelir cyfarfod â darparwr y gwasanaeth os bydd hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth wedi cael ei gyhoeddi a'n bod wedi asesu bod yr effaith bosibl ar lesiant pobl a/neu'r risg bosibl i'w llesiant sy'n deillio o'r methiannau yn uchel. Cynhelir y cyfarfod â darparwr y gwasanaeth cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ar ôl yr ymweliad arolygu.

Ail arolygiad

3.4. Pan fyddwn yn cyhoeddi hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth i'r darparwr, trefnir ail arolygiad â blaenoriaeth. Caiff yr ail arolygiad ei gynnal o fewn chwe mis i ddyddiad yr adroddiad gweithredu â blaenoriaeth. Yn gyffredinol, bydd yr ail arolygiad hwn yn canolbwyntio ar asesu'r camau a gymerwyd i sicrhau gwelliant a gwella canlyniadau drwy ymdrin â'r methiannau a nodwyd.

3.5. Os byddwn yn fodlon bod y camau a gymerwyd gan y darparwr wedi arwain at ganlyniadau gwell i bobl ac nad oes effaith bellach ar lesiant pobl a/neu risg bosibl i'w llesiant, rhoddir gwybod i'r darparwr a daw'r broses i ben.

3.6. Yn dilyn yr ail arolygiad, os na fydd y canlyniadau i bobl wedi gwella (fel y nodwyd yn yr arolygiad cyntaf) a bod hyn yn parhau i gael effaith gymedrol neu uchel ar lesiant pobl a/neu'n peri risg gymedrol neu uchel i'w llesiant, byddwn yn uwchgyfeirio'r mater i'r cam nesaf ar ein llwybr sicrhau gwelliant a gorfodi. Bydd yr adroddiad gweithredu â blaenoriaeth wedi'i ddiweddaru yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: 

  • meysydd lle yr ymdriniwyd â'r methiannau. 
  • unrhyw feysydd newydd lle cafwyd methiannau rheoleiddio 
  • meysydd parhaus lle ceir methiannau rheoleiddio y mae angen cymryd camau gweithredu â blaenoriaeth yn eu cylch.

3.7. Caiff yr hysbysiadau yn yr adroddiad gweithredu â blaenoriaeth eu diweddaru â chanfyddiadau a thystiolaeth o'r ail arolygiad a chaiff yr adroddiad ei ailgyflwyno i'r darparwr.

Cyfarfod â darparwr y gwasanaeth

3.8. Cynhelir cyfarfod â darparwr y gwasanaeth pan na fydd y darparwr wedi gweithredu i ymdrin â'r methiant a nodwyd yn yr arolygiad cyntaf i wella'r canlyniadau i bobl. Gellir ystyried hyn hefyd lle ceir methiannau parhaus sy'n peri risg bosibl isel a / neu effaith isel barhaus ar lesiant pobl.

3.9. Yn unol â'r disgrifiad ym mharagraff 3.3 (d), gellir hefyd cynnal cyfarfod â darparwr y gwasanaeth yn dilyn yr arolygiad cyntaf os bydd hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth wedi cael ei gyhoeddi a'n bod wedi asesu bod yr effaith ar lesiant pobl a/neu'r risg bosibl i'w llesiant yn deillio o'r methiannau yn uchel.

3.10. Byddwn yn ysgrifennu at y darparwr yn amlinellu'r methiannau ac yn ei wahodd i gyfarfod. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r darparwr esbonio pam mae methiannau'r gwasanaeth wedi parhau a thynnu sylw at unrhyw gamau a gymerwyd hyd yma, neu'r rhai y bwriedir eu cymryd, er mwyn datrys y problemau a gwella'r canlyniadau i bobl. Nid asesu lefel y gydymffurfiaeth yw diben y cyfarfod ond nodi unrhyw resymau lliniaru neu wybodaeth bellach y dylai Panel Gwella a Gorfodi eu hystyried wrth ystyried camau gorfodi (Mae Cylch Gorchwyl y panel i'w weld yn Atodiad C).

3.11. Disgwylir y bydd darparwyr yn gallu mynychu'r cyfarfod a'u bod yn gymwys i wneud hynny heb fod angen cymorth allanol neu gyfreithiol. Gall y darparwr ofyn am gael dod ag unigolion o'r fath i'r cyfarfod. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw gais gael ei wneud yn brydlon er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen, a rhaid i ni gytuno i hyn ymlaen llaw.

3.12. Cynhelir y cyfarfod â darparwr y gwasanaeth cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ac o fewn pedair wythnos i'r ymweliad arolygu, fan bellaf, neu o fewn pythefnos os bydd effaith uchel ar lesiant pobl a/neu risg uchel bosibl i'w llesiant.

Panel Gwella a Gorfodi

3.13. Os bydd methiannau parhaus gan y gwasanaeth wedi'u nodi yn dilyn ail arolygiad, caiff y mater ei uwchgyfeirio i Banel Gwella a Gorfodi. Nid yw'r wybodaeth a roddwyd yn y cyfarfod â darparwr y gwasanaeth yn atal y broses uwchgyfeirio hon.

3.14. Er mwyn sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud ar y lefel gywir ac ar yr adeg gywir, rydym yn defnyddio Panel Gwella a Gorfodi a Bwrdd Gwella a Gorfodi) (Mae Cylch Gorchwyl y Bwrdd i'w weld yn Atodiad B). Bydd p'un a oes angen penderfyniad gorfodi ar lefel panel neu fwrdd yn dibynnu ar y math o gam gorfodi a phenderfyniad sydd eu hangen.

3.15. Rydym yn defnyddio Paneli Gwella a Gorfodi sy'n benodol i sectorau, h.y. Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae, Gwasanaethau Oedolion a Phlant, ac ar gyfer gwasanaethau sy'n Gweithredu heb Gofrestriad. Diben y Panel Gwella a Gorfodi fydd: 

  • ystyried methiannau a/neu bryderon mewn perthynas â darparwr cofrestredig, gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth(au), 
  • ystyried pryderon pan fydd AGC wedi dod yn ymwybodol o wasanaeth a allai fod yn gweithredu heb gofrestriad, 
  • adolygu'r dystiolaeth sy'n sail i'r methiannau a/neu'r pryderon hyn,
  • penderfynu ar y camau a argymhellir y mae angen eu cymryd i wella ansawdd a diogelwch gwasanaeth(au).

3.16. Mae ein Bwrdd Gwella a Gorfodi yn cwmpasu'r holl wasanaethau a reoleiddir gan AGC. Diben y Bwrdd Gwella a Gorfodi fydd: 

  • Monitro, goruchwylio a sicrhau ansawdd wrth i AGC roi'r polisi ar sicrhau gwelliant a gorfodi ar waith 
  • Sicrhau y caiff gwersi eu dysgu ac y caiff unrhyw gamau sy'n codi eu cyfleu i AGC a rhanddeiliaid ehangach, fel y bo'n briodol 
  • Cytuno a ddylid dechrau unrhyw ymchwiliad troseddol ac argymell unrhyw erlyniadau posibl i'r Dirprwy Brif Arolygydd, a fydd yn penderfynu a ddylid atgyfeirio achosion at y Cwnsler Cyffredinol at ddibenion erlyniad troseddol ai peidio

Y Llwybr Ymatebol

3.17. Byddwn yn dilyn y llwybr ymatebol pan fydd digwyddiad difrifol wedi digwydd neu pan fydd risg ddifrifol ac uniongyrchol o niwed i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaeth ac y gall fod angen gweithredu ar unwaith.

3.18. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn yn atgyfeirio'r achos ar unwaith at y Panel Gwella a Gorfodi. Bydd y Panel yn ystyried a oes angen cymryd camau gorfodi brys neu a oes angen rhagor o wybodaeth, a'r camau y bydd angen eu cymryd i gael y wybodaeth honno.

4. Adnoddau sicrhau gwelliant a gorfodi

4.1 Mae amrywiaeth o adnoddau statudol ar gael i ni eu defnyddio i gefnogi ein proses gwella a gorfodi. Mae'r adnoddau a ddefnyddir mewn amgylchiadau penodol yn dibynnu ar y canlynol: 

  • y camau rydym yn cynnig eu cymryd. 
  • y ddeddfwriaeth berthnasol y caiff y darparwr ei reoleiddio oddi tani. 
  • difrifoldeb y materion neu'r risgiau a nodwyd. 
  • y cam a gyrhaeddwyd yn y broses gwella a gorfodi.

4.2 Pan fyddwn yn cymryd camau gorfodi brys mewn ymateb i bryder neu ddigwyddiad difrifol, fel arfer caiff ein penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith. Mae gan ddarparwyr yr hawl i apelio yn erbyn y defnydd o gamau gorfodi brys ond nid yw hyn yn atal y camau rhag cael eu rhoi ar waith ar unwaith.

Ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf 2016

Hysbysiad gwella/hysbysiad o benderfyniad

4.3 Dim ond ar gyfer y gwasanaethau hynny a reoleiddir o dan Ddeddf 2016 y caiff hysbysiadau gwella eu defnyddio. Cyhoeddir hysbysiad gwella pan fydd AGC yn cynnig cymryd unrhyw un o'r camau canlynol: 

  • canslo cofrestriad y darparwr; bydd hyn yn cynnwys yr holl wasanaethau rheoleiddiedig sy'n gysylltiedig ag amodau cofrestru'r darparwr hwnnw 
  • gosod amrywiad ar gofrestriad y darparwr drwy ddileu gwasanaeth neu wasanaethau rheoleiddiedig o amodau cofrestru'r darparwr hwnnw 
  • gosod amrywiad ar gofrestriad y darparwr drwy ddileu man y mae'r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef 
  • canslo dynodiad yr unigolyn cyfrifol.

4.4 Mae'r hysbysiad gwella yn nodi'r camau arfaethedig a'r rhesymau dros gymryd camau o'r fath. Mae'n manylu ar y camau y mae'n rhaid i'r darparwr eu cymryd neu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu o fewn cyfnod penodol o amser i'n bodloni na ddylid cymryd y camau gorfodi arfaethedig. Os bydd y darparwr neu'r unigolyn cyfrifol yn dymuno herio ein rhesymau dros gymryd camau gweithredu, gall wneud sylwadau i ni o fewn y terfyn amser a bennwyd yn yr hysbysiad gwella.

4.5 Os byddwn yn fodlon bod y darparwr neu'r unigolyn cyfrifol wedi cymryd y camau a bennwyd a/neu wedi darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn yr hysbysiad gwella, ac o fewn yr amserlenni gofynnol a bennwyd, byddwn yn hysbysu'r darparwr am ein penderfyniad i beidio â chymryd y camau gorfodi arfaethedig.

4.6 Os na fyddwn yn fodlon bod y darparwr wedi gwneud hynny: 

  • bydd ein hysbysiad o benderfyniad yn nodi ein penderfyniad i gymryd y camau gorfodi arfaethedig, y rhesymau dros wneud hynny ac unrhyw hawl i apelio; neu 
  • efallai y byddwn yn estyn y cyfnod o amser ar gyfer cymryd y camau a bennwyd. O dan Ddeddf 2016, mewn perthynas â'r darparwr, ni allwn estyn y cyfnod o amser ar gyfer darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn yr hysbysiad gwella.
Hysbysiad o gynnig/hysbysiad o benderfyniad

4.7. Rhaid i ni gyhoeddi hysbysiad o gynnig i gymryd camau gorfodi sy'n amrywio amodau cofrestriad darparwr (heblaw'r amrywiadau hynny a restrir ym mharagraff 4.3), neu sy'n gosod amod pellach ar ei gofrestriad, ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf 2016. Mae'r hysbysiad o gynnig yn nodi'r camau gorfodi rydym yn cynnig eu cymryd, y rhesymau dros wneud hynny a'r dyddiad arfaethedig ar gyfer eu cymryd (heb fod yn llai na 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad). Mae'n bosibl y bydd yr hysbysiad o gynnig hefyd yn nodi'r camau y mae angen i'r darparwr eu cymryd er mwyn osgoi camau gorfodi yn y dyfodol.

4.8. Gall y darparwr wneud sylwadau i ni o fewn y terfyn amser a bennwyd a chaiff y rhain eu hystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Os na chaiff y sylwadau eu cyflwyno neu eu cadarnhau, cyhoeddir hysbysiad o benderfyniad yn nodi ein penderfyniad i gymryd y camau gorfodi arfaethedig, y rhesymau dros wneud hynny ac unrhyw hawl i apelio. Fodd bynnag, os byddwn wedi nodi camau y bydd angen i'r darparwr eu cymryd er mwyn osgoi camau gorfodi a'n bod yn fodlon bod y darparwr wedi cymryd y camau o fewn y terfyn amser a bennwyd, yna ni chaniateir cymryd camau gorfodi.

Materion y mae angen cymryd camau brys yn eu cylch

4.9. Byddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi brys mewn perthynas â darparwr os caiff risg ddifrifol i fywyd, iechyd corfforol neu iechyd meddwl person ei nodi a/neu os yw person yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

4.10. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn yn penderfynu cymryd camau gorfodi ar unwaith. Gallai hyn gynnwys: 

  • mynd ati i ganslo darparwr cofrestredig neu amrywio cofrestriad drwy ddileu (a) gwasanaeth rheoleiddiedig neu (b) man y mae'r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef oddi ar y cofrestriad. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn cyflwyno cais i ynad heddwch. Dim ond os bydd yr ynad heddwch yn fodlon ar ein rhesymau dros gyflwyno'r cais y bydd yn gwneud gorchymyn. Daw gorchymyn yr ynad heddwch i rym cyn gynted ag y caiff ei wneud neu ar adeg sy'n briodol ym marn yr ynad heddwch. 
  • mynd ati i amrywio cofrestriad ar fyrder mewn perthynas ag amodau cofrestru eraill. Mewn achosion o'r fath, cyhoeddir hysbysiad o benderfyniad a ddaw i rym ar ddiwrnod ei gyflwyno. Mae'r hysbysiad o benderfyniad yn esbonio'r camau gorfodi a gymerwyd, y rhesymau dros wneud hynny ac unrhyw hawl i apelio.

4.11. Byddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi brys mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol dynodedig pan fydd gennym achos rhesymol dros gredu y bydd person yn wynebu risg o niwed, neu y gall wynebu risg o niwed, oni chaiff dynodiad yr unigolyn cyfrifol ei ganslo.

4.12. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn yn penderfynu cymryd camau gorfodi ar unwaith. Gallai hyn gynnwys mynd ati i ganslo dynodiad yr unigolyn cyfrifol. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad o ganslo heb gyhoeddi hysbysiad gwella yn gyntaf. Rhaid i'r hysbysiad o ganslo roi rhesymau dros y penderfyniad, esbonio'r hawl i apelio, esbonio bod angen i'r darparwr wneud cais i amrywio cofrestriad a nodi'r terfyn amser ar gyfer gwneud hynny. Rhaid i'r hysbysiad o ganslo gael ei roi i'r unigolyn cyfrifol a darparwr y gwasanaeth. Ni fydd person yn unigolyn cyfrifol mwyach pan roddir yr hysbysiad i'r darparwr.

Canslo cofrestriad yn wirfoddol

4.13. Yn achos gwasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf 2016, gall darparwr wneud cais i ni ganslo ei gofrestriad. Rhaid cymeradwyo'r cais oni bai bod AGC wedi cymryd camau gyda'r bwriad o ganslo'r cofrestriad. Yn y sefyllfaoedd hyn rhoddir gwybod i'r darparwr am benderfyniad y panel gwella a gorfodi. Daw'r canslo i rym dri mis yn union ar ôl i'r darparwr gael yr hysbysiad neu ar ddyddiad cynharach a nodwyd yn yr hysbysiad.

Ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Hysbysiad o fwriad/hysbysiad o benderfyniad

4.14. O dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad o fwriad os byddwn yn penderfynu cymryd unrhyw un o'r camau gorfodi canlynol: 

  • gorfodi, amrywio neu ddileu amod sy'n gysylltiedig â chofrestriad. 
  • canslo cofrestriad.

4.15. Mae'r hysbysiad o fwriad yn nodi'r camau gorfodi rydym yn cynnig eu cymryd, y rhesymau dros wneud hynny a therfyn amser (heb fod yn llai na 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad). Gall y darparwr wneud sylwadau i ni o fewn y terfyn amser a bennwyd a chaiff y rhain eu hystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Os na chaiff sylwadau eu cyflwyno neu eu cadarnhau, cyhoeddir hysbysiad o benderfyniad yn nodi ein penderfyniad i gymryd y camau gorfodi arfaethedig, y rhesymau dros wneud hynny ac unrhyw hawl i apelio.

Hysbysiad Gorfodi

4.16. O dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad mewn perthynas ag unrhyw un y credwn ei fod yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb gofrestriad. Mae'r hysbysiad yn weithredol am flwyddyn o'r dyddiad y caiff ei gyflwyno. Mae'r hysbysiad yn rhoi gwybod i'r person y bydd yn cyflawni trosedd os bydd yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb gofrestriad, a heb esgus rhesymol, yn ystod y cyfnod hwnnw o amser, ac y gallai gael ei erlyn.

Materion y mae angen cymryd camau brys yn eu cylch

4.17. Byddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi brys yn yr amgylchiadau canlynol: 

  • yn achos canslo cofrestriad neu newid amodau, os bydd gennym achos rhesymol dros gredu y bydd plentyn yn dioddef neu ei fod yn debygol o ddioddef niwed sylweddol oni fyddwn yn canslo'r cofrestriad neu'n newid amodau. 
  • yn achos atal cofrestriad, os bydd gennym achos rhesymol dros gredu y bydd parhau i ddarparu gofal o'r fath yn golygu bod un neu fwy o'r plant y mae'r person hwnnw'n gofalu amdanynt yn wynebu risg o niwed neu y gall un neu fwy o'r plant hynny wynebu risg o'r fath.

4.18. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn yn penderfynu cymryd camau gorfodi ar unwaith. Gallai hyn gynnwys: 

  • yn achos canslo cofrestriad ar fyrder, gallwn wneud cais i'r llys teulu am orchymyn yn canslo cofrestriad y person. Os bydd y llys yn penderfynu bod plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed sylweddol, gall y llys wneud y gorchymyn. Cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gorchymyn gael ei wneud, rhaid i ni gyflwyno copi o'r gorchymyn, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig i ategu'r cais am y gorchymyn a hysbysiad o unrhyw hawl i apelio i'r darparwr.
  • yn achos gosod, amrywio neu ddileu amodau cofrestriad, mae'n bosibl y byddwn yn cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad sy'n nodi'r camau gorfodi, y rhesymau, y dyddiad dod i rym ac unrhyw hawl i apelio. 
  • yn achos atal cofrestriad person dan Fesur 2010 , cyhoeddir hysbysiad o benderfyniad sy'n nodi'r camau gorfodi, y rhesymau, y cyfnod atal ac unrhyw hawl i apelio. Caiff cofrestriad unigolyn ei atal o'r dyddiad a, lle bo angen, yr amser a bennwyd yn yr hysbysiad. Gall hyn fod ar unwaith. Ni all y cyfnod atal fod yn fwy na chwe wythnos o hyd. Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl estyn y cyfnod atal, am yr un rheswm, ond nid am gyfnod hwy na chyfanswm o 12 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis fel arfer.
Hysbysiad o ddileu o'r gofrestr.

4.19. Yn achos gwasanaethau a reoleiddir o dan Fesur 2010, gall person hysbysu AGC ei fod am gael ei ddileu o'r gofrestr. Rhaid i AGC ddileu'r person hwnnw o'r gofrestr oni bai bod Hysbysiad o Fwriad wedi cael ei gyhoeddi i ganslo ei gofrestriad, a bod AGC yn bwriadu cymryd y cam hwnnw o hyd, neu fod AGC wedi cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad i ganslo ei gofrestriad ac nad yw'r terfyn amser ar gyfer apelio wedi mynd heibio neu nad oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch apêl eto.

Atal yn wirfoddol

4.20. Yn achos gwasanaethau a reoleiddir o dan Fesur 2010, gall person cofrestredig roi o leiaf bum diwrnod gwaith o rybudd i AGC ei fod am ganslo ei gofrestriad, gan nodi'r dyddiad dechrau, a'r dyddiad gorffen lle y bo'n hysbys, a'r rheswm dros fod yn awyddus i atal ei gofrestriad yn wirfoddol. Ni chawn atal cofrestriad yn y ffordd hon os byddwn eisoes wedi cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad i atal cofrestriad, na phan fyddwn wedi cael cais i ddod ag ataliad gorfodol i ben ac nad oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y cais hwnnw eto, na phan fydd apêl i'r Tribiwnlys haen gyntaf yn dilyn ataliad gorfodol nad oes penderfyniad wedi'i wneud yn ei chylch eto.

4.21. Gall AGC gymryd camau gorfodi i atal cofrestriad person pan fydd cofrestriad y person wedi'i atal yn wirfoddol.

4.22. Nid oes hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ein penderfyniad i wrthod cymryd camau mewn perthynas â chais am atal gwirfoddol.

5. Sylwadau ac apeliadau

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddilyn proses benodol yn dibynnu ar y math o gamau gweithredu rydym yn cynnig eu cymryd.

5.1. Mae'n ofynnol i ni gyhoeddi Hysbysiad o Gynnig mewn perthynas â'r camau gweithredu canlynol: 

  • gwrthod cais i gofrestru 
  • cymeradwyo cais i gofrestru gan osod amodau. 
  • gwrthod cais i amrywio amodau cofrestru (gan gynnwys ychwanegu neu ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth) 
  • gosod amodau eraill ar gofrestriad darparwr y gwasanaeth 
  • amrywio amodau ar gofrestriad darparwr y gwasanaeth (ac eithrio amrywio'r unigolyn cyfrifol) 
  • ymateb i gais darparwr gwasanaeth i amrywio neu ddileu amod drwy gynnig amrywio amodau ar delerau gwahanol neu osod amod gwahanol.

5.2. Mae'n ofynnol i ni gyhoeddi Hysbysiad Gwella mewn perthynas â'r camau gweithredu canlynol: 

  • canslo darparwr gwasanaeth 
  • dileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth o gofrestriad darparwr gwasanaeth 
  • dileu gwasanaeth(au) o gofrestriad darparwr gwasanaeth 
  • canslo dynodiad unigolyn cyfrifol

5.3. Dylid nodi nad yw'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i unrhyw gamau brys a gymerir gennym.

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

5.4. Mae'n ofynnol i ni gyhoeddi Hysbysiad o Fwriad mewn perthynas â'r camau gweithredu canlynol: 

  • gwrthod cais i gofrestru 
  • gosod amod newydd ar gofrestriad person. 
  • amrywio neu ddileu unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad person. 
  • gwrthod cais i amrywio neu ddileu unrhyw amod o'r fath. 
  • canslo cofrestriad person.

Yr hawl i wneud sylwadau

5.5. Bydd pob Hysbysiad y byddwn yn ei gyhoeddi yn nodi'r camau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd, y rheswm/rhesymau dros gymryd y camau gweithredu a therfyn amser i'r sawl sy'n derbyn yr Hysbysiad wneud sylwadau i ni. Gall yr amserlen ar gyfer gwneud sylwadau amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond ym mhob achos, mae'n rhaid iddi fod o leiaf 28 diwrnod ar ôl i'r Hysbysiad gael ei gyhoeddi.

5.6. Dylai'r rhai sy'n cyflwyno sylwadau i ni nodi hynny'n glir yn eu gohebiaeth â ni. Byddwn yn ceisio egluro statws unrhyw ohebiaeth a geir mewn ymateb i Hysbysiad os nad yw'n glir a yw'r person yn gwneud sylwadau.

5.7. Gellir gwneud sylwadau naill ai yn ysgrifenedig neu ar lafar. Nodir isod y broses ar gyfer y ddau.

5.8. Dylid cyflwyno sylwadau gydag unrhyw dystiolaeth ategol y dibynnir arni. Mae peidio â gwneud hyn yn debygol o effeithio ar ein hystyriaeth o'r sylwadau neu achosi oedi.

Yr amserlen

5.9. Pan fydd y sylwadau wedi dod i law, ein nod fydd ymateb drwy gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad/Hysbysiad o Ganslo o fewn 28 diwrnod i'r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau. Nid yw hyn yn golygu 28 diwrnod ar ôl i'r sylwadau ddod i law. Os na allwn ymateb o fewn 28 diwrnod, byddwn yn rhoi gwybod i'r sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad o fewn 56 diwrnod i'r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau ac yn esbonio'r rheswm dros yr oedi.

Proses

5.10. Ar ôl i'r sylwadau ddod i law, caiff Penderfynwr ei ddyrannu. Bydd y Penderfynwr yn rhywun ar yr un radd â'r arolygydd a lofnododd yr Hysbysiad, neu radd uwch, ac ni fydd wedi bod yn rhan o'r penderfyniad i gymryd y camau arfaethedig.

Sylwadau ysgrifenedig

5.11. Gellir cyflwyno'r rhain drwy'r post neu e-bost, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol. Dylid cymryd gofal i ddiogelu data personol neu sensitif unigolion yn y gwasanaeth. Sylwadau ar lafar

5.12. Dylai'r rhai sy'n dymuno gwneud sylwadau ar lafar roi gwybod i ni cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Bydd y Penderfynwr yn gwrando ar sylwadau ar lafar ar adeg ac mewn lleoliad sy'n gyfleus i bawb. Dylai hyn ddigwydd o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad roi gwybod i ni ei fod yn dymuno gwneud sylwadau ar lafar.

5.13. Gall y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad ddod i'r gwrandawiad i gyflwyno ei wrthwynebiadau yn bersonol, neu gall drefnu i gynrychiolydd wneud hynny ar ei ran. Fel arfer, byddai disgwyl i'r person ddod i'r gwrandawiad gyda'i gynrychiolydd.

5.14. Os, am unrhyw reswm, na fydd y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad yn dod i'r gwrandawiad ond ei fod yn dymuno i'w gynrychiolydd barhau i wneud gwrthwynebiadau ar lafar yn ei absenoldeb, bydd angen i ni gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad i'r perwyl hwn.

5.15. Nid yw'r gwrandawiad sylwadau ar lafar yn cynnwys unigolion yn rhoi tystiolaeth nac yn galw tystion, ac nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r arolygydd na'r rheolwr sy'n gyfrifol am roi'r Hysbysiad fod yn bresennol.

Gwneud penderfyniadau

5.16. Bydd y Penderfynwr yn ystyried yr holl dystiolaeth sy'n berthnasol i'r cam gweithredu arfaethedig, gan gynnwys:

  • yr Hysbysiad sy'n cynnig y cam gweithredu, 
  • unrhyw dystiolaeth ategol y dibynnir arni ar gyfer cymryd y cam gweithredu, 
  • y sylwadau a wnaed gan y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad,
  • unrhyw dystiolaeth ategol a roddwyd gan y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad.

5.17. Fel rhan o'r broses o ddod i benderfyniad, gall y Penderfynwr ofyn am wybodaeth ychwanegol, gan gynnwys gofyn am arolygiad o'r gwasanaeth(au). Caiff canlyniad yr arolygiad ei ystyried ar ffurf adroddiad arolygu drafft. Oherwydd yr amserlenni y mae'n rhaid i ni gadw atynt wrth ystyried sylwadau, nid oes digon o amser i aros i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn ystyried canlyniad yr arolygiad. Os bydd y Penderfynwr yn cadarnhau'r Hysbysiad, a'r sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad yn herio'r adroddiad drafft, dylai hyn gael ei nodi mewn unrhyw apêl a wneir i'r Tribiwnlys.

5.18. Gall y Penderfynwr geisio cyngor gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ar faterion yn ymwneud â chyfraith a gweithdrefn. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y Penderfynwr yw dod i benderfyniad.

Canlyniadau yn dilyn Hysbysiad o Gynnig

5.19. Ar ôl dod i benderfyniad, rhaid i'r Penderfynwr gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad yn nodi ei benderfyniad a'r rheswm/rhesymau drosto. Gall y Penderfynwr naill ai: 

  • gadarnhau'r Hysbysiad, neu 
  • gadarnhau'r Sylwadau

Canlyniadau yn dilyn Hysbysiad Gwella

5.20. Gall sylwadau a wneir mewn perthynas â Hysbysiad Gwella herio'r rhesymau dros gyhoeddi Hysbysiad a/neu ddadlau bod y gwasanaeth wedi cydymffurfio â gofynion yr Hysbysiad. 5.21. Yn gyntaf, rhaid i Benderfynwr ystyried a yw'n fodlon bod y rhesymau dros gyhoeddi'r Hysbysiad yn ddilys ar y pryd. Os na fydd y Penderfynwr yn fodlon bod y rhesymau dros gyhoeddi'r Hysbysiad yn ddilys, yna rhaid tynnu'r Hysbysiad yn ôl. Caiff y derbynnydd ei hysbysu'n ysgrifenedig am y penderfyniad hwn.

5.22. Os bydd y Penderfynwr yn fodlon bod y rhesymau dros gyhoeddi'r Hysbysiad yn ddilys, yna bydd yn rhaid iddo symud ymlaen i ystyried a fodlonwyd y gofyniad/gofynion a nodwyd yn yr Hysbysiad o fewn yr amserlen benodedig.

5.23. Os bydd y Penderfynwr yn fodlon y bodlonwyd y gofyniad/gofynion a nodwyd yn yr Hysbysiad, bydd yn rhaid iddo gyhoeddi Hysbysiad yn rhoi gwybod i'r derbynnydd bod y cam gweithredu arfaethedig wedi cael ei dynnu'n ôl.

5.24. Os na fydd y Penderfynwr yn fodlon y bodlonwyd y gofyniad/gofynion a nodwyd yn yr Hysbysiad, bydd y canlyniadau sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar y math o gam gweithredu a gynigir.

5.25. Os mai'r cam gweithredu arfaethedig yw canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth neu ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth o gofrestriad darparwr gwasanaeth ac nad yw'r Penderfynwr yn fodlon bod y wybodaeth a nodwyd yn yr Hysbysiad wedi dod i law, rhaid iddo gadarnhau'r Hysbysiad.

5.26. Os mai'r cam gweithredu arfaethedig yw canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth neu ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth o gofrestriad darparwr gwasanaeth ac nad yw'r Penderfynwr yn fodlon bod y cam gweithredu a nodwyd yn yr Hysbysiad wedi cael ei gymryd, gall y Penderfynwr naill ai: 

  • cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad i gadarnhau'r cam gweithredu arfaethedig, neu 
  • cyhoeddi Hysbysiad yn rhoi gwybod i'r darparwr gwasanaeth nad yw'r cam gweithredu wedi cael ei gymryd, a phennu dyddiad newydd ar gyfer cymryd y cam gweithredu. Ar ôl y dyddiad hwn, dylid cynnal arolygiad i asesu a yw'r cam gweithredu a nodwyd yn yr Hysbysiad gwreiddiol wedi cael ei gymryd.

5.27. Os mai'r cam gweithredu arfaethedig yw canslo dynodiad Unigolyn Cyfrifol ac nad yw'r Penderfynwr yn fodlon bod y wybodaeth a nodwyd yn yr Hysbysiad wedi cael ei darparu neu nad yw'r cam gweithredu gofynnol wedi cael ei gymryd, gall gyhoeddi Hysbysiad o Ganslo. Rhaid i'r Hysbysiad o Ganslo gael ei gyhoeddi i ddarparwr y gwasanaeth a'r Unigolyn Cyfrifol.

Canlyniadau yn dilyn Hysbysiad o Fwriad

5.28. Ar ôl dod i benderfyniad, rhaid i'r Penderfynwr gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad yn nodi ei benderfyniad a'r rheswm/rhesymau drosto. Gall y Penderfynwr naill ai: 

  • cadarnhau'r Hysbysiad; neu 
  • gadarnhau'r Sylwadau

5.29. Os bydd gan y sawl sy'n derbyn yr Hysbysiad hawl i apelio i'r Tribiwnlys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd hyn wedi'i nodi'n glir ar yr Hysbysiad o Benderfyniad.

Apeliadau i dribiwnlysoedd

5.30. Mae gan ddarparwyr cofrestredig a/neu unigolion cyfrifol dynodedig yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar gyfer y canlynol: 

  • unrhyw hysbysiad o benderfyniad a gyhoeddwyd, gan gynnwys y rheini a gyhoeddwyd o dan weithdrefnau brys. 
  • unrhyw benderfyniad i ganslo cofrestriad darparwr neu amrywio cofrestriad i ddileu amod (o dan Ddeddf 2016) yn dilyn penderfyniad gan yr ynad heddwch.

5.31. Rhaid i apêl gael ei gwneud o fewn 28 diwrnod i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad o benderfyniad, fan bellaf. Fodd bynnag, gall y Tribiwnlys ganiatáu apêl ar ôl y cyfnod hwn os yw'n fodlon bod rhesymau da dros fethu ag apelio o fewn y cyfnod o 28 diwrnod.

5.32. Mae pwerau'r Tribiwnlys yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth y caiff apêl ei gwneud oddi tani. Fel arfer, mae'r pwerau hyn yn cynnwys: 

  • cadarnhau ein penderfyniad 
  • cyfarwyddo na ellir cymryd y cam gweithredu 
  • pennu cam gweithredu amgen 
  • gwneud unrhyw orchymyn arall (er enghraifft gorchymyn interim i atal effaith y penderfyniad am gyfnod) fel y gwêl y Tribiwnlys yn briodol mewn perthynas â chofrestriad y darparwr

5.33. Nid oes hawl i apelio i Dribiwnlys mewn perthynas â hysbysiadau gweithredu â blaenoriaeth, hysbysiadau cosb nac euogfarn yn dilyn erlyniad am drosedd.

5.34. Gofynnir i'r darparwr cofrestredig a/neu'r unigolion cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth) roi gwybod i ni am unrhyw apeliadau a wneir.

6. Camau Gorfodi Troseddol

6.1. Mae'n drosedd i ddarparwr fethu â chydymffurfio â darpariaethau penodol a bennir mewn deddfwriaeth neu reoliadau. Yn yr amgylchiadau hyn, gall darparwr wynebu camau gorfodi troseddol. Ceir rhestr gryno o droseddau deddfwriaethol a rheoliadol ar ein gwefan.

6.2. Mae'n bosibl y caiff camau gorfodi troseddol eu cymryd yn erbyn unrhyw ddarparwr cofrestredig a/neu unigolyn cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth berthnasol) neu berson/darparwr sy'n cynnal gweithgaredd rheoleiddiedig heb gofrestriad i wneud hynny. Gellir cymryd camau gorfodi troseddol hefyd yn erbyn unrhyw berson sy'n ein rhwystro rhag cynnal arolygiad ac yn erbyn personau cofrestredig neu bersonau anghofrestredig os byddant wedi gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol mewn unrhyw gais i ni.

Adolygiad Cychwynnol

6.3. Gall fod yn briodol cynnal adolygiad cychwynnol os down yn ymwybodol o achosion neu ddigwyddiadau a all olygu bod trosedd wedi'i chyflawni o dan y ddeddfwriaeth. Mae'r adolygiad cychwynnol yn ein galluogi i ganfod y ffeithiau ac i ystyried a oes gennym dystiolaeth i gredu bod trosedd wedi'i chyflawni. Mae'r adolygiad cychwynnol hefyd yn ein galluogi i ystyried unrhyw ffactorau o ran budd y cyhoedd.

6.4. Fel arfer, caiff adolygiad ei gyfyngu i archwilio cofnodion perthnasol mewn perthynas â'r achos(ion) neu'r digwyddiad(au) dan sylw. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd adegau pan fydd gwybodaeth arall yn dod i'r amlwg yn ystod yr adolygiad, y bydd angen ei hystyried hefyd. Ni fydd yr adolygiad fel arfer yn cynnwys cymryd datganiadau gan unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth nac aelodau o'r cyhoedd, ond mae'n bosibl y bydd adegau pan fydd angen gwneud hyn, er enghraifft pan fydd honiad bod gwasanaeth yn gweithredu heb gofrestriad.

6.5. Os bydd digon o dystiolaeth i'n darbwyllo bod trosedd wedi'i chyflawni a bod mwy o ffactorau o ran budd y cyhoedd o blaid erlyn nac yn erbyn gwneud hynny, mae'n bosibl y caiff ymchwiliad troseddol ei gynnal. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Panel Gwella a Gorfodi yn gwneud argymhelliad i'r Bwrdd Gwella a Gorfodi er mwyn iddo ei ystyried.

Ymchwiliad troseddol

6.6. Caiff pob ymchwiliad i drosedd ei gynnal yn unol â Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (CPIA) (Dolen allanol) a Chodau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) (Dolen allanol).

6.7. Caiff cylch gwaith unrhyw ymchwiliad troseddol, gan gynnwys gyda phwy y byddwn yn cyfathrebu neu bwy y byddwn yn ei gynnwys yn yr ymchwiliad, ei bennu gan ein Bwrdd Gwella a Gorfodi. Pan fydd ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal o ganlyniad i atgyfeiriad amddiffyn plant neu oedolion, mae'n bosibl y byddwn yn cynllunio'r ymchwiliad hwnnw gyda phartïon eraill â diddordeb, er enghraifft yr heddlu a/neu wasanaethau cymdeithasol. Caiff pob ymchwiliad troseddol ei fonitro gan ein Bwrdd Gwella a Gorfodi.

6.8. Caiff ymchwiliad troseddol ei gynnal er mwyn canfod a oes tystiolaeth i awgrymu'r canlynol:

  1. Y bu achos o ddiffyg cydymffurfio a arweiniodd at niwed sylweddol i unigolyn/unigolion a bod tystiolaeth i awgrymu y gellir priodoli'r achos o ddiffyg cydymffurfio i ymddygiad neu ddiffyg gweithredu darparwr cofrestredig a/neu unigolyn cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth berthnasol).
  2. Bod person/darparwr yn gweithredu heb gofrestriad, a:
    1. bod pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi dioddef niwed (effaith ddifrifol ar fywyd, iechyd neu lesiant person);
    2. bu ymddygiad tebyg yn flaenorol
    3. mae'r person/darparwr wedi diystyru'r gofyniad i gofrestru yn llwyr
    4. mae'r person/darparwr wedi darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i'r cyhoedd neu AGC yn fwriadol

Ceir manylion am broses AGC ar gyfer achosion o weithredu heb gofrestriad ym mhennod 7.

Hysbysiad cosb

6.9. Gellir cyhoeddi hysbysiad cosb yn lle dwyn erlyniad. Mae talu cosb yn galluogi'r darparwr cofrestredig a/neu'r unigolyn cyfrifol dynodedig i osgoi cael ei erlyn am drosedd. Nid oes rhwymedigaeth ar y darparwr cofrestredig na'r unigolyn cyfrifol dynodedig i dalu'r swm o dan yr hysbysiad cosb. Fodd bynnag, yn yr achosion hynny gallwn argymell i Lywodraeth Cymru y dylid ei erlyn.

6.10. Mae'r troseddau rhagnodedig y gellir cyhoeddi hysbysiad cosb ar eu cyfer o dan Ddeddf 2016 a swm y gosb ar gyfer pob trosedd wedi'u nodi yn yr Atodlen o droseddau rhagnodedig o fewn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 (Dolen allanol).

Erlyn

6.11. AGC sy'n gyfrifol am argymell i Lywodraeth Cymru y dylai ystyried cynnal erlyniad. Y Cwnsler Cyffredinol fydd yn penderfynu a ddylid cynnal erlyniad, ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff y penderfyniad hwn ei wneud yn unol â Chod Erlyn Llywodraeth Cymru (Dolen allanol).

6.12. Gall y Cwnsler Cyffredinol benderfynu gwneud y canlynol: 

  • cyhoeddi rhybudd syml er mwyn sicrhau bod cofnod ffurfiol o drosedd pan fydd darparwr cofrestredig a/neu unigolyn cyfrifol dynodedig wedi syrthio ar ei fai ond na chaiff ei erlyn. 
  • cyhoeddi hysbysiad cosb o dan Ddeddf 2016 (gweler adran 5.9) 
  • dwyn erlyniad ar gyfer rhai o'r troseddau neu bob un ohonynt. 
  • peidio â dwyn achos troseddol ond ystyried dull gweithredu amgen, h.y. ein camau gorfodi sifil

7. Gwasanaeth sy'n gweithredu heb gofrestriad

7.1. Mae Adran 5 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016) ac adrannau 21 a 23 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur) yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaeth rheoleiddiedig a gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd gael eu cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Cyfrifoldeb darparwr yw gwneud cais a chofrestru â ni. Mae'n drosedd darparu gwasanaeth rheoleiddiedig yng Nghymru heb gofrestru â ni. Rydym yn cyfeirio at hyn fel gweithredu heb gofrestriad.

7.2. Ein prif nod yw sicrhau y caiff pobl eu cefnogi i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl a'u bod yn ddiogel. Mae'r broses gofrestru yn gam diogelu pwysig er mwyn galluogi AGC i asesu a yw darparwyr yn debygol o ddarparu gwasanaethau diogel o ansawdd da cyn iddynt ddechrau gofalu am bobl. Wedyn, caiff gwasanaethau eu monitro a'u harolygu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gyrraedd y safonau y dylai pobl allu eu disgwyl.

7.3. Pan na fydd gwasanaethau wedi'u cofrestru, byddant yn gweithredu heb y camau diogelu hyn. Felly, rydym yn anelu at sicrhau bod pobl yn cael gofal gan wasanaethau sydd wedi'u cofrestru'n briodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae gennym broses Gweithredu heb Gofrestriad.

7.4. Mae'r polisi hwn yn nodi ein dull o ymateb i amgylchiadau lle mae gennym reswm dros gredu bod person yn cael gofal gan ddarparwr sy'n gweithredu gwasanaeth heb gofrestriad, gan gynnwys y prosesau rydym yn eu dilyn.

Y ddeddfwriaeth

7.5. Lle ystyrir bod gwasanaethau yn gweithredu heb gofrestriad, bydd y camau y byddwn yn eu cymryd yn gydnaws â'r gofynion a'r pwerau o dan y ddeddfwriaeth ganlynol, ac yn ystyried y gofynion a'r pwerau hynny:

7.6. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016) 

  • Adran 5 – gofyniad i gofrestru 
  • Adran 32 – Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu. 
  • Adran 34 – Pwerau arolygydd i fynd i mewn ac arolygu mangreoedd

7.7. Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur) 

  • Adran 21(1) a (5) – rhaid i berson beidio â gweithredu'n warchodwr plant yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru'n warchodwr plant, gan fod hynny'n drosedd. 
  • Adran 23 (1) a (2) – rhaid i berson beidio â darparu gofal dydd i blant mewn unrhyw fangre yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant yn y fangre honno, gan fod hynny'n drosedd. 
  • Adrannau 41 a 42 – pwerau mynediad ac arolygu.

7.8. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) 

  • Adran 78 – prif ddyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal. 
  • Adran 79 – dyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â darparu llety i blant mewn gofal.

Camau gweithredu gan AGC mewn ymateb i wasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad

7.9. Wrth wneud penderfyniadau am y camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd mewn ymateb i wasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad, byddwn yn ystyried y canlynol. 

  • Bydd unrhyw gamau a gymerir gan AGC yn unol â'r ddeddfwriaeth a restrir ym mharagraff 2 a byddant yn ystyried y ddeddfwriaeth honno. Bydd AGC yn ystyried y dyletswyddau statudol sydd wedi'u gosod ar awdurdodau lleol o dan adrannau 78 a 79 o Ddeddf 2014 wrth ystyried pa gamau rheoliadol i'w cymryd lle y byddwn o'r farn bod awdurdod lleol yn darparu gwasanaeth o'r fath sy'n gweithredu heb gofrestriad. 
  • Bydd camau gweithredu gan AGC yn unol â'r egwyddorion a nodir yn adran 1 o'r polisi hwn. Bydd canlyniadau i bobl a llesiant pobl wrth wraidd ein penderfyniadau, a ategir gan ddull seiliedig ar hawliau. Byddwn yn deg ac yn gweithredu mewn ffordd gymesur wrth ystyried amgylchiadau a ffeithiau pob achos unigol.

7.10. Bydd penderfyniadau i gynnal ymchwiliadau troseddol neu i gynnig erlyniad troseddol yn ystyried camau tystiolaeth ddigonol a budd y cyhoedd y prawf erlyn a nodir yng Nghod Erlyn Llywodraeth Cymru.

7.11. Rydym wedi datblygu llwybr sy'n nodi ein dull o ymateb i amgylchiadau lle mae gennym reswm dros gredu bod darparwr yn gweithredu gwasanaeth heb gofrestriad.

Cam 1 - Gweithredu heb Gofrestriad

7.12. Mae AGC yn cael gwybodaeth gan amrywiaeth o ffynonellau mewn perthynas â gwasanaethau a allai fod yn darparu gofal yng Nghymru heb gofrestriad. Yn ystod cam 1 y broses Gweithredu heb Gofrestriad, bydd AGC yn casglu ac yn ystyried gwybodaeth a fydd yn cynnwys y canlynol: 

  • gwybodaeth am y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, 
  • gwybodaeth am y person/sefydliad sy'n darparu'r gwasanaeth, 
  • y cynlluniau ar gyfer cofrestru'r gwasanaeth, 
  • yn achos gwasanaethau preswyl sydd o bosibl yn gweithredu heb gofrestriad, amgylchiadau'r lleoliad, a'r cynlluniau ar gyfer symud unrhyw berson sy'n cael gofal i wasanaeth cofrestredig.

7.13. Caiff y wybodaeth a gesglir ei hadolygu gan yr arolygydd i'w alluogi i ystyried a yw'r gwasanaeth yn debygol o fod yn gweithredu heb gofrestriad. Os bydd tystiolaeth sy'n awgrymu bod y gwasanaeth yn debygol o fod yn gweithredu heb gofrestriad, bydd yr arolygydd yn atgyfeirio'r achos i Banel Gweithredu heb Gofrestriad.

7.14. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod cam un hefyd yn helpu'r Panel Gweithredu heb Gofrestriad i benderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol.

Cam 2 - Gweithredu heb Gofrestriad

7.15. Yn ystod cam 2, bydd y Panel Gweithredu heb Gofrestriad yn cynnal adolygiad cychwynnol o'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod cam 1, ac o ddadansoddiad yr arolygydd mewn perthynas â'r gwasanaeth, ac yn penderfynu pa gamau gweithredu, os o gwbl, sydd eu hangen.

7.16. Os bydd y panel yn penderfynu bod y gwasanaeth yn gweithredu heb gofrestriad, gall gymryd amrywiaeth o gamau gweithredu mewn ymateb i hynny, y gellir cymryd rhai ohonynt ar yr un pryd neu un ar ôl y llall gan ddibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau pob achos.

  1. Monitro y tu allan i broses y panel. Mae monitro y tu allan i broses y panel yn ymateb priodol pan fydd gwasanaeth cofrestredig wedi gwneud newid i'w endid cyfreithiol a lle bo'r newid hwnnw wedi effeithio ar ei statws cofrestru. Yn yr achosion hyn, rhaid i'r darparwr wneud cais i gofrestru o dan yr endid cyfreithiol newydd, a chaiff hyn ei reoli drwy'r broses gofrestru.
  2. Cyfarfod â darparwr. Gall y panel wneud cais am gyfarfod â darparwr i drafod y gwasanaeth(au) sy'n gweithredu heb gofrestriad er mwyn cynnig y cyfle i'r darparwr esbonio'r rhesymau pam ei fod yn gweithredu gwasanaeth heb gofrestriad ac unrhyw gynlluniau sydd ganddo i unioni'r sefyllfa.

    Bydd AGC yn cymryd cofnodion o'r cyfarfod.

  3. Ymweliadau safle. Gall AGC ddibynnu ar adran 34 o Ddeddf 2016 neu adrannau 41 neu 42 o Fesur 2010 i gael mynediad i safle gwasanaeth anghofrestredig. Prif ddiben yr ymweliad fydd casglu gwybodaeth am yr hyn y mae'r gwasanaeth yn ei ddarparu. Os bydd ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo, gall AGC gael mynediad i wasanaeth er mwyn atafaelu tystiolaeth.
  4. Llythyr at ddarparwr – gwneud cais i gofrestru neu roi'r gorau i weithredu. Gall y Panel Gweithredu heb Gofrestriad benderfynu ysgrifennu at y darparwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno cais i gofrestru o fewn amserlen benodedig neu roi'r gorau i weithredu'r gwasanaeth.
  5. Hysbysiad gorfodi. O dan Adran 21(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gellir cyflwyno hysbysiad gorfodi os bydd gan AGC reswm dros gredu fod person yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb gofrestriad. Bydd hysbysiad gorfodi yn weithredol am gyfnod o un flwyddyn gan ddechrau ar y dyddiad y caiff ei gyflwyno. Os bydd person yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb esgus rhesymol o fewn 12 mis o gael hysbysiad gorfodi, bydd yn euog o drosedd ac mae'n bosibl y caiff ei erlyn.

7.17. Yn benodol i awdurdodau lleol (amgylchiadau eithriadol) 
Mae'r camau gweithredu hyn yn berthnasol i amgylchiadau lle caiff plentyn ei osod mewn gwasanaeth anghofrestredig a ddarperir yn uniongyrchol gan awdurdod lleol sy'n lletya plentyn yn unol â'i ddyletswyddau o dan adran 78 a 79 o Ddeddf 2014. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu gofal a llety brys i blentyn ac ni fydd wedi gallu dod o hyd i leoliad mewn gwasanaeth cofrestredig. Gall hyn gynnwys achosion lle bydd Llysoedd Teulu wedi cymeradwyo cynlluniau gofal sy'n cynnwys lleoliadau anghofrestredig, neu lle bydd yr Uchel Lys wedi awdurdodi trefniadau ar gyfer amddifadu plentyn o'i ryddid mewn lleoliad anghofrestredig.

  1. Parhau â gwaith monitro gan y Panel Gweithredu heb Gofrestriad. Yn seiliedig ar y wybodaeth a ddelir gan AGC, gall fod adegau lle yr ystyrir mai parhau â gwaith i fonitro'r gwasanaeth fyddai fwyaf priodol tra y gwneir ymdrech i geisio dod o hyd i leoliad amgen mewn gwasanaeth cofrestredig; neu tra bydd y darparwr yn gwneud cais llwyddiannus i gofrestru'r gwasanaeth; neu tra y caiff cynlluniau symud ymlaen eu rhoi ar waith.

Wrth wneud y penderfyniad i barhau i fonitro, bydd y panel yn ystyried y canlynol:

  • y rhesymau pam mae'r awdurdod lleol yn credu bod angen i'r gwasanaeth barhau i weithredu hyd nes y gellir dod o hyd i leoliad priodol mewn gwasanaeth cofrestredig neu hyd nes y caiff y gwasanaeth ei gofrestru h.y. mae'r awdurdod lleol wedi rhoi sicrwydd ei fod yn parhau i gymryd pob cam rhesymol i nodi gwasanaeth cofrestredig priodol.
  • y rhesymau pam mae'r awdurod lleol yn credu bod lleoli'r plentyn yn y gwasanaeth hwn er lles pennaf y plentyn ar hyn o bryd e.e. a yw'r gwarcheidwad a benodwyd gan y llys (lle y bo'n berthnasol) / y swyddog adolygu annibynnol o'r farn bod lleoli'r plentyn yn y gwasanaeth hwn er lles pennaf y plentyn?
  • mae'r awdurdod lleol wedi rhoi sicrwydd o'r canlynol:
    • bod anghenion y plentyn/plant sy'n cael gofal yn y gwasanaeth yn cael eu diwallu a bod y risgiau yn cael eu lliniaru,
    • bod tîm addas o staff yn darparu gofal a bod trefniadau goruchwylio priodol ar waith gan y rheolwyr,
    • bod y llety yn addas.
  • unrhyw gynlluniau i gofrestru'r gwasanaeth neu gynlluniau symud ymlaen ar gyfer y plentyn/plant?

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Ar ôl ystyried ffeithiau ac amgylchiadau cyffredinol yr achos, bydd y panel yn pwyso a mesur a yw'n fwy priodol parhau i fonitro'r gwasanaeth yn hytrach na chymryd camau gweithredu eraill.

O dan yr amgylchiadau hyn, bydd AGC yn parhau i fonitro'r gwasanaeth drwy ofyn am ddiweddariadau er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn parhau i hyrwyddo diogelwch a llesiant y plentyn a bod camau priodol yn cael eu cymryd i nodi lleoliad amgen mewn gwasanaeth cofrestredig, i gofrestru'r gwasanaeth neu fod cynlluniau symud ymlaen ar waith. Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol gydweithredu wrth ddarparu'r wybodaeth hon i AGC.

Pan fydd y Panel Gweithredu heb Gofrestriad yn penderfynu parhau i fonitro, bydd dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gofrestru gwasanaethau neu i sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu wedi'u cofrestru. Felly, rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol naill ai i gofrestru'r gwasanaeth neu wneud trefniadau i'r plentyn gael ei symud i wasanaeth cofrestredig neu roi cynlluniau symud ymlaen amgen ar waith. Lle na fydd yn gwneud hynny neu lle bydd AGC yn credu bod risgiau sylweddol i lesiant y plentyn nad ydynt yn cael eu rheoli'n briodol, caiff camau pellach eu cymryd.

  1. Llythyr at Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lleol. Mewn achosion lle mai awdurdod lleol sy'n darparu'r gwasanaeth anghofrestredig a bod y gwasanaeth anghofrestredig wedi bod yn gweithredu am gyfnod estynedig neu lle bo'r awdurdod lleol wedi darparu nifer o wasanaethau o'r fath sy'n gweithredu heb gofrestriad, gall AGC ysgrifennu'n ffurfiol at gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a phrif weithredwr yr awdurdod lleol yn nodi pryderon AGC ac yn gofyn am sicrwydd am y camau gweithredu y mae'r awdurdod lleol yn eu cymryd i:
    • ymdrin â'r pryderon hynny,
    • cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 75 o Ddeddf 2014: Dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofal.
7.18. Adolygiad cychwynnol

Lle bydd AGC yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gofrestru neu roi'r gorau i weithredu ac na fydd y darparwr yn gwneud hynny, gall y Panel Gweithredu heb Gofrestriad ddechrau adolygiad cychwynnol. Adolygiad cychwynnol yw cam cyntaf y llwybr gorfodi troseddol. Diben adolygiad cychwynnol yw cadarnhau a oes digon o dystiolaeth i awgrymu bod trosedd wedi'i chyflawni a llywio'r broses o benderfynu a fyddai dechrau ymchwiliad troseddol gyda'r bwriad o erlyn o fudd i'r cyhoedd.

Fel arfer, bydd yr adolygiad cychwynnol wedi'i gyfyngu i adolygu'r holl gofnodion perthnasol mewn perthynas â'r gwasanaeth anghofrestredig. Bydd yn ystyried y canlynol: 

  • A yw'n debygol y bydd gan AGC dystiolaeth dderbyniadwy, ddibynadwy a chredadwy i gefnogi erlyniad. 
  • A oes ffactorau budd y cyhoedd yn tueddu i fodoli yn erbyn erlyn sy'n gwrthbwyso'r ffactorau o blaid erlyn. Wrth ystyried budd y cyhoedd yng nghyd-destun dechrau ymchwiliad troseddol neu argymell erlyn, mae'r canlynol yn enghreifftiau o ffactorau a fyddai'n cael eu hystyried: 
    • Difrifoldeb y drosedd o Amgylchiadau'r drosedd gan gynnwys i ba raddau roedd y troseddu yn rhagfwriadol a / neu wedi'i gynllunio a'r rhesymau pam mae'r gwasanaeth yn gweithredu heb gofrestriad. Mewn achosion lle bydd awdurdod lleol wedi darparu llety brys yn uniongyrchol i blentyn mewn gwasanaeth anghofrestredig yn unol â'i ddyletswyddau o dan adran 78 a 79 o Ddeddf 2014, byddwn yn ystyried a yw'r awdurdod lleol wedi cymryd pob cam rhesymol i nodi gwasanaeth cofrestredig priodol. 
    • P'un a yw'r drosedd wedi parhau er gwaethaf yr holl ymdrechion a wnaed i sicrhau cydymffurfiaeth drwy, er enghraifft, yn achos awdurdodau lleol, camau gweithredu eraill fel y nodir ym mharagraff 5.3. 
    • Amgylchiadau'r darparwr. o P'un a oes gan y darparwr unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol blaenorol. 
    • Amgylchiadau'r bobl sy'n cael gofal ac effaith gweithredu heb gofrestriad ar eu llesiant. 
    • Ar gyfer plant â gwarcheidwad a benodwyd gan y llys, bydd barn y gwarcheidwad o ran a yw'r lleoliad er lles pennaf y plentyn yn berthnasol. 
    • Cymesuredd erlyniad i'r canlyniad tebygol, ac felly hefyd y gost i Lywodraeth Cymru a'r system cyfiawnder troseddol ehangach, er na fyddai hyn ar ei ben ei hun yn ffactor penderfynyddol.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a gall ffactorau eraill fod yn berthnasol i benderfyniad sy'n ymwneud â budd y cyhoedd.

Bydd y Panel Gweithredu heb Gofrestriad yn cael adroddiad ar yr adolygiad cychwynnol a fydd yn cynnwys argymhelliad yn nodi a ddylai AGC symud ymlaen i ymchwiliad troseddol.

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar yr adolygiad cychwynnol, os bydd y Panel Gweithredu heb Gofrestriad yn penderfynu bod digon o dystiolaeth i awgrymu bod trosedd wedi'i chyflawni ac y byddai dechrau ymchwiliad troseddol o fudd i'r cyhoedd, caiff yr achos ei atgyfeirio i'r Bwrdd Gwella a Gorfodi er mwyn iddo wneud penderfyniad yn ei gylch.

Cam 3 - Gweithredu heb Gofrestriad

7.19. Yn ystod cam 3, bydd y Bwrdd Gwella a Gorfodi yn adolygu'r adroddiad ar yr adolygiad cychwynnol ac yn penderfynu pa gamau gweithredu, os o gwbl, sydd eu hangen.

7.20. Gall y bwrdd gymryd amrywiaeth o gamau gweithredu mewn ymateb i hynny, y gellir cymryd rhai ohonynt ar yr un pryd neu un ar ôl y llall gan ddibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau pob achos.

  1. i. Cyfarfod â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lleol. Lle bydd awdurdod lleol wedi darparu llety brys yn uniongyrchol i blentyn mewn gwasanaeth anghofrestredig yn unol â'i ddyletswyddau o dan adran 78 a 79 o Ddeddf 2014, gall y bwrdd benderfynu ei bod yn briodol gofyn am gyfarfod ffurfiol rhwng y Prif Arolygydd, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr yr awdurdod lleol. Diben y cyfarfod hwn fyddai galluogi AGC i nodi ei phryderon a ffeithiau'r achos a gofyn am sicrwydd o ran y camau gweithredu y mae'r awdurdod lleol yn eu cymryd i:

    • ymdrin â'r pryderon hynny,
    • cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 75 o Ddeddf 2014: Dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofal.

    Bydd AGC yn cymryd cofnodion o'r cyfarfod.

  2. Cynhadledd gwella. Mae'n bosibl y bydd AGC yn cynnal cynhadledd gwella gan ddod â'r rhanddeiliaid perthnasol ynghyd i nodi datrysiadau. Gweler y Cod Ymarfer ar gyfer Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol, adran 9.2.
  3. Parhau i fonitro. Mae'n bosibl y bydd y bwrdd yn penderfynu mai parhau i fonitro yw'r dewis priodol. Wrth wneud y penderfyniad hwn, bydd y bwrdd yn ystyried y ffactorau a nodir yn adran 7.17(i) yn ogystal â hyd y cyfnod y mae'r gwasanaeth wedi parhau i weithredu heb gofrestriad.
  4. Ymchwiliad troseddol. Caiff y penderfyniad i ddechrau ymchwiliad troseddol ei wneud gan Fwrdd Gwella a Gorfodi AGC. Wrth wneud y penderfyniad hwn, bydd y bwrdd yn ystyried a oes digon o dystiolaeth i awgrymu bod trosedd wedi'i chyflawni ac a fyddai dechrau ymchwiliad troseddol gyda'r bwriad o erlyn o fudd i'r cyhoedd.

8. Gwybodaeth

8.1. Y ddealltwriaeth a'r wybodaeth sydd gennym yw un o'n hasedau pwysicaf. Mae'n sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn a'r cyngor a roddwn yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

8.2. Drwy ein prosesau cofrestru ac arolygu, rydym yn casglu ac yn cadw llawer o wybodaeth am ddarparwyr, yn ogystal â gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae'r wybodaeth werthfawr hon yn ein helpu i asesu a yw darparwr cofrestredig a/neu unigolion cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth) yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau deddfwriaethol a rheoliadol.

8.3. Felly, mae'r wybodaeth a ddefnyddiwn yn darparu'r sail hanfodol i'n penderfyniadau gorfodi ac yn ffurfio'r sail dystiolaeth y byddwn yn dibynnu arni os caiff ein camau gorfodi eu herio.

8.4. Weithiau, mae'n bosibl y byddwn yn cael ceisiadau i ryddhau gwybodaeth sy'n ymwneud ag achos neu ddarparwr unigol. Mae gan unrhyw unigolyn yr hawl i wneud cais am wybodaeth a gofnodwyd gennym, ac, yn amodol ar ofynion statudol deddfwriaeth ynghylch trin gwybodaeth, i gael copi o'r wybodaeth hon.

8.5. Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael ar yr adeg gywir, a'n bod yn cadarnhau'r gofynion statudol sy'n ofynnol gennym, rydym yn gwneud y canlynol: 

  • diogelu'r wybodaeth sydd gennym, yn unol â gweithdrefnau Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau safonau uchel o ran diogelu gwybodaeth a data 
  • storio ein gwybodaeth yn y ffordd gywir, gan ddilyn egwyddorion rheoli cofnodion Llywodraeth Cymru 
  • ymateb i geisiadau am wybodaeth yn unol â'r prosesau a'r amserlenni a sefydlwyd sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith 
  • rhannu gwybodaeth yn briodol ac mewn modd cyfreithlon, er mwyn gwella ac ailddefnyddio ein gwybodaeth, gweithio ar y cyd a lleihau achosion o ddyblygu

8.6. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn crynhoi'r ffordd rydym yn ymdrin â phob math o wybodaeth bersonol a gasglwn. Mae hyn yn cynnwys y sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r wybodaeth hon, y ffordd y caiff y wybodaeth ei phrosesu, am ba hyd y caiff ei chadw, pwy y gellir ei rhannu â nhw, beth yw eich hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth a'r cysylltiadau perthnasol y gallai fod eu hangen arnoch.

8.7. Mewn rhai achosion, gallwn gynnal neu gymryd rhan mewn arolygiad ar y cyd â chyrff neu asiantaethau rheoleiddiol eraill, fel yr heddlu neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae'n hanfodol y caiff gwybodaeth ei rhannu â'r asiantaethau neu'r cyrff rheoleiddiol hyn er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ac adnoddau eu defnyddio'n effeithiol. Yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn rhannu gwybodaeth yn unol â'r gofynion statudol sydd arnom.

8.8. Mae gennym gyfrifoldeb i rannu gwybodaeth â'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod unigolion sy'n cael gwasanaethau llety, neu wasanaethau a gomisiynwyd i'w cefnogi yn eu bywyd bob dydd, yn ymwybodol o unrhyw risg y gallent fod yn ei hwynebu. Felly, pan fydd gennym bryderon am ddarparwr a/neu fod angen amddiffyn unigolion agored i niwed rhag y risg o niwed, byddwn yn rhoi gwybod i'r cyrff comisiynu perthnasol ac unrhyw gyrff rheoleiddio eraill fel sy'n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth. Os byddwn wedi nodi achos o ddiffyg cydymffurfio sy'n effeithio ar iechyd a llesiant pobl a/neu sy'n peri risg i'w hiechyd a'u llesiant, gallwn rannu gwybodaeth â'r cyrff comisiynu perthnasol.

9. Cyfathrebu a chyhoeddi

9.1. Pan gaiff darparwr ei arolygu, caiff gwybodaeth am achosion o ddiffyg cydymffurfio ac unrhyw gamau gorfodi dilynol eu cynnwys yn ein hadroddiadau arolygu. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan.

9.2. Ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf 2016, rhaid i ni roi gwybod i awdurdodau lleol am unrhyw gamau gorfodi yn erbyn darparwr sy'n arwain at y canlynol: 

  • canslo cofrestriad darparwr 
  • amrywio cofrestriad darparwr drwy ddileu gwasanaeth neu wasanaethau rheoleiddiedig neu ddileu man y mae'r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef 
  • gorchymyn gan yr ynad heddwch i ganslo neu amrywio cofrestriad ar frys drwy ddileu gwasanaeth neu fan 
  • canslo cofrestriad unigolyn cyfrifol dynodedig 
  • dwyn achos troseddol yn erbyn person 
  • cyflwyno hysbysiad cosb

9.3. Ar gyfer darparwyr a reoleiddir o dan Fesur 2010, rhaid i ni roi gwybod i awdurdod lleol yr ardal lle roedd y darparwr yn gweithredu am unrhyw gamau gorfodi sy'n arwain at y canlynol: 

  • atal cofrestriad person 
  • canslo cofrestriad

9.4. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn penderfynu rhoi gwybod i randdeiliaid eraill am unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd gennym. Caiff hyn ei benderfynu fesul achos ac mae'n cynnwys y canlynol, ymhlith eraill: 

  • pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, eu perthnasau, eu cynrychiolwyr/eiriolwyr a'r cyhoedd 
  • comisiynwyr y GIG 
  • Gweinidogion Cymru
  • asiantaethau ac arolygiaethau eraill, e.e. y Comisiwn Ansawdd Gofal, y Gwasanaeth Tân 
  • Gofal Cymdeithasol Cymru, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac ati.

9.5. O dan Ddeddf 2016 a Mesur 2010, rhaid i ni gynnal cofrestr o ddarparwyr/gwasanaethau. Caiff y gofrestr hon ei chyhoeddi ar ein gwefan ac mae'n nodi manylion cofrestriadau, gan gynnwys unrhyw amodau a osodwyd ar y cofrestriad ac unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd.

10. Y derminoleg a ddefnyddir yn y Polisi hwn

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) 
Rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu 
Disgrifiad lefel uchel o'r modd y cynhelir arolygiad o wasanaethau rheoleiddiedig, yn unol â gofynion Deddf 2016 a rheoliadau cysylltiedig.

Pryderon 
Materion y rhoddwyd gwybod i AGC amdanynt sy'n ymwneud â diogelwch, llesiant neu hawliau'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Cydymffurfiaeth 
Pan fydd darparwr neu unigolyn cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth) yn bodloni'r gofynion a osodir arno gan y gyfraith neu, i'r gwrthwyneb, pan na fydd yn cydymffurfio â'r gofynion hynny.

Gorfodi 
Y camau y byddwn yn eu cymryd i orfodi darparwr neu unigolyn cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth) i gydymffurfio â'r gyfraith.

Rheoleiddiwr 
Sefydliad a sefydlwyd gan y llywodraeth i oruchwylio maes gweithgarwch masnachol neu gymdeithasol, drwy reolau a rheoliadau.

Diogelu 
Term cyffredinol ar gyfer camau a gymerir i hyrwyddo lles plant ac oedolion sy'n agored i niwed a'u diogelu rhag cael eu hesgeuluso, eu cam-drin a rhag achosion o gam-fanteisio arnynt.

Llesiant 
Mae'n cyfeirio'n fras at gyflwr person sy'n iach, yn hapus, yn ddiogel ac yn fodlon ei fyd.

Atodiad A: Fframwaith Rheoleiddio

Nodir isod y gofynion deddfwriaethol a rheoliadol a ddefnyddir gennym wrth reoleiddio darparwyr gofal cymdeithasol a gofal plant. Rhaid i'r darparwyr hyn fodloni'r gofynion hyn er mwyn darparu gwasanaeth gofal yng Nghymru. Rydym yn cymryd camau gorfodi lle nad ydynt yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau preswyl i deuluoedd, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion a gwasanaethau eirioli gael eu rheoleiddio gennym. Mae'r rheoliadau a'r canllawiau canlynol yn berthnasol i'r darparwyr hyn:

Mae'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer canlynol hefyd yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu a maethu a reoleiddir a/neu a arolygir gennym:

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd a chwarae gael eu rheoleiddio gennym. Mae'r rheoliadau a'r canllawiau canlynol yn berthnasol i'r darparwyr hyn:

Atodiad B: Bwrdd Sicrhau Gwelliant a Gorfodi Cylch Gorchwyl

Diben

Diben y bwrdd gwella a gorfodi yw: 

  1. Monitro a darparu prosesau goruchwylio a sicrhau ansawdd wrth i AGC roi'r polisi ar sicrhau gwelliant a gorfodi ar waith, gan gynnwys: 
    • adolygu patrymau a thueddiadau o ran y penderfyniadau a wneir fel rhan o'r llwybrau sicrhau gwelliant a gorfodi a Gweithredu heb Gofrestriad, ac 
    • ystyried achosion neu agweddau penodol ar y prosesau cysylltiedig yn fanwl 
    • Lle bydd darparwr wedi gwneud sylwadau ar ôl cyhoeddi hysbysiad gorfodi statudol, bydd canlyniad y sylwadau hynny yn cael ei adrodd yn ôl i'r bwrdd, er mwyn gallu dysgu gwersi i wella cysondeb a chywirdeb penderfyniadau gorfodi sy'n cael eu gwneud yn y panel gwella a gorfodi 
  2. Sicrhau y caiff gwersi eu dysgu ac y caiff unrhyw gamau sy'n codi eu cyfleu i AGC a rhanddeiliaid ehangach, fel y bo'n briodol 
  3. Cytuno a ddylid dechrau unrhyw ymchwiliad troseddol ac argymell unrhyw erlyniadau posibl i'r Dirprwy Brif Arolygydd, a fydd yn penderfynu a ddylid atgyfeirio achosion at y Cwnsler Cyffredinol at ddibenion erlyniad troseddol ai peidio. Mae'r cynllun dirprwyaethau ar gyfer penderfyniadau gorfodi yn nodi'r camau gorfodi troseddol y mae'r bwrdd gwella a gorfodi yn penderfynu arnynt. Yn eu plith mae'r canlynol: 
    • Ymgymryd ag adolygiad cychwynnol lle caiff camau troseddol eu hystyried 
    • Penderfynu y dylid dechrau ymchwiliad troseddol 
    • Argymell achosion posibl ar gyfer erlyniad troseddol i'r Dirprwy Brif Arolygydd 
    • Penderfynu argymell y dylid cyhoeddi hysbysiad cosb

Aelodaeth

Yn gyffredinol, bydd byrddau gwella a gorfodi yn cynnwys yr aelodau craidd canlynol. Dyma'r aelodau o'r bwrdd sy'n pleidleisio ac er mwyn cael cworwm i wneud penderfyniadau, bydd angen bod o leiaf dri allan o'r pedwar pennaeth (neu eu cynrychiolydd) yn bresennol. 

  • Pennaeth Cofrestru a Gorfodi 
  • Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant 
  • Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae 
  • Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol

Yn ogystal, bydd y canlynol yn mynychu cyfarfodydd y bwrdd; 

  • Cadeiryddion paneli Gwella a Gorfodi Gwasanaethau Oedolion a Phlant, Gofal Plant a Chwarae a Gweithredu heb Gofrestriad 
  • Uwch-reolwr Cofrestru a Gorfodi 
  • Uwch-reolwyr o dimau eraill AGC pan fydd achosion sy'n berthnasol i'w maes gwaith yn cael eu cyflwyno 
  • Arbenigwr ymchwiliadau troseddol pan fydd ymchwiliadau troseddol yn cael eu hystyried 
  • Cynrychiolydd o'r gwasanaethau cyfreithiol (er mwyn cynghori) 
  • Ysgrifenyddiaeth o'r tîm cymorth gorfodi

Rolau a chyfrifoldebau

Cadeirydd y Bwrdd
  • Y Pennaeth Cofrestru a Gorfodi fydd yn gyfrifol am gadeirio'r bwrdd. 
  • Bydd y bwrdd yn gwneud penderfyniadau drwy gonsensws yr aelodau pleidleisio craidd a bydd unrhyw benderfyniadau yn dibynnu ar sicrhau cworwm. Fodd bynnag, ar adegau lle na fydd y panel yn llwyddo i sicrhau consensws barn ar y camau i'w cymryd, cadeirydd y panel fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Caiff unrhyw wahaniaeth barn ei nodi yn y cofnodion. 
  • Sicrhau bod y bwrdd yn cyflawni ei rôl oruchwylio a sicrhau ansawdd drwy ystyried unrhyw waith dadansoddi/adrodd ar y camau gorfodi a'r penderfyniadau a wneir ledled Cymru ac unrhyw wersi i'w dysgu mewn perthynas ag ymarfer a phroses, 
  • Sicrhau y caiff unrhyw gyngor cyfreithiol ei ystyried ar y camau gorfodi troseddol a gaiff eu hargymell, 
  • Cydgysylltu â swyddogion cymorth gorfodi mewn perthynas â swyddogaethau'r ysgrifenyddiaeth h.y. trefnu cyfarfodydd, dosbarthu papurau perthnasol a gwneud nodiadau o gyfarfodydd, 
  • Sicrhau y caiff strategaeth gyfathrebu ei hystyried, lle y bo'n briodol, ar gyfer y camau gorfodi sy'n cael eu rhoi ar waith, 
  • Sicrhau y cytunir ar y camau gweithredu a'r cyfrifoldebau allweddol o'r cyfarfod ac y cânt eu cofnodi, 
  • Paratoi gohebiaeth chwarterol i staff ar ganlyniadau'r bwrdd, a 
  • Paratoi adroddiadau chwe-misol i'r Tîm Arwain Gweithredol yn deillio o waith y panel cenedlaethol.

Amserlenni

Bydd cyfarfodydd y bwrdd gwella a gorfodi yn cael eu trefnu bob chwarter neu fel y bo angen os bydd angen penderfyniadau brys.

Cyfathrebu

Bydd y bwrdd gwella a gorfodi yn cael adroddiadau rheolaidd sy'n darparu data a gwybodaeth am gamau gorfodi AGC a'r penderfyniadau a wneir ledled Cymru.

Bydd adroddiad chwe-misol yn cael ei baratoi ar gyfer ELT. Bydd yn nodi canlyniadau cyfarfodydd y bwrdd, y gwersi a ddysgwyd ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y camau sy'n ofynnol i wella ansawdd ac effeithiolrwydd prosesau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.

Caiff gohebiaeth i'r staff ei pharatoi ar ôl pob un o gyfarfodydd y bwrdd yn nodi'r trafodaethau a gynhaliwyd ac unrhyw negeseuon allweddol i'r staff. Caiff ei chyhoeddi fel rhan o'r cylchlythyr i staff.  

Atodiad C: Panel Sicrhau Gwelliant a Gorfodi Cylch Gorchwyl

Cefndir

Mae cyfarfodydd y panel gwella a gorfodi yn gam allweddol yn y broses sicrhau gwelliant a gorfodi er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch unrhyw gamau angenrheidiol. Mae paneli sicrhau gwelliant a gorfodi yn rhan o dimau'r gwasanaethau Cofrestru a Gorfodi, Gofal Plant a Chwarae ac Oedolion a Phlant.

O dan rai amgylchiadau, bydd angen i'r panel gwella a gorfodi gynnal cyfarfod mewn ymateb i ddigwyddiad difrifol a/neu bryder y mae angen gweithredu ar frys yn ei gylch.

Diben

Diben y panel gwella a gorfodi yw: 

  • ystyried methiannau a/neu bryderon mewn perthynas â darparwr cofrestredig, gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth(au), 
  • ystyried pryderon pan fydd AGC wedi dod yn ymwybodol o wasanaeth a allai fod yn gweithredu heb gofrestriad, 
  • adolygu'r dystiolaeth sy'n sail i'r methiannau a/neu'r pryderon hyn, a 
  • phenderfynu ar y camau gorfodi a argymhellir y mae angen eu cymryd er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gwasanaeth(au).

Pan fydd y panel gwella a gorfodi yn penderfynu bod angen camau gorfodi troseddol, bydd yn gwneud atgyfeiriad i'r bwrdd gwella a gorfodi er mwyn i'r bwrdd wneud penderfyniad. Ni ddylai penderfyniad i gymryd camau troseddol ohirio nac oedi unrhyw gamau sifil sy'n ofynnol i ddiogelu pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu i sicrhau gwelliant o ran ansawdd a diogelwch y gwasanaeth.

Aelodaeth

Yn gyffredinol, bydd paneli Gwella a Gorfodi yn cynnwys: 

  • Cadeirydd y panel (uwch-reolwr perthnasol) 
  • Rheolwr tîm ac arolygydd perthnasol 
  • Cynrychiolydd o'r gwasanaethau cyfreithiol (er mwyn cynghori lle bo angen) 
  • Ysgrifenyddiaeth – darperir gan y Tîm Cymorth Gorfodi

Rolau a chyfrifoldebau

Cadeirydd y Panel
  • Sicrhau bod y panel yn ystyried cryfder y sail dystiolaeth i gefnogi cam gweithredu arfaethedig, pa mor dda y cafodd ei driongli a lle bo angen, herio digonolrwydd y dystiolaeth, 
  • Sicrhau bod y panel yn ystyried priodolrwydd y cam gweithredu a argymhellir a'r sail dystiolaeth ategol, 
  • Sicrhau y caiff unrhyw gyngor cyfreithiol ei ystyried mewn perthynas â'r cam a argymhellir, 
  • Sicrhau y caiff strategaeth gyfathrebu ei hystyried lle y bo'n briodol ar gyfer y camau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith, 
  • Ystyried a oes angen cyngor anffurfiol ar gyfer y Gweinidog. 
  • Sicrhau y cytunir ar gamau gweithredu a chyfrifoldebau sy'n deillio o'r cyfarfod ac y cânt eu cofnodi, ac 
  • Ar adegau lle na fydd y panel yn llwyddo i sicrhau consensws barn ar y camau i'w cymryd, cadeirydd y panel fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Arolygydd a/neu reolwr tîm perthnasol
  • Sicrhau y caiff argymhelliad i weithredu ei nodi cyn i'r achos gael ei ystyried yn y panel gwella a gorfodi, 
  • Sicrhau bod sail dystiolaeth glir i gefnogi'r argymhelliad, 
  • Mynychu cyfarfod y panel i drafod ei ddadansoddiad o'r dystiolaeth a'i argymhelliad, a 
  • Rhoi unrhyw gamau gweithredu yn deillio o drafodaeth y panel ar waith.
Swyddog Cymorth Gorfodi
  • Gweithredu fel ysgrifenyddiaeth i'r panel gwella a gorfodi, h.y. trefnu cyfarfodydd, dosbarthu papurau perthnasol a gwneud nodiadau o gyfarfodydd.
Cynrychiolydd o'r gwasanaethau cyfreithiol
  • Rhoi cyngor cyfreithiol ar y camau a argymhellir a'r sail dystiolaeth ategol. Dim ond drwy gynghori, lle bo angen, y mae cynrychiolwyr y gwasanaethau cyfreithiol yn cefnogi'r panel gwella a gorfodi (ni fyddant yn gwneud penderfyniadau).

Sylwadau

Lle bydd darparwr wedi gwneud sylwadau ar ôl cyhoeddi hysbysiad gorfodi statudol, bydd canlyniad y sylwadau hynny yn cael ei ystyried gan y panel er mwyn gallu dysgu gwersi i wella cysondeb a chywirdeb penderfyniadau gorfodi sy'n cael eu gwneud yn y panel gwella a gorfodi.

Bydd cadeirydd y panel yn nodi adborth gan y penderfynwr a enwebwyd ar unrhyw benderfyniadau a wnaed, gwersi a ddysgwyd a chamau a gymerwyd ac yn cyfleu hyn i'r Bwrdd Gwella a Gorfodi.