Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 14 Medi 2023
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd ym mis Mehefin 2023.

Ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi (Dolen allanol), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol) ac Estyn (Dolen allanol), gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i gamdriniaeth ac esgeulustod ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein canfyddiadau am effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn yr un modd â llawer o ardaloedd ledled Cymru, gwelsom fod y gallu i recriwtio a chadw aelodau allweddol o staff yn effeithio ar drefniadau diogelu plant. Mae lefelau uchel o alw a chymhlethdod cynyddol anghenion plant a theuluoedd yn ychwanegu at hyn. Mae sefyllfa'r gweithlu gwasanaethau cymdeithasol dal yn fregus. Mae prinder gweithwyr cymdeithasol a marchnad gystadleuol wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar weithwyr cymdeithasol asiantaeth. Mae asiantaethau partner, fel yr heddlu a'r gwasanaethau iechyd, wedi nodi problemau yn ymwneud â darparu adnoddau i gynyddu gweithgarwch amddiffyn plant.

Er gwaethaf y problemau hyn yn ymwneud â'r gweithlu, gwelsom fod gwelliannau wedi'u gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers arolygiad llawn blaenorol Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Mai 2022 a'n hymweliad dilynol ym mis Tachwedd 2022.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.

Adolygiad ar y Cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA): Pen-y-bont ar Ogwr 2023