Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 1 Chwefror 2022
  • Newyddion

Gwneud cais i fod yn aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru

Sicrhewch y clywir eich llais a gwella gofal cymdeithasol a gofal plant i bobl yng Nghymru.

A ydych chi'n angerddol am wella gofal cymdeithasol a gofal plant?

Os ydych, beth am wneud cais i fod yn aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru?

Mae'r bwrdd yn cyfarfod oddeutu tair gwaith y flwyddyn ac rydym yn chwilio am bobl a all rannu eu profiadau o ofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae yng Nghymru, gan gynnwys y canlynol:

  • pobl sy'n defnyddio neu'n gweithio mewn gwasanaethau gofal;
  • gofalwyr; ac
  • aelodau teulu neu berthnasau rhywun sy'n defnyddio gwasanaethau gofal.

Mae Bwrdd Cynghori Cenedlaethol AGC yn darparu llais i bobl o ran y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cynnwys aelodau gyda phrofiadau o dderbyn neu ddarparu gwasanaethau o bob rhan o'r sector gofal plant a gofal cymdeithasol, y sector cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector.

Dewisir yr aelodau er mwyn adlewyrchu rhanbarthau gwahanol Gymru, yr amrediad o wasanaethau gofal a chymdeithasol sy'n cael eu rheoleiddio gan AGC, ac amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol pobl Cymru.

Sut i wneud cais

Rydym am benodi oddeutu deg aelod newydd i'r bwrdd. Os oes diddordeb gennych, darllenwch ein pecyn gwybodaeth i ddysgu mwy, gan gynnwys sut i wneud cais.

Dylid cyflwyno ceisiadau dim hwyrach na 16:00 ar 28 Chwefror.