Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126

Coronafeirws (COVID-19)

Coronafeirws graphic

Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus Newydd (COVID-19).

Anogir darparwyr i ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a thudalennau gwybodaeth coronafeirws Llywodraeth Cymru am y canllawiau diweddaraf.

Rydym hefyd yn annog pob darparwr gofal cymdeithasol i adolygu'r Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol(dolen allanol) am ganllawiau ar fesurau atal a rheoli heintiau. Mae'r canllawiau hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ymweliadau i mewn ac allan o gartrefi gofal.

Hysbysiadau

Wrth i ni symud drwy gyfnod adfer y pandemig, credwn fod yr amser wedi dod i ddychwelyd i'r hyn sy'n arferol o ran gofynion adrodd ac nid oes angen i chi adrodd am achosion unigol o COVID-19 mwyach.

Sut i roi gwybod i ni

Fel gyda chlefydau heintus eraill, defnyddiwch ein proses hysbysu ar gyfer clefydau heintus i adrodd pan fydd  brigiad o COVID-19. Diffiniad brigiad o achosion yw dau neu fwy o achosion.

Nid oes angen i chi gyflwyno hysbysiad cau dros dro mwyach oherwydd COVID-19.

  • Rhannu’r dudalen hon
  • Twitter Facebook Email More