Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Rachel Harris

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Rachel Harris ydw i ac rwy'n aelod newydd o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru.

Beth ydw i'n ei wneud?

Rwy'n rheoli dau leoliad Gofal Plant a Chwarae cofrestredig ar gyfer elusen fach a gaiff ei harwain gan rieni yng Ngogledd Cymru.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Rwyf wedi gweithio yn y sector gofal plant a chwarae ers dros 14 o flynyddoedd. Yn gyntaf fel gwarchodwr plant a nawr fel rheolwr. Cyn hynny, bûm yn gweithio am dros 15 mlynedd fel athrawes / rheolwr canolfan. Mae gen i ddiddordeb mewn rhoi llais i'r bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae, ac sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny, ledled Cymru. Mae gen i brofiad a diddordeb ym maes awtistiaeth hefyd.

Beth sy'n bwysig i fi

Ar ôl gweithio ym mhob maes o'r byd addysg, rwy'n awyddus i sicrhau y caiff y sector gofal plant a chwarae ei drin â'r un parch a phroffesiynoldeb.