Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant

Roedd yr adolygiad hwn yn ystyried i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod enwau plant yn cael eu gosod ar y gofrestr amddiffyn plant, ac yn cael eu tynnu oddi arni, yn briodol pan fydd tystiolaeth ddigonol yn nodi ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny.

Cefndir

Ym mis Hydref 2022, cawsom wahoddiad gan Lywodraeth Cymru i arwain adolygiad cyflym amlasiantaethol o'r penderfyniadau a wneir ynghylch amddiffyn plant, mewn ymateb i nifer o farwolaethau trasig ymysg plant ledled Cymru a Lloegr. Gan gydweithio ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn, gwnaethom gyhoeddi'r canfyddiadau cychwynnol ym mis Mehefin 2023.

Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar waith ymchwil ac ymgynghori a oedd yn cynnwys sawl partner ym maes amddiffyn plant. Mae hyn yn cynnwys adborth gan ysgolion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac arolwg a rannwyd â phlant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant neu sydd wedi bod arni, a'u teuluoedd.

Gwnaethom edrych ar y canlynol:

  • a yw plant yn cael yr help a'r amddiffyniad cywir o ganlyniad i gymhwyso'r trothwyon priodol i roi Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar waith, a rhannu gwybodaeth yn effeithiol.
  • a yw plant yn cael eu hamddiffyn drwy drefniadau amlasiantaeth effeithiol.
  • a yw gweithwyr proffesiynol yn sicrhau y caiff profiadau bywyd ac anghenion unigol plant (gan gynnwys anghenion ieithyddol a hawliau i eiriolaeth) eu deall a'u cynnwys wrth wneud penderfyniadau am ddiogelwch.
  • a yw arweinwyr a rheolwyr yn deall profiadau'r plant a'r teuluoedd y mae angen cymorth ac amddiffyniad arnynt.
  • a yw'r broses o wneud penderfyniadau am gofrestru neu ddadgofrestru enwau plant yn glir ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • a yw ymarferwyr yn penderfynu a yw plentyn yn wynebu risg a/neu wedi profi niwed sylweddol ac yn parhau i ganolbwyntio ar asesu a oes unrhyw newidiadau, gan roi cymorth i'r plentyn a'i deulu ar yr un pryd.

Canfyddiadau

Mae’r adroddiad yn adnabod sawl enghraifft o ymarfer ardderchog. Er hynny, mae yna agweddau o ymarfer sydd angen ei wella a bod yn fwy cyson ar draws Cymru. Bu i’r adroddiad ddarganfod:

  • Ar y cyfan, mae angen gwella rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau. Mae diffyg system TG ganolog i rannu gwybodaeth yn gweud hyn yn anoddach fyth.
  • Mae’r gweithlu yn fregus gyda swyddi gwag ar draws ystod eang o asiantaethau sy’n ganolog i amddiffyn plant. Gall hyn arwain at anghysondeb i blant a theuluoedd wrth iddynt brofi amryw newidiadau mewn gweithwyr cymdeithasol. Hyn er gwaethaf nifer o ymdrechion yn lleol ac yn genedlaethol i ymateb i’r diffyg gweithlu.
  • Mae llais y plentyn yn ganolog i wneud penderfyniadau ynglŷn â diogelu a dylid sicrhau ei fod yn cael ei glywed yn gyson ar draws Cymru wrth wneud penderfyniadau o’r fath.
  • Mae angen hyfforddiant amlasiantaeth rheolaidd ar draws Cymru i sicrhau ymagwedd cyson a gweledigaeth ar y cyd ar weithdrefnau diogelu a throthwyon o ba bryd mae plant yn profi niwed sylweddol.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol ac argymhellion isod.