Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 27 Tachwedd 2024
  • Newyddion

Newidiadau i'n proses ar gyfer arolygu awdurdodau lleol

Mae'r newidiadau hyn wedi cael eu hadlewyrchu yn ein cod ymarfer wedi'i ddiweddaru ar gyfer arolygu awdurdodau lleol.

Fel rhan o'n gwaith i foderneiddio a gwella ein prosesau yn barhaus, byddwn yn atgyfnerthu ein dull lle bydd angen i adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol wella'n sylweddol.

Yn y dyfodol, os byddwn yn penderfynu bod adran gwasanaethau cymdeithasol yn ‘wasanaeth y mae angen ei wella'n sylweddol’, byddwn yn hysbysu'r awdurdod lleol ac yn cyhoeddi llythyr yn seiliedig ar hyn.

Mae hyn yn adeiladu ar ein gwaith presennol i fonitro a gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol pan fydd angen gwneud gwelliannau sylweddol.

Rydym hefyd yn symud o'r cylch o gynnal arolygiadau gwerthuso perfformiad bob pum mlynedd. Yn hytrach, byddwn yn parhau i fonitro ac arolygu gan ddefnyddio amrywiaeth ehangach o adnoddau i adolygu perfformiad. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni wrth i ni barhau i weithio mewn partneriaeth ag eraill.

Rydym yn addasu ein rhaglen arolygu i roi pwyslais ar adolygiadau thematig cenedlaethol, gan hyrwyddo dysgu ar y cyd ar draws y sector. Gall hyn gynnwys pynciau fel gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol, arferion comisiynu a diogelu yn y dyfodol. Felly, byddwn yn gweithio'n agosach gyda phartneriaid ac arolygiaethau eraill ar y gwaith hwn.

Mae ein cod ymarfer ar gyfer arolygu awdurdodau lleol wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r newidiadau hyn.