Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad seiliedig ar risg o wasanaethau cymdeithasol Cyngor Caerdydd

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad seiliedig ar risg a gynhaliwyd rhwng 23 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2020.

Gwnaeth yr arolygiad adolygu'r cynnydd y mae gwasanaethau cymdeithasol plant wedi'i wneud ar eu taith tuag at wella, a'r graddau y mae gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Caerdydd yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant.

Trosolwg

Pobl – llais a rheolaeth: Canfu AGC fod ymarferwyr yn mabwysiadu dull gweithredu cydweithredol ac yn gweithio mewn partneriaeth â phobl er mwyn sicrhau bod eu barn a'u dymuniadau, a barn a dymuniadau eu gofalwyr, yn cael eu nodi yn y rhan fwyaf o asesiadau a chynlluniau gofal. Roedd dealltwriaeth y cytunir arni ynghylch y ffordd y caiff anghenion eu diwallu a'r ffordd y caiff canlyniadau personol eu cyflawni.

O fewn gwasanaethau plant, mae cynlluniau gofal a chymorth yn amrywio o ran eu hansawdd. Mae'r cynlluniau gorau yn eglur ynghylch disgwyliadau, gyda chymysgedd o gamau gweithredu gwirioneddol ac ymarferol sy'n cefnogi plant a'u teuluoedd.

Atal: Gwelsom fod uwch-reolwyr yn deall yn iawn bod mynediad at drefniadau atal ac ymyrryd yn gynnar yn allweddol i gynnal llesiant a lliniaru'r galw ar wasanaethau statudol. Mae'r gwaith o ail-lywio ac ail-ddylunio gwasanaethau yn canolbwyntio ar ddarparu trefniadau atal ac ymyrryd yn gynnar. Yn y gwasanaethau plant, clywsom fod Hwb Cymorth Cynnar wedi cael ei ddatblygu a chlywsom hefyd am y ffordd roedd gwasanaethau presennol wedi dod ynghyd i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i bobl. Yn yr un modd, yn y gwasanaethau oedolion, gwelsom fod y Gwasanaeth Byw'n Annibynnol yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl fynediad at ystod eang o gymorth er mwyn byw mor annibynnol â phosibl.

Llesiant: Gwelsom fod y gwasanaethau oedolion a phlant yn cael budd o gymorth gwleidyddol a chorfforaethol da, yn ogystal â dealltwriaeth a rennir o'r cyfeiriad a'r ysgogiad sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn gwella canlyniadau i bobl yn effeithiol.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu: Yn y rhan fwyaf o ffeiliau a welsom, gwelwyd tystiolaeth o ymarferwyr yn meithrin cydberthnasau gwaith proffesiynol â phobl yn seiliedig ar gydweithrediad a dealltwriaeth a rennir o'r hyn sy'n bwysig.

Fodd bynnag, dywedodd rhai pobl a ymatebodd i'n harolwg wrthym am anawsterau wrth gysylltu â'r gwasanaeth. Clywsom nad oedd galwadau yn cael eu dychwelyd a bod oedi hir cyn bod galwadau'n cael eu dychwelyd. Codwyd pryderon ynghylch agwedd rhai aelodau o'r staff. Clywsom fod oedi wrth drosglwyddo achosion rhwng timau ac roedd hyn yn faes pryder penodol a godwyd gan y staff a'r bobl ifanc lle roedd gan dimau drosiant uchel o staff. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod ganddo drefniadau cadarn ar waith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol â phobl.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl y bydd y meysydd i'w gwella a nodwyd gennym yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau gwella'r awdurdod lleol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Caerdydd.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.