Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Ein dulliau gorfodi

Rydym yn cymryd camau gweithredu os ydym yn nodi gofal gwael neu lle nad yw darparwyr yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Rydym yn arolygu gwasanaethau i wirio eu bod yn darparu gofal diogel a'u bod yn bodloni gofynion y gyfraith.

Yr hyn rydym yn ei wneud os nad yw safonau'n cael eu cyrraedd

Mae ein 'polisi sicrhau gwelliant a gorfodi' yn esbonio'r hyn y byddwn yn ei wneud os nad yw gwasanaethau yn darparu gofal o ansawdd da neu os nad ydynt yn bodloni gofynion y gyfraith.

Rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi i sicrhau bod darparwyr yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol, ac rydym yn gwirio bod y rhain wedi cael eu rhoi ar waith.

Yr hyn rydym yn ei wneud os nad oes gwelliant i'r gwasanaeth

Os nad yw ansawdd y gwasanaeth yn gwella, gallwn gymryd camau gweithredu pellach, gan gynnwys, lle y bo angen, gosod amodau ar gofrestriad y darparwr, cau gwasanaeth, neu ganslo cofrestriad y darparwr.