Alison Wicks
Dinasyddion byd-eang: Archwilio diwylliannau'r byd ym maes gofal plant.

Cefndir
Mae Little Candlewicks yn lleoliad gofalplant sy'n cael ei redeg gan deulu. Mae'r hyn a ddechreuodd fel menter unigol i Alison wedi datblygu'n dîm teuluol, gyda merch ieuengaf Alison yn ymuno â'r tîm fel gwarchodwrplant cofrestredig yn 2023 a'i merch ganol yn ymuno fel cynorthwyydd yn 2024. Mae'r enw yn cynrychioli'r tair menyw Wicks yn cydweithio.
Beth maent yn ei wneud yn wahanol?
Mae Little Candlewicks yn gwybod pa mor bwysig ydyw bod plant yn deall eu bod yn rhan o fyd ehangach. Maent yn canolbwyntio ar feithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol drwy brofiadau diddorol sy'n briodol i'w hoedran, gan gynnwys:
- dewis gwlad bob mis i ganolbwyntio arni, yn aml wedi'i dewis gan y plant (fel Corea i archwilio K-pop!)
- creu "pasbort teithio" i bob plentyn ei stampio wrth ddysgu am wledydd newydd
- archwilio amrywiaeth o grefyddau'r byd yn ystod y flwyddyn, o wyliau Sicaidd, Iddewig a Phaganaidd
- dysgu cyfarchion mewn ieithoedd gwahanol, dod o hyd i wledydd ar fapiau, a choginio prydau o bedwar ban byd
- gofyn i rieni rannu eu harteffactau diwylliannol, fel cimonos o Japan a drymiau Affricanaidd
Mae'r dull hwn dan arweiniad y plentyn o archwilio diwylliannau yn sicrhau bod y dysgu yn gyffrous ac yn berthnasol, ac mae hyd yn oed eu masgot Phileas Mouse yn ymuno â theuluoedd ar eu gwyliau!
Effaith…
- Mae'r plant yn datblygu geirfa gyfoethog ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol o oedran ifanc
- Cymryd rhan frwdfrydig mewn sesiynau cerddoriaeth, dawnsio a choginio o ddiwylliannau amrywiol
- Meithrin sensitifrwydd diwylliannol a gwerthfawrogiad o wahaniaethau
- Ehangu bydolygon y plant y tu hwnt i'w hamgylchedd uniongyrchol
- Meithrin chwilfrydedd ac "awydd i ddysgu" am y byd ehangach
Dyfyniad
"Wastad disgwyliwch i blant dy syfrdanu ac ychwanegu at dy ddisgwyliadau ar bob tro, ac os wyt ti'n gyffrous am ddysgu, yna byddan nhw hefyd"
Dogfennau
-
Alison Wicks ymarfer werth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MBPDF, Maint y ffeil:1 MB