Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 23 Ionawr 2026
  • Newyddion

Bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn fyw ar 13 Chwefror

Yn fuan, byddwn yn ysgrifennu at bob darparwr gofal plant a chwarae ynghylch ei Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2026.

Beth yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth?

Ffurflen ar-lein yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth y mae angen i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei chwblhau. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant.

Beth rydym yn ei wneud â'r data?

Mae'r wybodaeth y mae darparwyr yn ei rhoi i ni drwy gyflwyno eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau a rhoi'r help a'r cymorth cywir i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Caiff y data o bob cwr o Gymru eu coladu a'u gwneud yn ddienw a'u cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2026. Os hoffech weld sut mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, gallwch weld crynodeb o ddata Datganiadau Hunanasesu Gwasanaeth 2025 yma.

Gwybodaeth bwysig i bob darparwr gofal plant a chwarae:

  • Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth gan ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn 27 Mawrth 2026.
  • Os na fyddwch yn cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn y dyddiad hwn, bydd yn effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.
  • Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth .
  • Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, mae angen i chi weithredu ar frys:
  • ewch i  AGC Ar-lein (Dolen allanol)
  • neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4

PWYSIG: Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ar systemau, ni fydd AGC Ar-lein ar gael rhwng hanner dydd ddydd Mercher 28 Ionawr a 9.00am ddydd Mercher 4 Chwefror.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth, anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru