Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Bethan Louise Kay

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Bethan Louise Kay ydw i. Rwy'n weithiwr proffesiynol ar lefel strategol yn sector y Blynyddoedd Cynnar. Mae gen i frwdfrydedd a chariad mawr tuag at fy nheulu, y Gymraeg, a'n hymdrech barhaus i sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn darparu dyfodol mwy disglair i blant a phobl ifanc yr oes sydd ohoni.

Beth ydw i'n ei wneud?

Fi yw Swyddog Strategaeth a Chynllunio Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar a gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ledled Cymru o ansawdd uchel a'u bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Rwyf wedi gweithio yn sector y Blynyddoedd Cynnar ar lefel weithredol ac ar lefel strategol ers graddio o'r brifysgol yn 2012.

Beth sy'n bwysig i fi

Cael llwyfan i ddylanwadu ar y broses o ddarparu ac adolygu gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar a gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ac i gefnogi'r broses honno, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob aelod o'r gymuned, nawr ac yn y dyfodol.