Un wythnos ar ôl i gyflwyno eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2026
Y dyddiad cau ar gyfer Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2026 yw 27 Mawrth – un wythnos sydd i fynd.
Rhaid i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru a gofrestrodd cyn 31 Rhagfyr 2025 gwblhau ei Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth. Mae'n ofyniad cyfreithiol.
Pwysig: Gallai methu â chyflwyno eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn y dyddiad cau effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.
Os nad ydych wedi cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth eto, mewngofnodwch i'ch cyfrif AGC Ar-lein nawr.
Angen help?
Ewch i'n tudalen canllawiau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth i gael canllawiau fideo cam wrth gam a chyfarwyddiadau darluniadol.
Methu cael mynediad i'ch cyfrif? Ffoniwch 0300 7900 126 (opsiwn 4) neu anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru