Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 19 Chwefror 2026
  • Newyddion

Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant: diweddariad ar gynnydd

Rydym wedi cyhoeddi datganiad dilynol ar y cynnydd a wnaed ers cyhoeddi'r Adolygiad Cyflym o Drefniadau Amddiffyn Plant ym mis Medi 2023.

Archwiliodd yr adolygiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022, benderfyniadau yn ymwneud ag amddiffyn plant ledled Cymru yn dilyn nifer o farwolaethau trasig ymhlith plant yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod enwau plant yn cael eu hychwanegu at y gofrestr amddiffyn plant, a'u tynnu oddi arni, dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Yn y datganiad hwn, rydym yn cydnabod yr ymdrechion sylweddol a wnaed gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a gwasanaethau addysg wrth roi argymhellion yr adolygiad ar waith. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gynnydd amlwg o ran cydweithio amlasiantaethol, safoni trothwyon ac ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ledled Cymru.

Mae datblygiadau allweddol yn cynnwys sefydlu dangosfyrddau perfformiad a systemau olrhain cenedlaethol, mentrau hyfforddiant amlasiantaethol a dulliau llywodraethu a sicrhau cryfach. Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol wedi datblygu cynlluniau gwella manwl ac yn cynnal hunanasesiadau er mwyn cynnal ffocws a mesur cynnydd.

Mae'r datganiad hefyd yn cydnabod bod heriau o hyd o ran sicrhau cysondeb, prosesau rhannu data cadarn, a mynd i'r afael â phwysau'r gweithlu. Bydd cydgysylltu cenedlaethol parhaus, gweithio mewn partneriaeth, a chymorth wedi'i dargedu yn hanfodol i gynnal momentwm.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi gweithio'n agos gydag Estyn ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i fonitro ac adolygu gwelliannau drwy adolygiadau strwythuredig o dystiolaeth, cyfarfodydd ar y cyd, a thrafodaethau bord gron â phartneriaid diogelu.