Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad arolygu gwerthuso perfformiad: Cyngor Sir Penfro

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad o wasanaethau oedolion a phlant Cyngor Sir Penfro rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2022.

Gwnaethom gynnal yr arolygiad hwn er mwyn adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth arfer ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau parthed gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Crynodeb o'r canfyddiadau

  • Mae Cyngor Sir Penfro wedi profi amgylchiadau heriol ym maes gofal cymdeithasol, fel awdurdodau lleol eraill ledled Cymru; gyda chynnydd o ran defnydd a chymhlethdod ar draws y gwasanaeth, ynghyd â’r her o ran cyflenwi gweithlu.

  • Gwelsom y gall yr awdurdod lleol ymateb i anghenion ac argyfyngau diogelu uniongyrchol, ond mae oedi a llithro yn amlwg mewn rhai sefyllfaoedd. Golyga hyn nad yw canlyniadau'r bobl yn cael eu cyflawni mewn modd amserol bob amser.

  • Gwelsom rai enghreifftiau rhagorol o ymgysylltiad rhwng staff a phobl sy’n byw mewn amgylchiadau cymhleth. Fodd bynnag, clywsom fod rhestrau aros ar gyfer asesiadau ac adolygiadau hwyr yn peri pryder sylweddol i reolwyr gwasanaethau oedolion.

  • Er bod enghreifftiau gweithredol rhagorol o wasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd, nid oes partneriaethau effeithiol ar waith bob amser er mwyn comisiynu a darparu canlyniadau cwbl integredig, cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer grwpiau penodol o oedolion.

  • Mae'r awdurdod lleol yn wynebu her sylweddol i sicrhau digon o leoliadau da sy’n cyfateb i anghenion plant sy’n derbyn gofal, yn enwedig y bobl ifanc hynny â chefndir cymhleth a thrawmatig. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn lleol ac yn rhanbarthol i wella'r sefyllfa hon.

  • Mae ymarferwyr gwasanaethau plant yn deall eu rôl a'u cyfrifoldebau o ran cyfrannu at ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, ond mae swyddi gweigion a llwyth gwaith yn effeithio ar eu gallu i gyflawni hyn.

Y camau nesaf

Disgwyliwn i Gyngor Sir Penfro ystyried y meysydd a nodwyd i’w gwella a chymryd camau gweithredu priodol i fynd i’r afael â’r meysydd hyn a’u gwella. Byddwn yn monitro’r cynnydd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus â’r awdurdod lleol.