Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch yn ystod mis Mawrth 2023.

Rhwng 14 a 17 Mawrth 2023, gwnaethom adolygu'r ffordd y mae gwasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus fel rhan o'n hadolygiad cenedlaethol.

Pan fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn pryderu am les plentyn, mae'n bosibl y byddant yn cynnal Cyfarfod Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu gyfarfod cyn-achos. Os na wneir newid neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod hwn, yna efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol wneud cais i'r Llys gan ofyn iddo wneud gorchmynion i amddiffyn y plentyn.

Diben ein hadolygiad yw rhoi proses graffu allanol ar waith, rhoi sicrwydd a hyrwyddo gwelliannau mewn perthynas â chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (cyn-achos).

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.