Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Rachel Thomas

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Rwy'n byw yn Abertawe gyda fy mab ifanc. Roeddwn i'n arfer gweithio fel cyfreithiwr teulu a gofal plant; dechreuais mewn practis preifat ar y stryd fawr yn ne Lloegr yn cynrychioli rhieni, cyn dychwelyd adref i weithio i awdurdod lleol ar achosion gofal ac achosion mabwysiadu. Rwy'n siaradwr Cymraeg (wel, yn ddysgwr lefel uwch, beth bynnag!) ac yn mwynhau mynd am dro, pobi a chanu'r piano i ymlacio.

Image of Rachel Thomas

Beth ydw i'n ei wneud?

Rwy'n Bennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru. Rwyf wedi bod yn gweithio i Gomisiynydd Plant Cymru ers 2015, gan ddechrau fel Cynghorydd Polisi ar Wasanaethau Cymdeithasol, Cymunedau a Chyfiawnder. Roeddwn yn gyfrifol am arwain prosiect y swyddfa ar brofiadau plant o ofal preswyl yng Nghymru, a luniodd adroddiad o'r enw Y Gofal Cywir, a'r prosiect ar y cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal pan fyddant yn dod yn oedolion, a luniodd yr adroddiad Breuddwydion Cudd. Roeddwn yn gyfrifol hefyd am arwain adolygiad ffurfiol o Lywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisïau addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol yn 2021.

Fy meysydd o ddiddordeb a/neu brofiad

  • Y sail gyfreithiol dros wneud penderfyniadau i blant sy'n cael gwasanaethau gofal a chymorth
  • Adolygu polisïau a chanllawiau a rhoi cyngor arnynt
  • Gweithio gyda phlant a chynrychioli eu barn a'u profiadau
  • Hawliau dynol plant
  • Dehongli deddfwriaeth a chanllawiau mewn amgylchiadau ymarferol, a'u cyfleu mewn iaith syml.

Beth sy'n bwysig i mi

  • Cynnwys plant a phobl ifanc mewn gwaith mewn modd ystyrlon
  • Rhoi gwybodaeth glir a hygyrch i blant a theuluoedd, gan gynnwys cydnabod dewisiadau iaith
  • Uno meysydd gwaith ar draws sectorau, o'n safbwynt ni fel sefydliad amlsector cenedlaethol
  • Gweithredu mewn modd rhagweithiol gan gydymffurfio â hawliau plant ac anelu at ddarparu gwasanaethau mewn ffordd sy'n ystyried hawliau.