Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu i gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS)

Mae cwblhau'r SASS yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth gan ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn 15 Mawrth 2024. Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth. Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, bydd angen i chi weithredu ar unwaith. 

  • ewch i AGC Ar-lein (Dolen allanol)
  • neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae a wnaeth gofrestru â ni cyn 31 Rhagfyr 2023. Ni fydd angen i ddarparwyr a wnaeth gofrestru â ni ar ôl 31 Rhagfyr 2023 gwblhau’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth eleni.

Help i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth

Mae cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn broses gyflym a hawdd drwy eich cyfrif AGC Ar-lein. Rydym wedi llunio fideo ‘sut i’ a llyfryn canllaw i esbonio sut i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth

Sut i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2024

  1. Ar ACG ar-lein (Dolen allanol), Cliciwch 'mewngofnodi'. Nodwch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair i ddefnyddio eich cyfrif ar-lein
  2. Clicwch 'Agor SASS'.
  3. Cliciwch 'Golygu' yn y blwch ‘SASS Ionawr 24‘.
    Nodyn: OS YDYCH YN DDARPARWR UNIGOL, NI FYDDWCH YN GWELD PROFFIL Y SEFYDLIAD
  4. Bydd y rhan fwyaf o'r adran hon wedi'i llenwi ymlaen llaw ar eich cyfer ond gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth yn gywir
    Ewch drwy bob cwestiwn yn ofalus.
  5. Os yw'r ateb de-gliciwch y tic.
  6. Os NAC yw'r ateb, cliciwch ar y groes. Pan fyddwch yn clicio gofynnir i chi ddiweddaru eich manylion
  7. Os byddwch yn fodlon ar bob ateb, Cliciwch 'Cadw'r Adran'.
  8. Bydd pob gwasanaeth sydd wedi'i gynnwys ar eich ffurflen Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth wedi'i restru yma.
    Rhaid i chi gwblhau'r wybodaeth am bob gwasanaeth cyn y gellir cyflwyno'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.. Cliciwch 'Golygu' er mwyn dechrau arni. 
    Mae pob gwasanaeth wedi'i rannu'n bedair adran:
    • Proffil y gwasanaeth
    • Cyllid y gwasanaeth
    • Darpariaeth y gwasanaeth
    • Rhedeg eich gwasanaeth 
  9. Cliciwch ar y symbol plws i weld a chwblhau pob adran. Pan fyddwch chi'n clicio ar y groes, fe'ch anogir i ddiweddaru'ch manylion.
  10. Unwaith y byddwch yn fodlon ar bob un o'ch atebion, cliciwch 'Cadw'r Adran'.
  11. Cliciwch 'Datgan a chyflwyno'.
  12. Gallwch lawrlwytho copi PDF o'ch SASS cyn i chi ei gyflwyno. Cliciwch 'Lawrlwytho copi o'r SASS'.
  13. Gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon ar y wybodaeth a ddarperir yn ein hysbysiad preifatrwydd a'ch bod yn fodlon parhau
  14. Rhowch dic yn y blwch 'ardystio' i gadarnhau bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gywir. Cliciwch 'cyflwyno'

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau eich bod wedi cwblhau eich SASS. Cofiwch gadw'r e-bost rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â ni am eich SASS.