Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cartrefi gofal i blant sy'n gweithredu heb gofrestriad

Roedd ein hadolygiad yn ystyried gwasanaethau cartrefi gofal i blant sydd o bosibl yn gweithredu heb gofrestriad o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

Fel rheoleiddiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, un o'n swyddogaethau craidd yw sicrhau mai dim ond y bobl hynny sydd wedi'u barnu'n addas ac sy'n debygol o ddarparu gofal o ansawdd da a gofrestrir i wneud hynny. Mae'r broses gofrestru yn borthor i'r rhai sy'n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig, ac mae'n gam cyntaf tuag at ddiogelu pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a sicrhau eu bod yn cael gofal o ansawdd da. 

Fel y gwnaethom nodi yn ein hadroddiad cenedlaethol yn 2019, mae diffyg lleoliadau addas i ddiwallu anghenion nifer fach, o nifer sy'n cynyddu, o blant. Gwyddom fod yr awdurdodau lleol, a gefnogir yn aml gan Gonsortiwm Comisiynu ar gyfer Plant Cymru (4C), yn cysylltu â sawl darparwr cofrestredig i drefnu gofal a chymorth addas i'r plant. Weithiau, mae'r darparwyr yn nodi bod galw uchel (gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr) am leoedd cyfyngedig. Ar unrhyw adeg benodol, gallai fod lleoedd gwag mewn rhai cartrefi gofal i blant, ond yn aml nid yw'r darparwyr hyn yn gallu diwallu anghenion unigol y plentyn neu'r person ifanc. 

Mae'r diffyg darpariaeth briodol hwn i blant sydd ag anghenion mwy cymhleth wedi arwain at rai awdurdodau lleol yn trefnu i ddiwallu anghenion y plant hyn ar unwaith, ac weithiau ar fyr rybudd. Mae'r trefniadau hyn yn aml mewn perthynas â chartrefi gofal i blant sy'n gweithredu heb eu cofrestru. Fe’u gelwir hefyd yn wasanaethau heb eu cofrestru.

Wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn, ein nod yw tynnu sylw at broblemau cymhleth iawn, yn y gobaith o gymell pawb sy’n rhan o’r broses i ddatrys problemau ar y cyd a chymryd camau gweithredu er mwyn diogelu’r plant sy’n derbyn gofal. Fel yr arfer, nid yn aml y gall un asiantaeth ddatrys problemau cymhleth ac mae angen ymdrech gydweithredol.

Canfyddiadau allweddol

  • Yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, caiff y mwyafrif o'r gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad eu darparu'n uniongyrchol gan yr awdurdodau lleol, nid darparwyr y sector annibynnol. 
  • Gwelsom, er bod rhai plant yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol mewn gwasanaethau dros dro sy'n gweithredu heb gofrestriad, nid yw eraill cystal oherwydd y symudiadau niferus o un gwasanaeth sy'n gweithredu heb gofrestriad i'r llall. 
  • Yn aml, gwelsom nad yw'r safleoedd a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau anghofrestredig a/neu safon y trefniadau a wneir i blant yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen i gael cofrestriad.
  • Mewn sawl achos, mae'r trefniadau staffio i ddarparu gofal a chymorth wedi bod yn ad hoc, yn destun newid aml ac yn defnyddio staff nad ydynt wedi cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn neu'r person ifanc. Mae'r ddibyniaeth ormodol ar staff asiantaeth yn bryder penodol. 
  • Mae diwallu anghenion y plant sy'n derbyn gofal yn gyfrifoldeb rhianta ac amlasiantaethol corfforaethol. Gwelsom nad oedd pob partner yn ymrwymo i ddiwallu anghenion plant fel y dylent. 

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.