Cartref Gofal Heddfan
Trawsnewid profedigaeth i ddathliadau ystyrlon.

Cefndir
Mae Cartref Gofal Heddfan yn Sir Benfro yn gofalu am bum unigolyn fel rhan o Ymddiriedolaeth Carningli, sy'n 40 oed. Pan fu farw un o'i breswylwyr a fu'n byw yn y cartref am y cyfnod hiraf, trawsnewidiodd y cartref drawma posibl yn brofiad dysgu am alaru a chofio.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Yn hytrach na gwarchod y preswylwyr rhag marwolaeth, aeth y cartref ati i'w cynnwys ym mhob agwedd ar y daith.
Bu modd i'r preswylwyr ymweld â'u ffrind yn yr ysbyty a mynd i'r angladd. Gwnaethant helpu i drefnu'r gwasanaeth drwy ddewis ffotograffau, cerddoriaeth ac eitemau personol.
Trefnodd y staff i'r trefnwyr angladdau ateb cwestiynau a dangos y trefniadau i'r preswylwyr.
Creodd y cartref ardd goffa, ac aeth y preswylwyr ati i droi cwch yn wely blodau a gosod mainc goffa.
Drwy gydol y broses, anogodd y staff y preswylwyr i barhau i siarad am fywyd ei ffrind a'i ddathlu, gan sicrhau bod ei atgof yn parhau i fod wrth wraidd y gymuned.
Effaith …
- Gwnaeth y preswylwyr feithrin dealltwriaeth werthfawr o brosesau diwedd oes ar gyfer profedigaethau yn y dyfodol
- Atgyfnerthodd y dull gweithredu gysylltiadau cymunedol wrth i'r preswylwyr a'u teuluoedd rannu atgofion a chefnogi ei gilydd
- Lluniodd y cartref gofal dempled ymarferol i'r staff ei ddefnyddio ar gyfer profedigaethau yn y dyfodol
- Teimlai teuluoedd yn llai pryderus am ofal diwedd oes, ar ôl gweld ymagwedd sensitif a chynhwysol y cartref
Dyfyniad
“Mae ein preswylwyr bellach wedi cael profiad o ddathlu bywyd a all eu helpu i ddeall a chymryd mwy o ran mewn unrhyw benderfyniadau a wneir am eu dathliad personol eu hunain”
Dogfennau
-
Cartref Gofal Heddfan ymarfer gwerth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBPDF, Maint y ffeil:2 MB