Hysbysiadau
Os ydych wedi cofrestru â ni, mae'n rhaid i chi ein hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau neu ddigwyddiadau yn eich gwasanaeth.
Os oes angen i chi ein hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau neu ddigwyddiadau yn eich gwasanaeth sydd, bydd angen i chi ein hysbysu trwy ddefnyddio AGC ar-lein. (Dolen allanol)
I gwasanaethau oedolion a phlant, Gall Unigolion Cyfrifol ddewis rhywun sy'n gweithio yn eu gwasanaeth i wneud hysbysiadau am y gwasanaeth ar eu rhan. Bydd y sawl sy'n cael eu dewis yn dod yn gynorthwywyr ar-lein penodedig.
Newidiadau o 30 Medi 2026
Rydym wedi newid rhai o'n hysbysiadau i'w gwneud yn haws i'w defnyddio ac i'n helpu i gasglu gwybodaeth well.
- Mae'r hysbysiad Cam-drin/Honiad o Gam-drin wedi'i ailddatblygu, gyda thestun cymorth cliriach, opsiynau cwymplen mwy perthnasol ac opsiwn "arall" fel nad oes dim yn syrthio drwy'r rhwyd.
- Mae'r hysbysiad Ymholiad Amddiffyn Plant wedi'i fireinio a'i ailenwi o dan y teitl Canlyniad Ymholiad Amddiffyn Plant. Dim ond i roi gwybod i ni am ganlyniad ymholiad amddiffyn plant y dylech ei ddefnyddio nawr; dylech roi gwybod am yr ymholiad ei hun gan ddefnyddio'r hysbysiad Cam-drin/Honiad o Gam-drin.
- Mae'r hysbysiad Plentyn Coll/Absenoldeb Plentyn Anesboniadwy wedi'i ailddatblygu, gyda diffiniad cliriach o blentyn coll yn unol â diffiniad yr heddlu. Nid oes angen i chi roi gwybod i ni am blentyn coll os ydych yn gwybod ei leoliad ac nad ydych yn poeni am ei ddiogelwch.
- Mae dau fath o hysbysiad yn dod i ben: Digwyddiad neu Ddigwyddiad a Amheuir o Gamfanteisio'n Rhywiol neu'n Droseddol ar Blant ac Ymholiad Cam-drin Plant, sydd ill dau bellach yn cael eu cwmpasu gan yr hysbysiadau uchod. Os gwnaethoch gyflwyno hysbysiad gan ddefnyddio un o'r rhain cyn 30 Medi, byddwch yn gallu ei weld o hyd ar eich cyfrif; ond ni fyddwch yn gallu cyflwyno hysbysiadau newydd yn y ffordd hon o 30 Medi.
Wrth i chi gwblhau hysbysiad, bydd promptiau newydd yn ymddangos ar y sgrin lle bo hynny'n berthnasol, er enghraifft ochr yn ochr ag opsiynau cwymplen neu fel testun rhagarweiniol cyn cwestiwn. Mae'r rhain yn ymddangos er mwyn helpu i lywio eich ymatebion.
Pwysig
Dim ond ar ôl i'ch cais i ailgofrestru gael ei gadarnhau a'i gymeradwyo’n llawn gennym y gallwch wneud hysbysiad ar-lein.
Os nad ydych yn dweud wrthym am newidiadau neu ddigwyddiadau, gallech fod yn gweithredu eich gwasanaeth yn anghyfreithlon.