Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Cymdeithasol Plant Cyngor Sir y Fflint

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghyngor Sir y Fflint.

Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng mis Mai a mis Mehefin 2015, ac edrychodd yn fanwl ar brofiadau plant a phobl ifanc oedd angen neu sy'n dal angen cymorth a/neu amddiffyniad.

Gwnaeth yr arolygiad hefyd ystyried ansawdd y canlyniadau a gafwyd ar gyfer plant a theuluoedd, gan gynnwys sampl fach o blant a phobl ifanc a oedd yn derbyn gofal, neu a oedd wedi derbyn gofal.

Gwnaeth arolygwyr werthuso'r hyn a wyddai'r cyngor ynglyn â'i berfformiad ei hun, a'r gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud i'r bobl yr oedd yn ceisio eu helpu, eu hamddiffyn a gofalu amdanynt.

Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.