Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Carole Jones

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Carole Jones ydw i. Rwy'n aelod gweithgar o'r gymuned o ran mynediad, hawliau i bobl anabl ac iechyd meddwl.

Carole Jones

Beth ydw i'n ei wneud?

Rwy'n Ddadansoddwr Trafodol Ardystiedig ac yn Gynghorydd Cymuned ar hyn o bryd.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Mae gen i brofiad proffesiynol a phrofiad bywyd fel rhiant-ofalwr a pherson anabl. Cefais brofiad yn y gorffennol fel gweithiwr cymdeithasol gofal dydd a gofal preswyl. Mae gen i brofiad o sawl gwahanol ddull gweithredu mewn perthynas â gofal yn y DU ac yn yr Iseldiroedd, a hynny fel gweithiwr proffesiynol ac fel defnyddiwr gwasanaethau.

Beth sy'n bwysig i fi

Rwy'n awyddus i wella ansawdd gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru. Rwy'n awyddus i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i wneud newid cadarnhaol gan anelu at degwch i bobl anabl.