Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth a trefniadau trosglwyddo ar gyfer plant anabl: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant anabl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Gwnaethom gynnal arolygiad gyda chymorth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol) gan ystyried sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn darparu cymorth, gofal a help cynnar ac yn sicrhau bod cyfnod pontio plant anabl a'u teuluoedd yn mynd rhagddo'n ddidrafferth.

Gall cyfnod pontio yn y cyd-destun hwn olygu symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion mewn gofal cymdeithasol, o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau iechyd oedolion neu o un cyfnod addysg i'r nesaf.

Gwnaeth yr arolygiad nodi bod yr ymarfer cyfredol yn arwain at ganlyniadau da i blant yn ogystal â meysydd i'w gwella a rhwystrau i gynnydd.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – gwelsom fod y trefniadau ar gyfer taliadau uniongyrchol yn effeithlon a bod y rhieni yn gadarnhaol ynghylch eu defnyddio.

Pobl: llais a dewis – gwelsom fod yr ymarferwyr a'r rheolwyr yn y tîm plant anabl yn gefnogol ac yn ymroddedig.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn aml yn dangos gwaith amlasiantaethol effeithiol gan arwain at ganlyniadau da i'r bobl ifanc.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – daethom i'r casgliad bod amrywiaeth o wasanaethau hamdden a chymorth yn y gymuned y mae plant anabl a'u teuluoedd yn eu gwerthfawrogi.

Meysydd i'w gwella

Llesiant – rydym yn argymell y dylai'r awdurdod lleol sicrhau bod plant anabl a theuluoedd yn cael y gofal a'r cymorth cywir, ar yr adeg gywir.

Pobl: llais a dewis – gwnaethom nodi bod angen dull sy'n seiliedig ar hawliau sy'n sicrhau bod gan blant anabl a'u teuluoedd lais, dewis gwybodus a rheolaeth dros eu bywydau.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – gwnaethom nodi bod angen dull strategol a gynlluniwyd wrth ddarparu gwasanaethau cymorth ac atal cynnar sy'n amserol ac yn gymesur.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – rydym yn argymell y dylai'r awdurdod lleol sicrhau partneriaethau effeithiol a threfniadau integredig er mwyn comisiynu a darparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion plant anabl a'u teuluoedd.

Camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.