Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth a trefniadau trosglwyddo ar gyfer plant anabl:Cyngor Sir Ceredigion

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant anabl yng Nghyngor Sir Ceredigion.

Gwnaethom gynnal arolygiad gyda chymorth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol) gan ystyried sut mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu cymorth, gofal a help cynnar ac yn sicrhau bod cyfnod pontio plant anabl a'u teuluoedd yn mynd rhagddo'n ddidrafferth.

Gall cyfnod pontio yn y cyd-destun hwn olygu symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion mewn gofal cymdeithasol, o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau iechyd oedolion neu o un cyfnod addysg i'r nesaf.

Gwnaeth yr arolygiad nodi bod yr ymarfer cyfredol yn arwain at ganlyniadau da i blant yn ogystal â meysydd i'w gwella a rhwystrau i gynnydd.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – daeth yr arolygiaeth i'r casgliad bod Cyngor Sir Ceredigion wedi pennu ei uchelgais cadarnhaol ar gyfer plant anabl. Mae'r weledigaeth hon yn ymrwymedig i drefniadau corfforaethol, a chaiff ei defnyddio i lywio gweithdrefnau a strwythurau gweithredol diwygiedig maes o law.

Pobl – llais a dewis – daethom i'r casgliad bod y ‘cynnig rhagweithiol’ mewn perthynas â'r Gymraeg yn cael ei wneud yn rheolaidd, gan sicrhau yr ystyrir ac y gweithredir ar anghenion ieithyddol plant a rhieni.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – daethom i'r casgliad bod yr ymarferwyr a'r partneriaid yn ystyried bod cydleoliad y proffesiynau gwahanol yn gam cadarnhaol iawn.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – daethom i'r casgliad bod y rhieni yn cael ystod gynhwysfawr o wybodaeth am y gwasanaethau a all fod o ddiddordeb neu o gymorth iddynt pan fyddant yn cysylltu â'r awdurdod lleol am y tro cyntaf.

Meysydd i'w gwella

Llesiant – gwnaethom argymell y dylai Cyngor Sir Ceredigion sicrhau bod plant anabl a theuluoedd yn cael y gofal a'r cymorth cywir, ar yr adeg gywir

Pobl - llais a dewis – gwnaethom nodi bod angen dull sy'n seiliedig ar hawliau sy'n sicrhau bod gan blant anabl a'u teuluoedd lais, dewis gwybodus a rheolaeth dros eu bywydau

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – rydym yn argymell y dylai'r awdurdod lleol sicrhau partneriaethau effeithiol a threfniadau integredig er mwyn comisiynu a darparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion plant anabl a'u teuluoedd.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – gwnaethom nodi bod angen dull strategol a gynlluniwyd wrth ddarparu gwasanaethau cymorth ac atal cynnar sy'n amserol ac yn gymesur

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Sir Ceredigion.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.