Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

AGC Ar-lein

Rydym wedi cynllunio ein gwasanaethau ar-lein, sef 'AGC Ar-lein' er mwyn cefnogi ein gwaith a'i gwneud yn haws i ddarparwyr a phobl gysylltu â ni a gweithio gyda ni.

Yr hyn y gallwch ei wneud ar-lein

Rhaid i bob gwasanaeth bellach gynnal ei holl fusnes â ni gan ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).

Rhaid i wasanaethau newydd sydd am gofrestru gyflwyno cais i gofrestru gan ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).

Hysbysiadau ac Amrywiadau

Rhaid i ddarparwyr sydd wedi cofrestru â ni gyflwyno hysbysiadau ac amrywiadau ar-lein i wneud newidiadau i'w gwasanaeth cofrestredig.

Bydd yr holl wasanaethau ar-lein ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Creu cyfrif AGC Ar-lein

  • Ewch i AGC Ar-lein (Dolen allanol)
  • Dewiswch 'creu cyfrif’
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin
  • Er mwyn actifadu cyfrif newydd, bydd angen i chi ein ffonio fel y gallwn ddilysu eich manylion adnabod. Os caiff eich manylion adnabod eu cadarnhau yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn PIN actifadu. Mae'r PIN hwn yn rhoi mynediad llawn i chi i'n gwasanaethau ar-lein.

Cymorth ar-lein

Os bydd angen help arnoch wrth ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom agc@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 7900 126.