Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Polisi Gorfodi Troseddol

Sut rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi troseddol i sicrhau bod y bobl berthnasol yn atebol am fethiannau difrifol mewn gwasanaethau rheoleiddiedig.

Cyhoeddwyd: 8 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

1.1 Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn ategu'r Polisi sicrhau gwelliant a gorfodi'. Mae ein 'Polisi sicrhau gwelliant a gorfodi' yn esbonio sut rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi sifil os na fydd gwasanaethau yn darparu gofal o ansawdd da neu os na fyddant yn bodloni gofynion y gyfraith.

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi troseddol i sicrhau bod y bobl berthnasol yn atebol am fethiannau difrifol mewn gwasanaethau rheoleiddiedig.  

Gall AGC gymryd camau gorfodi troseddol mewn ymateb i achosion o dorri rhai rheoliadau penodol, ac adrannau o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('y Ddeddf') a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ('y Mesur'). Ceir rhestr gryno o droseddau deddfwriaethol a rheoliadol ar ein gwefan.  

Caiff camau gorfodi troseddol eu cymryd yn erbyn unrhyw ddarparwr cofrestredig a/neu unigolyn cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth berthnasol) neu berson/darparwr sy'n cynnal gweithgarwch rheoleiddiedig heb gofrestriad i wneud hynny. Caiff camau gorfodi troseddol hefyd eu cymryd yn erbyn unrhyw berson sy'n ein rhwystro rhag cynnal arolygiad ac yn erbyn personau cofrestredig neu bersonau heb eu cofrestru os byddant wedi gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol mewn unrhyw gais i ni.  

Caiff pob ymchwiliad i drosedd ei gynnal yn unol ag egwyddorion a Chodau Ymarfer Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (CPIA) (Dolen allanol) a Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) (Dolen allanol).   

Rhestr termau

RISCA

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yw'r ddeddfwriaeth y caiff darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion a phlant eu cofrestru oddi tani.

Y Mesur Plant a Theuluoedd

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yw'r ddeddfwriaeth y caiff darparwyr gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd eu cofrestru oddi tani.

Panel Gwella a Gorfodi (IEP

Diben y Panel Gwella a Gorfodi fydd:

  • ystyried yr achos o ddiffyg cydymffurfio neu bryderon a nodwyd mewn perthynas â darparwr cofrestredig a/neu unigolyn cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth berthnasol)
  • ystyried pryderon sy'n ymwneud â gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad
  • adolygu'r dystiolaeth sy'n sail i'r achos o ddiffyg cydymffurfio neu bryderon a rhoi cyfarwyddiadau ynghylch unrhyw dystiolaeth arall sydd ei hangen
  • penderfynu ar y camau gorfodi sifil neu droseddol a argymhellir y mae angen eu cymryd er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth(au) a diogelwch y rhai sy'n ei ddefnyddio/eu defnyddio
  • ystyried y strategaeth gyfathrebu sydd ei hangen ar gyfer unrhyw gamau gorfodi a bennir 
Bwrdd Gwella a Gorfodi (IEB)

Diben y Bwrdd Gwella a Gorfodi fydd: 

  • sicrhau ansawdd y penderfyniad hynny a wneir mewn Panel Gwella a Gorfodi, a goruchwylio'r penderfyniadau hynny
  • ystyried argymhellion ar gyfer camau gorfodi troseddol a wneir mewn Panel Gwella a Gorfodi
  • goruchwylio a gwneud penderfyniadau os argymhellir camau gorfodi troseddol
  • ystyried argymhellion Panel Gwella a Gorfodi os oes pryderon ar lefel y darparwr
  • goruchwylio a gwneud penderfyniadau os oes pryderon ar lefel darparwr 

2. Llwybr camau gorfodi troseddol

2.1. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Cam 1: Adolygiad Cychwynnol  

Gall fod yn briodol cynnal adolygiad cychwynnol os down yn ymwybodol o ddigwyddiadau a all olygu bod trosedd wedi'i chyflawni o dan y ddeddfwriaeth. Mae'r adolygiad cychwynnol yn ein galluogi i ganfod y ffeithiau ac i ystyried a oes gennym dystiolaeth i gredu bod trosedd wedi'i chyflawni. Y Panel Gwella a Gorfodi fydd yn gwneud y penderfyniad i gynnal Adolygiad Cychwynnol.   

Y penderfyniad i gynnal Adolygiad Cychwynnol   

Y Panel Gwella a Gorfodi fydd yn gwneud y penderfyniad i gynnal Adolygiad Cychwynnol. Diben adolygiad cychwynnol yw sefydlu a oes tystiolaeth i awgrymu bod y trothwy canlynol yn cael ei fodloni: 

  1.  a oes trosedd a nodir yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) neu'r Mesur Plant a Theuluoedd wedi'i chyflawni; neu 
  2. a fu methiant mewn gofal/achos o dorri rheoliad a bod y methiant hwnnw wedi arwain at: 
    1. niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn
    2. unigolyn yn cael ei amlygu i risg sylweddol o niwed o’r fath  
    3. yn achos dwyn, camddefnyddio neu gam-berchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw; ac  
  3.  a oes un o'r ffactorau canlynol yn gymwys:    
    1. Mae dwyster y digwyddiad, ynghyd â difrifoldeb unrhyw niwed gwirioneddol neu niwed posibl neu gofnod a dull gweithredu cyffredinol y darparwr, yn golygu y gallai peidio â dwyn y darparwr i gyfrif danseilio hyder y cyhoedd yn y broses reoleiddio neu yn y sector hwnnw o ddarparwyr.
    2. Cafodd y gofynion ar berson cofrestredig eu diystyru.
    3. Bu achosion mynych neu luosog o dorri'r rheoliadau, gan arwain at risg sylweddol neu achosion parhaus a sylweddol o gydymffurfiaeth wael.  
    4. Mae'r gwasanaeth yn torri hanfodion gofal, hynny yw ei fod wedi parhau i weithredu'n sylweddol is na'r safonau sy'n ofynnol i gydymffurfio â'r rheoliadau ac felly'n cyflwyno risg sylweddol.
    5. Mae'n bosibl y bydd y potensial i nodi pwyntiau dysgu ehangach i ddarparwyr yn golygu y byddwn yn blaenoriaethu achos unigol, er mwyn i'r dull gorfodi anfon neges ehangach i sector ac annog gwelliant ym mhob rhan ohono. 

Efallai na fydd yn ofynnol cynnal Adolygiad Cychwynnol mewn amgylchiadau lle mae'r Bwrdd Gwella a Gorfodi yn fodlon bod tystiolaeth ddigonol i wneud penderfyniad.  

Pan fydd Panel Gwella a Gorfodi yn fodlon bod tystiolaeth ddigonol i awgrymu bod trosedd wedi'i chyflawni a bod un o'r ffactorau a restrir ym mhwynt 3 yn gymwys, gwneir argymhelliad i'r Bwrdd Gwella a Gorfodi y dylid cynnal ymchwiliad troseddol. 

Cam 2: Ymchwiliad Troseddol  

Y penderfyniad i gynnal Ymchwiliad Troseddol  

Dim ond gan y Bwrdd Gwella a Gorfodi y gwneir y penderfyniad i gynnal ymchwiliad troseddol, yn dilyn argymhelliad a wnaed gan y Panel Gwella a Gorfodi a gan ystyried yr adroddiad atgyfeirio a baratowyd gan yr arolygydd perthnasol. 

Yn achos gwasanaethau cofrestredig, bydd y Bwrdd Gwella a Gorfodi yn ystyried a yw'r trothwy canlynol yn cael ei fodloni: 

  1. mae trosedd a nodir yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) neu'r Mesur Plant a Theuluoedd wedi'i chyflawni; neu 
  2. bu methiant mewn gofal/achos o dorri rheoliad a bod y methiant hwnnw wedi arwain at:   
    1. niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn
    2. unigolyn yn cael ei amlygu i risg sylweddol o niwed o’r fath,  
    3. yn achos dwyn, camddefnyddio neu gam-berchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.

Yn achos gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad, bydd y Bwrdd Gwella a Gorfodi yn ystyried a yw'r trothwy canlynol yn cael ei fodloni: 

  1. A yw'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi dioddef niwed (effaith ddifrifol ar fywyd, iechyd neu lesiant person), neu  
  2. A fu ymddygiad tebyg yn flaenorol, neu
  3. A yw'r person/darparwr wedi diystyru'r gofyniad i gofrestru yn llwyr, neu
  4. A yw'r person/darparwr wedi darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i'r cyhoedd neu AGC yn fwriadol. 

Bydd y Bwrdd Gwella a Gorfodi yn ystyried y ffactorau ychwanegol canlynol ym mhob achos: 

  1.  A yw dwyster y digwyddiad, ynghyd â difrifoldeb unrhyw niwed gwirioneddol neu niwed posibl neu gofnod a dull gweithredu cyffredinol y darparwr, yn golygu y gallai peidio â dwyn y darparwr i gyfrif danseilio hyder y cyhoedd yn y broses reoleiddio neu yn y sector hwnnw o ddarparwyr.
  2. A gafodd y gofynion ar berson cofrestredig eu diystyru.  
  3. A fu achosion mynych neu luosog o dorri'r rheoliadau, gan arwain at risg sylweddol neu achosion parhaus a sylweddol o gydymffurfiaeth wael.  
  4. A yw'r gwasanaeth yn torri hanfodion gofal, hynny yw ei fod wedi parhau i weithredu'n sylweddol is na'r safonau sy'n ofynnol i gydymffurfio â'r rheoliadau ac felly'n cyflwyno risg sylweddol.
  5. Mae'n bosibl y bydd y potensial i nodi pwyntiau dysgu ehangach i ddarparwyr yn golygu y byddwn yn blaenoriaethu achos unigol, er mwyn i'r dull gorfodi anfon neges ehangach i sector ac annog gwelliant ym mhob rhan ohono.

Bydd y Bwrdd Gwella a Gorfodi bob amser yn ystyried a yw  o fudd i'r cyhoedd i barhau ag ymchwiliad.  

Penderfyniadau i atgyfeirio materion i'r gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer erlyniad 

Mewn achosion lle mae'r Bwrdd Gwella a Gorfodi yn fodlon bod y profion tystiolaethol a budd y cyhoedd yn cael eu bodloni (gan roi sylw i God Erlyn Llywodraeth Cymru (Dolen allanol)), gwneir argymhelliad i'r Dirprwy Brif Arolygydd atgyfeirio'r mater at y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer erlyniad.  

Ceir canlyniadau amgen o ymchwiliad troseddol ym mharagraff 2.4 o'r polisi hwn.

Bydd y Dirprwy Brif Arolygydd yn gyfrifol am wneud argymhelliad i'r Gwasanaethau Cyfreithiol i ystyried erlyn, ar ôl ystyried Adroddiad Ymchwiliad Troseddol AGC. 

Cam 3: Erlyniad Troseddol   

Pan fydd argymhelliad i fwrw ati ag erlyniad troseddol wedi cael ei dderbyn gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, caiff y penderfyniad i erlyn ei wneud gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cwnsler Cyffredinol, yn unol â Chod Erlyn Llywodraeth Cymru (Dolen allanol).    

Trosolwg o'r Llwybr Gorfodi Troseddol 
  1. Penderfyniad y Panel Gwella a Gorfodi: Y trothwy wedi'i fodloni
  2. Penderfyniad y Panel Gwella a Gorfodi: Y trothwy wedi'i fodloni ar gyfer argymell cynnal Ymchwiliad Troseddol yn dilyn Adolygiad Cychwynnol → Na: Y Panel Gwella a Gorfodi i ystyried canlyniad priodol  
    • (a)Penderfyniad y Panel Gwella a Gorfodi: Y trothwy wedi'i fodloni ar gyfer argymell cynnal Ymchwiliad Troseddol heb Adolygiad Cychwynnol 
  3. Penderfyniad y Bwrdd Gwella a Gorfodi: Y trothwy wedi'i fodloni ar gyfer dechrau cynnal Ymchwiliad Troseddol  
  4. Penderfyniad y Bwrdd Gwella a Gorfodi: Y trothwy wedi'i fodloni ar gyfer Erlyniad Troseddol → Na: Y Panel Gwella a Gorfodi i ystyried canlyniad priodol  
  5. Penderfyniad y Dirprwy Brif Arolygydd: Y trothwy wedi'i fodloni ar gyfer Erlyniad Troseddol  → Na: Y Panel Gwella a Gorfodi i ystyried canlyniad priodol  
  6. Penderfyniad y Gwasanaethau Cyfreithiol: Y trothwy wedi'i fodloni ar gyfer Erlyniad Troseddol → Na: Y Panel Gwella a Gorfodi i ystyried canlyniad priodol  
  7. Cychwyn Achos Troseddol   

2.2 Adolygiadau Cychwynnol    

Dylid penderfynu ar gylch gwaith ac amserlen Adolygiad Cychwynnol yng nghyfarfod y Panel Gwella a Gorfodi ac fel arfer, caiff ei gyfyngu i archwilio cofnodion perthnasol mewn perthynas â'r digwyddiad(au) dan sylw. Ni ddylai Adolygiad Cychwynnol gymryd mwy na 46 wythnos i'w gwblhau.  

Ni chaiff y rheini sy'n destun Adolygiad Cychwynnol eu hysbysu ei fod yn mynd rhagddo bob amser. Cytunir ar strategaeth cyfathrebu yn y Panel Gwella a Gorfodi.    

Bydd yr arolygydd sy'n cynnal yr Adolygiad Cychwynnol yn adrodd ar ei ganfyddiadau i'r Panel Gwella a Gorfodi. Lle ceir tystiolaeth ddigonol i ni amau bod trosedd wedi'i chyflawni, bydd y Panel Gwella a Gorfodi yn gwneud argymhelliad i'r Bwrdd Gwella a Gorfodi y dylid cynnal ymchwiliad troseddol.  

2.3 Ymchwiliadau troseddo

Caiff pob ymchwiliad i drosedd ei gynnal yn unol ag egwyddorion a Chodau Ymarfer Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (CPIA) (Dolen allanol) a Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) (Dolen allanol).   

Bydd y Bwrdd Gwella a Gorfodi yn penderfynu ar y cylch gwaith, yr amserlen ac adolygiadau a drefnwyd ar gyfer ymchwiliad troseddol.  

Pan fyddwn yn cynnal ymchwiliadau ar wasanaethau cofrestredig, bydd arolygydd gorfodi ac arolygydd gwasanaeth yn cydweithio i gynnal yr ymchwiliad. Mewn achosion lle rydym yn ymchwilio i wasanaeth yr amheuir ei fod yn gweithredu heb gofrestriad, bydd arolygydd gorfodi yn cynnal yr ymchwiliad. Bydd cynghorydd Gwasanaethau Cyfreithiol yn rhoi cyngor ac arweiniad drwyddi draw.  

Cynhelir cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu Ymchwiliad Troseddol yn ôl y gofyn drwy gydol yr ymchwiliad.  

Fel arfer, caiff y rheini sy'n destun ymchwiliad eu hysbysu bod ymchwiliad troseddol wedi cychwyn, fodd bynnag, gall fod rhai amgylchiadau lle na fydd hyn yn briodol. Cytunir ar benderfyniadau mewn perthynas â chyfathrebu yn y Bwrdd Gwella a Gorfodi.  

Caiff aelodau teulu perthnasol sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth sy'n destun ymchwiliad eu hysbysu ar y dechrau. Ymgynghorir ag aelodau teulu ac ystyrir eu safbwyntiau fel rhan o broses yr ymchwiliad.  

2.4 Canlyniadau ymchwiliad 

Pan fydd ymchwiliad troseddol wedi'i gwblhau, caiff Adroddiad Ymchwiliad Troseddol AGC ei gyflwyno i'r Bwrdd Gorfodi, gyda chanlyniad a argymhellir. Canlyniadau posibl ymchwiliad troseddol yw:  

  • penderfynu peidio â bwrw ati ag erlyniad troseddol  
  • cyfarfod â darparwyr  
  • atgyfeiriad at gorff rheoleiddio arall  
  • argymhelliad i Ddirprwy Brif Arolygydd atgyfeirio at y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer Erlyniad  

Bydd AGC yn hysbysu aelodau teulu perthnasol sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth o fewn pum diwrnod gwaith i ganlyniad yr ymchwiliad. 

Penderfynu peidio â bwrw ati ag erlyniad troseddol  

Os na chaiff y prawf tystiolaethol a budd y cyhoedd ei fodloni, daw'r ymchwiliad i ben. Bydd angen ystyried a fydd adroddiad Ymchwiliad Troseddol AGC yn cael ei roi i'r sawl a amheuir neu unrhyw drydydd partïon eraill â diddordeb a fydd yn cynnwys canlyniadau allweddol yr ymchwiliad.  Bydd AGC yn hysbysu aelodau teulu perthnasol sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth o fewn pum diwrnod gwaith i ganlyniad yr ymchwiliad ac yn eu cynghori o'u hawl i gael adolygiad. 

Mae Atodiad 4 yn nodi proses Hawl Dioddefwyr i gael Adolygiad. Bydd yr hawl i ofyn am adolygiad yn codi pan fydd AGC:  

  • yn penderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad troseddol (h.y. ar unrhyw bwynt ar ôl i ymchwiliad troseddol gychwyn); neu
  • yn penderfynu peidio ag argymell yr ymchwiliad i'r Gwasanaethau Cyfreithiol i'w ystyried ar gyfer erlyniad; 

Cyfarfod â darparwr   

Gall cyfarfod â darparwr fod yn gam gweithredu priodol os bydd yn ymddangos bod tystiolaeth dros gredu bod trosedd wedi'i chyflawni neu fod methiant mewn gofal/achos o dorri rheoliad wedi digwydd, ond nad oedd prawf budd y cyhoedd wedi'i fodloni. Gall enghraifft o hyn gynnwys: Bod AGC wedi cymryd camau gorfodi sifil i leihau risg a gwella canlyniadau i bobl oherwydd methiant mewn gofal/achos o dorri rheoliad a nodwyd yn ystod arolygiad.  

Pan fydd AGC yn canfod bod tystiolaeth dros amau bod trosedd wedi'i chyflawni neu fod methiant mewn gofal/achos o dorri rheoliad wedi digwydd, dylid nodi hyn yn Adroddiad.

Ymchwiliad Troseddol AGC. Cyn cynnal cyfarfod â darparwr, dylid anfon copi o'r adroddiad at y darparwr.  

Bydd y cyfarfod â darparwr yn gyfle i'r darparwr roi sylwadau ar gynnwys yr adroddiad a chasgliadau AGC. Yn dilyn y cyfarfod hwn, caiff llythyr ei anfon at y darparwr yn tynnu sylw at ganfyddiadau AGC ac yn amlinellu unrhyw argymhellion. Mae'n debygol y caiff y meysydd hyn eu hystyried mewn unrhyw arolygiad yn y dyfodol.  

Bydd y Bwrdd Gwella a Gorfodi yn ystyried a ellir rhannu adroddiad Ymchwiliad Troseddol AGC â thrydydd partïon â diddordeb ar sail fesul achos a gan ddilyn cyngor cyfreithiol.  

Atgyfeiriad at gorff rheoleiddio arall 

Yn ystod ymchwiliad, gall tystiolaeth ddod i'r amlwg sy'n golygu bod angen atgyfeirio at gorff rheoleiddiol arall, fel:

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (Dolen allanol), Gofal Cymdeithasol Cymru, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Dolen allanol) neu'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (Dolen allanol).  

Pan fydd angen atgyfeirio, rhaid i'r arolygwyr ddilyn canllawiau AGC mewn perthynas â hyn. 

Argymhelliad i'r Dirprwy Brif Arolygydd atgyfeirio at y Gwasanaeth Cyfreithiol ar gyfer Erlyniad  

Mewn achosion lle bodlonir y profion tystiolaethol a budd y cyhoedd (gan roi sylw i God Erlyn Llywodraeth Cymru), gwneir argymhelliad i'r Dirprwy Brif Arolygydd atgyfeirio'r mater at y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer erlyniad. 

2.5 Atgyfeirio ymchwiliadau at y Gwasanaethau Cyfreithiol  

Y Dirprwy Brif Arolygydd fydd yn gyfrifol am argymell i'r Gwasanaethau Cyfreithiol y dylid ystyried cynnal erlyniad.

Pan fydd argymhelliad i fwrw ati ag erlyniad troseddol wedi'i dderbyn gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, caiff y penderfyniad ei wneud yn unol â Chod Erlyn Llywodraeth Cymru (Dolen allanol).  Mae hyn yn cynnwys prawf dau gam – y cam tystiolaeth ddigonol a cham budd y cyhoedd.  

Rhaid bod tystiolaeth ddigonol i roi siawns realistig o euogfarn. Er mwyn penderfynu a oes tystiolaeth ddigonol, mae angen ystyried a yw'r dystiolaeth yn dderbyniadwy, yn ddibynadwy ac yn gredadwy. Lle yr ystyrir bod tystiolaeth ddigonol yn bodoli, rhaid iddi fod er budd y cyhoedd i fwrw ati ag erlyniad. Ymysg y ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu ar fudd y cyhoedd mae difrifoldeb y drosedd, amgylchiadau'r drosedd ac amgylchiadau'r dioddefwr.   

Os na fydd yr achos yn pasio'r prawf tystiolaethol, ni ddylai fynd rhagddo, ni waeth pa mor bwysig neu ddifrifol y gall fod. Os caiff y prawf tystiolaethol ei fodloni, rhaid ystyried cynnal prawf budd y cyhoedd.

2.6 Canlyniadau atgyfeiriad at y Gwasanaethau Cyfreithiol   

Gall y Gwasanaethau Cyfreithiol wneud y penderfyniadau canlynol:  

  • erlyn rhai o'r troseddau neu bob un ohonynt
  • rhoi rhybudd syml  
  • peidio â dwyn achos troseddol
  • rhoi hysbysiad cosb (os caiff y drosedd ei chyflawni o dan adran 47, 48 neu 49 o Ddeddf 2016 neu reoliadau a wnaed o dan adran 27, 38 neu 38(2)(a) o Ddeddf 2016)  

Erlyn rhai o'r troseddau neu bob un ohonynt -  Y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol fydd yn penderfynu a ddylid bwrw ati ag erlyniad, ar ôl ymgynghori â'r Cwnsler Cyffredinol. Caiff y penderfyniad hwn ei wneud yn unol â Chod Erlyn Llywodraeth Cymru.   

Mae rhybudd syml yn sicrhau bod cofnod ffurfiol o drosedd pan fydd darparwr a/neu unigolyn cyfrifol dynodedig wedi cyfaddef yn glir ei fod yn euog, ond na chaiff ei erlyn. Ceidw unigolyn yr hawl i wrthod y cynnig o rybudd syml hyd yn oed pan fydd wedi cyfaddef ei fod yn euog a gall y ffaith ei fod yn gwrthod arwain at erlyniad.  

Peidio â dwyn achos troseddol ond ystyried dull gweithredu amgen, e.e. ein camau gorfodi sifil; a/neu atgyfeirio at gorff rheoleiddio arall fel Gofal Cymdeithasol Cymru.   

Cyflwyno hysbysiad cosb (gwasanaethau RISCA yn unig) – O dan Ddeddf 2016, gellir cyflwyno hysbysiad cosb yn lle dwyn erlyniad. Mae talu cosb yn galluogi'r darparwr cofrestredig a/neu'r unigolyn cyfrifol dynodedig i osgoi cael ei erlyn am drosedd. Nid oes rhwymedigaeth ar y darparwr cofrestredig na'r unigolyn cyfrifol dynodedig i dalu'r swm o dan yr hysbysiad cosb. Fodd bynnag, yn yr achosion hynny gallwn argymell i'r Gwasanaethau Cyfreithiol y dylid ei erlyn.  Mae'r troseddau rhagnodedig y gellir cyflwyno hysbysiad cosb ar eu cyfer a swm y gosb ar gyfer pob trosedd wedi'u nodi yn yr Atodlen o droseddau rhagnodedig i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 ac yn Atodiad 2 o'r ddogfen hon. Mae canllawiau ar gyhoeddi hysbysiad cosb ar gael yma.  

Mae Cod Erlyn Llywodraeth Cymru (Dolen allanol) yn cynnwys canllawiau manylach i erlynyddion wrth benderfynu ar y canlyniadau hyn.  

3. Achosion Troseddol

3.1 Y diffynnydd  

Y diffynnydd yw'r unigolyn a gyhuddwyd o drosedd a gaiff ei alw i'r llys i ateb gwŷs.  

Mewn perthynas â gwasanaethau cofrestredig y mae'r drosedd yn gysylltiedig â methiant i gydymffurfio â gofyniad rheoleiddiol, y diffynnydd fydd un neu fwy o'r personau cofrestredig. Gallai hyn olygu'r darparwr cofrestredig, y rheolwr (sydd wedi cofrestru â Chyngor Gofal Cymru) a/neu'r unigolyn cyfrifol dynodedig. Ceir rhagor o fanylion yn adran 53 (Dolen allanol) o'r Ddeddf ac adran 50 (Dolen allanol) o'r Mesur.

Yn achos darparwr cofrestredig sy'n unigolyn bydd hyn yn syml.  Os mai sefydliad yw'r darparwr cofrestredig, gwneir erlyniad yn enw'r sefydliad hwnnw a chaiff y wŷs ei chodi arno;   

  • yn achos cwmni, cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni hwnnw (boed yn unigolyn cyfrifol ai peidio)
  • yn achos awdurdod lleol, prif weithredwr yr awdurdod lleol hwnnw
  • yn achos gofal dydd a'r cofrestriad gan gymdeithas anghorfforedig, aelod o'r gymdeithas honno  

Pan gaiff trosedd ei chyflawni gan berson cofrestredig sy'n rhan o gorff corfforaethol, cymdeithas anghorfforedig neu bartneriaeth, gall fod amgylchiadau pan fydd AGC yn dymuno bwrw ati hefyd yn erbyn unigolyn o fewn y sefydliad hwnnw neu'r gymdeithas honno am y rhan a gyflawnodd yn cyflawni'r drosedd honno.  

Gellir erlyn pobl am ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig heb eu cofrestru, neu unigolion yr honnir eu bod wedi rhwystro arolygwyr yn fwriadol rhag cyflawni eu dyletswyddau statudol. Mewn achosion o'r fath bydd yn bwysig ystyried hyn yn y broses ymchwilio a'r broses casglu tystiolaeth.  

Bydd gan unigolyn sy'n helpu, yn annog, yn cwnsela neu'n cael unigolyn arall i gyflawni trosedd yr un atebolrwydd troseddol â'r unigolyn arall hwnnw.1 Gall fod amgylchiadau pan fydd AGC yn ystyried y gall hyn fod yn gymwys, ac, os felly, unwaith eto, bydd yn bwysig cynllunio i hyn fod yn rhan o'r ymchwiliad a'r broses casglu tystiolaeth.   

3.2 Terfynau amser ar gyfer achosion  

Yn unol ag:   

  • Adran 55(2) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac
  • Adran 49 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 

Rhaid i achos diannod ar gyfer troseddau o dan y Ddeddf neu'r Mesur, neu reoliadau a wneir oddi tanynt, gael ei ddwyn o fewn 12 mis o'r dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol i gyfiawnhau'r achos yn ei farn ef.  

Nid oes terfyn amser ar gyfer cychwyn achos ar gyfer trosedd dditiadwy (gan gynnwys trosedd naill ffordd neu'r llall). Mae troseddau ditiadwy ymysg y troseddau mwyaf difrifol a dim ond rheithgor yn Llys y Goron a all eu gwrando. Trosedd naill ffordd neu'r llall yw trosedd y gellir ei gwrando yn y Llys Ynadon neu Lys y Goron.  

Mae Atodiad 4 yn cynnwys manylion am y broses Hawl Dioddefwr i Adolygiad. Bydd yr hawl i ofyn am adolygiad yn codi pan fydd AGC: 

  • yn penderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad troseddol (h.y. ar unrhyw bwynt ar ôl i ymchwiliad troseddol gychwyn); neu
  • yn penderfynu peidio ag argymell yr ymchwiliad i'r Gwasanaethau Cyfreithiol i'w ystyried ar gyfer erlyniad; 

Atodiad 1 – Hawl Dioddefwyr i Adolygiad

Cyflwyniad 

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r modd y gall dioddefwyr arfer eu hawl i gael adolygiad o benderfyniadau penodol a wneir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a dylid eu darllen ar y cyd â Pholisi Gorfodi Troseddol AGC.  

Mae cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad yn gymwys ym mhob achos cymwys o 5 Mehefin 2013.  

Ni chaiff y cynllun ei gymhwyso'n ôl-weithredol a dim ond i achosion lle caiff y penderfyniad cymhwyso ei wneud ar neu ar ôl 5 Mehefin 2013 y bydd yn gymwys. 

Cefndir 

Ar 29 Mehefin 2011, gwnaeth y Llys Apêl benderfyniad yn achos R v Christopher Killick [2011] EWCA Crim 1608 (R v Killick).  

Yn ystod y dyfarniad, ystyriodd y Llys yn fanwl hawl dioddefwr trosedd i gael adolygiad o benderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag erlyn a daeth i'r casgliad clir:

  • bod gan ddioddefwr hawl i gael adolygiad mewn amgylchiadau o'r fath
  • na ddylai dioddefwr orfod troi at adolygiad barnwrol
  • y dylid cael gweithdrefn a chanllawiau cliriach gyda chyfyngiadau amser ar gyfer yr hawl i adolygiad  

Mae cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad yn gweithredu'r egwyddorion a nodir yn Killick ac yn Erthygl 11 o Gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd sy'n nodi'r safonau gofynnol ar hawliau dioddefwyr troseddau a'r cymorth a'r diogelwch a roddir iddynt.  

Mae Hawl Dioddefwyr i Adolygiad yn deillio o derfynoldeb y penderfyniad i beidio ag erlyn ac mae'n cyd-fynd â hawl dioddefwr i gael adolygiad barnwrol o benderfyniad o'r fath. Yn wir, fel y nodwyd gan y Llys Apêl yn Killick: 

 ‘… it has for some time been established that there is a right by an interested person to seek judicial review of the decision not to prosecute …; it would therefore be disproportionate for a public authority not to have a system of review without recourse to court proceedings … As a decision not to prosecute is in reality a final decision for the victim there must be a right to seek a review of such a decision.’ 

Mae'n bwysig nodi mai'r “hawl” y cyfeirir ati yng nghyd-destun y cynllun yw'r hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad a'i roi ar waith [a hawl i gael gwybod am ganlyniad yr adolygiad]. Nid yw'n gwarantu y bydd yr achos yn cychwyn/ailgychwyn. 

Pa benderfyniadau sy'n ddarostyngedig i'r cynllun? 

Bydd yr hawl i ofyn am adolygiad yn codi pan fydd AGC: 

  1. yn gwneud y penderfyniad i beidio â pharhau ag ymchwiliad troseddol (h.y. ar unrhyw adeg ar ôl cychwyn ymchwiliad troseddol); neu
  2. yn penderfynu peidio ag argymell yr ymchwiliad i'r Gwasanaethau Cyfreithiol ystyried a oes sail dros erlyn; 

Gelwir y rhain yn ‘benderfyniadau cymhwyso’. 

NID YW'R achosion canlynol yn dod o fewn cwmpas Hawl Dioddefwr i Adolygiad: 

  1. achosion lle gwnaed y penderfyniad cymhwyso cyn hynny;
  2. achosion lle caiff achos ei ddwyn mewn perthynas â rhai honiadau a wnaed (ond nid pob un ohonynt) yn erbyn rhai pobl posibl a amheuir (ond nid pob un ohonynt);
  3. achosion lle caiff honiad neu honiadau eu terfynu ond bod honiad arall neu honiadau eraill mewn perthynas â'r dioddefwr hwnnw yn parhau;
  4. achosion lle caiff camau yn erbyn un (diffynnydd) neu fwy eu terfynu ond bod camau (mewn perthynas â'r dioddefwr hwnnw) yn erbyn diffynyddion eraill yn parhau;
  5. achosion lle caiff honiad neu honiadau eu newid yn sylweddol ond bod camau sy'n ymwneud â'r dioddefwr hwnnw'n parhau;
  6. achosion lle mae'r dioddefwr yn gofyn i'r camau gael eu hatal neu'n tynnu ei gefnogaeth i'r erlyniad yn ôl ac felly gwneir penderfyniad i derfynu'r camau. 

Ymdrinnir â phryderon ynghylch penderfyniadau cyfreithiol nad ydynt o fewn cwmpas cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad a chwynion eraill ar sail fesul achos. Mae cyfyngiad amser o chwe mis ar gyfer gwneud cwyn o dan bolisi Cwynion Llywodraeth Cymru ym mhob amgylchiad heblaw'r amgylchiadau mwyaf eithriadol. 

Pwy all wneud cais o dan y cynllun? 

Bydd gan unrhyw ddioddefwr, lle gwnaed penderfyniad cymhwyso, hawl i gael adolygiad o'r penderfyniad hwnnw o dan y cynllun. 

Caiff dioddefwr ei ddiffinio yn y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau (y Cod Dioddefwyr), fel a ganlyn:

‘person sydd wedi dioddef niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd a achoswyd yn uniongyrchol gan drosedd’ 

Mae hyn yn cynnwys:  

  • perthnasau agos person y cafodd ei farwolaeth ei achosi'n uniongyrchol gan ymddygiad troseddol;
  • rhieni neu warcheidwaid lle mae'r prif ddioddefwr yn blentyn neu'n berson ifanc dan 18 oed;
  • swyddogion yr heddlu sy'n ddioddefwyr troseddau;
  • llefarwyr teulu dioddefwyr sydd ag anabledd neu sydd wedi cael anaf mor ddrwg fel na allant gyfathrebu; a
  • busnesau, ar yr amod eu bod yn rhoi pwynt cyswllt wedi'i enwi 

Nid oes ots pa mor ifanc neu hen yw person mewn perthynas â'r rheini sydd â hawl i gael adolygiad o benderfyniad. 

Os bydd rhywun am gyflwyno cais am adolygiad ar ran dioddefwr ac nad yw'n cael ei gynnwys o fewn un o'r diffiniadau a restrir uchod, rhaid darparu cadarnhad ysgrifenedig ei fod wedi cael awdurdod y dioddefwr i weithredu ar ei ran. 

Sut y gall dioddefwyr arfer yr hawl o dan y cynllun? 

Caiff dioddefwyr eu hysbysu o'r penderfyniad i beidio â dwyn achos / dirwyn achos i ben. Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: 

  1. natur y penderfyniad – h.y. peidio â bwrw ymlaen â'r ymchwiliad neu roi'r gorau i achos;
  2. p'un a wnaed y penderfyniad ar sail dystiolaethol neu ar sail budd y cyhoedd. 

Os yw'r penderfyniad yn ‘benderfyniad cymhwyso’, bydd yr hysbysiad yn cadarnhau bod y dioddefwr yn gymwys i gael adolygiad o dan y cynllun a bydd yn darparu gwybodaeth ddigonol i alluogi'r dioddefwr i benderfynu: 

  1. a yw'n dymuno i adolygiad gael ei gynnal ai peidio; ac
  2. os nad yw'n dymuno i adolygiad gael ei gynnal, pa gamau y bydd angen iddo eu cymryd. 

Yr unig gam y mae angen i ddioddefwr ei gymryd yw hysbysu AGC o'i gais i gael adolygiad. Bydd dioddefwyr yn cael manylion cyswllt yr arolygydd perthnasol er mwyn cysylltu gan ddefnyddio'r dull a ffefrir ganddynt. 

Fel arfer, dylid gwneud cais am adolygiad o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn yr hysbysiad o'r penderfyniad. Fodd bynnag, gellir gwneud cais hyd at dri mis ar ôl hysbysu'r dioddefwr am y penderfyniad. 

Beth mae AGC yn ei wneud â chais am adolygiad 

Adolygiad annibynnol 

Pan fydd y dioddefwr wedi hysbysu AGC o'i gais i gael adolygiad, cynhelir adolygiad annibynnol ar y penderfyniad gan unigolyn o radd gyfatebol (neu uwch) i'r unigolyn a wnaeth y penderfyniad cymhwyso.  

Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ailystyried y dystiolaeth a budd y cyhoedd h.y. caiff yr achos ei ystyried o'r newydd er mwyn cadarnhau a oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir neu'n anghywir.  

Dim ond y wybodaeth oedd ar gael ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad cymhwyso a gaiff ei hystyried gan yr adolygwr. Dylai dioddefwr sydd am godi tystiolaeth/gwybodaeth newydd wneud hynny gyda'r swyddog ymchwilio, nid yr arolygydd sy'n cynnal yr adolygiad. 

Ailystyried penderfyniad cymhwyso 

Mae'n egwyddor bwysig y dylai pobl allu dibynnu ar y ffaith bod penderfyniadau a wneir gan AGC yn rhai terfynol ac na ddylai penderfyniadau o'r fath gael eu dirymu fel arfer. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod yn rhaid sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ynghylch y penderfyniadau a wneir gennym a pheidio â chaniatáu i benderfyniadau anghywir sefyll. Felly, er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn AGC, mae'n briodol y byddwn yn gorfod ailedrych ar benderfyniad weithiau, a'i newid os canfyddir ei fod yn anghywir. Os canfyddir bod penderfyniad yn anghywir, gall fod angen cychwyn neu ailsefydlu ymchwiliad/achos troseddol.  

Mae cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad yn cynnig proses wedi'i chynllunio'n arbennig i'r dioddefwr arfer yr hawl i gael adolygiad. Rhaid i'r adolygwr gynnal ail-adolygiad o'r achos o'r newydd, ac, er mwyn gwrthdroi penderfyniad cymhwyso, rhaid iddo fod yn fodlon: 

  1. bod y penderfyniad cynharach yn anghywir i gymhwyso camau tystiolaethol neu fudd y cyhoedd y Prawf Cod (fel y nodir yng Nghod Erlyn Llywodraeth Cymru); ac
  2. er mwyn cynnal hyder y cyhoedd, bod yn rhaid i'r penderfyniad gael ei wrthdroi. 

Caiff arolygwyr AGC eu tywys wrth wneud penderfyniad gan ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron sef “Ailystyried Penderfyniad i Erlyn” sydd ar gael drwy'r adran Polisi a Chanllawiau Erlyniad (Canllawiau Cyfreithiol) ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron. 

Pwy fydd yn cynnal yr adolygiad annibynnol? 

Cynhelir yr adolygiad gan unigolyn o radd gyfatebol (neu uwch) i'r unigolyn a wnaeth y penderfyniad cymhwyso, ac ni fydd wedi bod yn rhan o'r penderfyniad gwreiddiol.  

Lle y rhoddwyd cyngor cyfreithiol, gofynnir i gyfreithiwr gwahanol gynghori'r adolygwr.  

Canlyniad yr adolygiad 

Caiff y dioddefwr wybod am ganlyniad y broses adolygu ym mhob achos o fewn y cyfyngiadau amser a nodir isod.  

Bydd y modd y gwneir hyn yn dibynnu ar amgylchiadau'r dioddefwr a chanlyniad yr adolygiad.  

Pan fydd dioddefwr wedi rhoi rhesymau dros wneud cais am adolygiad, caiff y materion a godwyd eu trafod yn y llythyr penderfyniad i'r dioddefwr.

Bydd y camau unioni sydd ar gael yn dibynnu ar natur y penderfyniad cymhwyso.  

Mewn achosion lle mai'r penderfyniad cymhwyso oedd peidio â pharhau ag ymchwiliad troseddol, caiff yr ymchwiliad ei argymell os canfyddir, ar ôl cynnal adolygiad, bod y penderfyniad gwreiddiol yn anghywir.  

Bydd yr un peth yn gymwys mewn achosion lle mai'r penderfyniad cymhwyso oedd peidio ag argymell yr ymchwiliad i'r Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer erlyniad.  

Fodd bynnag, nid oes camau unioni o'r fath ar gael mewn achosion a waharddwyd gan statud ar ôl i benderfyniad cymhwyso gael ei wneud ond cyn i gais am adolygiad gael ei wneud neu cyn y caiff adolygiad ei gwblhau gan nad yw'n bosibl dwyn/ailgychwyn achos yn yr amgylchiadau hyn. Os bydd hyn yn digwydd, bydd AGC yn rhoi esboniad i'r dioddefwr a, lle bydd yn briodol gwneud hynny, bydd yn cynnig ymddiheuriad. 

Ar ôl i'r broses Hawl Dioddefwyr i Adolygiad ddod i ben, ni fydd unrhyw gyfle i AGC gynnal adolygiad pellach ac, yn unol â hynny, os bydd y dioddefwr yn anfodlon ar y penderfyniad o hyd, a/neu os bydd yn dymuno ei herio ymhellach, yna dylai'r dioddefwr wneud cais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.

Mae'n debygol y bydd eithriad, mewn unrhyw adolygiad barnwrol o benderfyniad cymhwyso, sef bod yr hawl i adolygiad o dan y cynllun hwn wedi'i arfer cyn cychwyn unrhyw gamau o'r fath.  

Os caiff yr ymchwiliad/achos ei (ail)gychwyn ar ôl yr adolygiad, caiff y sawl a amheuir/y diffynnydd ei hysbysu. Ni fydd y sawl a amheuir/diffynyddion yn cael gwybod am gais y dioddefwr am adolygiad yn ystod y broses adolygu nac mewn achosion lle caiff y penderfyniad gwreiddiol ei gadarnhau.

Lle gellir dysgu gwersi o ganlyniad i gais am Hawl Dioddefwr i Adolygiad, bydd AGC yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i'r canllawiau, y broses neu'r arferion er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd y sefyllfa'n codi eto. Mewn achosion o'r fath, caiff dioddefwyr eu hysbysu o'r newidiadau a gynigiwyd neu'r camau a gymerwyd. 

Cyfyngiadau amser 

Caiff y dioddefwr wybod am benderfyniadau cymhwyso, o fewn 5 diwrnod gwaith, yn unol â'r cyfyngiadau amser a nodwyd yn y Cod Dioddefwyr.  

Fel arfer, dylid gwneud cais am adolygiad o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn yr hysbysiad o'r penderfyniad. Fodd bynnag, gellir gwneud cais hyd at dri mis ar ôl hysbysu'r dioddefwr am y penderfyniad.  

Os bydd y dioddefwr yn gwneud cais cynnar, gellir cynnal adolygiad ar unwaith, lle y bo'n bosibl, a chaiff camau eu cychwyn/ailgychwyn cyn gynted ag y bo modd. I'r gwrthwyneb, gall cais wedi'i oedi gynyddu'r tebygolrwydd y bydd y Llys yn cael anhawster ag unrhyw benderfyniad i (ail)gychwyn camau ar ôl yr adolygiad. Mewn rhai amgylchiadau, ni fydd yn bosibl cychwyn/ailgychwyn camau os bydd cais am adolygiad wedi'i oedi.  

Pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny, byddwn yn ystyried ceisiadau am adolygiad am hyd at dri mis o'r adeg yr hysbysir am y penderfyniad cymhwyso. 

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir unrhyw oedi y tu hwnt i'r tri mis gan ystyried ffeithiau'r achos unigol.  

Lle y bo'n bosibl, bydd AGC yn cwblhau'r adolygiad ac yn hysbysu'r dioddefwr o'r penderfyniad o fewn amserlen gyffredinol o 30 diwrnod gwaith (h.y. 6 wythnos o'r adeg y derbynnir y cais gan y dioddefwr).  

Pan fo'r achos yn arbennig o gymhleth neu sensitif, efallai na fydd yn bosibl rhoi penderfyniad Hawl Dioddefwr i Adolygiad o fewn y cyfyngiadau amser arferol. Mewn achosion o'r fath, bydd AGC yn hysbysu'r dioddefwr yn unol â hynny. Rhoddir diweddariadau rheolaidd ynghylch hynt yr adolygiad, er na fydd y rhain yn amlach na phob 20 diwrnod gwaith yn dilyn hynny, hyd nes gwneir penderfyniad terfynol.

Pan ddisgwylir i achos gael ei wahardd drwy statud cyn i gyfnod Hawl Dioddefwr i Adolygiad ddirwyn i ben, byddwn yn cyflymu'r broses Hawl Dioddefwr i Adolygiad ac yn rhoi penderfyniad o fewn y cyfnod amser statudol. Caiff y dyddiad y caiff yr achos ei wahardd drwy statud ei nodi a'i gyfleu i'r dioddefwr wrth ei hysbysu am y penderfyniad cymhwyso er mwyn sicrhau bod y sefyllfa'n glir.  

Cynigir y cyfle i ddioddefwyr drafod canlyniad yr adolygiad. Bydd hyn yn sicrhau bod y dioddefwr yn deall y broses a'r penderfyniadau a wnaed yn llwyr a'i fod yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau y gallai fod ganddo. 

Proses Hawl Dioddefwr i Adolygiad 

  1. Gwneir penderfyniad i roi'r gorau i ymchwiliad troseddol/i beidio ag argymell yr ymchwiliad i'r Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer erlyniad 
  2. Caiff y dioddefwr wybod am y penderfyniad gan ei hysbysu am yr hawl i ofyn am adolygiad o dan gynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad (mae'r cyfyngiadau amser a nodir yn y cynllun hwn yn gymwys) 
  3. Gwneir cais am adolygiad gan y dioddefwr (Gellir gwneud cais hyd at dri mis ar ôl hysbysu'r dioddefwr am y penderfyniad) 
  4. Adolygiad annibynnol (terfyn amser cyffredinol = 30 diwrnod gwaith) 
  5. Canlyniad :
    • (a)Caiff penderfyniad i roi'r gorau i ymchwiliad troseddol ei wrthdroi → caiff yr ymchwiliad ei (ail)gychwyn pan fydd yn briodol. 
    • (b) Caiff penderfyniad i argymell yr ymchwiliad i'r Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer erlyniad ei wrthdroi → caiff argymhelliad i erlyn ei anfon at y Gwasanaethau Cyfreithiol lle y bo'n briodol. 
    • (c) Caiff penderfyniad ei gadarnhau  → daw'r mater i ben 
  6. Caiff y dioddefwr wybod am y penderfyniad adolygu