Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: Cwestiynau cyffredin

Rydym wedi casglu rhai o'ch cwestiynau mwyaf cyffredin

Cyhoeddwyd: 3 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Trosolwg a chyd-destun polisi

  1. Pa rôl mae AGC yn ei chwarae wrth ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal?

AGC sy'n gyfrifol am reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal yng Nghymru. Yng nghyd-destun polisi Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, bydd AGC (gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru) yn rhoi'r newidiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sy'n deillio o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (‘y Ddeddf’) ar waith.

  1. Beth yw ystyr darparwr ‘nid-er-elw’?

I gymhwyso yn ddarparwr nid-er-elw o dan y Ddeddf, rhaid i sefydliad fodloni'r meini prawf canlynol (oni bai ei fod yn awdurdod lleol):

  • Rhaid i brif ddiben y sefydliad ymwneud â lles plant, neu fudd cyhoeddus arall a allai fod wedi cael ei nodi gan Weinidogion Cymru.
  • Rhaid i'r sefydliad gael ei strwythuro fel un o'r endidau cyfreithiol canlynol:
    • Cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
    • Sefydliad corfforedig elusennol
    • Cymdeithas gofrestredig elusennol
    • Cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.
  1. A all darparwyr er-elw barhau i weithredu yng Nghymru o 1 Ebrill 2026?

Gallant, ond bydd cyfyngiadau sylweddol arnynt. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i raddol ddileu elw o wasanaethau gofal cymdeithasol plant fel rhan o'i diwygiadau ehangach o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (“y Ddeddf”).

Dyddiadau a newidiadau allweddol:

  • O 1 Ebrill 2026:
    • Rhaid i ddarparwyr newydd sy'n cofrestru neu'n amrywio eu cofrestriad ag AGC i ddarparu cartrefi plant, gwasanaethau maethu neu wasanaethau llety diogel, nawr fodloni'r gofynion nid-er-elw. Ni all darparwyr presennol ychwanegu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad at eu cofrestriad nac ychwanegu lleoedd newydd lle caiff gwasanaethau plant o dan gyfyngiad eu darparu oni bai eu bod yn bodloni'r meini prawf nid-er-elw..
  • O 1 Ebrill 2027:
    • Caiff darparwyr er-elw eu gwahardd rhag ehangu. Ni fydd hawl ganddynt i wneud y canlynol:
      • Ychwanegu gwelyau newydd at gartrefi plant sydd eisoes wedi cofrestru
      • Cymeradwyo gofalwyr maeth newydd
  • O 1 Ebrill 2030:
    • Ni all awdurdod lleol yn Lloegr leoli plant dan ofal sefydliad er elw yng Nghymru ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol (i'w hamlinellu yn y rheoliadau).
    • Dim ond â cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu lleoli plant sy'n derbyn gofal mewn gwasanaeth er elw presennol yng Nghymru drwy’r broses lleoliadau atodol a nodir yn Neddf 2025.
    • Rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael cymeradwyaeth y Gweinidog drwy’r broses lleoliadau atodol a nodir yn Neddf 2025 cyn gwneud unrhyw leoliadau newydd mewn gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel neu gwasanaethau maethu yn Lloegr, oni bai bod y lleoliad o fewn darpariaeth sy'n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol.

Beth am lety diogel?

Er bod y polisi hefyd yn berthnasol i wasanaethau llety diogel, nid oes unrhyw ddarparwyr er-elw wedi'u cofrestru yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r ddeddfwriaeth yn atal unrhyw ddarparwyr er-elw rhag cofrestru neu amrywio eu cofrestriad er mwyn cynnig llety diogel yn y dyfodol.

  1. Beth yw goblygiadau'r ddiwygiadau i ddeddfwriaeth RISCA i wasanaethau llety â chymorth i bobl ifanc 16+?

Ni fydd y newid hwn i'r ddeddfwriaeth yn effeithio ar wasanaethau cymorth i bobl ifanc 16+ yn unig.

Y broses cofrestru ac amserlenni

  1. A fydd proses gofrestru AGC yn newid ar gyfer darparwyr nid-er-elw newydd?

Ni fydd y gofynion cofrestru craidd yn newid ar gyfer newydd-ddyfodiaid nid-er-elw i'r farchnad ond pan fydd cais yn ymwneud â gwasanaeth sy'n un o'r “gwasanaethau plant o dan gyfyngiad”, rydym yn gofyn am ddogfennau ychwanegol sy’n dangos y math o ymgymeriad (e.e. cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau) ac yn dangos amcanion a dibenion y sefydliad e.e. yr Erthygl Cymdeithasu.

Gweler manylion am yr hyn sydd ei angen i wneud cais yn y Canllaw i gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

  1. Beth yw'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer ailgofrestru ag AGC ar gyfer gwasanaethau sy'n ailsefydlu fel endid nid-er-elw newydd?

Mae AGC yn anelu at gwblhau'r broses ailgofrestru o fewn ei hamserlen 14 wythnos safonol. Fodd bynnag, gall fod yn gynt os na fydd y gwasanaeth wedi newid fawr ddim a bod gan AGC wybodaeth fanwl am y darparwr.

Prosesu a chofrestru

  1. A yw'n bwysig pryd y gwneir penderfyniad ynghylch fy nghais ar ôl ei gyflwyno?

Nac ydy. Os byddwch wedi cyflwyno eich cais yn llwyddiannus erbyn 31 Mawrth 2026, nid yw'n bwysig pryd y gwneir penderfyniad yn ei gylch. Mae darpariaethau arbedion trosiannol yn galluogi AGC i ymdrin â'r cais o dan reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) nad ydynt wedi newid, hyd yn oed os bydd y cofrestriad yn cael ei gwblhau ar ôl 1 Ebrill 2026.

  1. Beth os bydd fy nghais yn cael ei wrthod ac rwy'n gwneud apêl?

Os byddwch yn cyflwyno cais yn llwyddiannus erbyn 31 Mawrth 2026 a bod arolygydd wedyn yn gwrthod dyfarnu cofrestriad, gallwch wneud apêl i AGC neu yn ddiweddarach i'r Tribiwnlys. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, byddwch yn parhau i gael eich trin o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) bresennol ar adeg y cofrestriad, am eich bod wedi cyflwyno eich cais gwreiddiol erbyn y dyddiad cau.

  1. A fydd unrhyw gyfyngiadau pan fyddaf wedi cofrestru?

Bydd. Os a phan y byddwch yn cael cofrestriad, byddwch yn destun cyfyngiadau a ddaw i rym mewn ffordd raddol gan ddechrau ar 1 Ebrill 2026, a fydd yn cyfyngu ar unrhyw ehangu pellach.

  1. A oes disgwyl i ddarparwr er-elw drosglwyddo ei holl ofalwyr i'r endid nid-er-elw newydd ar unwaith neu a all y ddau endid redeg ochr yn ochr â'i gilydd er mwyn rheoli'r cyfnod pontio?

Mae modd i ddarparwr redeg y ddau endid ochr yn ochr am gyfnod a fyddai'n rhoi cyfle i symud gofalwyr yn raddol i'r darparwr nid-er-elw. Caiff manylion y newid i'r endid nid-er-elw eu pennu yn waith cynllunio busnes darparwyr unigol.

Mae Rheoliadau Paneli Maethu a Chynllunio Gofal (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn nodi dyletswyddau gwasanaethau maethu pan fydd gofalwyr maeth yn trosglwyddo rhwng gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall fod heriau wrth drosglwyddo gofalwyr maeth o wasanaeth maethu er-elw presennol i sefydliad newydd sy'n bodloni'r gofyniad nid-er-elw. Mae wrthi'n ystyried ar hyn o bryd sut y gellid mynd i'r afael â'r heriau hyn, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol posibl, a bydd yn cyflwyno opsiynau i Weinidogion cyn gynted â phosibl yn ystod tymor newydd y Senedd.

  1. Os oes gennyf gartref gofal segur i blant fel rhan o'm cofrestriad ag AGC ac fy mod am ailagor y gwasanaeth, a fydd angen iddo fod yn wasanaeth nid-er-elw?

P'un a yw gwasanaeth yn segur ai peidio, os bydd y gwasanaeth wedi'i gofrestru ar yr adeg y daw'r darpariaethau i rym, yna bydd yn ddarostyngedig i drefniadau trosiannol Atodlen 1A a gall weithredu heb gyfyngiadau.

  1. Beth os ydw i'n gweithredu cartref gofal i oedolion a phlant?

Os yw eich cartref yn gofalu'n bennaf am blant a bod y mwy o blant nag oedolion fel arfer, yna byddai'n debygol o gael ei ystyried yn gartref plant a byddai'r cyfyngiadau ar ddarparwyr cartrefi plant er-elw yn gymwys iddo.

Rydym yn cydnabod mewn nifer bach o achosion y gall fod gwasanaethau sy'n gofalu am nifer cyfartal o blant ac oedolion, neu y gall eu niferoedd amrywio ar adegau penodol. Yn y pen draw, bydd hyn yn dibynnu ar brif ddiben y gwasanaeth a ph'un a ystyrir ei fod yn gofalu'n bennaf am blant neu am oedolion. Mewn rhai achosion, bydd angen i Arolygiaeth Gofal Cymru wneud dyfarniad ynghylch hyn yn unol â'r polisi ar y gofynion ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal sy'n gofalu am blant ac oedolion yn yr un lleoliad newydd.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd darparwyr am addasu eu polisïau derbyn i sicrhau eu bod yn osgoi'r risg o redeg gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer plant. Mewn achosion eraill, efallai y bydd darparwyr am ailsefydlu eu hunain fel un o'r cyrff nid-er-elw er mwyn eu galluogi i weithredu “yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer plant” am gyfnodau pan fo angen.

Awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid

  1. Pryd y bydd angen i awdurdod lleol a darparwr gofal gofrestru ar y cyd ag AGC?

O dan Atodlen 1, paragraff 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, diffinnir gwasanaeth cartref gofal fel gwasanaeth sy'n darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofal i berson oherwydd ei fod yn agored i niwed neu oherwydd ei anghenion.

Lle mai'r awdurdod lleol yw'r tenant sy'n rhentu eiddo gan landlord ac yn comisiynu gofal gan ddarparwr gofal ar wahân, ystyrir bod y ddau barti yn darparu'r gwasanaeth rheoleiddiedig ar y cyd - gyda'r awdurdod lleol yn darparu'r llety a'r darparwr gofal yn darparu'r gofal a'r cymorth.

Yn y sefyllfa hon, bydd angen i'r awdurdod lleol a'r darparwr gofal gofrestru ag AGC ar y cyd. Ni fyddai hyn yn cael ei ganiatáu os yw’r darparwr gofal yn endid cyfreithiol er-elw.

  1. Sut y gellir osgoi cofrestru ar y cyd yn yr amgylchiadau hyn?

Er mwyn osgoi'r angen i gofrestru ar y cyd, rhaid mai'r darparwr gofal (sy’n rhaid fod yn endid cyfreithiol nid-er-elw) yw'r tenant sy'n dal y les â'r landlord.

O dan y trefniant hwn, y darparwr gofal sy'n gwbl gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth rheoleiddiedig ac felly:

  • Bydd yn cofrestru ag AGC ar ei ben ei hun, ac
  • Yn gwbl gyfrifol am fodloni holl ofynion y fframwaith arolygu (Llesiant, Gofal a Chymorth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth a'r Amgylchedd).

Os bydd AGC yn cyhoeddi unrhyw Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth, y darparwr cofrestredig sy'n gwbl gyfrifol am fynd i'r afael â'r rhain, a bydd yn rhaid iddo weithio'n uniongyrchol gyda'i landlord i ddatrys unrhyw broblemau sy'n ymwneud â'r amgylchedd neu'r adeilad.

Modelau cyfreithiol a llywodraethu

  1. Pwy all weithredu fel yr Unigolyn Cyfrifol o dan bob un o'r pedwar model nid-er-elw?

Byddai hyn yn dibynnu ar y model - ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, neu aelodau. Bydd AGC yn parhau i asesu cymhwysedd yr Unigolyn Cyfrifol yn ystod y broses gofrestru. Darllenwch adran 4 o Ganllawiau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ar Gofrestru i gael rhagor o wybodaeth.

  1. A all Unigolyn Cyfrifol neu gyfarwyddwyr eraill (e.e. Adnoddau Dynol, cyllid) gael cyflog o dan y modelau nid-er-elw? Beth a gaiff ei ystyried fel cyflog ‘rhesymol’?

Gallant, caiff cyflogau eu caniatáu os byddant yn rhesymol ac yn dryloyw ac yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae'r rheoleiddwyr ariannol sy'n goruchwylio'r pedwar model nid-er-elw a ganiateir, e.e. y Comisiwn Elusennau, yn darparu canllawiau ar hyn.

  1. A fydd Llywodraeth Cymru neu AGC yn gosod canllawiau cyflog ar gyfer cyfarwyddwyr cwmnïau buddiant cymunedol ac Unigolion Cyfrifol?

Na, ni fydd AGC na Llywodraeth Cymru yn gosod canllawiau cyflog. Mae gan reoleiddwyr ariannol presennol ofynion a chanllawiau ar hyn eisoes.

  1. A all cyflogai y telir cyflog iddo weithredu fel ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr ar gyfer model elusennol hefyd?

Gallai, ond dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig. Rhaid i ddogfennau llywodraethu'r elusen nodi hyn, ac yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn ofynnol cael caniatâd y Comisiwn Elusennau. Rhaid i'r trefniant fod er budd pennaf yr elusen, a rhaid rhoi camau diogelu cadarn ar waith i reoli achosion o wrthdaro buddiannau, gan gynnwys:

  • Rhaid i'r cyflogai-ymddiriedolwr ddatgan ei ddiddordeb.
  • Rhaid iddo beidio ag ymuno mewn trafodaethau a phenderfyniadau am delerau ei gyflogaeth ei hun.
  • Rhaid i'r elusen gofnodi penderfyniadau mewn ffordd dryloyw i sicrhau bod y taliad yn rhesymol

Darllenwch ganllawiau'r Comisiwn Elusennau ar y rheolau mewn perthynas â thalu ymddiriedolwr.

Cymorth a chanllawiau

  1. Pa gymorth sydd ar gael i ddarparwyr sy'n ailsefydlu fel un o'r modelau nid-er-elw a ganiateir?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost atom ar AGC@llyw.cymru. Rydym yma i roi cymorth ac arweiniad ac rydym yn fwy na pharod i gyfarfod â chi i drafod eich amgylchiadau unigol.

I gefnogi darparwyr sy'n ystyried ailsefydlu eu hunain fel un o'r modelau nid-er-elw a ganiateir o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cwmpas i gynnig cyngor a chymorth ymarferol wedi'i deilwra, am ddim. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar ailstrwythuro, llywodraethu a dewis y ffurf gyfreithiol fwyaf addas. Gall darparwyr gael mwy o wybodaeth a chymorth drwy fynd i wefan Cwmpas.

Mae gan AGC hefyd dudalen we benodol ar Ddileu elw o ofal plant. Caiff rhagor o wybodaeth ei hychwanegu at y dudalen hon dros y misoedd nesaf. Mae tudalen newid i fodelau gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru Llywodraeth Cymru yn cynnwys mwy o wybodaeth.

Arolygu, monitro a gorfodaeth

  1. A fydd y meini prawf arolygu yn newid ar gyfer gwasanaethau plant nid-er-elw?

Caiff pob gwasanaeth ei arolygu o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a'r Rheoliadau a'r canllawiau statudol cysylltiedig. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i AGC gynnwys agweddau newydd ar ‘y Ddeddf’ fel monitro trefniadau ariannol afresymol ac anghymesur.

  1. A fydd AGC yn monitro'r lefel gydymffurfiaeth â'r statws nid-er-elw yn barhaus?

Bydd, drwy ddatganiadau blynyddol a chydweithio â rheoleiddwyr ariannol. Gall datganiadau ffug arwain at roi camau gorfodi ar waith. Bydd AGC yn cyflogi cyfrifwyr arbenigol er mwyn helpu i asesu unrhyw bryderon a godir.

  1. Beth fydd yn digwydd os caiff darparwr ei ganfod yn cael budd ariannol mewn ffordd sy'n tanseilio ei statws nid-er-elw?

Gall AGC ymchwilio a chymryd camau gorfodi, a allai arwain at ganslo cofrestriad.