Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Chwefror 2023
  • Newyddion

Dr Ruth Hussey i barhau â’i rôl fel Cadeirydd ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol am dair blynedd arall

Dechreuodd y tymor tair blynedd ar 1 Ionawr 2023 a bydd yn parhau tan 31 Rhagfyr 2025.

Yn unol â chylch gorchwyl ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol, caiff y Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd eu penodi i ddechrau am hyd at ddau dymor o dair blynedd.

Y Cadeirydd sydd yn gyfrifol am arwain y Bwrdd wrth fonitro, craffu a chodi ymwybyddiaeth o'n gwaith. Nid yw hon yn apwyntiad cyhoeddus, mae'r rôl fel Cadeirydd yn wirfoddol.

Gillian Baranski yw ein Prif Arolygydd

Rydw i wrth fy modd y bydd Dr Ruth Hussey yn parhau yn ei rôl fel Cadeirydd ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol. Dros y tair blynedd ddiwethaf mae'r gwasanaethau rydym yn rheoleiddio a'u harolygu wedi wynebu heriau digynsail ac rydym yn croesawu’n fawr ei harweinyddiaeth barhaus wrth i’r Bwrdd ddarparu arbenigedd a chyngor ar agweddau allweddol o’n gwaith. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Dr Hussey a’r Bwrdd dros y tair blynedd nesaf.

Dr Ruth Hussey

Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r straeon gan bobl sy’n derbyn ac yn darparu’r gwasanaethau y mae AGC yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu yn rhoi cipolwg pwerus ar yr effaith y mae gwaith AGC yn ei chael ar fywydau beunyddiol cymaint o bobl ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at barhau â’m rôl fel Cadeirydd fel y gallwn, ynghyd â’r Bwrdd, barhau i lywio a chefnogi gwaith AGC.

Mae rhagor o wybodaeth am rôl ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ac aelodau ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar gael ar ein gwefan.