Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cenedlaethol o atal a hyrwyddo annibyniaeth i oedolion hŷn

Gwnaethom edrych ar y cynnydd a wnaed gan wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn helpu oedolion hŷn i fod mor annibynnol â phosibl, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gwnaethom gwblhau ein gwaith ar gyfer yr adroddiad hwn yn ystod 2019 yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hwn yn cyd-fynd â'n hadolygiad cenedlaethol o ofal i bobl sy'n byw gyda dementia.

Yr hyn a wnaethom

Gwnaethom edrych ar brofiadau pobl dros 65 oed a oedd wedi cael cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Gwnaethom weithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ganfod sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd ac yn cyfrannu at brofiadau a chanlyniadau pobl y mae angen cymorth arnynt.

Gwnaethom edrych ar y themâu allweddol canlynol:

  • Pobl – a yw eu lleisiau'n cael eu clywed ac a oes ganddynt reolaeth?
  • Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – pwy sy'n gweithio gyda'i gilydd a phwy sy'n dylunio'r cymorth ar y cyd?
  • Atal – sut mae gwasanaethau'n atal pobl rhag cyrraedd argyfwng neu'n sicrhau nad oes angen gofal a chymorth arnynt
  • Llesiant – yr hyn sy'n bwysig i bobl?

Gwnaethom ystyried y canlynol ar gyfer pob thema:

  • Pa ganlyniadau y mae pobl yn eu cyflawni?
  • Pa mor dda y mae gwasanaethau’n ymateb i bobl o ddydd i ddydd?
  • Pa mor dda y mae sefydliadau’n cydweithio ar lefel uwch, a pha mor dda y mae cyllidebau ac adnoddau'n ateb y galw lleol?

Ein canfyddiadau

  • People – llais a rheolaeth – Bron bob amser, roedd pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch gan staff gofal a oedd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau. Roedd y staff gofal yn chwilio am gyfleoedd i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed yn fwy aml a'u bod yn gallu gwneud dewisiadau am bethau sy'n bwysig iddynt. Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod lleisiau gofalwyr yn cael eu clywed. Rhaid i arweinwyr a rheolwyr weithio tuag at gyfuno gwybodaeth, cyngor a chymorth i roi Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ar waith ym mhob agwedd ar eu gwaith.
  • Llesiant – Gwelsom fod pwysigrwydd cefnogi pobl hŷn i gynnal eu llesiant yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel ffordd gadarnhaol o hyrwyddo annibyniaeth ac yn agwedd ar waith yr oedd llawer o staff gofal yn ei gwerthfawrogi. Nid yw'r hawl i ofalwyr gael asesiad wedi helpu gofalwyr gyda rhai o'r heriau y maent yn eu wynebu hyd yma. Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i lesiant gofalwyr, ond nid oes llawer o esboniad, sy'n golygu nad yw eu disgwyliadau na'r adnoddau sydd ar gael yn cyfateb.
  • Partneriaethau ac integreiddio – Gwelsom fod llawer o bobl yn cael budd o'r cydberthnasau cadarnhaol y maent yn eu meithrin ag aelodau o'r staff gofal, sy'n eu trin mewn ffordd gydradd ac yn eu helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt. Mae angen i arweinwyr ac uwch-reolwyr ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd roi mwy o ffocws ar eu cyfrifoldeb i gydnabod a datblygu diwylliant o gynaliadwyedd drwy gydweithio a chynllunio gwasanaethau gyda'i gilydd. Hyd yma, nid yw pobl yn ein cymunedau wedi gweld buddiannau hyn.
  • Atal – gwnaethom nodi nad yw'r ddyletswydd i roi cymorth i bobl cyn iddynt gyrraedd argyfwng yn cael ei chyflawni'n gyson ledled Cymru. Mae rheolwyr yn camddeall eu dyletswydd ar adegau ac yn credu, os nad yw person yn gymwys i gael cynlluniau gofal a chymorth yna nid yw'n gymwys i gael mathau eraill o help. Bydd Llywodraeth Cymru am roi mwy o eglurder yn y maes hwn ac ynghylch rôl cyllid personol mewn asesiadau am ofal a chymorth.

Y camau nesaf

Rydym yn ymrwymedig i roi'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ar waith, a byddwn yn gweithio gydag eraill i wella'r canlyniadau mewn perthynas ag atal a hyrwyddo annibyniaeth i oedolion hŷn.