Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu Gwasanaethau Gwarchod Plant, Gwasanaethau Gofal Dydd a Gwasanaethau Chwarae Mynediad Agored

Mae’r Cod Ymarfer hwn yn disgrifio ein dull o arolygu’r gwasanaethau hynny a reoleiddir o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Cyhoeddwyd: 6 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

1. Cyflwyniad

Amdanom ni 

1.1. Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. 

1.2. Ein nod yw: 

  • rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac ymhle a phryd mae ar gael 
  • diogelu oedolion a phlant, gan sicrhau bod eu hawliau'n cael eu hamddiffyn 
  • gwella gofal drwy annog a hybu gwelliannau o ran diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol 
  • cyfrannu at bolisi a safonau, a darparu cyngor proffesiynol annibynnol i'r bobl sy'n datblygu polisi, y cyhoedd a'r sector gofal cymdeithasol. 

1.3. Rydym yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol: 

  • cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru 
  • penderfynu pwy sy'n gallu darparu gwasanaethau 
  • arolygu a llywio gwelliannau mewn gwasanaethau rheoleiddiedig a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol 
  • cynnal adolygiadau thematig o wasanaethau gofal cymdeithasol 
  • cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion deddfwriaethol a rheoliadol; 
  • ymchwilio i bryderon a godir ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig. 

1.4. Rydym yn cyflawni ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru o dan y ddeddfwriaeth ganlynol: 

1.5. Rydym yn benodol yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae o dan y ddeddfwriaeth ganlynol: 

  • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 
  • Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 
  • Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 
  • Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 
  • Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010 
  • Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 
  • Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 
  • Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) a (Diwygiad Canlyniadol) 2011 
  • Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 

1.6. Rydym yn disgwyl i bob gwasanaeth gofal plant a chwarae gydymffurfio â'r rheoliadau a chyrraedd y safonau gofynnol cenedlaethol perthnasol (Dolen allanol). 

1.7. Rydym hefyd yn ystyried canllawiau ar gyfer awdurdodau penodedig yng Nghymru a Lloegr ar ddyletswydd ysgolion a darparwyr eraill, o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, i roi ystyriaeth briodol i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth. 

Sut rydym yn rheoleiddio 

1.8. Ein prif nod yw sicrhau y caiff plant sy'n defnyddio gwasanaethau gymorth i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl, ac na chânt eu rhoi mewn perygl ac na fyddant yn cael niwed. Er mwyn cyflawni hyn: 

  • mae gennym broses gofrestru gadarn, er mwyn sicrhau mai dim ond darparwyr sydd wedi rhoi sicrwydd i ni y byddant yn cydymffurfio â rheoliadau a gaiff eu cofrestru gennym; 
  • rydym yn cynnal arolygiadau cyffredinol ac arolygiadau ymatebol; 
  • mae gennym lwybr gorfodi clir a chymesur sy'n dilyn camau penodol.

2. Y Cod Ymarfer

Diben y Cod Ymarfer

2.1. Mae'r Cod Ymarfer hwn (y Cod) yn disgrifio ein dull gweithredu mewn perthynas ag arolygu'r gwasanaethau hynny a gaiff eu rheoleiddio o dan Fesur 2010, gan gynnwys amlder arolygu'r gwasanaethau hyn. Mae hefyd yn nodi'r egwyddorion sy'n tywys ein gwaith arolygu. Mae'n ofynnol i arolygwyr ystyried y canllawiau yn y Cod a gallu egluro sut maent wedi ei ystyried wrth gynnal arolygiad.

2.2. Mae'r Cod yn rhoi gwybodaeth i bawb am y ffordd y caiff gwasanaethau gofal plant a chwarae eu harolygu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau gofal plant a chwarae ac aelodau o'r cyhoedd. 

Sut rydym yn rheoleiddio

2.3. Dim ond i'r gwasanaethau hynny a gaiff eu rheoleiddio o dan Fesur 2010 y mae'r Cod Ymarfer yn berthnasol, sef: 

  • gwarchod plant 
  • gofal dydd: 
    • gofal dydd llawn, megis meithrinfeydd dydd, canolfannau plant, darpariaeth cyn ysgol ac ar ôl ysgol 
    • gofal dydd sesiynol, megis cylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin, gofal cofleidiol 
    • gofal plant y tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys gofal a ddarperir cyn ysgol, ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol 
    • crèches 
    • chwarae mynediad agored

3. Dull arolygu sy'n seiliedig ar hawliau

3.1. Rydym yn sicrhau bod hawliau plant wrth wraidd ein gwaith. Mae hyn yn golygu ein bod yn sicrhau bod ymdrechion i ddangos parch, croesawu amrywiaeth, hybu cydraddoldeb a chynnal hawliau plant i'w gweld ym mhob peth a wnawn. Caiff Deddf Hawliau Dynol 1998 (Dolen allanol), Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dolen allanol), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) (Dolen allanol), 'Cynllun Hawliau Plant' Llywodraeth Cymru sy'n rhan o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2010, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau eu hadlewyrchu yn ein fframweithiau ar gyfer arolygu. Rydym yn ystyried sut mae darparwyr yn hybu hawliau plant drwy ddarganfod sut y maent yn sicrhau'r canlynol: 

  • bod gan bobl lais; 
  • bod pobl yn ddiogel; 
  • y caiff plant eu meithrin; 
  • bod pobl yn cael eu trin â pharch; 
  • bod pobl yn cael cymorth i ddatblygu i'w llawn botensial. 

3.2. Ceir rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i hybu a chynnal hawliau plant sy’n defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae yn ein dogfen ganllaw Hawliau Dynol. 

3.3. Rydym yn ystyried yr holl fframweithiau statudol a pholisïau a gweithdrefnau diogelu perthnasol wrth ystyried p'un a yw'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn ddiogel. Os byddwn yn dod o hyd i arferion gofal yn ystod y broses arolygu sy'n golygu bod plant yn anniogel neu mewn perygl o niwed, yna byddwn yn cymryd camau gorfodi ac yn atgyfeirio'r achos fel achos diogelu at yr awdurdod lleol. Byddwn yn sicrhau y caiff mesurau eu rhoi ar waith i ddiogelu plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth. 

3.4. Pan na fydd digon o alluedd gan blant, byddwn yn ystyried i ba raddau y mae darparwyr yn cydymffurfio ag egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Dolen allanol) a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (Dolen allanol). 

3.5. Mae Safonau'r Gymraeg (Dolen allanol) yn ein helpu ymhellach i ddilyn dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau. Rydym yn defnyddio egwyddorion y Safonau yn ystod ein harolygiadau, sy'n ein helpu i sicrhau bod gan blant yr hawl i ddefnyddio gwasanaeth yn Gymraeg os byddant yn dymuno gwneud hynny. Mae'r Safonau yn helpu plant sy'n siarad Cymraeg i gael gwasanaethau yn Gymraeg, pan fo angen, heb iddynt hwy neu eu rhieni orfod gofyn amdanynt. Gallai rhai enghreifftiau gynnwys y canlynol: 

  • staff sy'n siarad Cymraeg yn helpu plant sy'n siarad Cymraeg; 
  • arwyddion Cymraeg er mwyn helpu i gyfeirio siaradwyr Cymraeg; neu 
  • ddarparu gwybodaeth am y gwasanaeth yn Gymraeg i'r rheini sydd am ei chael. 

Ochr yn ochr ag adolygu sut mae darparwyr yn rhoi Safonau'r Gymraeg ar waith, rydym yn gweithredu cynnig rhagweithiol, sy'n cynnwys darparu arolygwyr Cymraeg eu hiaith i ddarparwyr lle y Gymraeg yw'r prif ddewis o ran iaith.

4. Y broses arolygu

Pam ein bod yn arolygu 

4.1. Mae arolygu yn un o weithgareddau craidd AGC ac mae'n helpu i sicrhau bod plant sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae yn ddiogel, bod eu llesiant yn cael ei hybu a bod eu hawliau'n cael eu cynnal. Fel y cyfryw, rydym yn llywio gwelliant parhaus yn y sector gofal cymdeithasol ac yn cadarnhau bod darparwyr yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. 

Egwyddorion arolygu 

4.2. Caiff gwaith arolygu ei lywio gan yr egwyddorion canlynol. 

  • Canolbwyntio ar y plentyn – mae arolygwyr yn sicrhau bod y plant sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig wrth wraidd eu gwaith, ac yn asesu gwasanaethau gan ystyried y canlyniadau o ran diogelwch, llesiant a hawliau'r plant. 
  • Cefnogi gwelliant – mae arolygwyr yn llunio barn am wasanaethau. Rydym yn canmol arfer da, yn nodi arfer gwael ac yn annog gwelliant mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae. 
  • Bod yn dryloyw – mae arolygwyr yn agored am y wybodaeth a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu harolygiadau, mae adroddiadau yn glir ac yn hysbysu pobl am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl gan wasanaethau. 
  • Bod yn deg ac yn ddiduedd – mae arolygwyr yn seilio eu harolygiadau ar dystiolaeth; mae hyn yn cynnwys arsylwadau, siarad â phobl a gwybodaeth rydym yn ei darllen. Rydym yn rhoi adborth prydlon i'r darparwr ar ein canfyddiadau, gan gynnwys cryfderau a meysydd y mae angen eu gwella. Rydym yn rhoi'r cyfle i'r darparwr ymdrin ag unrhyw bryderon, darparu rhagor o wybodaeth a chwestiynu unrhyw faterion nad ydynt yn gywir. 
  • Bod yn gadarn – mae arolygwyr yn cymryd camau gweithredu cadarn ac amserol pan fydd gwasanaethau yn darparu gofal gwael neu'n rhoi plant mewn perygl. 
  • Bod yn gymesur – mae arolygwyr yn canolbwyntio ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ddiogelwch, llesiant a hawliau plant. Rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi pan fyddwn yn gweld bod gwasanaethau gofal plant a chwarae yn methu yn y meysydd hyn. 
  • Bod yn gyson – mae arolygwyr yn rhoi'r un egwyddorion ar waith ac yn defnyddio'r un dull gweithredu ar gyfer pob darparwr rydym yn ei arolygu.

Sut rydym yn arolygu 

4.3. Mae arolygiadau yn cynnwys pedwar cam allweddol, sef: 

  • cynllunio/paratoi'r arolygiad; 
  • yr ymweliad arolygu; 
  • adborth;
  • adrodd. 

4.4. Mae gennym gryn dipyn o wybodaeth am ddarparwyr drwy ein prosesau cofrestru ac arolygu, ac rydym hefyd yn cael gwybodaeth o ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu pa fath o arolygiad sydd ei angen ar gyfer darparwr penodol a pha mor aml y mae angen ei arolygu. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio a llywio ffocws ein hymweliad â'r darparwr ac unrhyw fesurau penodol y mae angen i ni eu hystyried wrth ymgysylltu â'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu'r staff. Er enghraifft, pan fydd gan blant anghenion cyfathrebu, gall yr arolygydd ystyried sut y bydd yn ymgysylltu â'r plant hyn a chynllunio ar gyfer hynny yn unol â'n hegwyddorion arolygu. 

4.5. Yn ystod ymweliad arolygu, bydd arolygwyr yn chwilio am dri math eang o dystiolaeth. 

  • Yr hyn a ddywedir – mae arolygwyr yn ymgysylltu â'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaethau ac yn gwrando arnynt, ynghyd â'u rhieni / gofalwyr a'u ffrindiau, ac yn trafod eu profiad gofal gyda nhw. Rydym hefyd yn siarad â'r darparwr, gweithwyr proffesiynol perthnasol a staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth. Lle na all plant gyfathrebu'n uniongyrchol â ni, mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio adnodd arolygu arbenigol (SOFI), lle y bo'n briodol gwneud hynny, i arsylwi ar y ffordd y caiff y plant eu cefnogi ac i ddod i gasgliadau. 
  • Yr hyn a welir – mae arolygwyr yn arsylwi ar y rhyngweithio rhwng y bobl sy'n rhoi gofal a'r bobl sy'n derbyn gofal yn ystod yr ymweliad. Rydym hefyd yn arsylwi ar yr amgylchedd ffisegol lle y darperir y gofal plant a'r gweithgareddau chwarae, ac yn asesu i ba raddau y mae'n ddiogel ac yn addas at y diben y'i bwriadwyd. 
  • Yr hyn a ddarllenir – mae arolygwyr yn edrych ar gofnodion ysgrifenedig, dogfennau polisi a deunyddiau eraill yn ystod yr ymweliad, gan geisio cadarnhau eu bod yn gynhwysfawr ac yn gyfredol, a'u bod yn dangos sut y caiff prosesau addas eu rhoi ar waith.

4.6. Mae arolygwyr yn gwneud nodiadau yn ystod yr arolygiad, sy'n llywio ein hadroddiadau arolygu. Mae'n bosibl y byddant yn gofyn am gopïau o ddogfennau, yn gofyn i wybodaeth gael ei hanfon atynt ac yn mynd â chofnodion gyda nhw lle y bo angen. Pan fyddwn yn mynd â chopïau gwreiddiol o gofnodion gofal unigol gyda ni a bod angen y wybodaeth o hyd er mwyn i'r staff wybod sut i gefnogi'r plant, rhoddir copïau o'r wybodaeth i'r darparwr er mwyn sicrhau parhad a diogelwch.

4.7. Os cynhelir yr ymweliad arolygu o ganlyniad i gymryd camau gorfodi a bod angen i'r arolygydd atafaelu gwybodaeth o dan Fesur 2010 (Dolen allanol), byddwn yn hysbysu'r darparwr am hyn a'i oblygiadau. Pan fydd arolygydd yn atafaelu tystiolaeth ac yn mynd â hi, bydd yn gwneud hynny gan ystyried Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.

4.8. Ar ôl yr ymweliad arolygu, rhoddir adborth i'r darparwr a fydd yn cynnig y cyfle iddo herio ein canfyddiadau a chyflwyno tystiolaeth ychwanegol i ategu'r her honno.

4.9. Yn dilyn hynny, caiff canfyddiadau'r arolygydd, y dystiolaeth ategol a'r casgliadau eu datblygu i lunio adroddiad arolygu. Mae ein harolygwyr yn defnyddio ein fframweithiau arolygu i lunio barn am eu canfyddiadau a'u cofnodi yn naratif eu hadroddiad o dan bob thema, gan ddefnyddio iaith ansoddol. Bydd yr arolygydd hefyd yn rhoi gradd yn erbyn pob thema. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi unwaith y bydd y darparwr wedi cael y cyfle i gyflwyno sylwadau.

Sut y caiff gwybodaeth ei hystyried drwy gydol y broses arolygu

4.10. Mae'r canlynol yn dangos pa wybodaeth a ddefnyddir drwy gydol y broses arolygu a beth rydym yn gwneud â'r wybodaeth honno:

  1.  
    1. Gwybodaeth Darparwr Gwasanaethau
      • Gwybodaeth wedi’i chyflwyno ar y cam cofrestru
      • Datganiad o Ddiben
      • Ffurflenni blynyddol
      • Adroddiad blynyddol ar ansawdd y gofal
      • Hysbysiadau sy'n hysbysu AGC am y gwasanaeth
    2. Gwybodaeth arall a ddelir gan AGC
      • Adroddiadau cofrestru
      • Adroddiadau arolygu blaenorol
      • Gwybodaeth sydd gennym o dan ein proses orfodi.
      • Gwybodaeth sydd gennym am wasanaethau eraill y mae'r darparwr yn eu gweithredu.
      • Pryderon, hysbysiadau, ac atgyfeiriadau diogelu
    3. Gwybodaeth a ddarperir gan eraill
      • Pryderon neu wybodaeth gan berthnasau, aelodau staff, gweithwyr proffesiynol, rheolyddion eraill neu Aelodau'r cyhoedd
      • Atgyfeiriadau diogelu awdurdodau lleol
        • Pan fydd gwybodaeth yn dod i law sy’n ymwneud â materion y tu hwnt i gwmpas swyddogaethau AGC, rhoddir y wybodaeth honno i gorff mwy addas.
           
  2. Paratoi a chynllunio Arolygiadau
    Caiff gwybodaeth ei chasglu a'i hystyried i bennu’r math o arolygiad a pha mor ami y dylid ei gynnal; a nodi'r themâu y dylid canolbwyntio arnynt.
  3. Ymweliad arolygu
    Cofnodwch yr hyn a welsom, yr hyn a ddywedwyd wrthym a'r hyn a ddarllenasom. Rhoddir adborth i'r darparwr y gwasanaeth.
    1. Os gwelir bod diffygion, gallai hyn arwain at y canlynol:
      • Argymhellion ar gyfer gwella
      • Cyhoeddi hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio
      • Camau gorfodi eraill fel hysbysiadau gwella a chosb
      • Dilyniant/arolygiad
    2. Diogelu
      Os gwelwn neu os rhoddir gwybod i ni am bryderon diogelu yn ystod yr arolygiad, byddwn yn sôn am hyn y darparwr cyn gynted â phosibl er mwyn iddo gymryd camau gwiethredu . Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i ni wneud atgyfeiriadau at asiantaethau eraill fel rhan o'n dyletswydd statudol i ddiogelu pobl.
  4. Adroddiad arolwg
    Caiff canfyddiadau'r arolygiad eu cyhoeddi

Pryd y caiff gwasanaethau eu harolygu? 

4.11. Mae Mesur 2010 yn caniatáu i ni arolygu gwasanaethau rheoleiddiedig ar unrhyw amser ac ar unrhyw ddiwrnod. Nodir amlder yr arolygiadau ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau yn adran 6. 

4.12. Ac eithrio arolygiadau ar y cyd a drefnir gydag Estyn (gweler paragraff 5.8), mae pob arolygiad a gynhelir gennym yn arolygiad dirybudd. Fodd bynnag, ar gyfer rhai darparwyr, mae'n bosibl y byddwn yn rhoi cyfnod rhybudd byr lle y bo'n briodol gwneud hynny, er enghraifft, ar gyfer gwasanaethau gwarchod plant a chwarae mynediad agored, byddwn fel arfer yn cysylltu â'r darparwr yn ystod yr wythnos cyn rydym yn bwriadu cynnal arolygiad er mwyn cadarnhau'r amseroedd gweithredu a sicrhau bod y gwarchodwr plant ar gael. 

Ffocws arolygiadau 

4.13. Er mwyn deall profiadau gofal plant, mae ffocws ein harolygiadau ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau a'r canlyniadau ar gyfer y plant sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Felly, rydym yn ystyried y themâu canlynol yn ystod arolygiadau:-

  • Llesiant: llesiant y plant sy'n cael gofal. 
    Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y mae canlyniadau yn cael eu cyflawni.
  • Gofal a datblygiad: ansawdd y gofal plant a'r cyfleoedd chwarae y mae'r staff yn eu darparu. 
    Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y mae'r plant yn derbyn gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu arfer gorau, sydd wedi'i ddarparu gan aelodau o staff sy'n meddu ar wybodaeth a sgiliau priodol ac sy'n helpu'r plant i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl
  • Yr amgylchedd: y lleoliad ffisegol lle y darperir y gofal plant a'r gweithgareddau chwarae. 
    Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y caiff y canlyniadau i'r plant eu cefnogi gan amgylchedd sy'n ddiogel, yn lân, yn hygyrch, yn gyfforddus, yn groesawgar, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, yn ysgogol ac yn cynnwys cyfarpar a dodrefn addas.
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth: trefniadau'r sefydliad ar gyfer darparu gofal plant a gweithgareddau chwarae. 
    Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y mae trefniadau'r sefydliad yn rhoi sicrwydd y caiff gwasanaethau o ansawdd uchel eu darparu, gan staff sydd wedi'u cymell o fewn gwasanaeth a gaiff ei arwain a'i reoli'n dda.

4.14. Bydd nifer y themâu a ystyrir yn dibynnu ar y math o arolygiad a gynhelir, fel y disgrifir yn adran 5. Er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson mewn perthynas â'r broses arolygu, rydym wedi datblygu fframweithiau arolygu ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac ar nodweddion arfer da.

4.15. Mae ein fframweithiau arolygu ar gael yn yr adran 'darparu gwasanaeth gofal' ar ein gwefan

Safonau bwyd 

4.16. Bydd pob arolygiad llawn a drefnir gennym yn ystyried, lle y bo'n berthnasol, y sgôr hylendid bwyd a ddyfarnwyd i'r darparwr gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Dolen allanol). Yn ogystal, bydd arolygwyr yn ystyried p'un a yw darparwr yn cydymffurfio â'r safonau a'r canllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant (Dolen allanol). 

Graddau 

4.17. Cyflwynwyd graddau gennym ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig yn 2016. Nid ydym yn dyfarnu gradd gyffredinol i'r darparwr ond rydym yn dyfarnu graddau yn erbyn pob un o'r pedair thema arolygu gan ddefnyddio graddfa pedwar pwynt.

  • Rhagorol  
    Dyma wasanaethau sy'n ymrwymedig i welliant parhaus ac sydd â llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o ymarfer ac arloesi sy'n arwain y sector. Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel a gallant ddangos eu bod yn gwneud cyfraniad cadarn tuag at wella llesiant plant.
  • Da
    Dyma wasanaethau sydd â chryfderau a heb unrhyw feysydd pwysig sydd angen eu gwella'n sylweddol. Maent yn rhagori ar y gofynion sylfaenol yn gyson, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a hybu eu llesiant yn rhagweithiol.
  • Digonol
    Dyma wasanaethau lle mae mwy o gryfderau na meysydd i'w gwella. Maent yn ddiogel ac yn bodloni'r gofynion sylfaenol ond mae angen gwelliannau er mwyn hybu llesiant a gwella canlyniadau i blant.
  • Gwael
    Dyma wasanaethau lle mae mwy o feysydd pwysig i'w gwella na chryfderau ac mae enghreifftiau arwyddocaol o ddiffyg cydymffurfio sy'n effeithio'n negyddol ar lesiant plant. Lle mae gwasanaethau'n wael, byddwn yn cymryd camau gorfodi ac yn cyflwyno hysbysiad diffyg cydymffurfio.

5. Mathau o arolygiadau

5.1. Rhaid i bob darparwr gofrestru unrhyw wasanaeth(au) a ddarperir ganddo yng Nghymru a gaiff ei reoleiddio (eu rheoleiddio) o dan Fesur 2010. O ganlyniad, gallwn gynnal arolygiadau o'r gwasanaeth sy'n berthnasol i'r cofrestriad hwnnw. Mae'r canlynol yn nodi'r gwahanol fathau o arolygiadau. 

Arolygiad llawn 

5.2. Mae arolygiadau llawn yn ystyried y pedair thema yn fanwl. 

5.3. Cynhelir yr arolygiad llawn cyntaf tua chwe mis ar ôl i ddarparwr gofrestru neu ddechrau darparu'r gwasanaeth. 

5.4. Mae arolygiad llawn yn cynnig cyfle i arolygwyr gadarnhau bod darparwyr yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a rheoliadol, a'u bod yn bodloni amodau eu cofrestriad. Ar ôl yr arolygiad llawn cyntaf, bydd y gwasanaeth yn cael arolygiadau llawn pellach yn unol â'r amlder a nodir yn adran 6. 

Arolygiad â phwyslais penodol 

5.5. Fel arfer, cynhelir arolygiadau â phwyslais penodol mewn ymateb i bryder penodol, neu er mwyn olrhain achosion o dorri rheoliadau neu broblemau eraill a nodwyd yn ystod arolygiad blaenorol. Yn gyffredinol, mae arolygiadau â phwyslais penodol yn fyrrach nag arolygiadau llawn, ac ni chaiff y pedair thema o reidrwydd eu hystyried. Fodd bynnag, bydd arolygiad â phwyslais penodol bob amser yn ystyried thema 'llesiant'. 

5.6. Lle bydd yr arolygiad dilynol yn ymwneud ag achos o dorri rheoliadau a nodwyd yn flaenorol, fel arfer cynhelir yr arolygiad dilynol o fewn 6 mis o'r arolygiad blaenorol hwnnw. Fodd bynnag, bydd amseriad yr arolygiad hwnnw yn seiliedig ar farn yr arolygydd wrth ystyried difrifoldeb yr achos o dorri rheoliadau a'r amser sydd ei angen ar y darparwr i ymdrin â'r mater(ion). 

Arolygiadau thematig 

5.7. Mae arolygiadau thematig yn canolbwyntio ar feysydd ymarfer penodol ym mhob rhan o'r sector gofal plant a chwarae. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol, neu ansawdd gweithgareddau chwarae. Maent yn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth o arferion gofal plant a chwarae penodol ledled Cymru, i gyflwyno adroddiadau arnynt ac i wneud argymhellion cysylltiedig. 

Arolygiadau ar y cyd ag Estyn 

5.8. Rydym hefyd yn cynnal arolygiadau ar y cyd ag Estyn, yr arolygiaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Bydd yr arolygiadau hyn yn ystyried y gofal a'r addysg a ddarperir mewn lleoliadau rheoleiddiedig nad ydynt yn ysgolion sy'n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg ran-amser. Bydd arolygiadau ar y cyd yn cynnwys arolygiad o'r gofal a ddarperir i bob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair blwydd oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliad a gynhelir. 

5.9. Datblygwyd llawlyfr ar wahân yn nodi sut y caiff y lleoliadau hyn eu harolygu ar y cyd. 

Hyd arolygiadau 

5.10. Bydd y math o ddarpariaeth a maint y ddarpariaeth ac ystod oedran y plant sy'n derbyn gofal yn dylanwadu ar hyd yr arolygiad a nifer yr arolygwyr a fydd yn bresennol. Fel arfer, un arolygydd fydd yn cynnal arolygiadau, yn enwedig ar gyfer gwarchodwyr plant.

6. Trefnu arolygiadau

6.1. Pan fydd darparwr wedi cofrestru gyda ni, byddwn yn sicrhau y caiff y cofrestriad ei fonitro drwy raglen dreigl o arolygiadau wedi'u trefnu. Caiff gwybodaeth a dderbynnir rhwng arolygiadau wedi'u trefnu hefyd ei monitro. Mae'r wybodaeth a gesglir drwy'r broses fonitro hon yn rhoi gwybod i ni pa mor dda y mae'r gwasanaeth yn perfformio a phryd y dylid trefnu arolygiad dilynol. 

6.2. Mae ein dull o benderfynu pryd y dylid trefnu arolygiad yn seiliedig ar y canlynol: 

  • ystyriaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r math hwnnw o wasanaeth 
  • gwybodaeth am sut y mae'r gwasanaeth penodol hwnnw yn gweithredu. 

6.3. Rydym yn defnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn blaenoriaethu risgiau a gwneud penderfyniadau o ran sut y byddwn yn rheoleiddio gwasanaethau. Caiff amrywiaeth o ffactorau eu hystyried er mwyn llywio ein gwaith o drefnu arolygiadau, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: 

  • pryderon ac atgyfeiriadau diogelu a ddaw i law – gall y rhain fod yn arwydd bod perygl i blant sy'n defnyddio'r gwasanaeth; 
  • os yw'r gwasanaeth yn wasanaeth sydd newydd ei gofrestru – gall rhai gwasanaethau sydd newydd eu sefydlu beri mwy o berygl yn ystod y cyfnod sefydlu cychwynnol; 
  • os yw'r gwasanaeth wedi cael hysbysiad diffyg cydymffurfio neu os oes hanes o ddiffyg cydymffurfio â gofynion cyfreithiol; 
  • os yw'r person â chyfrifoldeb, y person cofrestredig, neu'r unigolyn cyfrifol yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis - gall hyn effeithio ar y gallu i weithredu'r gwasanaeth yn ddiogel; 
  • os ystyrir bod y darparwr yn 'wasanaeth sy'n achosi pryder' yn ein llwybr gorfodi. 

6.4. Er mwyn pennu amlder arolygiadau, rydym wedi datblygu model trefnu arolygiadau sy'n cynnwys ac yn ystyried y ffactorau a restrir uchod. Bydd ein model trefnu arolygiadau yn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael i nodi p'un a oes angen arolygiad arferol, arolygiad cynnar neu arolygiad â blaenoriaeth ar wasanaeth. Fodd bynnag, dim ond at ddiben penodol trefnu arolygiad y defnyddir y model trefnu arolygiadau. Gwneir penderfyniad ar ansawdd y gwasanaeth yn ystod yr arolygiad. 

6.5. Mae 'r isod yn nodi'r amserlen arferol ar gyfer arolygu gwahanol fathau o wasanaethau gofal plant a chwarae. Y rhain yw'r cyfnodau hwyaf rhwng arolygiadau llawn.

  • Gwarchod plant - bob 36 mis
  • Lleoliad gofal dydd llawn - bob 24 mis
  • Gofal dydd sesiynol - bob 36 mis
  • Gofal plant y tu allan i oriau ysgol - bob 36 mis
  • Crèches - bob 36 mis
  • Chwarae mynediad agored - bob 36 mis

6.6. Mae'n bwysig nodi y gallwn gynnal arolygiad â phwyslais penodol ar unrhyw adeg mewn ymateb i bryderon, hysbysiadau ac atgyfeiriadau diogelu a ddaw i law.

7. Ymddygiad yn ystod arolygiad

Arolygwyr 

7.1. Daw'r arolygwyr a gyflogir gan AGC o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; mae llawer wedi gweithio'n flaenorol fel nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, athrawon neu fel rheolwyr cofrestredig gwasanaethau gofal. Fodd bynnag, mae'r holl arolygwyr yn weision sifil ac mae'n rhaid iddynt gyrraedd y safonau proffesiynol a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil (Dolen allanol). Yn yr un modd â gweithwyr gofal cymdeithasol, mae arolygwyr hefyd yn gweithredu'n unol â Chod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Dolen allanol). O ganlyniad, disgwylir i arolygwyr wneud y canlynol: 

  • gwneud eu gwaith gyda gofal, uniondeb, cwrteisi, sensitifrwydd a phroffesiynoldeb; 
  • gwerthuso'r gwasanaethau a ddarperir yn wrthrychol, gan sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei thriongli a'i phwysoli'n briodol; 
  • adrodd ar yr arolygiad mewn modd gonest, teg a diduedd; 
  • cyfathrebu'n glir ac yn agored er mwyn hybu iechyd, diogelwch a llesiant y plant sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae; 
  • ymddwyn er budd y plant sy'n defnyddio'r gwasanaethau; 
  • parchu cyfrinachedd gwybodaeth; 
  • bod yn atebol a chymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu gwaith; 
  • hybu, cynnal a pharchu preifatrwydd, urddas, hawliau, iechyd a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae a'r bobl a gyflogir gan y gwasanaethau hynny. 

Sut y gall darparwyr a staff gefnogi'r broses arolygu 

7.2. Byddwn bob amser yn ceisio lleihau'r effaith y gall ymweliad arolygu ei chael ar y gwasanaeth, ei staff a'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Er mwyn helpu arolygwyr i gyflawni'r nod hwnnw, gall darparwyr a'u staff hwyluso'r arolygiad yn y ffyrdd canlynol: 

  • siaradwch â'r arolygydd; 
  • rhowch wybod i'r arolygydd am unrhyw risgiau posibl; 
  • rhowch wybod i'r arolygydd os bydd ei bresenoldeb yn achosi gofid i'r plant;
  • gwnewch beth y byddech yn ei wneud fel arfer (rydym am weld y profiad y mae'r plant yn ei gael fel arfer); 
  • gadael i'r arolygydd gerdded o amgylch ardaloedd cymunedol, ar yr amod ei fod yn ddiogel gwneud hynny; 
  • darparwch ardal breifat i'r arolygydd sgwrsio â'r staff a, lle bo angen, â'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth; 
  • yn ystod adborth, os byddwch yn anghytuno ag unrhyw beth y mae'r arolygydd yn ei ddweud, rhowch wybod iddo ac eglurwch eich rhesymau; 
  • os bydd gennych unrhyw bryderon am y ffordd y mae'r arolygiad yn mynd rhagddo, dylech eu codi ar unwaith gyda'r arolygydd neu ei reolwr. 

7.3. Byddwn yn foesgar ac yn gwrtais wrth ymdrin â chi, ac felly, rydym yn disgwyl i chi fod yn foesgar ac yn gwrtais wrth ymdrin â ni. Fodd bynnag, ni fyddwn yn goddef ymddygiad afresymol, ymosodgar na sarhaus, gofynion afresymol na dycnwch afresymol. Rydym yn cymryd unrhyw ddigwyddiad o'r fath o ddifrif a byddwn yn gweithredu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i ddiogelu ein staff lle bo angen.

8. Adborth arolygiad ac adrodd arno

Adborth 

8.1. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein hadroddiadau arolygu yn deg a bod ein canfyddiadau wedi'u seilio'n briodol ar waith i driongli'r dystiolaeth a gesglir. Felly, er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder, rydym yn derbyn hawl darparwyr i ymateb i'n hadroddiadau a gwneud sylwadau ar ein canfyddiadau os credant eu bod yn anghywir neu'n annheg. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni gywiro unrhyw wallau ac i ystyried gwybodaeth ychwanegol cyn i adroddiad arolygu gael ei gyhoeddi. 

8.2. Bydd yr arolygydd yn rhoi adborth i'r person cofrestredig ar ôl ymweliad arolygu. Bydd yn cynnig trosolwg o'r canfyddiadau ar ddiwedd yr ymweliad arolygu, gan ei bod yn bosibl y bydd angen cynnal gwaith dadansoddi pellach cyn dod i gasgliadau pendant. Caiff yr adborth ei strwythuro o amgylch y themâu asesu a dylai ganolbwyntio ar feysydd o gydymffurfio a diffyg cydymffurfio. Lle nad yw'n bosibl rhoi adborth i'r person cofrestredig ar ddiwedd yr ymweliad arolygu, bydd yr arolygydd yn rhoi adborth i'r rheini sy'n gyfrifol am y gwasanaeth ar y dydd. Byddwn yn cysylltu â'r person cofrestredig cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi adborth. Gall yr arolygydd hefyd roi adborth yn ystod yr ymweliad arolygu os bydd angen gweithredu ar unwaith. 

8.3. Bydd yr adborth hwn yn rhoi'r cyfle i'r darparwr herio unrhyw wybodaeth anghywir a rhoi unrhyw dystiolaeth bellach i'r arolygydd a all lywio'r adroddiad. 

8.4. Lle y bydd arolygydd o'r farn nad yw gwasanaeth wedi bodloni gofynion y rheoliadau a'i fod yn ystyried neu'n bwriadu cyhoeddi hysbysiad diffyg cydymffurfio neu gymryd camau gorfodi eraill, bydd yr arolygydd yn hysbysu'r darparwr yn glir o hyn. 

Adroddiad arolygu 

8.5. Dylai profiadau plant o wasanaethau fod wrth wraidd ein hadroddiadau, gan gynnwys effaith y gwasanaethau hynny ar eu llesiant. Er bod darparwyr a gweithwyr proffesiynol yn darllen ein hadroddiadau, cânt eu hysgrifennu ar gyfer y cyhoedd. Mae hyn yn galluogi'r rheini sy'n defnyddio ac yn dewis gwasanaethau i ddeall ansawdd y gofal plant a'r gweithgareddau chwarae a ddarperir. 

8.6. Mae arolygwyr yn seilio eu hadroddiadau ar y dystiolaeth y byddant yn ei chasglu cyn yr ymweliad arolygu, yn ystod yr ymweliad ac ar ôl yr ymweliad. Mae'r arolygydd yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth i ategu ei ganfyddiadau yn ei adroddiad. Rhoddir ystyriaeth i'r hyn a ddywedir, yr hyn a welir a'r hyn a ddarllenir er mwyn llywio ein canfyddiadau, ein dyfarniadau cyffredinol a'r graddau i'w dyfarnu. 

Pryd y caiff yr adroddiad arolygu ei gyhoeddi? 

8.7. Rydym yn anelu at ddrafftio, cwblhau a chyhoeddi adroddiadau arolygu o fewn 50 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau arolygiadau. Fodd bynnag, mewn nifer fach o achosion, mae'n bosibl y caiff y terfyn amser hwn ei ymestyn, er enghraifft, am nad yw'r person cofrestredig ar gael i ymateb i'r adroddiad arolygu neu lle bydd y darparwr yn herio'r adroddiad arolygu. 

8.8. Disgwylir i bob adroddiad arolygu gael ei ysgrifennu a'i gyflwyno i'r person perthnasol ar ffurf ddrafft o fewn 25 diwrnod gwaith i'r gweithgarwch arolygu olaf. Fodd bynnag, mae'n bosibl mai'r ymweliad arolygu ei hun neu sgyrsiau ffôn dilynol â pherthnasau neu weithwyr proffesiynol neu adolygu holiaduron fydd y 'gweithgarwch arolygu olaf'. 

8.9. Mae ein proses 'ymateb i adroddiadau arolygu' yn cynnig y cyfle i ofyn cwestiynau am ein hadroddiadau arolygu a chyflwyno sylwadau ar gywirdeb ffeithiol yr adroddiad, pa mor gyflawn yw'r dystiolaeth a/neu'r canfyddiadau y mae ein dyfarniadau wedi'u seilio arnynt. 

8.10. Rhoddir cyfnod o 10 diwrnod gwaith i'r darparwr ystyried yr adroddiad drafft ac ymateb iddo. 

8.11. Dylai unrhyw heriau bob amser nodi'r rhan(nau) o'r adroddiad sy'n cael ei/eu herio a rhoi'r rhesymau dros yr her gyda thystiolaeth ategol. Bydd hyn yn galluogi arolygwyr (a rheolwyr) i ystyried y wybodaeth yn llawn ac i ddarparu ymateb clir. Caiff ein hymateb a chopi o'r adroddiad diwygiedig, lle y bo'n briodol, eu darparu i'r darparwr o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn yr her. 

8.12. Caniateir 5 diwrnod gwaith arall i'r darparwr ystyried yr ymateb a'r adroddiad arolygu diwygiedig. Os na fyddwn wedi clywed gan y darparwr o fewn y cyfnod hwn, caiff yr adroddiad ei gyhoeddi.

8.13. Byddwn yn ystyried unrhyw ail her a godir gan y darparwr ac yn ymateb iddi o fewn 5 diwrnod gwaith arall. 

8.14. Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cyhoeddi adroddiadau arolygu ac yn prosesu ymatebion i'r adroddiadau hynny yn ein polisïau ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu ac ymateb iddynt

Gwneud cwyn am arolygiad

8.15. Os bydd gan y darparwr, teulu plentyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu aelod o'r cyhoedd gŵyn am agwedd neu ymddygiad arolygydd, neu unrhyw aelod o staff AGC, mae gennym bolisi cwynion y dylid ei ddilyn. 

8.16. Mae'r polisi cwynion ar wahân i'r broses 'ymateb i adroddiadau arolygu' a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 8.7 i 8.13. Ni fydd cwyn yn erbyn ymddygiad arolygydd yn golygu oedi cyn cyhoeddi adroddiad arolygu fel arfer.

9. Gwella ansawdd gwasanaethau

9.1. Mae arolygwyr yn defnyddio dull gweithredu cymesur sy'n ystyried yr effaith ar blant sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu'r risg i'r plant hynny gan ystyried ar yr un pryd ofynion Mesur 2010, rheoliadau a'r safonau gofynnol cenedlaethol perthnasol. 

9.2. Bydd y mathau o gamau gweithredu y byddwn yn eu cymryd yn gymesur ac yn ystyried yr effaith ar blant sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu'r risg i'r plant hynny. Gallai hyn gynnwys y camau gweithredu a ddisgrifir isod. 

  • Lle byddwn yn nodi y gellid gwella'r canlyniadau i blant, mae'n bosibl y byddwn yn gwneud argymhellion. 
  • Lle nad yw'r darparwr yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ond nad oes llawer o effaith ar y plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth na risg iddynt, byddwn yn rhoi gwybod i'r darparwr nad yw'n cydymffurfio a byddwn yn disgwyl iddo gymryd camau gweithredu er mwyn ymdrin â'r materion a nodwyd. Yn yr achosion hyn, ni fyddwn yn cyhoeddi hysbysiad diffyg cydymffurfio; fodd bynnag, caiff y mater ei ystyried eto a chyflwynir adroddiad arno fel rhan o'r arolygiad nesaf a drefnir. 
  • Lle nad yw'r darparwr yn bodloni'r gofynion cyfreithiol a bod effaith negyddol sylweddol ar y plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu risg negyddol sylweddol iddynt, byddwn yn cyflwyno hysbysiad diffyg cydymffurfio, sef cam cyntaf ein proses orfodi. Yn yr achosion hyn, byddwn yn cynnal arolygiad dilynol â phwyslais penodol er mwyn canfod p'un a yw'r darparwr wedi gwneud y gwelliannau sy'n ofynnol. 
  • O dan amgylchiadau penodol, lle byddwn o'r farn bod y risg i'r plant yn arbennig o sylweddol, mae'n bosibl y byddwn yn cymryd camau brys i osod cyfyngiadau ar gofrestriad y darparwr neu i ddiddymu'r cofrestriad hwnnw. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, atal unigolion pellach rhag cael eu derbyn i'r gwasanaeth neu gau'r gwasanaeth. 

9.3. Rydym am sicrhau na fydd darparwyr sy'n darparu gofal gwael yn parhau i wneud hynny. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu y gallwn eu cymryd fel rhan o'n proses orfodi er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • cyhoeddi hysbysiad diffyg cydymffurfio; 
  • ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr gyfarfod â ni er mwyn trafod pa gamau gweithredu a gymerwyd i ymdrin â gofal gwael; 
  • gosod, amrywio neu ddiddymu amodau ar gofrestriad y darparwr;
  • diddymu cofrestriad y darparwr; 
  • erlyn y darparwr.

10. Gwybodaeth

10.1. Y ddealltwriaeth a'r wybodaeth sydd gennym yw un o'n hasedau pwysicaf. Mae'n sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn a'r cyngor a roddwn yn cael eu hategu gan sylfaen dystiolaeth gadarn. 

10.2. Drwy ein prosesau cofrestru ac arolygu, rydym yn casglu ac yn cadw llawer o wybodaeth am ddarparwyr, yn ogystal â gwybodaeth o ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae'r wybodaeth werthfawr hon yn ein helpu i asesu p'un a yw darparwr cofrestredig a/neu berson cofrestredig yn cydymffurfio â'i gyfrifoldebau deddfwriaethol a statudol. 

10.3. Weithiau, mae'n bosibl y byddwn yn cael ceisiadau i ryddhau gwybodaeth sy'n ymwneud ag achos neu ddarparwr unigol. Mae gan unrhyw unigolyn yr hawl i wneud cais am wybodaeth a gofnodir sydd gennym, ac, yn amodol ar ofynion statudol deddfwriaeth am drin gwybodaeth, i gael copi o'r wybodaeth hon. 

10.4. Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael ar yr adeg gywir, a'n bod yn cydymffurfio â'r gofynion statudol sy'n ofynnol gennym, rydym yn gwneud y canlynol: 

  • Diogelu'r wybodaeth sydd gennym, yn unol â gweithdrefnau Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau safonau uchel o ran gwarchod gwybodaeth a diogelu data. 
  • Storio ein gwybodaeth yn y ffordd gywir, gan ddilyn egwyddorion rheoli cofnodion Llywodraeth Cymru. 
  • Ymateb i geisiadau am wybodaeth o fewn y prosesau a'r amserlenni a sefydlwyd sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. 
  • Rhannu gwybodaeth yn briodol ac mewn modd cyfreithlon, er mwyn gwella ac ailddefnyddio ein gwybodaeth, gweithio ar y cyd a lleihau achosion o ddyblygu. 

10.5. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn crynhoi'r ffordd rydym yn ymdrin â phob math o wybodaeth bersonol a gasglwn. Mae hyn yn cynnwys y sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r wybodaeth hon, y ffordd y caiff y wybodaeth ei phrosesu, am ba hyd y caiff ei chadw, pwy y gellir ei rhannu â nhw, beth yw eich hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth a'r cysylltiadau perthnasol y gallai fod eu hangen arnoch. 

10.6. Mewn rhai achosion, gall AGC gynnal neu gymryd rhan mewn arolygiad ar y cyd â chyrff neu asiantaethau rheoleiddiol eraill, fel yr Heddlu neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae'n hanfodol y caiff gwybodaeth ei rhannu â'r asiantaethau neu'r cyrff rheoleiddiol hyn er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ac adnoddau eu defnyddio'n effeithiol. Yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn rhannu gwybodaeth yn unol â'r gofynion statudol sydd arnom.

11. Terminoleg

  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) 
    Rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. 
  • Chwythwr chwiban
    Rhywun sy'n codi mater o bryder cyhoeddus ynghylch camwedd, risg neu gamarfer y mae'n ymwybodol ohono drwy ei waith. Caiff chwythwyr chwiban eu diogelu gan y gyfraith, rhag cael eu cam-drin neu rhag cael eu diswyddo. 
  • Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu 
    Disgrifiad lefel uchel o'r modd y caiff gwasanaethau rheoleiddiedig eu harolygu. 
  • Cydymffurfiaeth
    Lle bydd darparwr yn cyflawni ei gyfrifoldebau rheoliadol. Ystyrir bod achos o 'ddiffyg cydymffurfio' pan fydd darparwyr yn methu â chyflawni'r cyfrifoldebau hynny. 
  • Diogelu 
    Term cyffredinol ar gyfer camau gweithredu a gymerir er mwyn hybu lles plant a'u diogelu rhag cael eu hesgeuluso, eu cam-drin a rhag achosion o gamfanteisio arnynt. 
  • Fframwaith arolygu 
    Dull gweithredu strwythuredig i'n helpu i sicrhau ffocws i'n gweithgarwch arolygu drwy gydol y broses arolygu. 
  • Gofal plant a chwarae 
    Yn cyfeirio'n fras at y math o ddarpariaeth a gaiff ei rheoleiddio o dan Fesur 2010. 
  • Llesiant 
    Yn cyfeirio'n eang at gyflwr plentyn sy'n iach, yn hapus, yn ddiogel ac yn fodlon ei fyd. 
  • Pryderon 
    Mater y rhoddwyd gwybod i AGC amdano sy'n ymwneud â diogelwch, llesiant neu hawliau plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth. 
  • Rheoleiddiwr 
    Sefydliad a sefydlwyd gan y llywodraeth i oruchwylio maes o weithgarwch masnachol neu gymdeithasol, drwy reolau a rheoliadau.