Red Robins
Creu cysylltiadau ystyrlon rhwng yr henoed a'r ifanc.

Cefndir
Mae meithrinfa Red Robins yng Nghil-y-coed wedi trawsnewid ymweliadau wythnosol â grŵp dementia gerllaw yn brofiad dysgu ystyrlon. Nododd tîm y feithrinfa y dylai cysylltiadau cymunedol gynnwys pobl o bob oedran. Mae ei ddull syml yn dod â phlant rhwng dwy a phedair oed a chymdogion hŷn at ei gilydd, gan greu cyfleoedd rheolaidd i ryngweithio sydd o fudd i'r ddau grŵp. Mae'r hyn a ddechreuodd ar ffurf ymweliadau achlysurol bellach yn rhan annatod o fywyd y feithrinfa, sy'n dangos bod dysgu yn ymestyn yn bell y tu hwnt i waliau'r ystafell ddosbarth.
Beth y mae’n ei wneud yn wahanol?
Mae Red Robins yn dod â'r cenedlaethau gwahanol at ei gilydd drwy wneud y canlynol:
- mynd â grwpiau bach o blant i ymweld â'r grŵp cymorth dementia lleol bob bore dydd Gwener
- annog sgyrsiau rhwng y plant a'r cyfranogwyr hŷn drwy gyfleoedd dangos ac esbonio
- rhannu gweithgareddau rhwng y cenedlaethau, gan gynnwys lliwio, gemau, posau jig-so a chyfleoedd chwarae parasiwt
- mynd â danteithion cartref, blodau a chrefftau i'w rhoi i'r cyfranogwyr hŷn
- cymryd rhan mewn dathliadau ar y cyd, gan gynnwys gwahoddiad arbennig i barti Nadolig y grŵp
- cynnwys yr ymweliadau hyn fel rhan o'r drefn arferol, gan feithrin cydberthnasau cyson ac ystyrlon
Er bod y plant yn swil ar y dechrau, maent wedi dod yn fwy hyderus wrth ryngweithio'n gymdeithasol, gan feithrin sgiliau y maent bellach yn eu defnyddio pan fyddant yn cwrdd ag unrhyw un sy'n ymweld â'r feithrinfa.
Effaith …
- gwell sgiliau cyfathrebu a hyder ymhlith y plant
- cysylltiadau cymdeithasol ystyrlon i bobl hŷn
- gwell llesiant i'r ddwy genhedlaeth
- mae'r plant yn datblygu empathi a dealltwriaeth o gamau bywyd gwahanol
- atgyfnerthu cysylltiadau cymunedol y tu hwnt i waliau'r feithrinfa
Dyfyniad
"Gweld y plant yw uchafbwynt fy wythnos, doedd gen i ddim plant fy hun" (un o gyfranogwyr y grŵp Dementia)
"Rwy'n hoffi rhoi blodau iddyn nhw, gan fod hynny'n eu gwneud yn hapus" (plentyn o feithrinfa Red Robins)
Dogfennau
-
Red Robins Ymarfer Gwerth Rhannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 848 KBPDF, Maint y ffeil:848 KB