Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Melanie Davies

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Melanie Davies ydw i ac rwy'n aelod newydd o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru.

Melanie Davies

Beth ydw i'n ei wneud?

Rwy'n ofalwr di-dâl sy'n gofalu am fy ngŵr a'm merch hynaf.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Rwyf wedi bod yn ofalwr di-dâl ers dros 40 mlynedd. Roeddwn yn gofalu am fy Mam 90 oed oedd â chlefyd Alzheimer ac rwyf bellach yn gofalu am fy ngŵr a'm merch.

Beth sy'n bwysig i fi

Mae helpu i wella ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl, eu hawliau a'r hawl iddynt gael gwybodaeth a chymorth yn bwysig i fi, gan gynnwys gofalwyr di-dâl sy'n gweithio a'r rhai nad ydynt yn gweithio.

Rwy'n hoffi helpu i roi nôl i'r gymuned.