Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad ar y cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA): Castell-nedd Port Talbot, 2021

Ein canfyddiadau am effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag (Dolen allanol) Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub eu Mawrhydi (Dolen allanol), (AGIC) Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Dolen allanol), Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (Dolen allanol) ac Estyn (Dolen allanol) o'r ymateb amlasiantaethol i gamdriniaeth ac esgeulustod yng Nghastell-nedd Port Talbot. Hwn oedd yr ail arolygiad peilot yng Nghymru i gynnwys pum arolygiaeth yn adolygu trefniadau amddiffyn plant.

Roedd yr arolygiad hwn yn cynnwys gwerthusiad o'r modd yr oedd gwasanaethau lleol yn ymateb i achosion o gam-fanteisio ar blant.

Cryfderau allweddol

Roedd dealltwriaeth o brosesau diogelu ym mhob rhan o'r bartneriaeth. Gwelsom strwythurau a chydberthnasau priodol ar waith i hwyluso gwaith partneriaeth effeithiol lle roedd perygl y byddai rhywun yn cam-fanteisio ar blentyn.

Roedd ymarferwyr ym mhob rhan o'r bartneriaeth yn gwneud ymdrechion sylweddol i ymgysylltu â phlant. Er enghraifft, nododd ein hadolygiad y ffordd roedd swyddogion heddlu yn ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd ac yn ceisio eu barn, eu sylwadau a'u pryderon mewn ymweliadau a chyfweliadau atal.

Gwelsom fod partneriaid yn nodi'r risgiau i blant ac yn rhoi gwybod am faterion diogelu'n brydlon. Er enghraifft, mae gan yr heddlu system ar waith i fonitro atgyfeiriadau a wneir dros y penwythnos sy'n golygu bod modd ymateb i faterion brys.

Mae'r awdurdod lleol yn arfer ethos sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n hybu trefniadau i alluogi plant a phobl ifanc i gael gofal gan eu teulu eu hunain, lle mae hyn er budd pennaf eu llesiant a'u diogelwch. Lle nad oes modd i blant fyw gartref, rhoddir blaenoriaeth i sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad â'u rhieni, eu brodyr a chwiorydd ac aelodau o'u teulu ehangach.

Meysydd i'w datblygu

Mae diogelu cyd-destunol yn un o'r cysyniadau allweddol sydd wrth wraidd y dull partneriaeth o ddiogelu a welir yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, nid oedd staff y gwasanaeth prawf y gwnaethom gyfarfod â nhw yn gyfarwydd â'r term. Gwelsom fod angen cryfhau'r agenda diogelu gyd-destunol ymhellach yn ysgolion hefyd.

Ni welsom dystiolaeth gyson i ddangos bod cynlluniau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith a'u hadolygu ar y cyd. Mewn rhai achosion, nid oedd yn glir pa asiantaethau oedd yn gyfrifol am fynd i'r afael â pha agweddau ar ddiogelwch a phryderon yn ymwneud â llesiant.

Gwelsom enghreifftiau da o atgyfeiriadau prydlon at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Fodd bynnag, clywsom gan nifer o feddygon teulu a phobl eraill yn y bartneriaeth iechyd bod oedi hir yn aml wrth sicrhau asesiad CAMHS i blant. Gallai hyn arwain at oedi wrth i blant gael ymyriadau amserol i fynd i'r afael â'u hanghenion iechyd meddwl.

Er bod y bartneriaeth yn ymrwymedig i ymyrraeth gynnar, mae rhai rhestrau aros ac nid yw'r ddarpariaeth yn gallu bodloni'r galw. Mae'n bosibl y caiff cyfleoedd i fynd i'r afael â risgiau a'u lliniaru mor gynnar â phosibl eu colli o ganlyniad i hyn.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol baratoi datganiad ysgrifenedig o gamau gweithredu arfaethedig yn ymateb i'r canfyddiadau a nodir yn yr arolygiad hwn. Dylai hyn fod yn ymateb amlasiantaeth yn cynnwys y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Heddlu De Cymru.  

Darllenwch y llythyr llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.