Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Vicky Poole

Ddirprwy Brif Arolygydd

Cefndir

Dechreuodd Vicky ei gyrfa fel nyrs iechyd meddwl cyn symud i weithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol, gan ddechrau yn Leeds cyn symud i ogledd Cymru yn 1990. Mae Vicky wedi cyflawni sawl swydd o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys rheoli cartref gofal a bod yn rheolwr comisiynu a chynllunio strategol.

Mae gan Vicky radd Meistr mewn Rheoli Partneriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae wedi cyflawni nifer o swyddi ar y cyd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol yn y gogledd. Gweithiodd hefyd fel rheolwr gwelliannau ar gyfer yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn wreiddiol o Stoke on Trent, mae Vicky yn byw gyda’i phartner yn Ninbych ac mae ganddi ddau fab. 

Ei rôl bresennol

Penodwyd Vicky Poole yn Ddirprwy Brif Arolygydd ar 1 Tachwedd 2018.