Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Polisi ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu

Trefniadau ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu ar ein gwefan.

Cyhoeddwyd: 19 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Crynodeb o'r polisi hwn

Pan fyddwn yn arolygu gwasanaeth rheoleiddiedig, mae dyletswydd arnom i baratoi adroddiad ysgrifenedig ar ein canfyddiadau a sicrhau bod yr adroddiad hwn ar gael. Mae'r polisi hwn yn nodi'r trefniadau rydym yn eu dilyn er mwyn sicrhau bod adroddiadau arolygu ar gael. Caiff y ddeddfwriaeth berthnasol ei rhestru ar ddiwedd y polisi hwn.  

Pam rydym yn cyhoeddi adroddiadau arolygu

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau arolygu er mwyn sicrhau bod canfyddiadau ein harolygiadau ar gael i'r bobl sydd am wybod am wasanaeth penodol, gan gynnwys darparwr/darparwyr y gwasanaeth hwnnw.

Pan fydd ein canfyddiadau'n cynnwys sgôr o ansawdd y gwasanaeth, byddwn yn cyhoeddi'r sgôr fel rhan o'r adroddiad.

Adroddiadau arolygu ar ein gwefan

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r mathau o wasanaethau rydym yn eu rheoleiddio, rydym yn cyhoeddi adroddiadau arolygu ar ein gwefan ar ffurf crynodeb o'n canfyddiadau (gan gynnwys sgorau, lle y bo'n gymwys), gyda fersiwn lawn o'r adroddiad wedi'i hatodi ar ffurf dogfen PDF y gellir ei hargraffu. Caiff y ddau adroddiad diweddaraf ar wasanaeth neu ddarparwr penodol eu harddangos ar y wefan, ac weithiau mae adroddiadau cynharach ar gael ar gais.

Nid yw adroddiadau ar warchodwyr plant, cartrefi gofal i blant, ysgolion arbennig preswyl, gwasanaethau llety diogel a chanolfannau preswyl i deuluoedd yn cynnwys cyfeiriadau.

Wrth lunio adroddiadau ar gartrefi gofal i blant, gwasanaethau llety diogel a chanolfannau preswyl i deuluoedd, rydym yn cyhoeddi'r adroddiad yn uniongyrchol i'r unigolyn cyfrifol a/neu'r darparwr cofrestredig yn hytrach na'i gyhoeddi ar y wefan. Os bydd angen copi o adroddiadau arolygu nas cyhoeddwyd arnoch, gallwch gyflwyno cais i AGC i'w ystyried.

Sicrhau bod adroddiadau arolygu yn hygyrch

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r mathau o wasanaethau rydym yn eu rheoleiddio, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • e-bostio copïau electronig o fersiwn derfynol yr adroddiad nas cyhoeddwyd yn uniongyrchol at yr unigolion dynodedig sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth
  • cyhoeddi fersiwn derfynol yr adroddiad ar ein gwefan
  • darparu fersiynau copi caled i'r unigolion hynny na fyddent yn gallu cael mynediad at yr adroddiad yn electronig

Mae ein holl adroddiadau ar gael yn Saesneg fodd bynnag, o 30 Mawrth 2016, yn unol â Safon 40 o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, caiff Arolygiaeth Gofal Cymru ei heithrio rhag gorfod cyhoeddi pob adroddiad arolygu rheoleiddiol yn Gymraeg.

Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiadau hyn yn ddwyieithog dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Ar gyfer gwasanaethau sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
  • Lle rydym wedi canfod y byddai hyn yn adlewyrchu dewis iaith y gwasanaeth. Byddwn yn cadarnhau dewis iaith gwasanaeth adeg ei gofrestru, ac yn gwirio drwy'r ymarfer casglu data blynyddol.
  • Pan fydd yr adroddiad yn ymwneud â lleoliad gofal penodol lle bo mwyafrif y cwsmeriaid yn siaradwyr Cymraeg, a bod Arolygwyr o’r farn y bydd defnyddwyr y gwasanaeth neu eu teuluoedd am gael adroddiad Cymraeg o bosibl.
  • Gall y cyhoedd wneud cais rhesymol a chymesur i weld unrhyw o adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru yn y Gymraeg. Ar gyfer ceisiadau o'r fath, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystyried p'un a yw'r pwnc neu'r gynulleidfa ddisgwyliedig yn awgrymu y dylai'r adroddiad fod ar gael yn Gymraeg, yn unol â Safon 47 Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Dylai ceisiadau gan y cyhoedd cael ei anfon at y blwch post Arolygiaeth Gofal Cymru.

Amserlen ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu

Yn gyffredinol, rydym yn ymrwymo i ddrafftio adroddiad o fewn pum wythnos (25 diwrnod gwaith) ar ôl cynnal arolygiad. Yna, bydd gan ddarparwyr bythefnos (10 diwrnod gwaith) i adolygu'r adroddiad terfynol nas cyhoeddwyd a rhoi gwybod i ni a yw'n cynnwys unrhyw wallau. Wedyn, caiff yr adroddiad ei gyhoeddi fel arfer, er y gellir gohirio ei gyhoeddi os bydd angen datrys materion o ran cywirdeb.

Mae ein Polisi ar gyfer ymateb i adroddiadau arolygu, sydd ar gael ar ein gwefan, yn rhoi rhagor o fanylion am sut y gall darparwyr ymateb i ni am gynnwys adroddiad arolygu, a'r ffordd rydym yn ymdrin ag ymatebion o'r fath.  

Gwybodaeth bersonol

Mae ein Hysbysiad preifatrwydd, sydd ar gael ar ein gwefan, yn nodi'r math o wybodaeth bersonol y gallwn ei chasglu, yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth, gyda phwy y gallwn ei rhannu, am faint y byddwn yn ei chadw a beth yw hawliau'r bobl mewn perthynas â'r wybodaeth.

Nid ydym yn cyhoeddi gwybodaeth bersonol oni fydd yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

Y cyd-destun cyfreithiol

Mae'r gofynion statudol canlynol yn gymwys mewn perthynas â chyhoeddi adroddiadau am wasanaethau rheoleiddiedig yng Nghymru:

  • Deddf Plant 1989: paragraffau (9A), (9B), a (9C) o adran 87.
  • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010: adran 40.
  • Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010: paragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 2.
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016: paragraff (3) o adran 36.