Gwersi o ymarfer gwerth ei rannu - gofal plant a chwarae
Pan fyddwn yn nodi enghreifftiau o ymarfer sy'n arbennig o effeithiol sy'n cael effaith gadarnhaol ar blant, byddwn yn gofyn i ddarparwyr roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn y maent yn ei wneud a sut mae'r plant yn eu gofal wedi cael budd o hynny
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Cefndir
Yn 2022, lansiwyd y prosiect gwella gofal plant a chwarae. Y nod oedd ystyried sut y gallem newid ein ffyrdd o weithio i'n galluogi i ganolbwyntio mwy ar herio a helpu darparwyr gofal plant a chwarae yng Nghymru i fabwysiadu dull o wella'n barhaus.
Nod y prosiect oedd:
- gwella canlyniadau i blant
- cynyddu sicrwydd ynghylch ansawdd lleoliadau penodol
- rhoi mwy o bwyslais ar ddarparwyr yn ysgogi eu gwelliant eu hunain
- rhoi gwybodaeth gliriach i ddarparwyr am ymarfer rhagorol
- codi ymwybyddiaeth o feysydd cenedlaethol i'w gwella
Daeth y prosiect i ben ym mis Tachwedd 2024 ac arweiniodd at dair menter newydd.
- Cyfarfodydd ansawdd
- Cynadleddau ansawdd
- Ymarfer gwerth ei rannu
Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ymarfer gwerth ei rannu. Mae'n ystyried y ffactorau cyffredin sy'n sail i'r ymarfer cadarnhaol rydym yn dod ar ei draws wrth arolygu. Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu'r rhai hynny sy'n gweithio yn y sector i ystyried sut y gallent wneud gwelliannau pellach i'r gofal a'r cymorth y maent yn eu darparu i'r plant a'r teuluoedd sy'n defnyddio eu gwasanaethau.
Ymarfer gwerth ei rannu
Pan fyddwn yn nodi enghreifftiau o ymarfer sy'n arbennig o effeithiol sy'n cael effaith gadarnhaol ar blant, byddwn yn gofyn i ddarparwyr roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn y maent yn ei wneud a sut mae'r plant yn eu gofal wedi cael budd o hynny. Rydym yn rhannu'r enghreifftiau ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn annog darparwyr eraill i ystyried sut y gellir rhoi'r gwersi hyn ar waith yn eu lleoliadau eu hunain.
Dyma rai o'r themâu cyffredin rydym wedi'u gweld hyd yma:
1. Ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n ystyriol o emosiynau
Mae llawer o'r gwasanaethau llwyddiannus yn rhoi blaenoriaeth i lesiant emosiynol y plant, eu hyder a'u hymdeimlad o berthyn. Er enghraifft, mae First Friends yn canolbwyntio ar reoli 'teimladau mawr' drwy lens llesiant, ac mae Red Robins yn meithrin empathi drwy gysylltiadau sy'n pontio cenedlaethau.
Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos, pan fydd darparwyr yn rhoi pwyslais cryf ar hawliau plant, eu llesiant a'u lleisiau, yn unol â'r disgwyliadau a nodir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, mae hyn yn gwella profiadau a chanlyniadau i blant.
Mae darparwyr sy'n gweithio i gefnogi llythrennedd emosiynol, dulliau rheoleiddio ar y cyd a chydberthnasau cadarnhaol yn dangos eu bod yn deall yr egwyddorion a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl ac ymrwymiad ehangach Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Mae dulliau fel helpu plant i reoli “teimladau mawr” yn dangos sut mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar lesiant sydd wedi'i gynnwys fel rhan o'r ddarpariaeth o ddydd i ddydd yn cael effaith gadarnhaol ar deimladau'r plant a sut maent yn cyfathrebu ac yn meithrin cydberthnasau â'r rhai sydd o'u cwmpas. Mae'r ymarfer hon yn gyson â phwyslais cynyddol AGC ar ymlyniad ac ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn ein fframwaith arolygu, ynghyd â nodau menter Nyth. Drwy roi profiadau ac anghenion emosiynol plant wrth wraidd popeth y maent yn ei wneud, mae'r lleoliadau hyn yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru a disgwyliadau AGC ynghylch datblygiad plant, ymddygiad a gofal ymatebol.
2. Cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
Mae llawer o ddarparwyr yn dangos ymrwymiad cryf i gynhwysiant drwy gymorth amlieithog ac arferion gwrth-hiliol. Er enghraifft, mae Sarah Sharpe yn canolbwyntio ar gynnig amgylchedd cynhwysol ac mae Helena Kowalewska yn meithrin cydberthnasau gwell drwy addasu ei dull gweithredu. Mae'r ddau ddull yn adlewyrchu dealltwriaeth ddofn o hunaniaethau plant a phwysigrwydd amgylcheddau teg.
Mae'r enghreifftiau hyn yn adlewyrchu cyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chydraddoldeb, gwrth-hiliaeth a gofal sy'n gyson â diwylliannau. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, fframwaith Mwy na Geiriau ar gyfer y Gymraeg a diwylliant Cymru, a gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol mewn perthynas ag amrywiaeth a pharch oll yn tywys darparwyr tuag at greu amgylcheddau teg a chynhwysol lle y caiff gallu, diwylliant, cefndir, iaith a thraddodiadau pob plentyn eu cydnabod a'u dathlu.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn rhannu uchelgais i bob plentyn yng Nghymru brofi ‘Cynefin’, sef ymdeimlad o berthyn, wedi'i gysylltu'n gryf â'i ardal leol a'i dreftadaeth. Mae darparwyr sy'n gweithio i sicrhau bod pob plentyn a theulu yn cael ei groesawu, ei gynnwys a'i dderbyn yn llawn yn meithrin yr ymdeimlad hwn o ‘Gynefin’ yn y plant y maent yn gofalu amdanynt a'u teuluoedd.
3. Defnydd arloesol o'r amgylchedd
Rydym hefyd yn gweld rhai enghreifftiau cadarnhaol o ddysgu yn yr awyr agored a gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ledled Cymru. Er enghraifft, mae Emma Lyddon yn tynnu sylw at sut y gall chwarae ym myd natur fagu hyder, ac mae ymweliadau â'r gymuned yn dangos sut y gall amgylcheddau allanol gyfoethogi cyfleoedd dysgu.
Mae rhoi blaenoriaeth i ddysgu yn yr awyr agored a chwarae ym myd natur yn rhoi profiadau ystyrlon ac ymarferol i'r plant sy'n eu cysylltu â natur, ffynonellau bwyd a bywyd gwyllt, gan gefnogi eu llesiant ar yr un pryd.
Mae ymgysylltu'n ehangach â'r gymuned, drwy er enghraifft drefnu ymweliadau â grŵp dementia lleol, yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yng Nghymru i gefnogi llesiant plant drwy chwarae ac i gyfoethogi eu profiadau dysgu drwy feithrin cysylltiadau cryf â'r gymuned ac ymdeimlad cryf o berthyn. Mae llawer o'r enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol hefyd yn dangos sut y caiff dulliau dysgu ym myd natur a dulliau dysgu drwy brofiad eu cynnwys fel rhan o ymarfer yn unol â'r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
Mae'r dulliau hyn yn meithrin amgylcheddau lle mae'r plant yn arbrofi, yn dysgu am achos ac effaith ac yn magu hyder yn eu gallu eu hunain a'u hannibyniaeth.
4. Ymarfer myfyriol a bwriadus
Mae darparwyr yn aml yn disgrifio sut maent wedi addasu eu dulliau yn seiliedig ar arsylwadau, adborth neu nodau penodol. Mae'r ffordd fyfyriol hon o feddwl yn un o nodweddion amlwg ymarfer o ansawdd uchel ac awydd gwirioneddol i wneud gwelliannau parhaus o ran canlyniadau i blant.
Mae llawer o ddarparwyr yn disgrifio sut maent wedi addasu eu dulliau mewn ymateb i arsylwadau, adborth a blaenoriaethau a nodwyd, gan ddangos ymrwymiad i wella'n barhaus yn unol â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar. Mae'r defnydd o adnoddau fel yr Adnodd Ymarfer Myfyriol Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn dod yn fwy cyffredin, gan helpu darparwyr i strwythuro eu gwerthusiad a chynllunio datblygiadau ar gyfer y dyfodol.
Mae AGC yn cydnabod pwysigrwydd ac effaith dealltwriaeth ymarferwyr o ddatblygiad plant a defnyddio prosesau myfyriol i lywio eu darpariaeth. Drwy gynnwys prosesau ystyriol ac ymatebol ar gyfer gwneud penderfyniadau fel rhan o'u gwaith bob dydd, mae'r lleoliadau hyn yn dangos sut mae ymarfer myfyriol yn cyfrannu'n uniongyrchol at wella profiadau a chanlyniadau i blant.
Nodweddion eraill y prosiect gwella gofal plant a chwarae
Cyfarfodydd ansawdd
Gwnaethom gyflwyno cyfarfodydd ansawdd ym mis Rhagfyr 2024. Mae'r cyfarfodydd hyn yn llai ffurfiol nag arolygiad llawn ac yn cael eu cynnal rhwng ymweliadau arolygu. Maent yn rhoi cyfle i ddarparwyr drafod gwelliannau a wnaed ers eu harolygiad diwethaf, gan gynnwys cynnydd ar unrhyw Feysydd i'w Gwella (AFI) neu argymhellion a nodwyd. Gall darparwyr hefyd rannu cynlluniau ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol, a byddwn yn eu cyfeirio at unrhyw ffynonellau cyngor a chymorth perthnasol. Mae'r sgyrsiau yn canolbwyntio ar sut mae'r gwaith a wneir yn effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i'r plant, a'r effaith ar eu llesiant, eu datblygiad a'u parodrwydd i ymgysylltu.
Cynadleddau ansawdd
Gwnaethom ddechrau cynnal cynadleddau ansawdd blynyddol yn 2024. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig fforwm i bob darparwr gofal plant a chwarae ddod ynghyd a dathlu ymarfer cadarnhaol a rhannu gwersi.
Caiff darparwyr sydd wedi rhoi enghreifftiau o ymarfer gwerth ei rannu i ni eu gwahodd i rannu eu straeon â darparwyr eraill a byddant wrth law i ateb unrhyw gwestiynau gan eu cymheiriaid.
“Cynhadledd ffantastig, syniadau gwych ac rwy'n teimlo'n hyderus y gallaf ddefnyddio'r wybodaeth i gefnogi ein lleoliad. Diolch”
“Roedd yn ddigwyddiad cefnogol, llawn gwybodaeth ac yn gyfle i ddathlu – ffordd hyfryd o'n hysbrydoli a'n hannog i barhau i ymdrechu i wella er budd ein rhai bach”
Casgliad
Rydym am gydnabod a dathlu ymarfer da lle rydym yn dod ar ei draws. Yn ogystal â dilysu gwaith ymarferwyr, mae cydnabod ymarfer da hefyd yn atgyfnerthu negeseuon cenedlaethol ynghylch gwerth gwella drwy ddysgu ar y cyd. Mae AGC yn cefnogi bwriadau polisi'r cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar i atgyfnerthu'r gweithlu drwy barch proffesiynol, rhannu enghreifftiau o ymarfer gorau a gwneud gwelliannau ym mhob rhan o'r sector. Yn bwysicaf oll, rydym am sicrhau bod gwasanaethau gofal plant a chwarae sy'n parhau i wella a ffynnu ar gael i blant yng Nghymru.