Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Tachwedd 2023
  • Newyddion

Mae hi bron yn Wythnos Genedlaethol Diogelu (13-17 Tachwedd 2023)

Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.

Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae gan bawb rôl i'w chwarae.

Mae'n rhywbeth rydym ni fel arolygiaeth yn ei gymryd o ddifrif ac sy'n llywio ein gwaith.

Beth yw rôl AGC wrth ddiogelu?

Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol sy'n arwain y broses ddiogelu, ac os cawn wybod am bryderon byddwn yn atgyfeirio'r achos at y tîm diogelu fel y bo'n briodol. 

Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) 

Ynghyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn, rydym wedi ailgydio yn rhaglen adolygiadau ar y cyd JICPA drwy 2023–24.

Adolygiad o'r system amddiffyn plant gyfan yn ardal pob bwrdd diogelu rhanbarthol yw'r rhaglen hon, sy'n gwerthuso ansawdd ymarfer, y broses benderfynu a threfniadau amlasiantaethol. Byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelu plant 11 oed ac iau sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.

Mae hyn yn adeiladu ar yr arolygiad peilot blaenorol a gynhaliwyd ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ym mis Mehefin 2021 ac yng Nghyngor Dinas Casnewydd ym mis Rhagfyr 2019.

Hyd yma, rydym wedi cyhoeddi adroddiadau o Sir DdinbychPhen-y-bont ar Ogwr.

Gwnaethom hefyd gynnal adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant yng Nghymru yn gynharach eleni, a byddwn yn cyhoeddi ein hadolygiad o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn fuan.

Pryderon

Mae pryderon yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth sy'n ein galluogi i lywio ein prosesau arolygu a gorfodi.

Os bydd gennych bryderon uniongyrchol am ddiogelwch a llesiant rhywun, dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol.

Fodd bynnag, os bydd gennych bryderon am ansawdd gwasanaeth gofal yng Nghymru, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 7900 126 neu drwy anfon e-bost i agc@llyw.cymru neu cyflwynwch eich pryder drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Adborth

Nid pryderon am wasanaeth gwael neu anaddas yn unig rydym yn ei annog – rydym yn croesawu pob math o adborth, yn dda neu'n ddrwg. Efallai eich bod yn gweithio mewn gwasanaeth gofal ac yn dymuno rhannu enghraifft o arfer da mewn perthynas â diogelu? Efallai bod aelod o'r teulu yn byw mewn cartref gofal, neu fod eich plentyn wedi mynychu gwasanaeth gofal plant neu chwarae, ac wedi cael gofal rhagorol. Rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni adborth.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru 

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru (Dolen allanol) yn nodi rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.

Digwyddiadau a gaiff eu cynnal gan fyrddau diogelu rhanbarthol

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gweld pa ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan eich bwrdd diogelu lleol.