Ymagwedd gyson at welliant parhaus a sut mae’n cynnwys yr holl aelodau staff
Mae plant yn gwneud cynnydd da mewn dysgu trwy ddilyn eu diddordebau eu hunain.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Derw Bach yn gylch chwarae cyn-ysgol sydd ynghlwm wrth Ysgol Gynradd Calon y Dderwen. Mae’r lleoliad wedi’i leoli yng nghanol Y Drenewydd ac yn gwasanaethu ardal Dechrau’n Deg. Mae wedi’i gofrestru ar gyfer hyd at 32 o blant 3 i 4 oed sy’n cynnig tair awr o addysg a mwy, a’r Cynnig Gofal Plant.
Mae’n lleoliad cyfrwng Saesneg ond yn ymdrechu i ddefnyddio ac annog defnydd o’r Gymraeg. Mae Derw Bach yn darparu amgylchedd amrywiol, cyfeillgar a diogel lle eir ati i annog a chynorthwyo plant i ddod yn unigolion caredig, parchus ac annibynnol.
Ar hyn o bryd, mae Derw Bach yn cynnwys teuluoedd o Wlad Pwyl, Twrci ac Wcráin. Mae’n ymdrechu i gyfathrebu ym mhriod iaith teulu trwy gyfarch a defnyddio geiriau allweddol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae arweinwyr ac ymarferwyr yn Derw Bach bob amser yn ystyried effaith y ddarpariaeth ar ddysgu a lles plant. Mae cysondeb yn meithrin gwaith tîm ac ymddiriedaeth rhwng ymarferwyr, ac mae cynnal safonau uchel yn sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar gyfer plant.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae ymarferwyr yn myfyrio’n barhaus ar eu harfer a’r ddarpariaeth. Caiff chwarae unigol plant ei arsylwi’n agos, ac fe gaiff y drefn i gynllunio gweithgareddau a darpariaeth ei diwygio ar sail diddordebau ac anghenion plant. Mae pob un o’r ymarferwyr yn defnyddio’r un ymagwedd at y broses hon. Mae cyfarfodydd staff rheolaidd a chyfathrebu effeithiol yn sicrhau ymagwedd gyson. Mae ymarferwyr yn myfyrio’n rheolaidd ar y gwelliannau parhaus yn y lleoliad, gan gynnwys effaith unrhyw hyfforddiant a fynychwyd a sut mae wedi cael ei roi ar waith.
Mae cynllun datblygu’r lleoliad, sy’n cael ei lunio bob blwyddyn, yn cysylltu ag unrhyw wariant o grant y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn sicrhau bod cyllid yn cael ei dargedu at flaenoriaethau presennol gyda diddordeb y plentyn mewn golwg. Cynhelir goruchwyliadau yn rheolaidd, ac maent yn cynnwys trafodaeth am sut orau i wella’r ddarpariaeth. Caiff ymarferwyr eu hannog bob amser yn eu datblygiad personol, ac mae cyfleoedd i fyfyrio ar eu harfer yn pwysleisio pa mor dda y maent yn gwneud. Er enghraifft, ymgymerodd yr holl ymarferwyr â hyfforddiant gwobr Awtistiaeth Cymru i ennill dealltwriaeth well a darparu cymorth effeithiol a chyson ar gyfer plant ag anghenion sy’n dod i’r amlwg.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae plant yn gwneud cynnydd da mewn dysgu trwy ddilyn eu diddordebau eu hunain. Mae ymarferwyr yn adnabod pob plentyn yn dda, yn darparu ar gyfer dysgu parhaus yn ystod chwarae ac mae ganddynt ymagwedd gyson at reoli ymddygiad. O ganlyniad, mae gan blant ymdeimlad cryf o les a pherthyn.
Gwnaeth plant ag anghenion sy’n dod i’r amlwg gynnydd gwych â medrau cyfathrebu ar ôl i ymarferwyr gael hyfforddiant trwy Awtistiaeth Cymru. Defnyddir arwyddion Makaton mewn ffyrdd priodol, ac addaswyd yr amgylchedd i weddu i anghenion plant, gan sicrhau amgylchedd mwy digynnwrf, a phlant mwy digynnwrf o’r herwydd.