Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Ein data

Sut y gallwch gael gafael ar ein data a’i ddefnyddio.

Rydym am fod mor dryloyw ac agored â phosibl o ran y wybodaeth rydym yn ei chasglu, ei dadansoddi a'i storio.

Gallwch ofyn am y data yn ein cyfeiriadur ar-lein drwy e-bostio AGCGwybodaeth@llyw.cymru. Rydym yn datblygu partneriaethau â gwefannau eraill. Rydym am annog pobl i ddefnyddio ein hadnoddau i adeiladu eu gwasanaethau eu hunain, yn enwedig er mwyn helpu pobl i ddysgu am yr opsiynau o ran gwasanaethau gofal sydd ar gael iddynt.

Sut y gallwch chi ddefnyddio ein data

Mae ein gwybodaeth ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (Dolen allanol), sy'n golygu y gallwch wneud y canlynol:

  • gopïo, cyhoeddi, dosbarthu a throsglwyddo’r wybodaeth, cyn belled â’ch bod yn gwneud hyn yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 ac yn cydnabod y ffynhonnell.
  • addasu’r wybodaeth, ar yr amod nad ydych yn ei chamgyfleu nac yn ei defnyddio i gamarwain pobl.
  • defnyddio’r wybodaeth yn fasnachol, er enghraifft trwy ei chyfuno â gwybodaeth arall, neu drwy ei chynnwys yn eich cynnyrch neu eich cymhwysiad eich hun.

Cyn i chi ddefnyddio’r wybodaeth, dylech ddarllen telerau’r drwydded yn llawn.

Cysylltu â ni neu anfon adborth atom

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, rhowch wybod i ni drwy e-bostio AGCCyfathrebu@llyw.cymru

Hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ein data?

Ar gyfer ymholiadau pellach am ein data, cysylltwch â'n tîm Rheoli Gwybodaeth drwy e-bostio  AGCGwybodaeth@llyw.cymru