Gwnewch gais i fod yn Gadeirydd ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Rydym yn chwilio am unigolyn ymrwymedig a brwdfrydig i gadeirio ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n gwaith ac i arwain y Bwrdd wrth fonitro a chraffu ar ein gweithgareddau, a'n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau.
Mae'r Bwrdd yn rhoi cyfle i bobl leisio eu barn am yr hyn a wnawn ac mae'n cynnwys aelodau o'r sector gofal plant, y sector gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol. Mae'n cynnig arbenigedd a chyngor er mwyn ein helpu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant er lles pobl Cymru.
Bydd disgwyl i chi fynychu a chadeirio holl gyfarfodydd y Bwrdd, a gaiff eu cynnal deirgwaith y flwyddyn. Mae'r swydd yn wirfoddol ac mae angen neilltuo tua phum diwrnod gwaith y flwyddyn ar ei chyfer, gan gynnwys cyfarfodydd y Bwrdd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gadeirydd, dilynwch y ddolen i'r pecyn recriwtio i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais.
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn canol dydd ar 20 Tachwedd 2026, fan bellaf.
Dogfennau
-
Pecyn recriwtio - Recriwtio Cadeirydd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 282 KBPDF, Maint y ffeil:282 KB