Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Offeryn Data

Mae'r offeryn delweddu data rhyngweithiol hwn yn darparu gwybodaeth ar nifer y gwasanaethau a lleoedd a reoleiddir gennym.

Gan ddarparu gwybodaeth hawdd ei chyrchu a’ch galluogi i ddehongli data yn sydyn, mae offeryn delweddu data rhyngweithiol Arolygiaeth Gofal Cymru yn darparu gwybodaeth am nifer y gwasanaethau a lleoedd ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref a gwasanaethau gofal plant a chwarae ledled Cymru.

Offeryn Data (Dolen allanol)

Sylwer: gall Internet Explorer achosi problemau wrth lwytho'r adroddiad hwn. Argymhellwn newid i borwr Chrome neu Microsoft Edge ar gyfer y profiad gorau. 

Arolwg 

Ydych chi wedi defnyddio Offeryn Data AGC? Os felly, cymerwch funud i roi eich adborth i ni drwy gwblhau’r arolwg hwn (Dolen allanol).

Data arall sydd ar gael

Gellir defnyddio'r offeryn mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • dod o hyd i wybodaeth ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg;
  • gweithgarwch gorfodi ledled Cymru;
  • rhestr chwiliadwy o wasanaethau;
  • manylu ar ardaloedd unigol neu luosog i ddeall lledaeniad daearyddol gwasanaethau ledled Cymru;
  • defnyddio gwybodaeth gymharol i gael mewnwelediad ledled ardaloedd a mathau o wasanaethau; a
  • chwilio am wasanaeth, math o wasanaeth neu ardal benodol i ddarparu rhestr o wasanaethau/ardaloedd o ddiddordeb.

Bydd y wybodaeth o fewn yr offeryn delweddu yn cael ei diweddaru bob mis ar neu yn agos at ddiwrnod gwaith cyntaf y mis.

Bydd y dyddiad diweddaru diwethaf yn cael ei arddangos ar dudalen hafan PowerBI. Mae'r data yn ymwneud â gwasanaethau sydd wedi cofrestru ag AGC ar y dyddiad y gwnaed y diweddariad diwethaf.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am offeryn data PowerBI, anfonwch neges dros e-bost atom yn AGCGwybodaeth@llyw.cymru

 

Cyflwyniad i offeryn Data AGC