Rydym wedi cyhoeddi adolygiad cyflym ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant yng Nghymru
Roedd yr adolygiad hwn yn ystyried i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod enwau plant yn cael eu gosod ar y gofrestr amddiffyn plant, ac yn cael eu tynnu oddi arni, yn briodol pan fydd tystiolaeth ddigonol yn nodi ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny.
Yn dilyn y canfyddiadau dros dro a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin 2023, mae'r adroddiad llawn bellach wedi'i gyhoeddi. Canfu'r arolygiaethau (a oedd yn cynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn) enghreifftiau o arferion cadarnhaol gan gynnwys prosesau rhannu gwybodaeth da rhwng asiantaethau. Fodd bynnag, yn ystod camau olaf y broses amddiffyn plant, gall y prosesau rhannu gwybodaeth fod yn wael sy'n golygu na chaiff gwybodaeth bob amser ei rhannu mewn modd amserol. Yn ychwanegu at y broblem hon mae'r ffaith bod gan asiantaethau systemau gwahanol ar gyfer cofnodi gwybodaeth ac ansefydlogrwydd o ran y gweithlu yn y sectorau sy'n amddiffyn ac yn cefnogi plant a'u teuluoedd.
Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru:
Gosodwyd 3,670 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant yng Nghymru yn ystod 2021/22. Mae sicrhau dull cadarn a chyson o amddiffyn plant yn hanfodol er mwyn cadw plant yn ddiogel.
Mae'r rhai sy'n gysylltiedig â diogelu plant yn gweithio'n eithriadol o galed ac yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch plant. Rhaid canmol eu hymrwymiad. Fodd bynnag, mae'n amhosibl anwybyddu'r heriau sylweddol y maent yn eu hwynebu wrth roi gofal a chymorth i blant yng Nghymru. Mae'r heriau o ran y gweithlu ym mhob rhan o'r system, ochr yn ochr â'r cynnydd yn y galw am ofal a chymorth ac anghenion cynyddol gymhleth plant a'u teuluoedd, yn golygu na fyddant o bosibl bob amser yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt pan fydd arnynt eu hangen fwyaf.
Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at y darn pwysig hwn o waith, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i droi'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad yn realiti.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.
Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant